Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig
Ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth
yr Adran Amgylchedd am y cynllun dirprwyo cynllunio (drafft) newydd oedd yn cynnwys
yr addasiadau a gymeradwywyd gan y Pwyllgor Craffu. Atgoffwyd yr Aelodau bod ymchwiliad craffu i faes cynllunio
wedi cael ei gwblhau gan
Aelodau o’r Pwyllgor Craffu a bod y cynllun dirprwyo yn un o’r meysydd gafodd
ei ymchwilio. Un o argymhellion yr ymchwiliad craffu hwnnw oedd addasu
trothwyon y cynllun dirprwyo. Cyfeiriwyd at y cynllun dirprwyo arfaethedig oedd wedi ei gynnwys
gyda’r adroddiad ynghyd a’r buddion
amlwg ac eang o weithredu’r newidiadau.
Amlygwyd mai un o’r buddion
hynny fyddai cyfeirio llai o geisiadau i raglen
y Pwyllgor Cynllunio. Ar
sail y canran uchel o geisiadau sydd yn cael
eu cyfeirio ar hyn o bryd,
nodwyd y byddai’r newidiadau yn sicrhau
bod y Pwyllgor yn canolbwyntio ar ymdrin â materion sydd o wir ddiddordeb
iddynt yn unig. Byddai hyn
yn gwneud y defnydd gorau o amser ac arbenigedd aelodau’r Pwyllgor a’r swyddogion perthnasol.
Cydnabuwyd a chefnogwyd
fod yr hawl
sydd gan yr Aelod Lleol
neu ddau aelod arall i
alw cais i bwyllgor o dan
amgylchiadau penodol, yn parhau fel
y sefyllfa bresennol ac ystyriwyd hyn yn
dderbyniol.
Gofynnwyd i’r Pwyllgor gadarnhau a chefnogi’r drafft o’r cynllun dirprwyo
arfaethedig cyn
ei gyflwyno i’r Cyngor Llawn
ar argymhelliad y Swyddog Monitro gan ei fod
yn fater cyfansoddiadol.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau
unigol:
·
Nad
yw nifer y ceisiadau sydd yn mynd gerbron y Pwyllgor Cynllunio yn ormodol.
Pwrpas y Pwyllgor Cynllunio yw gwneud penderfyniadau.
·
Hapus
gyda’r drefn bresennol – angen cadw at drefn ddemocrataidd
·
Derbyn bod y newidiadau yn
arbed adnoddau ac amser, ond a yw hyn yn golygu y byddai ceisiadau sydd yn
peidio cael eu cyfeirio at bwyllgor yn derbyn llai o sylw
·
Angen
ystyried natur y gwrthwynebiadau yn hytrach na’r niferoedd
·
Dylid
ystyried cyflwyno cais i bwyllgor ‘fyddai o ddiddordeb’ - bod hyn a hyn o
ohebiaeth yn golygu ‘creu diddordeb’ hyd yn oed os mai un rheswm yn unig sydd
dros wrthod / caniatáu.
·
Derbyn bod gan yr Aelodau
Lleol hawl i gyfeirio cais i Bwyllgor - hyn yn fanteisiol ac yn sicrhau'r farn
leol. Er hynny, gall greu sefyllfa fregus i Aelodau Lleol os yn agored i
gyhuddiadau am eu barn.
·
Er mwyn rhoi ystyriaeth i’r
sefyllfa hyd yn hyn, gofynnwyd am wybodaeth gan yr Uwch Reolwr Cynllunio am
faint o geisiadau a gyfeiriwyd at y Pwyllgor Cynllunio, faint o’r ceisiadau
hynny a aeth i apêl a faint o’r apeliadau a lwyddodd.
Mewn ymateb i’r sylwadau
nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod angen cael cydbwysedd ac nad oedd y newidiadau
yn cwestiynu sut mae’r Pwyllgor Cynllunio yn gwneud penderfyniadau. Amlygodd
bod gan yr Aelodau rôl allweddol i gyfeirio ceisiadau ymlaen er mwyn sicrhau'r
elfen leol. Pwrpas y newidiadau yw sicrhau bod y ceisiadau sydd yn cael eu
trafod yn y pwyllgor yn rhai o sylwedd.
Mewn ymateb i’r
sylwadau nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio bod yr holl faterion wedi cael eu
hystyried yn fanwl gan aelodau’r ymchwiliad a bod y newidiadau a gynigwyd eisoes wedi derbyn cymeradwyaeth y Pwyllgor
Craffu. Mewn ymateb i bryderon ynglŷn â gohebiaeth nodwyd nad oedd unrhyw
resymeg dros 3 neu fwy o ohebiaeth - ystyriaethau cynllunio yn unig oedd yn
cael eu cyfarch. Pwysleisiodd y byddai pob gohebiaeth yn cael sylw a bod cyfle
yma i gryfhau rôl yr aelod lleol.
Mewn ymateb i sylw
ynglŷn â sut y byddai’r newidiadau yn lleihau risg, adroddwyd bod y cyfnod
penodol statudol o 8 wythnos i gyflwyno cais yn gosod her o adrodd ac
amserlennu cyflwyno y cais i bwyllgor ar amser priodol. Os na all y gwasanaeth
weithredu o fewn yr 8 wythnos bydd y Cyngor yn agored i apêl o ad-dalu ffi i’r
ymgeisydd ynghyd a chostau. Nodwyd bod yr apeliadau hyn yn heriol oherwydd
pwysau gwaith ac felly yn cael ei ystyried fel risg posib
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â chyflwyno gwybodaeth am y newidiadau gydag Aelodau o’r Pwyllgor
Cynllunio, amlygwyd bod sesiwn rhannu gwybodaeth wedi ei gynnal Rhagfyr 2017.
Derbyniodd yr Aelod Cabinet bod gwaith y Pwyllgor Cynllunio yn drwm a
bod angen sicrhau bod y ceisiadau hynny sydd angen sylw yn cael gwrandawiad
teg. Ychwanegodd ei fod yn gweithredu ar argymhelliad yr ymchwiliad.
Penderfynwyd derbyn yr
adroddiad, er nad oedd y penderfyniad yn unfrydol.
Dogfennau ategol: