Rhaglen a Phenderfyniadau

Lleoliad: Cyfarfod Rhithiol / Virtual Meeting. Gweld cyfarwyddiadau

Cyswllt: Lowri Haf Evans  01286 679 878

Eitemau
Rhif eitem

1.

YMDDIHEURIADAU

2.

DATGAN BUDDIANT PERSONOL

3.

MATERION BRYS

4.

COFNODION pdf eicon PDF 116 KB

5.

PRISIAU TEITHIAU CERBYDAU TACSI HACNI pdf eicon PDF 123 KB

I ystyried a chymeradwyo'r cynnig i godi’r uchaf bris yn weithredol o’r 1af o Hydref 2026 yn unol â’r argymhellion; ac yn unol a’r darpariaethau cyfreithiol;  gan nad oes gwrthwynebiad na cynigion wedi eu derbyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus

Dogfennau ychwanegol:

Penderfyniad:

PENDERFYNIAD

 

Yn weithredol o’r 1af o Hydref 2026 yn unol â’r argymhellion a’r darpariaethau cyfreithiol, gan nad oedd gwrthwynebiad na chynigion wedi eu derbyn yn dilyn ymgynghoriad cyhoeddus, bod y Pwyllgor yn cymeradwyo'r cynnig i:

 

  • Gynyddu  uchaf bris cyfradd taith un filltir o £3.60 i £4.00 er mwyn bod yn gyson gydag amryw o gynghorau eraill, ac i gyfarch y cynnydd mewn costau rhedeg tacsi.
  • Gynyddu oriau gweithredol tariff hwyr y nos i fod yn weithredol o 22:00 yr hwyr tan 07:00 y bore, yn hytrach na bod yn weithredol o 00:00 hanner nos.
  • Ostwng cyfradd cost teithiau tariff hwyr o 60% uwch na’r gyfradd sylfaenol yn ôl i 50% yn uwch na’r gyfradd sylfaenol er mwyn cyd - fynd yn gyffredinol gyda chynghorau eraill.