Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig
I ystyried adroddiad Pennaeth Adran Amgylchedd
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Aelod Cabinet yn adrodd ar y cynnydd a wnaed
i gyfarch 34 argymhelliad a gyhoeddwyd gan yr Asiantaeth Safonau Bwyd (ASB) yn
dilyn ymchwiliad o ddarpariaeth
gorfodaeth cyfraith bwyd y Cyngor. Adroddwyd ar y cynnydd a wnaed i gwrdd â’r
argymhellion yn unol â’r cynllun ym mhwyllgor Craffu Cymunedau 10.10.17. Yn Chwefror 2018 bu i swyddogion
yr ASB ail ymweld â’r Gwasanaeth i asesu
cynnydd pellach ar y cynllun gwella. Adroddwyd bod 20 o’r argymhellion yn parhau
i fod ag angen gweithrediad pellach.
Adroddwyd bod y Gwasanaeth wedi
cymryd camau sylweddol i gwrdd â’r 34 argymhelliad oedd yn deillio o archwiliad
llawn yr ASB o ddarpariaeth gorfodaeth cyfraith bwyd y Cyngor ym mis Chwefror
2016. Wedi eu hail ymweliad yn Chwefror 2018, cafwyd cadarnhad bod y Gwasanaeth
wedi cwrdd â chyfran o’r argymhellion, ei bod wedi gwneud cynnydd da ar rai
argymhellion ond bod cynnydd cyfyngedig neu ddim cynnydd wedi bod i gwrdd â 4
argymhelliad.
Cydnabuwyd nad oedd, yn unol â rhai
o’r argymhellion, adnodd digonol i gwrdd â gofynion gorfodaeth cyfraith bwyd
fel y mynnir gan Lywodraeth Cymru. Mewn adroddiad i’r Cabinet (Gorffennaf 2018)
amlinellwyd pwysigrwydd y gwasanaeth o ran y gofynion statudol, natur y gwaith
a’r risgiau posib i drigolion Gwynedd a’r Cyngor o beidio cydymffurfio gyda’r
gofynion. O ganlyniad cytunodd y Cabinet i’r Adran Amgylchedd ddefnyddio incwm
(blynyddol) o £70,000 o’r Gwasanaeth
Trafnidiaeth a Chefn Gwlad, oedd yn
flaenorol wedi ei adnabod fel cyfraniad at gynllun arbedion y Cyngor, ar gyfer cyflogi swyddog/ion
o’r newydd ar delerau parhaol yng
Ngwasanaeth Gwarchod y Cyhoedd. Wedi penodi ac yn dilyn cyfnod o gyfanheddu /
hyfforddi disgwylir y bydd hyn yn caniatáu, ymhen amser, i’r Gwasanaeth gwrdd
â’u goblygiadau gorfodaeth cyfraith bwyd yn unol â'r Cytundeb Fframwaith Diogelwch
Bwyd Cenedlaethol.
Yn y cyfamser,
nodwyd y byddai’r Gwasanaeth yn parhau i gwblhau’r gwelliannau a nodwyd yn y
cynllun gwella i gwrdd yn llawn a’r 34 argymhelliad gwreiddiol. Ategwyd
oherwydd ôl groniad hanesyddol archwiliadau diogelwch bwyd bydd angen amser i’w
cwblhau. Dengys bod 290 o archwiliadau a ddylid fod wedi eu cwblhau erbyn
diwedd Mawrth eleni dal yn ofynnol. Os bydd y broses benodi yn llwyddiannus
disgwylid y bydd y gwaith wedi ei gwblhau erbyn 2021 fan bellaf.
Yn ystod y drafodaeth ddilynol,
amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:
·
Da
gweld cynnydd, ond pryder bod 2 flynedd a hanner wedi pasio a bod 20
argymhelliad angen gweithrediad pellach. Angen gweld cynnydd pellach
·
Bod
diffyg y Cyngor i gyrraedd y gofynion statudol yn risg sylweddol
·
Nad yw
diffyg adnoddau yn ddigon o esgus
·
Rhaid
parhau i gyrraedd targedau
·
Bod
effaith y toriadau yn weledol erbyn hyn – hyn yn dystiolaeth bod toriadau
gormodol wedi bod yn gamgymeriad
·
Pam nad oedd cais am gefnogaeth ariannol wedi ei
wneud i’r ASB o fewn y ddwy flynedd a hanner i gyfarch y diffyg adnodd?
·
Derbyn
bod cynnydd yn llwyth gwaith a bod swyddogion yn gorfod rhoi mwy o ymdrech
·
Bod
gofynion statudol angen eu blaenoriaethu
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â’r gallu i godi ffi ar gyfer ymweliadau nododd Rheolwr Gwarchod y Cyhoedd (Lles) bod codi ffioedd wedi cael sylw cenedlaethol yn ddiweddar, ond
hyd yma nid oes awydd ‘gwleidyddol’ i godi
ffioedd. Ategwyd bod ffi o £150 yn cael ei godi am ail ymweliad.
Ategodd yr Aelod
Cabinet bod gwaith papur yr ymweliadau yn cael ei orfodi gan yr ASB
a bod hwn yn llafurus. Nodwyd bod bwriad ymchwilio i mewn i systemau defnyddio technoleg gwybodaeth,
ond anodd yw sefydlu trefniadau
llai biwrocrataidd - hyn yn
rhwystredigaeth. Dadleuwyd bod rhai o’r argymhellion
yn ddilys ond eraill yn rhan o weithdrefnau diangen.
Cynigiwyd ac eiliwyd i’r Pwyllgor wneud cais
i’r Cabinet i gyfeirio’r mater i Lywodraeth Cymru gan nad yw’r Gwasanaeth yn gallu
cwrdd â’r argymhellion statudol yn y maes yma a gofyn am fwy o arian.
PENDERFYNWYD:
Derbyn cynnwys
adroddiad Aelod Cabinet yr Amgylchedd, gan dderbyn nad yw’r Cyngor yn gallu cyflawni ei gyfrifoldebau statudol ym maes Safonau Bwyd.
Roedd Aelodau’r Pwyllgor Craffu yn dymuno tynnu sylw Aelodau’r Cabinet at eu cyfrifoldeb yn y maes yma, ac
yn argymell eu bod yn cysylltu’n
syth gyda Llywodraeth Cymru i ofyn am adnoddau ychwanegol
i gyflawni’r gofyniad statudol.
Dogfennau ategol: