Adroddiad gan Arwyn Thomas
Cofnod:
PENDERFYNIAD
Derbyn yr Adroddiad.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod newidiadau sylweddol wedi eu gwneud
gan Lywodraeth Cymru i sut yr adroddir ar fesurau perfformiad. O ganlyniad nid
oes unrhyw wybodaeth gymharol ar lefel awdurdod lleol nag ar lefel consortia ar
gyfer y Cyfnod Sylfaen, Cyfnod Allweddol 2 na Chyfnod Allweddol 3.
Cychwynnwyd drwy drafod y Cyfnod Sylfaen a nodwyd er bod perfformiad
wedi gostwng yn rhanbarthol, mynegwyd fod y gostyngiad yn is na’r gostyngiad
cenedlaethol ar draws bob adran. Y prif reswm am hyn yw’r defnydd am y tro cyntaf o
ddeilliannau newydd mewn iaith a mathemateg o’r Fframwaith CS ar gyfer
asesu. Wrth edrych ar Gyfnod Allweddol 2 nodwyd fod
perfformiad yn parhau i fod yn gadarn ym mhob pwnc gyda’r rhanbarth yn parhau i
fod yn gryf ar y lefel disgwyliedig a’r lefelau uwch na’r disgwyl. Nodwyd y
bydd GwE yn parhau i gryfhau gweithio clwstwr ymhellach er mwyn hyrwyddo
cydweithrediad a rhannu arferion da. Nodwyd fod proffil Estyn ar gyfer ysgolion
cynradd yn parhau i wella o flwyddyn i flwyddyn gyda chynnydd yn niferoedd o
ysgolion wedi derbyn dyfarniadau uchaf i 13.2%. Ychwanegwyd mai dim ond 3 oedd
yng nghategori statudol Estyn ar hyn o bryd, sydd yn 0.75% o ysgolion cynradd y
rhanbarth.
Wrth edrych ar Gyfnod Allweddol 3, nodwyd fod y perfformiad yn
gadarnhaol a bod perfformiad y rhanbarth yn parhau yn uwch na’r ffigwr
cenedlaethol yn y pynciau craidd. Trafodwyd y bwlch rhywedd rhanbarthol, ble
mae merched yn parhau i berfformia’n well na bechgyn.
Mynegwyd yn gyffredinol mai siomedig yw perfformiad Cyfnod Allweddol 4,
gan ychwanegu fod Strategaeth Gwella Ysgolion Uwchradd yn nodi cyfeiriad ar
gyfer datblygiadau rhanbarthol dros y tair blynedd nesaf. Ychwanegwyd fod GwE
wedi bod yn gweithio i wella perthynas gyda’r ysgolion ac mae gwaith yn cael ei
wneud i’w cefnogi. Mynegwyd fod gwaith yn cael ei wneud gan GwE i wella
effeithiolrwydd arweinyddiaeth canol o ran arwain yr addysgu, asesu, tracio a'u
gallu i werthuso yn gadarn a gobeithir y bydd hyn yn dwyn ffrwyth yn ystod y
blynyddoedd nesaf. Ychwanegwyd fod gwaith yn cael ei wneud i well perfformiad
dysgwyr PYD drwy sicrhau fod ysgolion yn
derbyn arweiniad a chymorth clir ynghylch strategaethau effeithiol, dysgu a
thracio.
Nodwyd fod GwE yn buddsoddi yn CA3 a fydd yn llifo i mewn i CA4, a
nodwyd fod y berthynas rhwng GwE ac ysgolion uwchradd yn gadarn iawn.
Ychwanegwyd fod camau wedi eu gwneud ond nad yw’r canlyniadau yn amlwg eto.
Trafodwyd disgyblion PyD, gan nodi y bydd effaith o bosib pan fydd y Credyd
Cynhwysol yn cael ei gyflwyno.
Trafodwyd canlyniadau TGAU Saesneg, gan bwysleisio ei bod yn anodd symud
ymlaen tan y bydd esboniad arwyddocaol i beth ddigwyddodd. Nodwyd anghysondeb
mewn ymatebion gan Gymwysterau Cymru, ac y dylai disgyblion sydd wedi cyrraedd
y safon dderbyn Gradd C. Mae codi’r nifer o farciau oedd angen i gael gradd C
yn yr Haf wedi golygu na all nifer sylweddol o ddysgwyr y rhanbarth fynd ymlaen
i’r cyrsiau ôl-16 oeddynt wedi dymuno eu dilyn.
Mynegwyd nad yw Cymwysterau Cymru wedi rheoli’r sefyllfa yn dda, a nad
oes unrhyw ymddiheuriadau wedi ei dderbyn. Nodwyd fod Kirsty Williams wedi nodi
nad oes modd i’r Llywodraeth gomisiynu ymgynghoriad gan ei fod yn fwrdd
annibynnol.
Trafodwyd Cyfnod Allweddol 5 gan nodi fod y model ar gyfer y
ddarpariaeth yn amrywio o fewn awdurdodau ac ar draws y rhanbarth. Er hyn
nodwyd cynnydd yn A2 ac Uwch gyfrannol, ac ychwanegwyd fod y rhanbarth ar y
blaen yn rhanbarthol o ran Cymru mewn rhai dangosyddion ond y tu ôl ar fesurau
eraill.
Dogfennau ategol: