Lleoliad: ybrid - Siambr Hywel Dda, Swyddfeydd y Cyngor, Caernarfon, LL55 1SH ac ar Zoom
Cyswllt: Sioned Mai Jones 01286 679665
Rhif | eitem |
---|---|
YMDDIHEURIADAU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Croesawyd yr Aelodau Cabinet a’r
Swyddogion i’r cyfarfod gan Arweinydd y Cyngor. Diolchwyd i holl staff y Cyngor a fu’n gweithio i
warchod a diogelu trigolion Gwynedd yn ystod tywydd eithriadol storm Darragh yn ddiweddar. Adroddwyd bod nifer o ffyrdd wedi cau
oherwydd difrod y storm a nifer fawr o gartrefi a rhai cartrefi gofal wedi cael
eu heffeithio gan ddiffyg trydan. Rhannwyd diolchiadau i’r gwasanaethau gofal
gan fod aelodau staff wedi gweithio oriau estynedig er mwyn sicrhau bod
unigolion mwyaf bregus Gwynedd yn parhau i dderbyn gwasanaeth, er gwaethaf y
tywydd garw. Mynegwyd siom bod Cyngor Gwynedd dim ond wedi derbyn cynnydd o 3.2% o’i
gymharu â chyllideb y llynedd, wedi i Lywodraeth Cymru gyhoeddi’r setliad.
Cadarnhawyd y golyga hyn bod Cyngor Gwynedd o blith y tri Awdurdod Lleol yng
Nghymru sydd yn derbyn cyfran leiaf o’r setliad am y flwyddyn i ddod. Derbyniwyd ymddiheuriad gan y Cynghorydd
Dewi Jones. |
|
DATGAN BUDDIANT PERSONOL Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Ni dderbyniwyd unrhyw ddatganiad o fuddiant
personol. |
|
MATERION BRYS Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater brys. |
|
MATERION YN CODI O DROSOLWG A CHRAFFU Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Nid oedd unrhyw fater yn codi o drosolwg a
chraffu. |
|
COFNODION CYAFARFOD A GYNHALIWYD AR 26 TACHWEDD PDF 198 KB Dogfennau ychwanegol: Cofnod: Derbyniwyd cofnodion y cyfarfodydd a
gynhaliwyd ar 26 Tachwedd 2024 fel rhai cywir. |
|
STRATEGAETH LLESIANT STAFF PDF 160 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Llio E. Owen Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd
y Cynllun Llesiant fel cynllun ar gyfer cefnogi a hybu llesiant staff tros y
blynyddoedd nesaf. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Llio Elenid Owen. PENDERFYNIAD Derbyniwyd y Cynllun Llesiant fel
cynllun ar gyfer cefnogi a hybu llesiant staff tros y blynyddoedd nesaf. TRAFODAETH Atgoffwyd bod
Cynllun Llesiant Staff yn weithredol a'i fod wedi derbyn Gwobr Lefel Aur gan
Lywodraeth Cymru nifer o weithiau am Safon Iechyd Corfforaethol. Er hyn,
eglurwyd bod cyfnod Covid wedi arwain at nifer o
newidiadau i lesiant staff ac mae anghenion yn dra gwahanol erbyn hyn, i’r
disgwyliadau cyn y pandemig. Eglurwyd ei fod yn amserol i adolygu’r Cynllun yn
llawn er mwyn sicrhau ei fod yn gyfredol ac yn addas i bwrpas i’r dyfodol. Adroddwyd bod y
Cynllun Llesiant yn ymdrin â nifer o ddyletswyddau megis y ddyletswydd foesol i
warchod iechyd a llesiant staff. Manylwyd bod y Cynllun hefyd yn cyfarch
dyletswyddau cyfreithiol i warchod diogelwch, iechyd a llesiant staff. Eglurwyd
hefyd bod dyletswyddau ariannol o fewn y Cynllun Llesiant er mwyn sicrhau bod y
staff yn iach a bodlon. Cadarnhawyd bod costau absenoldebau salwch dros y
flwyddyn ddiwethaf yn £5.7m. Cadarnhawyd bod ‘Gweithlu Iach a Bodlon’ yn
ffrwd gwaith o fewn Cynllun Ffordd Gwynedd gan ei fod yn ddull o ddenu
gweithwyr newydd, cadw gweithwyr presennol, gostwng cyfraddau absenoldeb salwch
a gwella perfformiad a datblygiad staff y Cyngor. Ymfalchïwyd bod rhan gyfan
o’r Holiadur Llais Staff wedi manylu ar lesiant staff eleni ac mae’r canlyniadau
wedi cael eu bwydo mewn i’r cynllun. Eglurwyd bod tri
sylfaen i’r Cynllun newydd sef ‘Arwain a Rheoli’, ‘Cefnogaeth gynaliadwy’ ac
‘Yr Amgylchedd Waith’. Eglurwyd bod sylfaen ‘Arwain a Rheoli’ yn ymgymryd â
datblygu Arweinyddion a Rheolwyr i gefnogi llesiant staff yn well gan roi
pwyslais ar rôl greiddiol y Rheolwyr i gefnogi llesiant. Ymhelaethwyd bod y
sylfaen ‘Cefnogaeth Gynaliadwy’ yn sicrhau bod trefniadau mewn lle megis
cynigion cwnsela, ffisiotherapi, gwiriadau iechyd a chefnogaeth Uned Iechyd
Galwedigaethol yn parhau er mwyn cynnig cefnogaeth llesiant meddyliol,
corfforol, cymdeithasol ac ariannol. Tynnwyd sylw bod sylfaen ‘Yr Amgylchedd
Waith’ yn ffocysu ar weithleoedd yn y Cyngor er mwyn sicrhau bod yr adeiladau
yn hybu llesiant tra hefyd yn cefnogi timoedd os oes patrymau absenoldebau yn
codi. Cadarnhawyd bod y Cynllun Llesiant wedi
dilyn proses ymgynghori cyn ei gyflwyno i’r Cabinet gan ei fod wedi derbyn
mewnbwn gan y Tîm Rheoli Corfforaethol, Fforwm Iechyd Diogelwch a Llesiant,
Panel Iechyd Diogelwch a Llesiant, y Rhwydwaith Rheolwyr a staff y Cyngor
drwy’r Holiadur Llais Staff. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: · Gofynnwyd a yw’r costau absenoldebau salwch yn uchel o’i gymharu gydag
Awdurdodau eraill. o
Mewn ymateb i’r cwestiwn, cadarnhaodd Pennaeth Adran
Gwasanaethau Corfforaethol nad yw pob Awdurdod Lleol yn adrodd ar y niferoedd
hyn. Fodd bynnag, cadarnhawyd mai costau Cyngor Gwynedd yw’r lleiaf ond un o
ystyried ffigyrau’r 13 Awdurdod Lleol sy’n datgelu’r wybodaeth. · Cefnogwyd y Cynllun gan ei fod yn arwain at waith Ataliol pwysig iawn. Pwysleisiwyd bod hyrwyddo gweithgareddau a’r gefnogaeth sydd ar gael yn holl bwysig i iechyd a llesiant staff. Ychwanegwyd ei fod yn bwysig derbyn adborth gan staff am y cynigion hyn gan ddiolch i’r ... gweld y cofnod llawn ar gyfer eitem 6. Awdur: Ian Jones, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol a Catrin Love, Pennaeth Cynorthwyol - Gwasanaethau Corfforaethol |
|
ADRODDIAD CWYNION A GWELLA GWASANAETH CHWARTER 1-2 2024/25 PDF 270 KB Cyflwynwyd gan: Cyng. Llio E. Owen Dogfennau ychwanegol:
Penderfyniad: Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr adroddiad. Cofnod: Cyflwynwyd yr adroddiad gan
Cyng. Llio Elenid Owen. PENDERFYNIAD Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth
yn yr adroddiad. TRAFODAETH Eglurwyd bod yr adroddiad yn manylu ar berfformiad y
Cyngor o ymdrin â chwynion a gwella gwasanaethau, yn unol â’r disgwyliad i
ddiweddaru’r Cabinet pob 6 mis. Nodwyd bod yr adroddiad yn amlygu llwyddiannau,
sialensiau a datblygiadau dros y cyfnod o’r chwe mis diwethaf. Tynnwyd sylw at
ddata meintiol ac ansoddol er mwyn mesur perfformiad y Cyngor yn o gystal â
gwybodaeth gymharol o’r blynyddoedd diwethaf. Cadarnhawyd bod y nifer o Gwynion Ffurfiol a chwynion
sydd wedi mynd at yr Ombwdsman wedi gostwng yn y chwe mis diwethaf o’i gymharu
â’r un cyfnod y llynedd. Ymhelaethwyd bod tueddiad dros gyfnod hirach yn dangos
bod nifer Cwynion Ffurfiol wedi gostwng yn raddol rhwng 2018/19 a 2021/22 nes
gwelwyd cynnydd sylweddol bryd hynny yn dilyn y pandemig. Pwysleisiwyd bod y
sefyllfa yn parhau i sefydlogi yn flynyddol i’r sefyllfa cyn Covid. Ymfalchïwyd bod newid mewn diwylliant o fewn y Cyngor,
gyda’r mwyafrif o Wasanaethau yn derbyn bod cwynion yn gyfle positif ac
adeiladol i ddysgu gwersi. Nodwyd hefyd bod y cyfnod amser cyn ymateb i gwynion
gyda datrysiadau yn gostwng yn raddol. Mynegwyd balchder bod niferoedd cwynion
am ddiffyg ymateb neu weithrediad wedi gostwng oddeutu 50% hyd yma eleni, wrth
edrych ar y data cymharol. Diolchwyd i’r Swyddog Gwella Gwasanaeth am ei gwaith
diflino o fewn y maes hwn ac am gydweithio’n agos gydag adrannau sydd yn derbyn
cwynion, gan gynnig sesiynau hyfforddi pan yn briodol. Sylwadau’n codi o’r drafodaeth: · Ymfalchïwyd bod diwylliant y Cyngor bellach yn ymdrin â chwynion fel arf
i wella gwasanaethau a dysgu gwersi. · Tynnwyd sylw bod negeseuon o ganmoliaeth hefyd yn cael ei dderbyn yn
gyson gan yr Adrannau. · Gofynnwyd i’r Aelodau Cabinet i sicrhau bod trafodaethau yn cael eu cynnal
o fewn eu hadrannau i ymdrechu i ganfod datrysiadau i bob cwyn sydd eisoes yn
bodoli. · Tynnwyd sylw penodol at niferoedd cwynion ffurfiol a dderbyniwyd o fewn y 6
mis diwethaf gan nodi bod 14 cwyn wedi cael ei dderbyn, o’i gymharu â 27 cwyn o
fewn yr un cyfnod y llynedd. Yn yr un modd, cadarnhawyd bod 8 cwyn am
gamgymeriadau neu weithrediad anghywir wedi cael ei dderbyn o fewn y 6 mis
diwethaf o’i gymharu â 21 yn yr un cyfnod y llynedd. · Cadarnhawyd bod adroddiad pellach yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor
Llywodraethu ac Archwilio yn fuan er mwyn sicrhau bod trefniadau cwynion yn
caniatáu i unigolion gyflwyno cwyn mewn modd priodol a chyfleus. Ymhelaethwyd
bydd adroddiad ar Siarter Gofal Cwsmer newydd yn cael ei gyflwyno i’r Cabinet
yn fuan, gan nodi y bydd yn cadarnhau’r hyn sydd yn ddisgwyliedig gan
adrannau’r Cyngor. Eglurwyd bydd y Siarter Gofal Cwsmer hefyd yn gosod
disgwyliadau ar drigolion a defnyddwyr gwasanaethau ynglŷn â sut mae cwynion
yn cael eu cyflwyno. Pwysleisiwyd bydd y datblygiadau hyn yn derbyn sylw wrth
i’r Adran adrodd ar berfformiad Cwynion a Gwella Gwasanaeth (Chwarter 3 a 4)
ymhen chwe mis. Awdur: Ian Jones, Pennaeth Gwasanaethau Corfforaethol |