skip to main content

Agenda item

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Adran yr Amgylchedd

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Bennaeth Adran yr Amgylchedd yn argymell trefniadau newydd ar gyfer profi cerbydau hacni a hurio preifat dros 10 oed. Amlygwyd bod hi’n ofynnol i bob cerbyd hacni a hurio preifat dderbyn prawf MOT safonol yn flynyddol gyda gorfodaeth ychwanegol am ddau brawf mecanyddol unwaith mae cerbyd yn cyrraedd 10 oed. Ategwyd bod y profion yn allweddol i sicrhau diogelwch y cerbydau tacsi. Nodwyd bod y gofynion wedi eu hymgorffori fel amodau trwydded ac wedi eu mabwysiadu ym mholisi trwyddedu cerbydau tacsi’r Cyngor. Mae’r gofynion hefyd yn seiliedig ar y cyngor a geir yng nghanllawiau ymarfer da’r Weinyddiaeth Drafnidiaeth.

 

Nodwyd bod nifer o Gynghorau, oherwydd pryderon dros reoli safon a chysondeb profion mecanyddol, yn awdurdodi modurdai sydd yn gwasanaethu fflyd cerbydau’r Awdurdod i wneud profion mecanyddol ar gerbydau trwyddedig. Ategwyd y byddai yn fanteisiol oherwydd bod posib cadw rheolaeth dynn ar y safonau a bod cyfle hefyd i greu incwm i’r Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â nifer profion mecanyddol sydd eu hangen dros y 12 mis nesaf, nodwyd bod cynnal dau brawf ar geir dros 10 oed wedi cael eu cynnwys yn y niferoedd o fewn yr adroddiad. Ategwyd bod modurdai'r Cyngor yn awyddus iawn i fod yn rhan o’r drefn ac er mwyn osgoi gormod o bwysau arnynt cynigir bod tri modurdy arall yn cael eu hawdurdodi fel rhai ‘wrth gefn’ yn ystod y cyfnodau prysur. Nodwyd bod trafodaethau cychwynnol wedi eu cynnal gyda’r Post Brenhinol i ddefnyddio eu modurdy ym Mangor fel un o’r modurdai wrth gefn gan fod y Post Brenhinol yn cadw at safonau cenedlaethol i brofi eu fflyd. Nid oedd y ddau fodurdy arall wedi eu hadnabod.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â gofynion yr ail brawf, mynegwyd bod y prawf yn ehangach na MOT cyffredinol ac y bydd yn cynnwys e.e., cyflwr y car, arwyddion, gwregys diogelwch a darpariaeth cymorth cyntaf. Ategwyd bod y rhestr gwirio yn un sylweddol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyfnod terfynol defnydd car fel tacsi nodwyd mai 12 oed oedd y cyfnod a bod hyn yn cael ei adolygu.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â monitro safonau'r 16 modurdy (ar draws Gwynedd) sydd wedi eu hawdurdodi ar gyfer gwneud profion, nodwyd bod archwiliadau yn cael ei gynnal gan swyddog trwyddedu. Bydd pob modurdy sydd yn gymwys i gynnig MOT hefyd yn gorfod bod yn gymwys i ofynion VOSA (Vehicle and Operator Services Agency).

 

Amlygwyd pryder gan un o’r Aelodau y byddai rhai cwmnïau tacsis yn gwyro oddi ar  y drefn, ond cadarnhawyd y byddai’n parhau yn orfodol i geir hyd at 10 oed gael eu profi gan un o’r 16 modurdy awdurdodedig. Ategwyd y byddai’n orfodol i gerbydau dros 10 oed fynd at un o fodurdai'r Awdurdod.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr argymhelliad gan gymeradwyo trefniant newydd isod o brofi cerbydau dros 10 oed.

 

           Fod ceir dros 10 oed sydd angen dau brawf mecanyddol y flwyddyn yn        cael eu cyfeirio at fodurdai'r cyngor  yng Nghibyn, Pwllheli a           Dolgellau        i gael y profion.

           Fod 3 modurdy arall yn cael eu hawdurdodi fel  modurdai ‘wrth gefn’ yn ystod cyfnodau lle mae modurdai'r Cyngor yn rhy brysur i    wneud y         profion

           Fod trefn yn cael ei sefydlu i alluogi perchnogion cerbydau i allu        gwneud trefniant a thalu  i gael profi cerbyd ym modurdai’r Cyngor            drwy ffurflen electronig hunanwasanaeth

           Fod trafodaeth yn digwydd gyda chanolfan profi cerbydau'r Post        Brenhinol yn Llandygai er mwyn ceisio darganfod os fyddai diddordeb      ganddynt i gynnig gwasanaeth profi cerbydau tacsi.

           Fod Modurdai’r cyngor yn parhau i dderbyn ceir i’w profi yn    achlysurol      sydd yn cael eu cyfeirio ar hap gan swyddog gorfodaeth   Trwyddedu yn unol â phwerau archwilio o dan adran 68 y Ddeddf            Llywodraeth Leol (Darpariaethau Amrywiol) 1976; beth bynnag fo       oedran y cerbyd.

           Fod bwriad i’r trefniant fod yn weithredol o Ebrill 2019

           Fod cerbydau o dan 10 oed yn parhau i gael eu profi yn unol â’r          trefniant presennol

Dogfennau ategol: