Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Pennaeth Cyllid.

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad y Pennaeth Cyllid a oedd yn adrodd ar sefyllfa ddiweddaraf gwireddu cynlluniau arbedion.

 

         Gosododd yr Aelod Cabinet Cyllid y cyd-destun ac ymhelaethodd ar gynnwys yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet ar 16 Ionawr 2018. Nododd bod 103 o 122 o gynlluniau arbedion 2017/18 wedi eu gwireddu’n llawn neu’n rhannol gyda 7 pellach ar drac i’w gwireddu yn amserol. Amlygodd bod y llithriad yn gwireddu cynlluniau arbedion 2017/18 yn cynnwys yr her sylweddol o wireddu nifer o gynlluniau yn yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Plant a Theuluoedd.

 

         Hysbysodd y Pwyllgor bod yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant wedi cadarnhau yng nghyfarfod y Cabinet ei fwriad i gyflwyno adroddiad ail-becynnu cynlluniau arbedion yr Adran yn fuan i’r Cabinet. O ran yr her o wireddu cynllun arbedionGwella Buddiannau trwy Drawsffurfio Gwasanaethau Plant’ yn yr Adran Plant a Theuluoedd, roedd yr Aelod Cabinet Plant yn rhoi sylw i’r mater. Nododd bod cyllido gofal plant yn faes a oedd yn peri pryder i sawl awdurdod lleol, ond anogir yr Aelod Cabinet i benderfynu’n fuan ar y ffordd ymlaen gyda’r cynllun trawsffurfio.

 

         Nododd yr Aelod Cabinet Cyllid bod cynnydd calonogol tuag at wireddu cynlluniau arbedion 2015/16 – 2017/18.

 

         Cyfeiriodd aelod at benderfyniad y Cabinet ar 13 Rhagfyr 2016, bod rhan ysgolion uwchradd o arbedion yng nghynllun arbedion ysgolion, yn cael ei bontio gan y Cyngor am ddwy flynedd. Holodd pa mor gynaliadwy ydoedd. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid y byddai’r Cyngor yn wynebu dewisiadau anodd erbyn yr adeg yma flwyddyn nesaf, roedd yr eitem ddilynol ar y rhaglen, yn nodi yr argymhellir i’r Cabinet argymell i’r Cyngor Llawn y dylid mantoli’r gyllideb ar gyfer 2018/19 drwy gynyddu Treth y Cyngor a chyflawni’r arbedion a gynlluniwyd heb wneud arbedion pellach. Ymhellach, eglurodd bod Llywodraeth Cymru yn trosglwyddo grantiau megis Grant Gwella Ysgolion i mewn i’r setliad cyffredinol roedd y Cyngor yn derbyn gan y Llywodraeth, ond nid oedd cynnydd o fewn y setliad. Felly, byddai cwtogi’r grantiau penodol yn golygu lleihad go sylweddol o ran cyllid i ysgolion, ond ni wneir toriad gan Wynedd ym mlwyddyn ariannol 2018/19.

 

         Mewn ymateb i sylw gan aelod yng nghyswllt pa gynllun yn yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol oedd yn parhau i greu pryder, nododd y Pennaeth Cyllid mai’r cynllunLleihau Amlder Torri a Threfn Casglu Gwair Trefol’ y cyfeirir ato a byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor Craffu Cymunedau parthed y cynllun. Mewn ymateb i gwestiwn dilynol, nododd y Pennaeth Cyllid bod yr Adran Priffyrdd a Bwrdeistrefol wedi torri gwair fwy na’r hyn a gynlluniwyd yn dilyn ceisiadau gan Gynghorwyr.

 

         PENDERFYNWYD nodi’r sefyllfa a’r risgiau perthnasol yng nghyswllt y trosolwg arbedion.

 

 

Dogfennau ategol: