Rhaglen

Lleoliad: Hybrid - Siambr Dafydd Orwig, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon LL55 1SH. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Eirian Roberts  01286 679018

Media

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Derbyn unrhyw ymddiheuriadau am absenoldeb.

Dogfennau ychwanegol:

2.

COFNODION pdf eicon PDF 240 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion y cyfarfod blaenorol o’r Cyngor a gynhaliwyd ar 11eg Gorffenaf, 2024 fel rhai cywir.

Dogfennau ychwanegol:

3.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Derbyn unrhyw ddatganiadau o fuddiant personol.

Dogfennau ychwanegol:

4.

CYHOEDDIADAU'R CADEIRYDD

Derbyn unrhyw gyhoeddiadau gan y Cadeirydd.

Dogfennau ychwanegol:

5.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y Cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Dogfennau ychwanegol:

6.

CWESTIYNAU pdf eicon PDF 177 KB

Ystyried unrhyw gwestiynau y rhoddwyd rhybudd priodol ohonynt o dan Adran 4.18 o’r Cyfansoddiad.

Dogfennau ychwanegol:

7.

ADRODDIAD PERFFORMIAD BLYNYDDOL A HUNANASESIAD 2023/24 pdf eicon PDF 165 KB

Cyflwyno adroddiad Arweinydd y Cyngor.

Dogfennau ychwanegol:

8.

RHYBUDDION O GYNNIG

Dogfennau ychwanegol:

8a

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Cai Larsen

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Cai Larsen yn cynnig fel a ganlyn:-

 

A hithau bellach yn dynesu at flwyddyn ers i’r rhyfel yn Gaza gychwyn mae Cyngor Gwynedd yn nodi bod:

 

Dros 40,000 o drigolion Gaza wedi eu lladd gan luoedd diogelwch Israel - y mwyafrif llethol yn sifiliaid.

Tua 10,000 o bobl - sifiliaid yn bennaf - heb eu darganfod ond sydd bron yn sicr yn farw.

Dros 90,000 wedi eu hanafu - eto gyda’r mwyafrif yn sifiliaid.

Yn agos i 200,000 wedi marw oherwydd effeithiau anuniongyrchol ymgyrch byddin Israel.

Bod mwyafrif llethol y 2.2m o bobl sy’n byw yno wedi colli eu cartrefi, neu wedi gorfod symud o’u cartrefi.

Bod pobl sydd â’u teuluoedd yn byw yn Gaza ymysg trigolion Gwynedd.

 

O ystyried hyn, ac o ystyried nifer o sefyllfaoedd erchyll cyfredol eraill megis Wcrain, Yemen a Maymar, geilw’r Cyngor Llawn, fel rhan o’r broses o adolygiad blynyddol y Strategaeth Fuddsoddi, fod ystyriaeth yn cael ei rhoi i ychwanegu darpariaeth sydd yn cyfarch egwyddorion gwarchod  iawnderau dynol a parchu cyfraith rhyngwladol .

 

Dogfennau ychwanegol:

8b

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Dewi Jones

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Dewi Jones yn cynnig fel a ganlyn:-

 

1.      Mae Cyngor Gwynedd yn datgan ein bod yn credu y dylai'r cyfrifoldeb dros Stad y Goron gael ei ddatganoli i Lywodraeth Cymru. Dylai unrhyw elw a gynhyrchir gan Stad y Goron, yma ar diroedd a dyfroedd Cymru, aros yng Nghymru, er budd ein trigolion a’n cymunedau. Mae cyfrifoldeb dros Stad y Goron eisoes wedi ei ddatganoli i Lywodraeth Yr Alban.

 

2.      Mae'r Cyngor hwn hefyd yn datgan ein hanfodlonrwydd bod rheidrwydd arnom i dalu ffioedd blynyddol (ar ffurf prydlesi) er mwyn sicrhau bod trigolion Gwynedd ac ymwelwyr yn cael mynediad i wahanol safleoedd, gan gynnwys ein traethau a chyfleusterau eraill. Yn 2023, talodd Cyngor Gwynedd gyfanswm o dros £161,000 i Stad y Goron. Roedd ffioedd y prydlesi yn 2023 yn amrywio o £35 ar gyfer 'blaen draeth Bangor', i £8,500 ar gyfer 'blaen draeth Dwyfor', i £144,000 ar gyfer 'Hafan Pwllheli'. Mewn cyfnod o gynni ariannol difrifol i wasanaethau cyhoeddus, credwn ei fod yn anfoesol bod ffioedd o'r fath yn mynd tuag at gynnal y Frenhiniaeth Brydeinig ac i goffrau'r Trysorlys yn Llundain. Dylai'r arian hwn aros yng Ngwynedd er mwyn cefnogi pobl Gwynedd.

 

3.       Rydym yn galw ar y Prif Weithredwr i drefnu i agor trafodaethau gyda Stad Y Goron ynghylch y ffioedd sy'n cael eu talu gan Gyngor Gwynedd. Byddwn yn annog y Prif Weithredwr i geisio  dwyn perswâd ar Stad Y Goron i oedi anfonebu pellach nes bydd sefyllfa gyllidol y Cyngor wedi gwella. Nodwn fod elw Stad Y Goron wedi mwy na dyblu o £443 miliwn yn 2022/23 i £1.1biliwn yn 2023/24, yn yr un cyfnod mae Cyngor Gwynedd wedi gweld eu cyllideb yn cael ei dorri mewn termau real. 

 

Dogfennau ychwanegol:

8c

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Elwyn Edwards

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrtho yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Elwyn Edwards yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae Cyngor Gwynedd yn galw ar Lywodraeth San Steffan i drosglwyddo’r hawl i Lywodraeth Cymru yng Nghaerdydd i ddynodi Mawrth y 1af o bob blwyddyn yn wyliau cenedlaethol swyddogol yng Nghymru gan gydnabod Dewi Sant yn Nawddsant Cymru. Fe wneir hyn gyda Seintiau Yr Alban a Gogledd Iwerddon. Hefyd mae’r Cyngor yn gofyn am gefnogaeth Llywodraeth Cymru i hyn (mae wedi datgan ei chefnogaeth o’r blaen) yn ogystal â holl gynghorau Sir, Tref a Bro yng Nghymru.

 

Dogfennau ychwanegol:

8d

Rhybudd o Gynnig gan y Cynghorydd Meryl Roberts

Yn unol â’r Rhybudd o Gynnig a dderbyniwyd oddi wrthi yn unol ag Adran 4.19 y Cyfansoddiad, bydd y Cynghorydd Meryl Roberts yn cynnig fel a ganlyn:-

 

Mae Cyngor Gwynedd yn gwrthwynebu’n llwyr toriadau haerllug a chreulon y Llywodraeth yn San Steffan i ddiddymu taliadau gwresogi cartrefi pensiynwyr Gwynedd y gaeaf hwn. Bydd y toriadau yma yn golygu bod o leiaf 85%, sef dros 20,000 o bensiynwyr Gwynedd yn colli allan ar y taliadau tanwydd. I’r perwyl hwn, rydym yn anfon gohebiaeth gre at Keir Starmer, fel prif weinidog y Deyrnas Gyfunol, yn beirniadu ei bolisi creulon ac yn holi iddo ei wyrdroi.

 

Dogfennau ychwanegol: