Newid defnydd anecs i lety gwyliau
AELOD LLEOL: Cynghorydd
Eirwyn Williams
Cofnod:
Newid defnydd anecs yn llety gwyliau
Roedd yr Aelodau wedi ymweld
â’r safle
(a) Ymhelaethodd y Swyddog Rheolaeth Datblygu ar gefndir y cais, gan nodi y
gohiriwyd y cais yng nghyfarfod y Pwyllgor a gynhaliwyd Rhagfyr 2018 er mwyn
cynnal ymweliad safle. Amlygwyd bod y safle wedi ei leoli o fewn stad o dai
preswyl yng Nghriccieth. Nodwyd bod y safle yn
cynnwys eiddo preswyl deulawr gydag adeilad allanol unllawr
gyda tho pits o fewn y cwrtil sydd ar hyn o bryd yn
cael ei ddefnyddio fel ystafell chwaraeon.
Ategwyd bod cynllun llawr diwygiedig, datganiad Dylunio a Mynediad a
Chynllun Busnes wedi ei cyflwyno (27.11.18) fel rhan o’r cais oedd yn lleihau’r
nifer o ystafelloedd gwelyau o ddwy i un
ac yn dileu ffenestr fyddai yn goredrych cwrtil yn
eiddo preswyl.
Eglurwyd bod cyngor cyn cyflwyno cais wedi ei ddarparu lle amlygwyd yn yr
ymateb bod y bwriad yn groes i bolisïau TWR 2 a PCYFF 2 oherwydd bod yr uned bwriedig wedi ei leoli o fewn ardal breswyl yn bennaf.
Ystyriwyd y byddai’r bwriad yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau trigolion
cyfagos. Amlygwyd bod polisi TWR 2 yn
caniatáu trosi adeiladau allanol llety gwyliau ar sail fod y datblygiad yn un o
ansawdd uchel o ran dyluniad, gosodiad ac edrychiad ac yn cwrdd â phum maen
prawf. Gyda’r safle wedi ei leoli o fewn cwrtil annedd breswyl o fewn ystâd
breswyl ystyriwyd nad oedd y bwriad yn cydymffurfio gyda phwynt iv o Bolisi TWR 2 - Nad
yw’r datblygiad yn cael ei leoli mewn
ardal sy’n ardal breswyl yn bennaf, neu’n peri niwed arwyddocaol i gymeriad
preswyl ardal;. Ategwyd oherwydd agosatrwydd y bwriad i’r eiddo presennol
ni ellid ystyried y byddai’n un o ansawdd uchel o ran lleoliad ac y byddai
defnyddio’r adeilad fel uned ar wahân yn golygu bod graddfa’r datblygiad yn
annerbyniol gyda’r ddau eiddo yn cael effaith annerbyniol ar fwynderau ei
gilydd. Nid oedd y bwriad felly yn cydymffurfio gyda phwynt ii
Polisi TWR2 - Bod graddfa’r datblygiad arfaethedig yn briodol gan ystyried y safle, y
lleoliad, a/neu anheddiad dan sylw.
Ystyriwyd bod y bwriad hefyd yn groes i PCYFF 2 o ran sicrhau a diogelu
mwynderau meddianwyr presennol ac i’r dyfodol rhag gweithgareddau allai achosi
aflonyddwch i’r stad o ran sŵn a symudiadau fyddai’n gysylltiedig gyda
natur gwyliau.
(b) Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod y cais
(c) Mewn
ymateb i gwestiwn ynglŷn â fyddai modd cynnal trafodaethau pellach gyda’r
ymgeisydd i ystyried posibiliadau ac addasu’r cynllun, nodwyd mai anodd fyddai
dod dros feini prawf TWR2 gyda’r bwriad dan sylw. Ategwyd bod cyngor cyn
cyflwyno wedi ei ddarparu i’r ymgeisydd lle amlygwyd bod y bwriad yn groes i
bolisïau.
(ch) Mewn
ymateb i sylw gan Aelod y byddai anecs ar gyfer
rhieni yn dderbyniol ond uned gwyliau yn annerbyniol, nodwyd mai'r brif
egwyddor dan sylw yma oedd y math o ddefnydd oedd yn cael ei ystyried a’r angen
i warchod lleoliadau preswyl. Ategwyd nad oedd y Gwasanaeth Cynllunio a’r gallu
i reoli tai marchnad agored, ond gyda bwriad o’r math yma bod modd rheoli trwy
ddeddfwriaeth. Gallai caniatáu’r bwriad osod cynsail i ddatblygiadau tebyg o
greu uned llety hunangynhaliol mewn ardal breswyl.
(d) Mewn
ymateb i awgrym o osod cytundeb 106 ar yr uned gwyliau fel na ellir gwerthu’r
ddau uned ar wahân i’w gilydd, nododd yr Uwch Gyfreithiwr bod gosod cytundeb
106 yn debyg o gael her i’w ddiddymu ymhen 5 mlynedd.
(dd) Mewn ymateb i sylw ynglyn
ar angen am eglurder i niferoedd llety twristiaeth yng Nghriccieth
(70 uned a 5 uned hunan darpar) o gymharu â chyfanswm o 41 (mewn datganiad nifer
trethi annomestig) nodwyd bod y Gwasanaeth Cynllunio wedi ymgynghori gyda’r
Uned Twristiaeth ac nad oedd ganddynt unrhyw reswm i anghytuno gyda’u sylwadau.
(e) Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Nad yw cystadlu yn rheswm dros
wrthod
·
Bod
yr adeilad o faint garej dwbl ac felly os caniatáu gall osod cynsail peryglus i
eraill
PENDERFYNWYD gwrthod y cais yn unol â’r argymhelliad
Mae’r bwriad o drosi’r adeilad cwrtil presennol i lety gwyliau
hunangynhaliol yn annerbyniol oherwydd lleoliad y safle o fewn stad o dai
preswyl, ac nad yw’r Awdurdod Cynllunio Lleol wedi ei argyhoeddi nad oes
gormodedd o’r math yma o lety yn yr ardal sy’n groes i feini prawf iv a v o bolisi TWR 2 o’r Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd
Gwynedd a Môn 2011-2026. O ganlyniad i leoliad yr adeilad, ai agosatrwydd at yr
eiddo preswyl presennol ar y safle, ni ellir cysidro fod y bwriad yn un o
ansawdd uchel o ran lleoliad ac ystyrir y byddai defnyddio’r adeilad cwrtil yma
fel uned ar wahân yn golygu bod graddfa’r bwriad yn annerbyniol ac y byddai’r
ddau eiddo yn cael effaith annerbyniol ar eu mwynderau ei gilydd, sy’n groes i
ofynion polisi TWR 2 a’i faen prawf rhif ii o’r
Cynllun Datblygu Lleol ar y Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026.
Mae’r bwriad yn groes i ofynion polisi PCYFF 2 Cynllun Datblygu Lleol ar y
Cyd Gwynedd a Môn 2011-2026 o ran sicrhau mwynderau meddianwyr presennol ac i’r
dyfodol o ran diogelu mwynderau meddianwyr eiddo lleol rhag gweithgareddau
allai achosi aflonyddwch i’r stad o ran sŵn a symudiadau.
Dogfennau ategol: