Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr
Cofnod:
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi ei fod i
bob pwrpas yn adrodd ar y sefyllfa ddiweddaraf a bod y polisi ei hun heb ei
addasu. Byddai unrhyw newidiadau tebygol i’r polisi, yn ganlyniad i
drafodaethau gyda’r undebau ar hyn o bryd i gyrraedd targed effeithlonrwydd, yn
cael eu gweithredu yn ystod y flwyddyn. Yn ychwanegol, amlygwyd nad oedd
trafodaethau cenedlaethol wedi eu cynnal hyd yma i drafod cyflogau prif
weithredwyr a phrif swyddogion. Byddai hyn yn digwydd o ganlyniad i gytundeb
cenedlaethol ar gyflogau staff, fydd yn debygol o ddilyn yr un trywydd a’r hyn
fydd wedi ei gytuno ar gyfer gweithwyr llywodraeth leol yn gyffredinol.
Cyfeiriwyd at y cynnig presennol gan y
cyflogwr yn genedlaethol i godi cyflogau gweithwyr llywodraeth leol am y ddwy
flynedd nesaf. Nodwyd petai’r cynnig yn cael ei dderbyn, bod rhagolygon y
byddai isafswm cyflog Cyngor Gwynedd yn uwch na’r Cyflog Byw (Sefydliad Cyflog Byw) erbyn 1af Ebrill
2019. Eglurwyd mai canran fechan o staff y Cyngor sydd yn parhau i dderbyn
cyflog is na’r hyn adnabyddir fel Cyflog Byw (8.75 yn bresennol).
Cyfeiriwyd hefyd at y trafodaethau adeiladol
a gynhaliwyd gyda chynrychiolwyr yr undebau ynglŷn â newidiadau i elfennau
o’r amodau gwaith lleol. Adroddwyd nad oedd modd cynnal balot gan nad oedd
Swyddfa Genedlaethol Unsain yn caniatau i’r gangen leol roi’r cynnig gerbron
aelodau mewn balot oherwydd y byddai’n arwain at ddirywiad mewn amodau gwaith.
O ganlyniad bu i’r Cyngor ohebu yn uniongyrchol gyda phob aelod o staff fyddai’n
cael ei heffeithio gan y newidiadau arfaethedig i bwrpas ymgynghori.
Tynnwyd sylw at y newidiadau arfaethedig o
fewn y cynnig a phwysleiswyd y byddai’n ofynnol diweddaru cynnwys y Polisi Tal
yn ddiweddarach yn y flwyddyn er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau a
gymeradwyir maes o law.
Diolchwyd i’r Pennaeth Cefnogaeth
Gorfforaethol am y cyflwyniad.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
chyflogau gofalwyr sydd yn gweithio oriau gyda’r nos a’r cynnig i ddod a’r
taliad ychwanegol am weithio rhwng 8 a 10pm i ben, adroddodd Pennaeth
Cefnogaeth Gorfforaethol ei fod wedi cynnal trafodaethau gyda’r Pennaeth
Oedolion Iechyd a Llesiant ynglŷn â’r newid arfaethedig hwn gan y byddai
carfan o weithwyr gofal yn cael eu heffeithio..
Eglurodd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol
bod angen cysoni’r taliad am weithio yn ystod y dydd hyd 10pm a derbyniodd ei
fod yn ymddangos ar yr wyneb bod staff sydd yn gweithio rhwng 8 - 10pm am fod
ar eu colled, Fodd bynnag, pwysleisiodd bod angen edrych ar y darlun yn
ehangach h.y. yn wyneb y gytundeb cenedlaethol ar godi cyflogau. Eglurodd y
bydd cynnydd sylweddol uwch i gyflogau ar waelod y strwythur tal o gymharu â
chytundebau gweddill staff y Cyngor, sef codiad fydd uwchben y 2% sydd wedi ei
gynnig gan y cyflogwr i’r rhan helaethaf o swyddogion ac y byddai hyn yn arwain
at raddfa yr awr o £9.55 yr awr oddi ar y 1af o Ebrill i’r rhan fwyaf o ofalwyr
a gyflogir gan y Cyngor.
Ategodd y Prif Weithredwr bod y Cabinet yn
fyw i’r trafferthion yn Ne'r Sir i recriwtio gofalwyr a bod hyn wedi ei gyfarch
fel rhan o Gynllun y Cyngor. Gan dderbyn bod y cyflogau sylfaenol yn mynd i
gynyddu, nodwyd bod angen ystyried rhywbeth ychwanegol y gellid ei wneud i
gynyddu nifer gofalwyr a bod gwaith wedi ei gomisiynu i geisio deall natur y
broblem a cheisio datrysiad.
Croesawyd codiad cyflog fyddai yn uwch na’r
Cyflog Byw, ond dadleuwyd y byddai’r Cyflog Byw wedi codi ymhellach erbyn 2019
ac o ganlyniad y Cyngor mewn sefyllfa o geisio dal i fyny. Mewn ymateb, nododd
Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol, o dderbyn y cynnig yn genedlaethol bydd
isafswm Cyngor Gwynedd yn £8.62 oddi ar Ebrill 2018 (13c yn fyr o'r Cyflog Byw
presennol), ond erbyn Ebrill 2019, nododd y byddai’r Cyngor yn talu uwchben y
Cyflog Byw am y tro cyntaf erioed (hyd yn oed gan gymryd y cynnydd tebygol yn y
Cyflog Byw oddi ar y 1af o Dachwedd i ystyriaeth). Derbyniwyd bod elfen o ddal
i fyny am gyfnod wedyn i’r dyfodol yn bosibl, ond atgoffwyd yr Aelodau bod
Cyngor Gwynedd wedi dileu dau bwynt isaf oddi ar y strwythur tal cenedlaethol a
bod hynny’n gymorth i barhau i dalu’r Cyflog Byw i’r dyfodol.
Mewn ymateb i’r pryder, y byddai gweithwyr
cymdeithasol a gweithwyr ffyrdd yn gweld lleihad yn y ‘taliad ar ddyletswydd’,
amlygodd Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol nad oedd gweithwyr ffyrdd a gweithwyr cymdeithasol yn
derbyn y taliad uchaf yma. Ategwyd mai
ychydig dros 100 o staff sydd yn derbyn y taliad uchaf (£265.88 yr wythnos) oherwydd
eu bod ar gael i wneud y penderfyniadau hynny ynglŷn â pha weithrediad sydd
ei angen mewn argyfwng. Byddai lleihau'r taliad i £200.00 yr wythnos yn sicrhau
arbediad o ddegau o filoedd.
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â defnydd
‘ychwanegiad y farchnad’, adroddwyd bod y cymal yma wedi bod yn rhan o’r Polisi
ers 2008. Nodwyd mai ychydig iawn o ddefnydd (dim mwy na 10 enghraifft) sydd
wedi ei wneud o’r ychwanegiad a hynny er
mwyn cadw arbenigedd o fewn y Cyngor neu allu recriwtio arbenigedd i’r Cyngor.
Eglurwyd bod y cymal yn cael ei adolygu yn flynyddol fel na bod modd talu
uwchben y farchnad fel mae amser yn mynd yn ei flaen. Yn ychwanegol, ategwyd
nad cyflog yn unig yw'r rheswm dros fethu recriwtio a bod cynlluniau mewn
bodolaeth ar gyfer datblygu arbenigeddau a sgiliau. Un ystyriaeth yw
'ychwanegiad y farchnad' a chaiff ei ystyried ar sail tystiolaeth ffeithiol
sy’n gallu cyfiawnhau talu’r ychwanegiad.. Nododd y Prif Weithredwr bod pob
enghraifft lle mae ‘ychwanegiad y farchnad‘ wedi ei ddefnyddio yn dueddol o
sgiwio cyflogaeth fewnol ac felly pan gaiff ei ystyried rhaid pwysleisio'r
angen am dystiolaeth.
Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr adroddiad
DERBYNIWYD YR ADRODDIAD YN UNFRYDOL YN UNOL Â’R ARGYMHELLIAD.
·
Bod y Pwyllgor Penodi yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tal (drafft)
i’r Cyngor, ar Fawrth yr 1af 2018, fel un i’w fabwysiadu ar gyfer 2018 / 19.
Dogfennau ategol: