Rhaglen a chofnodion

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

Cofnod:

Derbyniwyd ymddiheuriadau gan Osian Richards (Cynrychiolydd Aelodau)

 

Croesawyd y Cyng. Elin Hywel I’r cyfarfod ac fe’i llongyfarchwyd ar ei phenodiad fel Cadeirydd Y Pwyllgor Pensiynau

 

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

Cofnod:

Dim i’w nodi

3.

MATERION BRYS

Nodi unrhyw eitemau sy’n fater brys ym marn y cadeirydd fel y gellir eu hystyried.

Cofnod:

·        DIWEDDARIAD SEDD WAG

 

Cafwyd diweddariad gan y Pennaeth Cyllid ar y camau sydd wedi eu cymryd i ganfod Aelod newydd i’r Bwrdd. Atgoffwyd yr Aelodau, yn unol â’r cylch gorchwyl, bydd y penodiad (fel cynrychiolydd cyflogwr) wedi ei gyfyngu i Aelodau a staff Cyngor Gwynedd yn unig. Nodwyd bod un cais wedi dod i law ac mai’r cam nesaf fydd trefnu cyfweliad.

 

·        CYFARFOD YMGYSYLLTU CADEIRYDDION BWRDD PENSIWN

 

Amlygodd y Cadeirydd ei bod wedi mynychu cyfarfod ymgysylltu Cadeiryddion Bwrdd Pensiwn y Bartneriaeth (04-02-25) ac wedi amlygu pryderon Gwynedd o’r awgrym y gall yr holl weithgarwch weithredu ei ddirprwyo i'r Bartneriaeth ac er yn derbyn bod angen Strategaeth Buddsoddi, beth fydd mewnbwn Gwynedd i’r Strategaeth?

 

 

4.

COFNODION pdf eicon PDF 126 KB

Bydd y Cadeirydd yn cynnig y dylid llofnodi cofnodion cyfarfod o’r pwyllgor hwn a gynhaliwyd  fel rhai cywir  

Cofnod:

Llofnododd y Cadeirydd gofnodion cyfarfod blaenorol y pwyllgor hwn a gynhaliwyd 14eg Hydref 2024 fel rhai cywir.

 

5.

ADOLYGU AMCANION STRATEGOL AR GYFER YMGYNGHORWYR BUDDSODDI'R GRONFA pdf eicon PDF 93 KB

Nodi’r adroddiad cynnydd ac amcanion yr Ymgynghorwyr Buddsoddi am y cyfnod nesaf.

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Buddsoddi yn adrodd ar y cynnydd yn erbyn yr amcanion cyfredol, ynghyd a chais i’r Bwrdd nodi’r cynnydd a’r amcanion ar gyfer 2025. Adroddwyd, yn dilyn adolygiad o’r marchnadoedd ymgynghori buddsoddi a rheoli ymddiriedol, bu i’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd nodi’r angen i Ymddiriedolwyr Cronfeydd Pensiwn osod amcanion i’w ymgynghorwyr buddsoddi gan nodi yn glir yr hyn ddisgwylir ganddynt.

 

Adroddwyd ers blynyddoedd bellach, bod y Gronfa wedi gosod amcanion i’r ymgynghorwyr presennol, Hymans Robertson a hynny i sicrhau bod y gwaith maent yn ei gyflawni yn cyd-fynd gydag amcanion strategol y Gronfa, ac yn ogystal yn rhan o lywodraethu da.

 

Adroddwyd bod y flwyddyn ddiwethaf wedi bod yn un prysur gyda’r ymgynghorwyr yn darparu cyngor ar y strategaeth buddsoddi gyda’r opsiynau marchnadoedd preifat, ecwiti goddefol a sicrhau bod llif arian digonol i dalu’r pensiynwyr yn fisol. Ategwyd bod Hymans wedi cyd weithio gyda’r swyddogion i sicrhau bod polisïau mewnol yn cael eu cyfarch a bod cydymffurfiaeth gydag unrhyw reoliadau pensiwn perthnasol.

 

Er nad yw Hymans yn darparu hyfforddiant drwy gytundeb uniongyrchol i Gronfa Gwynedd, bod hyfforddiant amserol ar gael drwy Bartneriaeth Pensiwn Cymru, gyda chyfraniadau sylweddol gan Hymans. Amlygwyd yn ystod cyfnod o dendro diweddar bu i Hymans serenu o ran ansawdd ac er derbyn bod eu ffioedd yn uchel eu bod hefyd yn gystadleuol gyda chwmnïau eraill.

 

Wrth gyfeirio at amcanion 2025/26, adroddwyd eu bod yn parhau i fod yn debyg i amcanion y blynyddoedd blaenorol, ond bod gwaith sydd i’w weithredu yn 2025 wedi ei ychwanegu at y rhestr - gwaith megis y prisiad teirblynyddol, gosod targed sero net a datblygiadau’r ymgynghoriad.

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac am ddiweddaru’r amcanion

 

Mewn ymateb i sylw nad oes pwrpas dal gormod o arian yn y Gronfa gan fod Llywodraeth y Deyrnas Unedig yn awgrymu defnyddio arian gweddilliol y cronfeydd i ariannu twf economi'r Deyrnas Unedig ac a ddylid felly ystyried lleihau taliadau cyflogwyr i osgoi hyn, nododd y Pennaeth Cyllid bod trafodaethau yn cael eu cynnal gyda’r actiwari ar y rhagdybiaethau hyn, ond er gwaethaf pwysau gan y Llywodraeth i bwlio buddsoddiadau, prif ddyletswydd y Gronfa yw cael y dychweliadau / perfformiad gorau i’w haelodau. Er hynny, derbyniwyd bod angen gwneud gwaith i ddad-risigio buddsoddiadau gan fod lefelau buddsoddi uwchlaw 100%.

 

PENDERFYNWYD nodi’r wybodaeth a derbyn y cynnydd a wnaed ar amcanion yr ymgynghorwyr yn ystod 2024

 

6.

CYLLIDEB 2025/26 pdf eicon PDF 137 KB

I nodi cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025/26.

Cofnod:

 

Cyflwynodd y Rheolwr Buddsoddi, er gwybodaeth, gyllideb ar gyfer yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025–2026. Nodwyd bod y gyllideb wedi ei chymeradwyo gan y Pwyllgor Pensiynau 27-01-2025.

 

Cyfeiriwyd at gyllideb yr Uned Gweinyddu, gan adrodd bod 25 aelod o staff yn gyflogedig yn yr Uned a bod y gyllideb yn cynnwys costau systemau, argraffu, ac ad-daliadau canolog. Nodwyd bod y costau yn gyson ar wahân i chwyddiant a nodwyd bod ambell swydd yn mynd drwy'r broses arfarnu ar hyn o bryd ac o ganlyniad, efallai bydd angen cynyddu’r gyllideb rhywfaint.

 

Cyfeiriwyd ar gostau'r Uned Buddsoddi sydd yn cael eu rhannu rhwng y Gronfa a Chyngor Gwynedd gan fod yr Uned hefyd yn gyfrifol am Reolaeth Trysorlys.

 

Nododd y Rheolwr Buddsoddi bod costau Partneriaeth Pensiwn Cymru,  costau ymgynghorwyr a chostau rheolwyr buddsoddi yn rhan o gyfrifoldeb yr Uned Buddsoddi, ond bod y costau yn amrywio yn ddibynnol ar berfformiad y buddsoddiadau a’r gwaith sydd angen ei gyflawni gan yr ymgynghorwyr a’r Bartneriaeth. Ystyriwyd bod bwriad edrych yn fanylach ar waith a chostau'r ymgynghorwyr, gydag asiantaethau megis PIRC yn edrych ar werth am arian y Rheolwyr Buddsoddi ar draws y Cronfeydd. O ganlyniad, ni ystyriwyd budd o osod cyllideb fanwl i’r costau hyn.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad er gwybodaeth, a nodi cyllideb yr Uned Gweinyddu Pensiynau a’r Uned Buddsoddi ar gyfer y flwyddyn ariannol 2025/26

 

7.

POLISÏAU GWEINYDDOL Y GRONFA BENSIWN pdf eicon PDF 144 KB

I adolygu a chynnig sylwadau ar y polisïau hyn i sicrhau eu bod yn cwrdd â'r safonau uchaf o ymarfer. Mae craffu a chymeradwyaeth yn hanfodol ar gyfer gweithredu llwyddiannus y polisïau hyn.

 

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Cyflwynodd y Rheolwr Pensiynau adroddiad oedd yn cyflwyno chwe pholisi gweinyddol allweddol i’r Bwrdd eu harchwilio. Nodwyd bod y polisïau yn hanfodol ar gyfer rheoli a gweinyddu’r gronfa bensiwn yn effeithiol ac yn gam sylweddol tuag at lywodraethu da. Ategwyd, yn dilyn adolygiad y Bwrdd, bydd y polisïau yn cael eu cymeradwyo gan y Pwyllgor Pensiynau ym Mawrth 2025.

 

Trafodwyd y Polisïau yn unigol gan roi cefndir a chyd-destun bob un i’r Aelodau

 

Polisi Prawf Bywyd i Bensiynwyr sy'n Byw Dramor

Polisi Gordaliad Pensiwn

Polisi Iaith Gyfathrebu

Polisi Dosbarthu Dogfennau Cronfa Bensiwn Gwynedd

Polisi Cyhoeddi Slip Cyflog y Gronfa Bensiwn

Polisi Talu Buddion Pensiwn a Lwmp Swm i Aelodau

 

Diolchwyd am yr adroddiad ac am y gwaith o ffurfioli’r polisïau. Nodwyd bod rhai o’r diweddariadau wedi bod yn rhai doeth.

 

Croesawyd bod nodyn atgoffa yn cael ei rannu gydag Aelodau o’r trefniadau newydd i sicrhau bod buddion yn cael eu talu i fanylion cyfrif banc yn gywir a chyfredol (Polisi Talu Buddion Pensiwn a Lwmp Swm i Aelodau) ac y dylid amlygu hyn yn y polisi.

 

PENDERFYNWYD derbyn a nodi’r wybodaeth gan argymell i’r Pwyllgor Pensiynau gymeradwyo’r Polisïau ym Mawrth 2025

 

8.

CANLYNIADAU ASESIAD GWYBODAETH CENEDLAETHOL CPLLL 2024 pdf eicon PDF 558 KB

I ystyried yr adroddiad

Dogfennau ychwanegol:

Cofnod:

Yn 2024, cymerodd Cronfa Bensiwn Gwynedd ran yn Asesiad Gwybodaeth Cenedlaethol Hymans Robertson. Ystyriwyd bod yr asesiad yn werthusiad cynhwysfawr wedi'i gynllunio i asesu gwybodaeth a sgiliau gwneuthurwyr penderfyniadau allweddol a chyrff goruchwylio o fewn cronfeydd pensiwn. Gofynnwyd i’r cyfranogwyr ymateb i ystod o gwestiynau ar draws gwahanol bynciau, gyda bwriad o ddefnyddio eu sgoriau i deilwra sesiynau hyfforddi effeithiol. Nodwyd bod y canlyniadau hefyd yn cael eu meincnodi yn erbyn cronfeydd eraill.

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Rheolwr Pensiynau yn crynhoi canlyniadau'r Bwrdd Pensiwn oedd hefyd yn cynnig opsiynau posib i fynd i'r afael ag anghenion hyfforddi.

 

Diolchwyd i Aelodau’r Bwrdd am gwblhau’r asesiad gan dderbyn bod yr asesiad wedi bod yn un heriol. Er bod Cronfa Bensiwn Gwynedd yn 18fed allan o 19 Cronfa, roedd hyn yn welliant i’r asesiad blaenorol.

 

Tynnwyd sylw at sylwadau Hymans Robertson ar y canlyniadau. Roeddynt yn nodi bod boddhad bod 14 o gyfranogwyr y Gronfa wedi cymryd rhan yn yr asesiad gyda’r  canlyniadau'n weddol gadarnhaol (er yn amlwg bod meysydd o lefelau gwybodaeth uwch yn ogystal â meysydd sydd angen datblygu gwybodaeth ynddynt dros amser).

 

O ganlyniad i’r asesiad bydd cyfleoedd hyfforddi yn cael eu trefnu i’r Aelodau ynghyd a datblygiad cynllun hyfforddi cynhwysfawr fydd yn canolbwyntio ar wella dealltwriaeth a gallu’r Aelodau mewn meysydd hanfodol.

 

Diolchwyd am yr adroddiad

 

Sylwadau yn codi o’r drafodaeth ddilynol:

·        Bod y broses yn hir wyntog - wedi colli amynedd erbyn y cwestiynau olaf

·        Croesawu bod pob Aelod o’r Bwrdd a’r Pwyllgor Pensiynau yng Ngwynedd wedi cwblhau’r asesiad

·        Byddai hyfforddiant wyneb yn wyneb yn fuddiol - yn gyfle da i rwydweithio ga rhoi sylw llawn i’r hyn sy’n cael ei gyflwyno

·        Gyda rhai Aelodau mewn cronfeydd eraill heb gwblhau’r asesiad, y canlyniadau braidd yn annelwig

·        I’r dyfodol, bod angen ystyried fformat / gosodiad rhai o’r cwestiynau - dylid ystyried y wybodaeth sydd angen ei wybod yn erbyn gwybodaeth fyddai’n ddymunol ei dderbyn

·        Bod unrhyw hyfforddiant i’w groesawu - bod pynciau gwahanol angen fformat gwahanol - yn rhithiol, dros y we neu wyneb yn wyneb

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd y Pennaeth Cyllid nad oes angen i’r Aelodau fod yn gwybod pob dim gan fod arbenigwyr ar gael yn y maes i roi cyngor ac arweiniad, ond bod rhaglen hyfforddiant mewn lle i wella dealltwriaeth yr aelodau o’r maes

 

PENDERFYNWYD nodi a derbyn y wybodaeth

 

9.

Y RHAGLEN WAITH DIWYGIEDIG pdf eicon PDF 82 KB

I ystyried y rhaglen uchod ac awgrymu eitemau ychwanegol neu newidiadau.

Cofnod:

Cyflwynwyd rhaglen waith diwygiedig ar gyfer 2025/26. Nodwyd bod y rhaglen yn cynnwys materion a nodwyd yn dilyn ystyriaeth gan y Bwrdd mewn cyfarfodydd blaenorol a materion yn codi. Amlygwyd y gellid ychwanegu materion sy’n codi yn ystod y flwyddyn i’r rhaglen yn unol ar angen ynghyd ag unrhyw faterion / syniadau fydd yn codi gan aelodau wedi sesiynau hyfforddi a / neu ddigwyddiadau perthnasol.

 

Diolchwyd am y rhaglen waith

 

Gwnaed cais am eitem i drafod diwygiadau arfaethedig Llywodraeth y Deyrnas Unedig - diweddariadau ar unrhyw ddatblygiadau newydd.

 

PENDERFYNWYD derbyn y rhaglen waith a nodi’r wybodaeth