Agenda item

Dymchwel yr adeilad presennol a chodi 9 uned fforddiadwy ar gyfer gymdeithas dai leol, llecynnau parcio a thirlunio.

 

AELOD LLEOL:         Cynghorydd Keith Jones

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Dymchwel yr adeilad presennol a chodi 9 uned fforddiadwy ar gyfer gymdeithas dai leol, llecynnau parcio a thirlunio.

 

(a)     Ymhelaethodd yr Uwch Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi bod egwyddor o godi tai ar y safle wedi ei selio ym Mholisïau PCYFF1, TAI1, a PS5 o’r CDLl. Nododd oherwydd mai landlord cymdeithasol cofrestredig fyddai’n gyfrifol am yr holl unedau, byddent i gyd ar gael fel tai fforddiadwy. Amlygwyd bod y safle tu mewn i’r ffin datblygu, yn safle a ddatblygwyd o’r blaen ac yn addas ar gyfer defnydd preswyl. Nodwyd bod y cais yn dderbyniol mewn egwyddor.

        

         Tynnwyd sylw at y sylwadau ychwanegol a dderbyniwyd.

 

         Nodwyd bod yr unedau wedi eu dylunio ar ffurf 3 bloc amrywiol eu huchder gydag amrywiaeth o ddeunyddiau yn cael eu defnyddio ar edrychiad allanol yr adeilad. O ystyried dyluniad, graddfa, ffurf a deunyddiau’r datblygiad credir y byddai’n cydweddu â’r safle ac na fyddai’n creu strwythur anghydnaws na gormesol o fewn y rhan yma o’r strydlun.

 

         Adroddwyd y derbyniwyd gohebiaeth gan rhai o drigolion lleol parthed effaith andwyol y bwriad ar fwynderau preswyl a chyffredinol ar sail colli preifatrwydd, gor-edrych ac aflonyddwch sŵn, gor-ddatblygu a chreu strwythur gormesol. Roedd y cynlluniau gwreiddiol wedi eu diwygio mewn ymateb i’r gwrthwynebiadau, fel bod ffenestri wal gefn rhan ogleddol yr adeilad newydd wedi eu gosod ar ongl er mwyn lleihau unrhyw or-edrych uniongyrchol i mewn i anheddau cyfagos. Ychwanegwyd er mwyn osgoi unrhyw or-edrych uniongyrchol gellir sicrhau bod ffenestri grisiau, a fyddai’n wynebu anheddau yng nghefn y safle, o wydr afloyw yn barhaol.

 

         Cyfeiriwyd at sylwadau a dderbyniwyd gan drigolion lleol yn nodi pryderon parthed addasrwydd y fynedfa, er yn cydnabod y pryderon nid oedd gan yr Uned Drafnidiaeth wrthwynebiad i’r bwriad yn ddarostyngedig i gynnwys amodau priodol gydag unrhyw ganiatâd cynllunio.

 

Roedd y datblygiad yn dderbyniol o safbwynt polisïau lleol a chenedlaethol perthnasol am y rhesymau a roddwyd yn yr adroddiad.

 

(b)     Cefnogwyd y cais gan yr aelod lleol (nad oedd yn aelod o’r Pwyllgor Cynllunio hwn), nododd bod angen am dai yn yr ardal a bod y bwriad yn cyd-fynd â’r ardal gyda datblygiad tebyg gan Cartrefi Cymunedol Gwynedd gerllaw.

 

PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i’r Uwch Reolwr Cynllunio i ganiatáu’r cais yn ddarostyngedig i dderbyn sylwadau ffafriol gan Uned Gwarchod y Cyhoedd ac i’r amodau isod:-

 

1.     5 mlynedd.

2.     Yn unol â’r cynlluniau.

3.     Llechi naturiol/deunyddiau.

4.     Priffyrdd.

5.     Bioamrywiaeth.

6.     Dŵr Cymru.

7.     Tynnu hawliau datblygiadau a ganiateir (ffenestri).

8.     Llygredd/halogiad.

9.     Gwydr afloyw i’r ffenestri yn ardal y grisiau yn wynebu anheddau yng nghefn y safle

Dogfennau ategol: