Agenda item

Aelod Cabinet: Cynghorydd Dafydd Meurig

 

I ystyried adroddiad Pennaeth yr Amgylchedd

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan Uwch Reolwr Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd yn rhoi cyfle i’r Pwyllgor graffu’r Canllaw Cynllunio Atodol: Cyfleusterau ac Atyniadau i Dwristiaid (drafft terfynol), yn dilyn yr ymgynghoriadau cyhoeddus, gan gynnig adborth cyn iddo gael ei ystyried gan y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.

 

Yn ystod y drafodaeth ddilynol, amlygwyd y pwyntiau canlynol gan Aelodau unigol:

·         Nad oedd y canllaw yn amlygu yn glir yr effaith gronnol

·         Nad oedd gwrthwynebiad i’r safleoedd, ond angen ceisio gwarchod yr Ardal o Harddwch Naturiol Eithriadol (AHNE)

·         Bod angen rheoli’r defnydd o leiniau caled – a oes adnoddau i reoli hyn?

·         TWR 2 - pryderon bod modd dymchwel adeiladau ac adeiladu uned gwyliau ac nid / tai i bobl leol

·         Airbnb - problem eithafol yn ein cymunedau wrth i bobl droi eu tai yn lletyau gwyliau

·         Oes modd cyfyngu ar y nifer drwy roi cwota yn ei le?

 

Nododd yr Aelod Cabinet y byddai’r sylwadau yn cael eu bwydo i mewn i drafodaeth y Pwyllgor Polisi Cynllunio ar y Cyd.

 

Amlygodd Uwch Reolwr Cynllunio a Gwarchod y Cyhoedd mai canllaw drafft oedd wedi ei gyflwyno yn ceisio rhoi arweiniad clir a chyson o ran gweithrediad polisïau. Mewn ymateb i’r sylwadau, nododd o ran yr effaith gronnol, bod y mater wedi ei drafod yn y canllaw, ond roedd yn derbyn ac yn nodi'r angen i’w amlygu yn gliriach ynghyd a’r sylw am TWR2. Yng nghyd-destun gorfodaeth, amlygodd bod gorfodaeth yn faes heriol ar draws y gwasanaeth a gwnaed cais i’r Cynghorwyr adrodd ar unrhyw achlysur o dor cyfraith. Ategodd bod amodau clir ar ddefnydd safleoedd a defnydd llety y dylid cydymffurfio a hwy.

 

Mynegodd y Cadeirydd bod y sylwadau eisoes wedi ei cyfleu mewn cyfarfodydd blaenorol ac er ‘yn nodi’, nid ydynt wedi eu cynnwys yn y canllaw. Awgrymodd bod gwrthdaro rhwng swyddogion a chynghorwyr ac nad oedd y sylwadau yn cael eu derbyn / cynnwys.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r diffyg ymateb i’r ymgynghoriad, nodwyd bod ymgynghori sylweddol wedi ei wneud a derbyniwyd bod yr ymateb wedi bod yn siomedig, Cadarnhawyd bod yr uned wedi mynd tu hwnt i’w gallu i godi ymwybyddiaeth a cheisio ymatebion a bod Gwasanaeth Cymru Wledig a’r AHNE wedi cael ei cynnwys ar y rhestr ymgynghori.

 

Mewn ymateb i’r sylw am roi cwota yn ei le, nododd yr Uwch Reolwr Cynllunio, er yn derbyn y sylw, bod angen rhoi ystyriaeth i fanteision twristiaeth. Nododd hefyd bod y swyddogion yn derbyn sylwadau Cynghorwyr, yn ymateb yn adeiladol iddynt a sicrhawyd y byddai’r sylwadau yn mynd gerbron y Pwyllgor Polisi. Ategodd Pennaeth yr Amgylchedd nad oedd eisiau i’r canfyddiad o ‘beidio gwrando’ gael ei ddiystyru a bod y sylw o wrthdrawiad yn codi pryder. Nododd bod angen ceisio datrysiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad gyda chais i’r canllaw terfynol gael ei gylchredeg yn y cylch nesaf.

 

Dogfennau ategol: