Cyflwynwyd gan:Cyng. Gareth Thomas
Penderfyniad:
Derbyn a nodi’r wybodaeth yn yr adroddiad.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Thomas
PENDERFYNIAD
Derbyn a nodi’r
wybodaeth yn yr adroddiad
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr adroddiad gan dynnu sylw at
rai prosiectau yn y Cynllun Strategol. Nodwyd fod Egwyddorion Addysg bellach
wedi eu mabwysiadau gan y Cabinet a byddant yn cael eu hystyried wrth ymateb i
unrhyw gyfleoedd i’r dyfodol. Mynegwyd fod yr adran yn edrych ymlaen at
gyd-weithio a GwE er mwyn trefnu hyfforddiant perthnasol ar gyfer cryfhau
Arweinyddiaeth o fewn ysgolion.
Mynegwyd wrth edrych ar raglen Ysgolion
Unfed Ganrif ar Hugain fod y mwyafrif ohonno i’w gweld, ar hyn o bryd, yn
Nalgylch Bangor. Nodwyd fod gwaith adeiladu wedi cychwyn ar Ysgol y Garnedd a
thrafodaethau yn parhau gyda chynlluniau Ysgol y Faenol. Wrth edrych ar
Ddalgylch y Bala, mynegwyd fod Pennaeth bellach wedi ei phenodi ac y bydd yn
mynd ati i benodi’r staff. Mynegwyd fod yr adeilad wedi ei ddefnyddio fel gofod
cymdeithasol a bod y noswaith wedi bod yn llwyddiannus.
Nodwyd fod gwaith o Drawsnewid y
Ddarpariaeth Anghenion Dysgu Ychwanegol a Chynhwysiad yn mynd rhagddi. Ategwyd
fod gwedd 1 o’r gwaith trawsnewid wedi ei gwblhau ond fod angen mwy o sylw ar
gyfer Gwedd 2 sydd yn ymwneud a’r ddeddf newydd a phriodoli a chreu trefniadau
newydd i brosesau gwaith ar draws yr ysgolion.
Mynegwyd nad oes modd cymharu canlyniadau
eleni cymaint â’r blynyddoedd sydd wedi mynd heibio o ganlyniad i’r addasiadau
i’r polisi cenedlaethol. Trafodwyd fod canlyniad TGAU Saesneg wedi gostwng
eleni o ganlyniad i gynnydd sylweddol yn ffiniau’r graddau. Mynegwyd fod
Cymwysterau Cymru wedi cyhoeddi adolygiad hynod dechnegol i gyfiawnhau eu
prosesau, ategwyd fod y swyddogion a’r Aelod Cabinet o’r farn nad yw’r
cyfiawnhad yn ddigonol. Esboniwyd fod trafodaethau yn parhau.
Trafodwyd y sefyllfa ariannol gan dynnu sylw
at Orwariant Cludiant. Mynegwyd y prif resymau a oedd yn cynnwys
-
£149,000
o ganlyniad i gytundebau newydd yn sgil agos Ysgol Hafod Lon
-
£125,000
o ganlyniad i gytundebau newydd yn y maes cludiant
-
£73,000
o ganlyniad i gynnydd yn unedau ABC Dolgellau a Cymerau gan fod dwy uned ar
agor 4 diwrnod yr wythnos, tra bod y ddarpariaeth flaenorol ar agor 5 diwrnod
yr wythnos.
-
£69,000
o ganlyniad effaith ail dendro dros yr haf
-
£69,000
o ganlyniad i gytundeb newydd prif lif.
Ychwanegwyd nad oes un plentyn yn cael ei
gludo heb yr hawl angenrheidiol. Mynegwyd for yr adran yn gweithio gyda’r Adran
Amgylchedd a bydd adroddiad pellach i’r Cabinet yn dilyn.
Sylwadau yn codi o’r drafodaeth
- Trafodwyd y gorwariant yn y gwasanaeth
cludiant gan nodi fod nifer o resymau dros y gorwariant. Nodwyd mai beth sydd
yn cael ei amlygu yw fod angen edrych ar y broses ac i ddysgu gwersi cyn symud
ymlaen.
Awdur:Iwan Trefor Jones
Dogfennau ategol: