Agenda item

Estyniad cefn deulawr a lolfa haul ochr

 

AELOD LLEOL: Cynghorydd R Glyn Daniels

 

Dolen i'r dogfennau cefndir perthnasol

Cofnod:

Estyniad cefn deulawr a lolfa haul ochr

 

Amlygwyd bod y cais yn cael ei gyflwyno i’r Pwyllgor ar ddymuniad yr Aelod Lleol.

 

a)            Ymhelaethodd y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais, gan nodi  mai cais llawn ydoedd ar gyfer codi estyniad deulawr tô fflat cefn ynghyd â lolfa haul unllawr ar bwys wal dalcen y tŷ.  Amlygwyd y byddai’r estyniad cefn yn mesur 7.8 medr o hyd a 4.8 medr o led ac yn ymestyn o wal gefn y tŷ hyd at wal derfyn gefn ble mae storfa unllawr ar hyn o bryd. Er nad yw’r bwriad yn debygol o greu nodwedd amlwg yn y tirlun ehangach, amlygwyd pryder ynglŷn â graddfa a dyluniad/ffurf yr estyniad cefn mewn perthynas â chymeriad y tŷ presennol.  Nodwyd bod Polisi PCYFF3 yn cefnogi cynigion os ydynt yn ychwanegu at ac yn gwella cymeriad ac ymddangosiad y safle, yr adeilad  neu’r ardal a’u bod yn parchu cyd-destun y safle a’i le yn y dirwedd leol.  Ategwyd bod yr eiddo wedi ei leoli  y tu allan i ffin datblygu ac oddi fewn i Dirwedd o Ddiddordeb Hanesyddol Eithriadol.

 

Er nad oedd gwrthwynebiad i ymestyn y tŷ, ystyriwyd nad oedd dyluniad a graddfa'r estyniad cefn bwriededig, fyddai’n ymestyn 15 medr i’r cefn o’i gymharu ag ochr y tŷ presennol sy’n mesur 7.2 medr, yn gweddu gydag edrychiad a chymeriad yr eiddo nac yn dilyn egwyddorion dylunio da. O ganlyniad, nid yw’n cyfarfod amcanion polisi PCYFF 3 Cynllun Datblygu Lleol na gofynion y Canllaw Dylunio. Adroddwyd hefyd nad oedd y cais yn ymateb gofynion PCYFF 2CDLl oherwydd, er bod maint cwrtil yr eiddo yn caniatáu lleoli estyniad deulawr, bod yr Uned Cynllunio wedi awgrymu i’r ymgeisydd bod safle mwy derbyniol ar gael.

 

b)            Yn manteisio ar yr hawl i siarad nododd yr Aelod Lleol, a oedd yn gwrthwynebu’r cais, y pwyntiau canlynol:-

 

·         Bod yr estyniad yn amharu ar nodweddion yr ardal

·         Nad oedd yn gweddu i’r safle

·         Bod cais am estyniad ar yr un safle wedi ei wrthod yn Medi 2018

·         Pryder yn lleol mai uned gwyliau fydd defnydd yr estyniad i’r dyfodol

 

c)            Cynigwyd ac eiliwyd i wrthod cais yn unol a’r argymhelliad

 

ch)       Yn ystod y drafodaeth ddilynol nodwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:

 

·         Bod cais wedi ei wrthod yn 2018

·         Bod yr estyniad yn rhy fawr

 

PENDERFYNWYD gwrthod y cais.

 

1.    Byddai’r estyniad cefn deulawr, oherwydd ei hyd a’i raddfa yn creu nodwedd ormesol a ddominyddol fyddai’n cael effaith niweidiol andwyol ar fwynderau trigolion eiddo cyfagos. Mae'r cais felly'n  groes i bolisi  PCYFF 2 o fewn y Cynllun Datblygu Lleol.

 

2.    Mae’r bwriad yn golygu codi estyniad deulawr cefn sydd o raddfa a dyluniad nad yw’n cydweddu â chymeriad yr eiddo ac felly nad yw yn ychwanegu at nac yn gwella ymddangosiad y safle.  Mae’r bwriad felly yn groes i ofynion polisi PCYFF 3 o fewn y Cynllun Datblygu Lleol.

Dogfennau ategol: