Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Gareth Griffith

Penderfyniad:

Penderfynwyd i:

  1. Gytuno i’r Adran Amgylchedd, ar ran y Cyngor, i gaffael a chomisiynu gwaith ymchwil ar dai haf ar gyfer Gwynedd ond gyda chyd-destun cenedlaethol a chefnogaeth Sefydliad Cynllunio Tai Brenhinol Cymru, a chyrff perthnasol eraill, i gynnwys ystyriaeth o’r materion yn rhan 3 o’r adroddiad.
  2. Cytuno i ddarparu hyd ar £80,000 o Gronfa Trawsffurfio’r Cyngor, mwyn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid ar gyfer y gwaith.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Cyng. Gareth Griffith

 

PENDERFYNIAD

 

Penderfynwyd i:

  1. Gytuno i’r Adran Amgylchedd, ar ran y Cyngor, i gaffael a chomisiynu gwaith ymchwil ar dai haf ar gyfer Gwynedd ond gyda chyd-destun cenedlaethol a chefnogaeth Sefydliad Cynllunio Tai Brenhinol Cymru, a chyrff perthnasol eraill, i gynnwys ystyriaeth o’r materion yn rhan 3 o’r adroddiad.
  2. Cytuno i ddarparu hyd ar £80,000 o Gronfa Trawsffurfio’r Cyngor, i’w ryddhau mewn ymgynghoriad gyda’r Pennaeth Cyllid ar gyfer y gwaith.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod yr adran yn gwneud cais am £80,000 o’r gronfa drawsffurfio er mwyn comisiynu gwaith ymchwil ar dai haf yng Ngwynedd. Mynegwyd fod nifer o bryderon wedi codi am nifer o dai haf yn ardal Gwynedd, a nodwyd y prif bryderon fel

¾     Y cyflenwad lleol o dai sydd ar gael i gwrdd â’r angen

¾     Yr effaith ar y gymuned leol, yr iaith Gymraeg a’r gwasanaethau sydd yn y gymuned

¾     Yr effaith posib ar brisiau tai

¾     Yr effaith ar fwynderau trigolion lleol

¾     Safonau diogelwch ar gyfer yr eiddo.

 

Mynegwyd fod yr adroddiad yn amlygu nad oes llawer o reolaeth gan y Cyngor ar y mater. Ychwanegwyd fod  cymaint o amrywiol eiddo a niferoedd uchel tu hwnt o eiddo hunan ddarpariaeth. 

 

Ychwanegodd Pennaeth Cynorthwyol yr Adran Amgylchedd, fod enghreifftiau o reoliadau dros Dai Haf i’w gweld dros y byd, ond gobeithir drwy’r ymchwiliad newydd y bydd modd edrych mewn mwy o fanylder. Pwysleisiwyd y byddai angen tystiolaeth berthnasol er mwyn newid deddfwriaeth, a gall y gwaith ymchwil gyfrannu at hyn yn ogystal, ond bydd angen darlun Cymru gyfan. Manylwyd y bydd y gwaith ymchwil yn sylweddol a fydd yn cynnig opsiynau ar gyfer rheolaeth well. Ond i sicrhau hyn, ychwanegwyd, bydd angen tystiolaeth gadarn.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Nodwyd fod nifer tai haf yn bryder sydd wedi ei gweld dros y blynyddoedd. Mynegwyd fod ystadegau wedi cynyddu dros y blynyddoedd gan ychwanegu fod nifer o bobl leol yn manteisio ar gyfle. Ategwyd fod yr ymchwiliad sydd yn cael ei gomisiynu yn ymgais i geisio sefydlu ffeithiau.

¾     Dangoswyd cefnogaeth i’r ymchwil gan fynegi fod angen tystiolaeth a dealltwriaeth o’r deddfwriaethau sydd yn cael ei defnyddio ar draws y byd. Cydnabuwyd fod y maes yn un cymhleth ble na fydd ateb yn glir.

¾     Ategwyd fod twf wedi bod yn ddiweddar mewn eiddo ‘AirBnB’ felly mynegwyd y byddai’n dda cael data cadarn am yr eiddo. Ychwanegwyd fod y cwmni yn un byd eang ac yr angen i fod yn ymwybodol o beth mae triolion ei angen yn y cymunedau.

¾     Holwyd am amserlen a mynegwyd y bydd modd creu briff o fewn 2 fis nesaf ac o ganlyniad i hyn bydd amserlen fwy clir yn dilyn hyn.

 

Awdur:Gareth Jones

Dogfennau ategol: