skip to main content

Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod dyletswydd statudol ar y Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion i gyflwyno eu hargymhellion yn dilyn adolygu’r polisi tâl i’r Cyngor Llawn yn flynyddol.  Amlygwyd nad oedd addasiadau i’r polisi eleni, ond yn unol â chyfansoddiad y Cyngor roedd angen ystyried y polisi.

 

Er nad oedd addasiadau i’r polisi tynnwyd sylw at rai materion. Nodwyd, yn unol â Chytundeb Tâl Cenedlaethol (cyfnod cytundeb dwy flynedd) bydd isafswm cyflog y Cyngor yn codi o £8.62 i £9.18 yr awr erbyn Ebrill 2019. Ategwyd mai lleiafrif bychan o swyddi fydd yn disgyn o fewn y pwynt isaf gyda rhan helaeth ar £9.55 neu uwch. Adroddwyd, er enghraifft, bod gofalwyr yn cael eu cyflogi ar raddfa £9.36 - £9.55ya gyda’r gallu i gyrraedd £9.55ya ar ôl blwyddyn o gyflogaeth. Atgoffwyd yr Aelodau mai £9.00ya yw’r isafswm cyflog sydd yn cael ei ystyried fel Cyflog Byw gan y corff gwirfoddol “Sefydliad Cyflog Byw”, ond gyda’r penderfyniad lleol blaenorol i ddileu'r ddau bwynt isaf oddi ar y strwythur tâl cenedlaethol, £9.18ya fydd isafswm cyflog Cyngor Gwynedd oddi ar y 1af o Ebrill, 2019. Ategwyd y byddai hyn, o ganlyniad, yn golygu bod Cyngor Gwynedd, am y tro cyntaf, yn talu cyflog uwchlaw’r Cyflog Byw o £9.00ya sydd yn fater y gall y Cyngor ymfalchïo ynddo.

 

Tynnwyd sylw at faterion eraill oedd wedi eu diweddaru yn y polisi sef materion a gytunwyd arnynt yn ystod y flwyddyn fel rhan o’r cytundeb torfol gyda’r undebau llafur. O ganlyniad nodwyd bod yr amodau gwaith wedi eu moderneiddio a’u cysoni.

 

Diolchwyd i’r Pennaeth Cefnogaeth Gorfforaethol am y cyflwyniad.

 

Mewn ymateb i sylw ynglŷn â phrinder Gofalwyr a’r awgrym o gynyddu’r cyflog i £10.00ya fel bod mwy o statws i’r swydd, adroddwyd y byddai rhaid cysoni graddfeydd cyflogau ar draws y Cyngor i weithredu hyn er mwyn sicrhau tegwch a chyflog cyfartal. Atgoffwyd  yr Aelodau bod y Cyngor wedi cwblhau Adolygiad Tâl Lleol yn 2008 wnaeth osod seiliau cadarn ar gyfer sicrhau tal cyfartal am waith o werth cyfartal ar gyfer yr holl weithlu ac os am gynyddu cyflog ar gyfer gofalwyr, byddai’n ofynnol rhoi ystyriaeth i bawb arall fyddai â chyfrifoldebau cyfatebol. Amlygwyd y buddsoddiad sylweddol a wnaed mewn cyflogau gan y Cyngor trwy adrodd bod cyfanswm cost y codiadau cyflog yn 2018/19 yn £4.1m gyda swm cyfatebol eto wedi’i glustnodi ar gyfer codiadau Ebrill 2019. Ategwyd bod cynnydd cyffredinol o 2% ar gyflogau 2019/2020 gyda staff o dan bwynt 19 yn derbyn codiadau o hyd at 5.5%.

 

Nodwyd bod darn o waith o gasglu tystiolaeth yn cael ei wneud gan y Gwasanaeth Oedolion i geisio deall natur y broblem o recriwtio Gofalwyr ar draws y Sir. Er yr ymddengys bod cwmnïau preifat yn talu cyflog uwch, maent yn cyfrannu llai at bensiwn y gweithiwr. I’r gwrthwyneb, gwelir bod y Cyngor yn talu llai o gyflog, ond yn cynnig pecyn pensiwn gwerthfawr. Awgrymwyd yr angen i’r Cyngor amlygu buddiannau’r cynllun pensiwn.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chanrannau codi cyflog a’r gymhareb rhwng yr uchaf ac yr isaf ar y strwythur, amlygwyd bod Adolygiad Hutton o Gyflog Teg yn y Sector Gyhoeddus yn argymell cymhareb o ddim mwy na 1:20 rhwng y cyflog uchaf a’r isaf. O fis Ebrill 2019, adroddwyd y byddai cymhariaeth Cyngor Gwynedd wedi gostwng yn ystod y flwyddyn ddiwethaf i 1:6.2.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr adroddiad

 

 

DERBYNIWYD YR ADRODDIAD YN UNFRYDOL YN UNOL Â’R ARGYMHELLIAD.

 

·         Bod y Pwyllgor Penodi  yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tâl (drafft) i’r Cyngor, ar Fawrth y 7fed 2019, fel un i’w fabwysiadu ar gyfer 2019 / 20.

 

 

Dogfennau ategol: