Cyflwyno adroddiad Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn.
Cofnod:
Cyflwynodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn
yr adroddiad, gan nodi yng nghyfarfod y Cyd-Bwyllgor ar 6 Medi 2017
penderfynwyd derbyn drafft diwygiedig o Gynllun Rheoli’r AHNE fel sail ar gyfer
ymgynghori cyhoeddus. Adroddodd y cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng 2 Hydref
a 10 Tachwedd.
Tywysodd yr
aelodau drwy Atodiad 1 i’r adroddiad a oedd yn cynnwys crynodeb o’r prif
sylwadau a dderbyniwyd, sylwadau’r Gwasanaeth AHNE ac argymhelliad i newid y
cynllun neu beidio.
Nododd aelodau
unigol y prif sylwadau isod yng nghyswllt y sylwadau a dderbyniwyd fel rhan o’r
ymgynghoriad cyhoeddus:
·
Fyddai’n bosib defnyddio geiriad gwahanol i Brexit, unai ‘gadael yr Undeb
Ewropeaidd’ neu’r sillafiad Cymraeg?
·
6.3 - Bod y ffens ar Fwlch yr Eifl yn cael effaith weledol ar yr AHNE.
Roedd yn ardal mynediad agored ac roedd yn mynd yn syth at wal amddiffynnol
Tre’r Ceiri. Ddim yn deall sut y cafwyd rhoi ffens;
·
6.3 - Bod angen cyfeirio at y gwaith a gyflawnwyd
eisoes o ran tanddaearu gwifrau ar Fwlch yr Eifl yn y Cynllun;
·
6.7 - Bod meysydd carafanau teithiol yn gorboblogi eu meysydd ac
oherwydd diffyg staffio gan y Cyngor o ran gorfodaeth roedd yn anodd ei reoli.
Yr angen i sgrinio meysydd carafanau i leihau’r effaith weledol;
·
12.2 - O ran ymestyn y tymor twristiaeth yn yr ardal yn gynaliadwy a gwarchodol
o’r amgylchedd, yr angen i hyrwyddo yn gynaliadwy i’r iaith Gymraeg yn ogystal
gan wneud yr iaith yn bwynt gwerthu’r ardal. Roedd angen cydnabod bod
twristiaeth er yn beth da wedi cael effaith negyddol ar yr iaith Gymraeg yn yr
ardal;
·
12.6 - Y dylid bod arwyddion yn cyfeirio pobl at yr
AHNE o’r A55 fel rhan o Raglen Ffyrdd Cymru i dynnu sylw pobl at yr ardal;
·
12.6 - Bod angen sicrhau nad oedd Ffordd y Glannau
a fyddai’n cychwyn yn Aberdaron a gorffen yn Nhŷ Ddewi fel rhan o Raglen
Ffyrdd Cymru yn cael ei hyrwyddo ar draul rhannau eraill o Ben Llŷn;
·
13 - Bod angen hyrwyddo llwybr amlddefnydd mynediad i bawb o Nefyn i
Benrhyn Nefyn;
·
13.3 - Fyddai’n bosib nodi yn y Cynllun Rheoli beth a nodir yng
Nghynllun Gwella Hawliau Tramwy'r Cyngor i atgyfnerthu paragraff 13.11.2 yn
enwedig o ran blaenoriaethau;
·
13.4 - Bod sylw Cyfoeth Naturiol Cymru yn eithaf
negyddol o ran grŵp o wirfoddolwyr yn gwneud y gwaith gan nodi na fyddai’n
gwbl ddigonol i atal colli rhannau pwysig o’r rhwydwaith. Dylid nodi bod gwaith
gwirfoddolwyr o fudd pellach i’r rhwydwaith na ddim ond o safbwynt iechyd a’r
iaith Gymraeg;
·
Fyddai’n bosib cynnwys map mwy manwl o’r AHNE yn y
Cynllun?
Mewn ymateb i’r
sylwadau uchod, nododd y swyddogion:
·
Gellir newid i beidio defnyddio’r gair Brexit yn y fersiwn Gymraeg;
·
O ran y ffens ar Fwlch yr Eifl, y gwnaed ymholiadau â Chyfoeth Naturiol
Cymru ac fe wneir ymholiadau pellach;
·
Yn unol â’r argymhelliad fe roddir mwy o wybodaeth
am gynlluniau tanddaearu gwifrau ym mharagraff 6.92 o’r Cynllun Rheoli ac ychwanegu
cyfeiriad at y ffens;
·
Yr awgrymir yn y Cynllun i gynnal arolwg o feysydd carafanau yn yr ardal
yn ystod 2019 a bod angen cryfhau o ran monitro;
·
Rhoddir sylw i’r materion a godwyd o ran yr iaith
Gymraeg mewn astudiaeth o ran yr iaith a fwriedir ei gynnal yn ystod 2019;
·
Bod Rhaglen Ffyrdd Cymru yn cynnwys arwyddion
newydd fel rhan o’r cynllun;
·
Yr argymhellir cynnwys gwybodaeth am y Rhaglen Ffyrdd Cymru yn y Cynllun
yn hytrach na’i hyrwyddo. Gallai’r mater fod yn eitem posib ar raglen cyfarfod
y Cyd-Bwyllgor yn y dyfodol er mwyn cyflwyno mwy o wybodaeth;
·
Yr argymhellir cynnwys gweithred ychwanegol yn cyfeirio at greu llwybrau
cysylltiol newydd at dir mynediad a chodi ymwybyddiaeth yn ddigidol a thrwy
Lygad Llŷn;
·
Fe nodir gwybodaeth i atgyfnerthu'r hyn a nodir yng Nghynllun Gwella
Hawliau Tramwy'r Cyngor ym mharagraff 13.11.2 o’r Cynllun;
·
Yr edrychir am fap mwy manwl o’r AHNE i’w gynnwys
yn y Cynllun.
Holodd aelod beth oedd y diweddaraf o ran
adolygiad Tirweddau’r Dyfodol Cymru a’r arian a grybwyllwyd a fyddai ar gael
i’r AHNE. Mewn ymateb, nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn bod cydweithio
wedi bod rhwng y Parciau Cenedlaethol a’r AHNEau, fe adnabuwyd meysydd gwaith
gydag ychydig o arian wedi ei roi o’r neilltu ond nid oedd symudiad o ran
gweithredu hyd yn hyn.
Nododd yr aelod y dylid anfon llythyr at
Lywodraeth Cymru er mwyn derbyn cadarnhad o’r sefyllfa.
Nododd aelod y byddai’n codi’r mater mewn
cyfarfod ym mis Ionawr lle fyddai Croeso Cymru yn bresennol. Ychwanegodd aelod
pe anfonir llythyr fe ddylid anfon copi at Sian Gwenllian AC a oedd yn aelod o
Bwyllgor Amgylcheddol y Cynulliad.
Cadarnhaodd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn
y byddai’n anfon llythyr ar ran y Cyd-Bwyllgor.
Nododd Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn y
byddai fersiwn gryno o’r Cynllun yn dod gerbron y Cyd-Bwyllgor er mwyn derbyn
sylwadau’r aelodau. Hysbysodd y derbyniwyd sylwadau gan Dîm Arweinyddiaeth y
Cyngor ar ôl dosbarthu’r rhaglen yn nodi bod “…angen ychwanegu nodyn at y
cynllun i’r perwyl y gellir cyflawni hyn efo’r adnoddau ar hyn o bryd ond
byddai angen ail-ymweld petai’r sefyllfa’n newid.” Argymhellir i ychwanegu
brawddeg o dan gweithredu i nodi bod llwyddo i weithredu’r Cynllun yn ddibynnol
ar gyllid ac fe allai’r sefyllfa newid.
Nododd y Cadeirydd
ei gwerthfawrogiad o waith Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn a Swyddog Prosiect
AHNE Llŷn yng nghyswllt y Cynllun.
PENDERFYNWYD:
(i)
bod Rheolwr Gwasanaeth AHNE Llŷn yn ymgorffori sylwadau'r aelodau,
yr argymhellion a nodir yn Atodiad 1 a sylwadau’r Tîm Arweinyddiaeth yn y
Cynllun Rheoli;
(ii)
cyflwyno’r Cynllun Rheoli i sylw’r Aelod Cabinet Amgylchedd gan argymell
ei fod yn cael ei fabwysiadu gan y Cyngor.
Dogfennau ategol: