I dderbyn atebion i unrhyw gwestiynnau amgaedig a dderbyniwyd ers y cyfarfod diwethaf.
Cofnod:
Roedd cwestiynau ysgrifenedig ffurfiol wedi eu cyflwyno gan amryw o
Gynghorau Cymuned a chafwyd yr atebion isod:
1 |
Cyng. Annwen
Hughes – Cwestiwn i Network Rail |
|
“Beth yw'r diweddaraf erbyn hyn ynglŷn â gosod barriers ar groesfan Talwrn Bach” |
|
Nodwyd mai'r
pecyn o ddatblygiadau oedd yn cynnwys croesfan Talwrn Bach oedd un o’r
ychydig rai i gael ei effeithio gan gwymp cwmni Carillion.
Nid oedd y sefyllfa wedi newid ers cyfarfod blaenorol y Gynhadledd, ac y
byddai’r gwaith yn cael ei raglennu ar ôl Ebrill 2019. Nododd Mr Sam Hadley
ei fod yn cydymdeimlo gyda rhwystredigaeth y trigolion lleol, ac y byddai’n
adrodd ar unrhyw gynnydd yng nghyfarfod nesaf y Gynhadledd. |
2.1 |
Richard
Williams, Cynghorydd Tref Porthmadog – Cwestiwn i Trafnidiaeth Cymru |
|
“Pam fod y
gwybodaeth ar y system uchelseinydd yn uniaith Saesneg yn yr orsaf
Porthmadog?” |
|
Nodwyd y byddai
cyhoeddiadau uchelseinydd i’r dyfodol yn ddwyieithog, yn unol â pholisi
Trafnidiaeth Cymru. |
2.2 |
“Agwedd anghwrtais
gan y person ‘Arweinydd Tocynnau ar y tren’ pan
holais beth oedd y rheswm nad oeddwn yn cael defnyddio’r Cerdyn Teithio. (Pam
fod teithwyr Blaenau Ffestiniog a Conwy yn cael eu defnyddio drwy y
flwyddyn)” |
|
Nodwyd fod y trenau presennol ar Reilffordd Arfodir
y Cambrian yn rhy brysur i alluogi teithiau am
ddim. Hyderwyd y byddai dyfodiad trenau gyda mwy o seddi yn galluogi cynnig
yr un gwasanaeth i’r dyfodol. |
3.1 |
Cyngor Tref Porthmadog - Cwestiynau i
Trafnidiaeth Cymru, Network Rail
a’r Pwyllgor |
|
“Dymunai Gyngor
Tref Porthmadog dderbyn sicrhad gennych fod yr Iaith Gymraeg am gael ei
defnyddio ym mhob agwedd o wasanaeth gan y gweithredwr trenau ar Reilffordd Arfodir y Cambrian Dymunir gweld
popeth yn ddwyieithog a dymunir gweld enwau llefydd yn cael eu
hynganu/cyhoeddi mewn Cymraeg Cywir.” |
|
Nodwyd fod polisi Trafnidiaeth Cymru yn golygu fod hyn ar y gweill, a
bod rhaid gwella’r ddarpariaeth fel rhan o’r trefniadau newydd. |
4.1 |
Cyng. Owain
Williams – Cwestiynnau i Trafnidiaeth Cymru a Network Rail |
|
“A yw holl lenyddiaeth y Rheilffordd Cambrian yn hollol ddwyieithog? h.y. posteri, taflenni
gwybodaeth ayyb. Os na, yna pryd gellir hyn ddigwydd?” |
|
Nodwyd fod Trafnidiaeth Cymru yn bwriadu cydweithio gyda Claire
Williams, Swyddog Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian
a gweithredu ei pholisi o weithredu’n ddwyieithog. Bwriedid dechrau’r gwaith
yn fuan. |
4.2 |
“A yw’r holl
staff sy’n delio a’r cwsmeriaid ar Reilffordd y Cambrian
yn Ddwyieithog? Os na, yna pryd y gellir disgwyl hyn?” |
|
Nodwyd mai ychydig iawn oedd cyswllt Network
Rail gyda’r cyhoedd yn uniongyrchol. Fodd bynnag,
ychwanegwyd y byddai Netwrork rail
yn gweithio’n agos gyda Trafnidiaeth Cymru er mwyn rhoi wyneb cyhoeddus
dwyieithog. |
5 |
R. Goodhew, Cymdeithas Teithwyr Rheilffordd Aberystwyth i’r
Amwythig – Cwestiwn i Trafnidiaeth Cymru |
|
“Are there any
plans to provide specific guidance for passengers who are travelling
to and from the Cambrian Coast Line and the Cambrian Main Line west of Machynlleth in the next version of the printed pocket timetable (Dec 2018)? [any through carriages/change at Mach/Change at Dyfi Jn etc] |
|
Nodwyd y byddai llawer o drefniadau oedd
wedi eu hetifeddu gan Arriva yn cael eu hadolygu wrth i Drafnidiaeth Cymru
ddechrau ar ei raglen waith, ac y byddai’r awgrymiadau yn cael eu cymryd i
ystyriaeth. Ychwanegwyd fod
Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian eisoes yn
cynhyrchu fersiwn o’r amserlen wedi ei chrynhoi ar gyfer teithwyr oedd yn
newid o un lein i’r llall. |
6.1 |
Liz Saville Roberts A.S. –
Cwestiynnau i Trafnidiaeth Cymru |
|
“Pa gynlluniau sydd gennych i wella
diogelwch teithwyr gyda’r nos e.e. Teithwyr sydd yn aros mewn gorsaf
rheilffordd anghysbell fel Cyffordd Dyfi a beth yw’r amserlen ar gyfer
cyflwyno unrhyw welliannau?” |
|
Nodwyd fod Cyffordd Dyfi yn broblem
hanesyddol oherwydd ei leoliad anghysbell. Gobaith Trafnidiaeth Cymru oedd y
byddai eu rhaglen waith yn arwain at wella’r sefyllfa yn ogystal â gwella’r
cysylltiadau rhwng trenau ar Reilffordd y Cambrian
a Rheilffordd Aberystwyth ac Amwythig. |
6.2 |
“Daeth i’m sylw
yn ystod yr haf bod pobl ifanc yn chwarae ar y rheilffordd. Sut ydych chi’n
cydweithio gyda’r Heddlu Trafnidiaeth Brydeinig i addysgu plant a phobl ifanc
o’r peryglon chwarae ar a ger rheilffyrdd?” |
|
Nodwyd fod atal tresmasu ar y rheilffordd yn waith partneriaeth cyson,
oedd wedi ei gyfarch yn adroddiadau’r Heddlu trafnidiaeth a Swyddog
Partneriaeth Rheilffordd y Cambrian. |
6.3 |
“Mae nifer o etholwyr yn cysylltu er mwyn
mynegi eu profiadau o ddefnyddio trafnidiaeth gyhoeddus ac yn adrodd bod
amserlenni trenau a bysiau er enghraifft ddim yn cysylltu’n effeithlon, gydag
amseroedd aros hir iawn. Beth yw eich cynlluniau i wella cysylltedd trenau o
Aberystwyth i Feirionnydd, a pha drafodaethau yr ydych wedi ei gael i wella
cysylltedd gyda bysiau?” |
|
Nodwyd fod gwaith yn mynd ymlaen rhwng y
Rheilffyrdd, Traws Cymru a Chyngor Gwynedd er mwyn cydlynu amserlenni, ond
bod natur fasnachol rhai llwybrau bysiau yn ei wneud yn anodd. Ychwanegwyd
bod cais wedi ei wneud i fysus i aros am drenau cyn gadael cysylltfan. |
7 |
Cyng. Louise
Hughes – Cwestiwn i Network Rail |
|
“Mae’r gymuned
leol wedi codi pryderon mawr am sefyllfa goleuo gorsaf Llwyngwril, yn ogystal
a chyflwr wal ger yr orsaf” |
|
Nodwyd fod Ymgynghoriaeth
Gwynedd wedi eu comisiynu i archwilio’r wal ac argymell datrysiad.
Ychwanegwyd ei fod yn broses hir, ond bod deialog iach wedi ei gynnal ac y
byddai’r gwaith yn cael ei raglennu pan fyddai’r gwaith datblygu wedi ei
gwblhau a chyllid ar gael. Hyd nes byddai hynny’n digwydd, byddai’n broses o
reoli’r risg. Mewn perthynas â goleuo’r orsaf nodwyd ei fod yn gynllun
ehangach fyddai’n cynnwys goleuo’r llwybr at yr orsaf er mwyn gwella
diogelwch yr ardal, gyda’r gwaith wedi ei gwblhau erbyn Ebrill 2019. Nododd
Mr Sam Hadley y byddai’n fodlon mynd i gyfarfod y Cyngor Cymuned er mwyn
clywed eu pryderon. |
Penderfynwyd:
Diolch am y cwestiynau ac am yr atebion ffafriol a gafwyd gan y swyddogion.
Dogfennau ategol: