Aelod Cabinet: Cynghorydd Dyfrig Siencyn
Ystyried adroddiad yr Aelod Cabinet
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan Arweinydd y Cyngor
yn gofyn i Aelodau’r Pwyllgor graffu cynnwys Cynllun Llesiant (drafft) Gwynedd
a Môn a chyflwyno unrhyw sylwadau. Eglurwyd bod y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus
yn ddilyniant o’r Bwrdd Gwasanaethau Lleol a bod awydd a phenderfyniad i
weithredu yn wahanol i’r Bwrdd blaenorol i sicrhau gwahaniaeth. Adroddwyd mai
cam cyntaf y broses oedd cyhoeddi cynllun llesiant oedd yn amlinellu sut y
bwriedir gwella llesiant trigolion y ddwy Sir. Ategwyd bod cyfnod o dri mis o
ymgynghori statudol ar y cynllun oedd yn amlinellu’r egwyddorion yn fras
(fyddai yn dod i ben ddiwedd mis Mawrth) ac yn dilyn y cyfnod yma bydd y Bwrdd
yn ystyried yr ymatebion cyn llunio Cynllun Llesiant terfynol.
Amlygodd yr Arweinydd, fel aelod o’r Bwrdd
Gwasanaethau Cyhoeddus, ei fod yn edrych ymlaen at greu partneriaethau newydd
fyddai yn datblygu prosiectau. Derbyniwyd y gall fod yn ddiwydiant ‘creu geiriau’, ond yr ewyllys yw gweld
canlyniadau drwy ymateb i’r her o weithio mewn dulliau gwahanol. Gyda dyfodiad
yr ardaloedd llesiant hyn yn galluogi canolbwyntio o few ardaloedd penodol -
adnabod anghenion ardaloedd gwahanol - anelu gwaith i’r mannau sydd angen sylw.
Pwysleisiwyd mai un o’r partneriaid yw
Cyngor Gwynedd ac mai penderfyniad y Bwrdd Gwasanaethau Cyhoeddus fydd cynnwys
y cynllun terfynol.
Ategwyd bod ymdrech i greu dogfen ddealladwy
fyddai yn cynnal sgwrs gyda chymunedau drwy geisio diffinio lles. Anogwyd yr
Aelodau i annog pobl i wneud sylwadau ar y ddogfen ymgynghori.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau
unigol:
·
Bod y ddogfen yn un i’w chroesawu sydd yn adnabod
materion a dyheadau dealladwy.
·
Anodd yw cyfarch a gweithredu. Er canmol yr hyn
sydd angen sylw, dim adnodd i weithredu.
·
Methiant nad oedd datrysiadau e.e., elfennau o
annog cydweithio, wedi eu cynnwys. Dechrau da, ond angen gosod targedau ac
ymgysylltu yn effeithiol.
·
Angen cynnig rhesymau i bobl aros yng Ngwynedd
·
Y ddogfen yn gosod sylfaen dda ond dim gwerth os
nad oes gweithrediad.
·
Bydd rhaid newid diwylliant os am weithredu yn
effeithiol
·
Croesawu gwaith ymchwil cefndirol da sydd yn gosod
sylfaen i symud ymlaen
·
Derbyn bod angen gosod blaenoriaethau megis yr
Iaith Gymraeg, Iechyd a Thlodi, ond angen gweld grymuso cymunedau yn ganolig i
bob dim gan ystyried prosiectau fyddai’n arbed arian.
·
Gweithredu ar gyflwyniad deddfau Llywodraeth Cymru
ond dim adnodd i weithredu.
·
Swyddi o safon uchel yn allweddol, ond dim awgrym
sut i’w cael. Canolrif cyflog Môn yn
uwch na ffigwr Cymru gyfan – sut all Môn, fel Sir gyfochrog, fod gymaint uwch
na Gwynedd? Gofynwyd am wybodaeth manwl gan yr Uwch Reolwr Cefngoaeth Gorforaethol.
·
Bod yr economi yn hanfodol bwysig.
·
Cyllid yn ffactor sydd yn cyfyngu'r gallu i
gyflawni - angen ceisio meddwl mewn dulliau gwahanol
·
Rhaid blaenoriaethu swyddi gwerth uchel a
chyflenwad tai i annog pobl i aros yn lleol
·
Awgrym creu Pencampwr Swyddi
Mewn ymateb i sylw ynglŷn â’r economi, eglurwyd
bod y Cyngor wedi adnabod bod cydweithio ar draws y Gogledd yn gweithio, ond o
safbwynt adfywio cymunedol, derbyniwyd nad oedd digon o sylw wedi ei roi i’r
mater. Cyfeiriwyd at strategaeth y Gweinidog lle amlygir yr angen am economi
sylfaenol a bod swyddi unigol bach yn cynnal cymdeithasau. Er canolbwyntio ar y
cynlluniau mawr e.e., Twf, rhaid edrych ar yr ardaloedd gwledig i gynnal yr
economi sylfaenol, a chanfod cynlluniau a thargedu cymorth economaidd.
Cytunwyd bod cyllid yn ffactor sy’n cyfyngu'r
hyn sydd eisoes yn uchelgeisiol a’r hyn sydd angen ei gyflawni, ond rhaid
ystyried dulliau sydd ddim yn gofyn am arian sylweddol ond yn cael effaith
cystal. Gwaith y Bwrdd Gwasanaethau fydd
datblygu ffyrdd o weithio yn wahanol.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â
phrosiectau Hamdden a dyfodiad Bwrdd Hamdden newydd i Wynedd, nodwyd petai
unrhyw brosiect yn ymwneud â hamdden yn cael ei ystyried, y bwriad fydd gwahodd
cynrychiolaeth Hamdden i’r trafodaethau i ddatblygu prosiectau fyddai’n
berthnasol i’r maes. Y bwriad yw adnabod partneriaid ar gyfer prosiectau
unigol.
Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phryd
fydd y cynllun gweithredu yn cael ei gyflwyno, adroddwyd bod y fersiwn derfynol
yn cael ei chyflwyno i’r Cyngor Llawn ar y 3ydd o Fai 2018. Yn dilyn hynny bydd
angen creu amserlen i weithredu. Ategwyd na fyddai dogfen bwrpasol yn cael ei
chreu, ond y bwriad fydd cyhoeddi amserlen fesul cynllun.
Nodwyd bod y cynllun yn gam mawr i’r
cyfeiriad cywir. Derbyniwyd bod dyletswydd statudol ar y Pwyllgor Craffu i graffu
cynnwys y ddogfen fel rhan o’r broses o ddatblygu’r cynllun. Nodwyd dymuniad y
Pwyllgor i’r Bwrdd Gwasanaethau raglennu amserlen bendant i’r cynllun a chael
eu diweddaru ar hyd y broses drwy dderbyn adroddiadau cynnydd.
Penderfynwyd
derbyn yr adroddiad
Dogfennau ategol: