Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Dyfrig Siencyn

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

Penderfyniad:

Bod y pwyllgor craffu o’r farn bod y Cynllun Busnes; Cytundeb Llywodraethu 2; y model ariannu a’r trefniadau gweithredu yn glir a chadarn fel sail i gyflawni amcanion y Cytundeb Twf er budd busnesau a thrigolion Gwynedd.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad Arweinydd y Cyngor / Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais yn nodi y paratowyd pecyn o’r dogfennau oedd eu hangen ar gyfer cyrraedd Cytundeb Terfynol ar Gynllun Twf Gogledd Cymru gyda Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.  Nodwyd y bwriedid cyflwyno adroddiad i’r Cabinet ar 24 Tachwedd, 2020, ac yn ddibynnol ar benderfyniad y Cabinet, byddai adroddiad yn cael ei gyflwyno i’r Cyngor llawn ar 3 Rhagfyr, 2020, yn argymell bod y Cyngor:-

 

·                Yn cymeradwyo'r Cynllun Busnes Cyffredinol fel y ddogfen sy'n nodi'r trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

·                Yn cymeradwyo ymrwymo i Gytundeb Llywodraethu 2 ac yn benodol yn mabwysiadu'r trefniadau ar gyfer Craffu “Cytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 3” ohono fel sail ar gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru. 

·                Awdurdodi'r Corff Atebol, Cyngor Gwynedd, i lofnodi'r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid.

·                Argymell cymeradwyo'r dull a ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca mewn egwyddor sydd ei angen i hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, a'r cyfraniadau partner blynyddol cyfatebol sydd eu hangen i gwrdd â'r gost hon fel sydd wedi'i nodi yn GA2 (ac ym mharagraffau 5.5 - 5.7 o’r adroddiad).

·                Bod yr Arweinydd, mewn ymgynghoriad â'r Prif Weithredwr, y Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151, yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau gyda'r Partneriaid fel sydd angen i gwblhau'r cytundeb.

 

Cyn argymell i’r Cyngor wneud y penderfyniadau hyn, roedd yn ofynnol i’r pwyllgor craffu ystyried os oedd y Cynllun Busnes, Cytundeb Llywodraethu 2, y model ariannu a’r trefniadau gweithredu yn glir a chadarn fel sail i gyflawni amcanion y Cytundeb Twf er budd busnesau a thrigolion Gwynedd.

 

Croesawodd y Cadeirydd yr Arweinydd, yn rhinwedd ei swyddogaeth fel Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais, y Cyfarwyddwr Portffolio a’r swyddogion eraill i’r cyfarfod, gan bwysleisio bod yr adroddiad yn benllanw gwaith nifer o flynyddoedd o ddatblygu’r cynllun. 

 

Yna gwahoddwyd Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais i osod y cyd-destun a rhoi diweddariad bras o’r sefyllfa.  Gofynnwyd iddo hefyd wneud sylw ynglŷn â Wylfa B a Brexit yn ystod ei gyflwyniad.

 

Yn ystod ei gyflwyniad, nododd Cadeirydd y Bwrdd Uchelgais:-

 

·         Y daeth y gwaith i benllanw gyda chwblhau’r holl waith manwl a dyrys o roi’r pecyn at ei gilydd, yn y ffurf oedd yn ofynnol ar gyfer ei gyflwyno i’r ddwy Lywodraeth, a’i gyflwyno a’i fabwysiadu gan y Bwrdd ar 23 Hydref, 2020.

·         Bod hyn yn ganlyniad gwaith sylweddol gan y Swyddfa Portffolio, a sefydlwyd ddechrau’r flwyddyn dan arweiniad y Cyfarwyddwr Portffolio, ac oedd yn cynnwys tîm o swyddogion hynod o alluog a brwdfrydig, oedd yn gosod sylfaen gadarn iawn i faterion datblygu’r economi yn y Gogledd.

·         Bod y tîm yn cydweithio’n agos gyda thîm swyddogion datblygu’r economi Llywodraeth Cymru, a chredid bod eraill yn edrych arnom yn y Gogledd fel esiampl o ymarfer da.

·         Fel swyddogion statudol yr awdurdod lletya, y bu’r Pennaeth Cyllid a’r Swyddog Monitro yn allweddol yn arwain timau o swyddogion ar draws y Gogledd wrth gyflawni’r gwaith cyllidol a chyfreithiol, a diolchwyd i’r ddau am eu cyfraniad arbennig i waith y Bwrdd.

·         Bod rhesymau ariannol ac eraill dros arwyddo’r cytundeb terfynol ar ddiwedd y flwyddyn hon, a mawr hyderid y byddai’r ddwy Lywodraeth a’r cynghorau yn barod i lofnodi’r cyfan cyn diwedd y flwyddyn, fel y gellid derbyn y taliad grant cyntaf ym mis Mawrth 2021, a symud ymlaen i wireddu’r prosiectau.

·         Y datblygwyd nifer o brosiectau cyffrous iawn dros nifer o flynyddoedd mewn amrywiaeth o feysydd, gan hefyd sicrhau bod unrhyw gynnydd neu les economaidd yn cael ei ddosbarthu ar draws y Gogledd yn ei gyfanrwydd, ac nid yn unig yn y mannau hynny lle roedd yna fwrlwm economaidd eisoes.

·         Bod amgylchiadau wedi newid yn sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf, ac yn arbennig eleni oherwydd y pandemig, a byddai’n rhaid bod yn hyblyg wrth symud ymlaen.

·         Bod Brexit yna hefyd fel cwmwl du dros y cyfan, ac er nad oedd gennym fawr o reolaeth dros hynny, cefnogid yr holl waith roedd Jeremy Miles, AS, y Cwnsler Cyffredinol a’r Gweinidog Pontio Ewropeaidd, yn ei wneud i geisio sicrhau ein bod yng Nghymru’n cael yr hyn a addawyd i ni o ganlyniad i Brexit.

·         Er bod adroddiadau ynglŷn ag effaith bosib’ Brexit ar y Gogledd yn dangos y byddai ardaloedd fel Fflint a Wrecsam yn dioddef yn sylweddol iawn o unrhyw broblemau allforio oherwydd eu sylfaen gweithgynhyrchu, byddai’r bygythiad mwyaf i’r Gogledd Orllewin o safbwynt amaethyddiaeth a chefn gwlad.

·         Gan na fu Wylfa erioed yn rhan o’r Cynllun Twf, nid oedd y penderfyniad i beidio symud ymlaen gyda Wylfa B yn effeithio’n uniongyrchol ar y gwaith, ond roedd sgil-effaith hynny, o safbwynt colli’r buddsoddiad anferthol fyddai wedi bod yn y Gogledd Orllewin fel arall, yn rhywbeth y byddai’n rhaid ei ystyried wrth ddatblygu’r cynlluniau.

·         Os oedd gwendid yn y Cynllun Twf, ei bod yn debyg mai’r gwendid oedd ein bod wedi ein cloi i mewn i’r prosiectau hynny a ddatblygwyd dros y 3-4 mlynedd, a mwy, ddiwethaf.  Gan hynny, roedd rhaid bod yn hyblyg ac yn barod i addasu rhai prosiectau wrth iddynt ddod i weithrediad, gan hefyd fod yn fyw i unrhyw gyfleoedd fyddai’n codi o ffynonellau eraill.

 

Gwahoddwyd y Cyfarwyddwr Portffolio i roi cyflwyniad sleidiau.  Yn ystod y cyflwyniad, manylwyd ar y pwyntiau isod:-

 

·         Pwy ydi’r bartneriaeth - pwysleisiwyd cryfder y bartneriaeth a sut bod hynny wedi bod o gymorth wrth ddod â’r dogfennau at ei gilydd.

·         Y Weledigaeth Twf – nodwyd y byddai’n rhaid ail edrych ar y weledigaeth dros y misoedd nesaf, ac yn rheolaidd dros gyfnod y cynllun, i wneud yn siŵr ei bod yn parhau’n gyfoes ac yn ddigon uchelgeisiol ar gyfer y Gogledd.

·         Strwythur Llywodraethu

·         Llinell Amser

·         Cytundeb Terfynol - eglurwyd bod hyn yn grynodeb o’r achosion busnes portffolio, achosion busnes y rhaglenni ynghyd â chynllun ariannol, cynllun gweithredu, cynllun cyfathrebu, cynllun monitro a gwerthuso a chynllun ansawdd a chymeradwyaeth.  Roedd y cynllun terfynol yn cael ei ddiogelu ar sail achos busnes portffolio a 5 achos busnes rhaglen, ac roedd y dogfennau hynny eisoes yn cael eu craffu gan y Llywodraethau dros gyfnod o 5 wythnos yn cychwyn ar 26 Hydref.  Derbyniwyd yr adborth cyntaf yn ôl o Drysorlys Cymru'r bore hwnnw, a bwriadai’r Swyddfa Portffolio ymateb yn wythnosol i’r adborth, fel y gellid ymateb i bopeth yn safonol er mwyn sicrhau cytundeb terfynol erbyn diwedd y flwyddyn.

·         Anghenion y Cynllun Terfynol – Achosion Busnes

·         Cynllun Busnes Cyffredinol

·         Portffolio y Cynllun Twf - manylwyd ar nod, maint y buddsoddiad ar gyfer y cynllun yn ei gyfanrwydd, amcanion gwariant a buddion.

·         Y 5 rhaglen – manylwyd ar amcan strategol, prosiectau, buddsoddiadau ac amcanion gwariant pob rhaglen.

Gwahoddwyd y Pennaeth Cyllid i gyflwyno’r sleid Incwm a Gwariant.  Nodwyd:-

 

·         Bod cyllid grant o £240m y Cynllun Twf yn debygol o gael ei ddarparu ar broffil ‘fflat’ dros 15 mlynedd gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru, tra bod y proffil gwariant dros y 6 blynedd gyntaf, gan Lywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru.  Golygai hynny fod angen i’r bartneriaeth fenthyca yn y blynyddoedd cynnar i hwyluso llif arian ar gyfer gwariant prosiect, a byddai angen i’r partneriaid dalu cost y benthyca hwn.

·         Bod gwariant prosiect y Cynllun Twf wedi’i ostwng i £240m, oedd yn cyfateb i’r cyllid grant derbyniadwy.

·         Bod 2 broffil incwm grant wedi’u modelu, sef:-

·               Fersiwn 1 – yn fwy ffafriol, gyda rhandaliadau grant ym mis Mawrth 2021, ac yna bob blwyddyn o fis Medi 2021 ymlaen = £82,670 y flwyddyn i Gyngor Gwynedd.

·               Fersiwn 2 – derbyn incwm grant yn flynyddol yn dechrau o fis Medi 2021 = £118,000

·      Bod y costau benthyca wedi’u lledaenu dros 15 mlynedd ar sail cyfradd fenthyca dybiannol a darbodus o 2.2%.

·      Bod yr holl ffigurau ariannol yn ddangosol a darbodus ac y byddent yn cael eu haddasu i adlewyrchu’r gwir sefyllfa ymhen hir a hwyr.

·      Y disgwylid cael cadw cyfwerth â hanner y cynnyrch treth busnes ar eiddo newydd o brosiectau’r Cynllun Twf, a defnyddid hynny i leihau cost hwyluso llif arian.

·      Bod cyfraniadau blynyddol y partneriaid i hwyluso y llif arian yn ychwanegol i’r cyfraniadau craidd hanesyddol o £50,000 a chyfraniadau atodol o £40,000 oedd angen parhau i ariannu costau rhedeg y Swyddfa Portffolio.

·      Y rhannwyd y gost fenthyca rhwng yr awdurdodau lleol yn gymesur â’r boblogaeth.

·      Y byddai cyrff fyddai’n ennill ased yn cario eu cost benthyca eu hunain.

·      Bod GA2 yn amddiffyn yr awdurdod lletya a phartneriaid eraill, i’r graddau y gallai partneriaid adael y bartneriaeth, ond y byddai’n rhaid iddynt gyfrannu o hyd dros y 15 mlynedd lawn.

 

Gwahoddwyd y Swyddog Monitro i gyflwyno’r sleid Cytundeb Llywodraethu 2.  Nodwyd:-

 

·      Mai GA1 oedd yn paratoi’r bid, a bod GA2 yn gytundeb i symud ymlaen i gyflawni’r Cynllun Twf yn bennaf.  Gan hynny, roedd natur y berthynas yn newid, er bod llawer o’r llywodraethu gwreiddiol yn parhau mewn lle.

·      Gan nad oedd y Cyd-bwyllgor yn gorfforaeth, bod angen awdurdod lletya i fod yn endid cyfreithiol i gytundebu ar ran y bartneriaeth a chyflogi staff, ayb.  Nid oedd yn rôl anghyffredin mewn unrhyw bartneriaeth, ac roedd Cyngor Gwynedd yn ysgwyddo’r rôl honno yn yr achos hwn.

·      Wrth symud ymlaen i weithredu, bod natur elfennau ariannol y rôl o gyflawni’r Prosiect Twf yn golygu bod yna ysgwydd a breichiau gwahanol ar ran y Cyd-bwyllgor.  Hefyd, fel corff atebol o fewn y cytundeb gyda’r Llywodraeth, roeddem yn gweithredu ar lefel canolwr ariannol ynglŷn â gweinyddu’r grant ayb.

·      Ei bod yn bwysig nodi bod yna warchodaeth sylweddol yn y cytundeb i’r partneriaid, ac i Gyngor Gwynedd, fel yr awdurdod lletya.  Roedd yr elfen gyntaf yn ymwneud â gofyn i’r partneriaid ein hindemnio yn erbyn unrhyw gostau fyddai’n disgyn ar Wynedd.  Petai yna angen ariannu, byddai’r partneriaid yn cyfrannu yn unol â’r cytundeb, a phetai yna ofynion ychwanegol, byddai hwnnw hefyd yn cael ei rannu ar sail oedd yn y cytundeb ar draws y bartneriaeth.  Yn ail, roedd darpariaeth i’r partneriaid fedru gadael y bartneriaeth ar ôl cyfnod cychwynnol o 6 blynedd, ond byddai unrhyw ymrwymiadau ariannol yn parhau ar ysgwyddau’r partner fyddai’n gadael i sicrhau na fyddai’r partneriaid eraill yn dioddef colled ariannol yn deillio o’r ymadawiad.

·      Bod y Bwrdd Cyflawni Busnes, a sefydlwyd gan y Bwrdd Uchelgais ar gyfer cydweithio gyda’r sector breifat, yn cael ei ffurfioli o fewn GA2.  Roedd hwn yn elfen roedd y llywodraethau wedi symud ymlaen arno, ac wedi pwyso arno.

·      Bod y Cynllun Dirprwyo yn adlewyrchu’r symud o sefyllfa o baratoi i sefyllfa o gyflawni, a bod hynny’n galw am wneud a chloriannu penderfyniadau gwahanol.

·      O ran craffu, gellid sefydlu cydbwyllgor, neu barhau â sefyllfa lle roedd gan y pwyllgorau craffu cartref rôl yng ngwaith y Cyd-bwyllgor.  Gan fod dymuniad wedi’i fynegi i gadw rôl craffu ar gyfer y pwyllgorau cartref, sefydlwyd protocol ar gyfer gweinyddu’r system honno.  Roedd dwy elfen i hyn, sef rhaglen o adroddiadau cyson i’r pwyllgorau craffu ynglŷn â’r Cynllun Twf a’r Weledigaeth Twf, a threfn i sicrhau bod galw i mewn yn gweithio’n llyfn, o gofio bod gan 6 pwyllgor craffu gwahanol yr hawl i wneud hynny.

·      Gan fod nifer o grwpiau ac is-grwpiau yn cael eu sefydlu gyda buddiolwyr o’r sector breifat, y trydydd sector a’r sector addysg, ayb, sefydlwyd Polisi Gwrthdrawiad Buddiannau er mwyn sicrhau bod y budd cyhoeddus yn flaenllaw yn yr holl waith, a bod pawb oedd yn cymryd rhan yn glir ynghylch unrhyw wrthdrawiad posib’.  Roedd y polisi hwn yn cael ei hyrwyddo gan y Llywodraethau hefyd i sicrhau priodoldeb.

 

Cyflwynodd y Cyfarwyddwr Portffolio y ddwy sleid olaf, sef:-

 

·         Cytundeb Terfynol Drafft

·         Dyddiadau Allweddol Craffu, Cabinet a Chyngor pob Awdurdod a’r Bwrdd Uchelgais a’r Grŵp Swyddogion Gweithredol.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn gan aelodau unigol:-

 

·         Nodwyd mai rôl y pwyllgor craffu oedd sicrhau bod Gwynedd yn benodol yn cael buddion o’r cynlluniau hyn, yn enwedig o gofio’r pryder a fynegwyd yn y gorffennol na fyddai ardaloedd megis Dwyfor a Meirion yn gallu manteisio i’r un graddau ag ardaloedd eraill yn y Gogledd.

·         Gofynnwyd i’r swyddogion ddefnyddio’r term ‘Y Deyrnas Gyfunol’ yn hytrach na ‘Y Deyrnas Unedig’ yn y dogfennau, a chyfeiriwyd at gamsillafiad o’r gair ‘gyrwyr’ yn y papurau.

·         Nodwyd y cymeradwyid yr egwyddorion a’r weledigaeth, ond mai’r broblem fawr fyddai cyrraedd y nod, gan nad oedd nawr yn amser da i sefydlu’r math hwn o gynllun rhwng Cofid a Brexit a phopeth arall oedd yn ein hwynebu.

·         Mynegwyd pryder ynglŷn â’r hawliau dirprwyedig, a pha mor ben agored oeddent.

·         Mynegwyd pryder bod y rhan fwyaf o’r sector oedd yn cyfrannu fwyaf at y cynllun, sef y sector breifat, yn y Gogledd Ddwyrain.  Byddai cynllun Wylfa B wedi cyfrannu at y sector yn y Gogledd Orllewin, ond nid oedd hynny am ddigwydd bellach.

·         Nodwyd, er bod son am ddatblygu adweithydd bach ar safle Gorsaf Bŵer Trawsfynydd, na fyddai’r dechnoleg ar gael o fewn oes y cynllun hwn.

·         Nodwyd y credid bod y cynllun yn gosod sylfeini cadarn iawn a bod llawer o’r prosiectau yn rhai diddorol ac uchelgeisiol.

·         Nodwyd y byddai wedi bod yn braf gweld rhywfaint o’r buddsoddiad yn dod i Ben Llŷn a De Meirionnydd, ond dymunwyd y gorau i’r Bwrdd a’r swyddogion wrth iddynt gydweithio i sicrhau Gogledd Cymru ffyniannus a llewyrchus yn economaidd.

·         Awgrymwyd y byddai’n fuddiol paratoi newyddlen gryno ar gyfer y cyhoedd oddeutu 4 gwaith y flwyddyn, er mwyn adrodd ar gynnydd y Cynllun Twf ac i ddangos y gwerth am arian.

·         Nodwyd mai drwy’r Cynllun Twf roedd arian y dyfodol am ddod o Gaerdydd a Llundain, ac nad oedd pwrpas i ni sefyll ar ein pennau ein hunain bellach.

·         Mynegwyd pryder am sefyllfa Meirionnydd yn benodol, ond croesawyd y ffaith bod yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned yn rhan o Gynllun Twf y Canolbarth.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         O ran cadw trosolwg a monitro’r gwaith sylweddol o ragbaratoi pobl ifanc lleol ar gyfer swyddi arbenigol, eglurwyd y gwnaed asesiad eisoes yn erbyn y Ddeddf Llesiant, ac y byddai hynny’n parhau i gael ei wneud ar gyfer pob portffolio, ac ar lefel bob rhaglen a phrosiect.  Nid oedd yna raglen benodol sgilio o fewn y Cynllun Twf, ond roedd ffrwd o waith yn digwydd ar y cyd gyda’r Bartneriaeth Sgiliau Ranbarthol i sicrhau ein bod yn gwrando ar y farchnad lafur ac anghenion busnesau o ran sgiliau.  Ni ellid buddsoddi cyfalaf yn llwyddiannus heb fod yna ffrwd o waith gofalus iawn yn edrych ar ieuenctid a chenedlaethau’r dyfodol, ac roedd yn ofynnol sicrhau bod buddsoddiadau mewn sgiliau yn dod ochr yn ochr â buddsoddiadau cyfalaf y Cynllun Twf.

·         Bod y gwasanaethau a ddarperid gan yr awdurdod lletya, h.y. ariannol, cyfreithiol a chynnal cyfarfodydd y Bwrdd, ayb, yn cael eu hariannu ar y cyd gan y partneriaid i gyd.

·         Ei bod yn amlwg bod yna risgiau gyda phrosiect mor fawr ac amlbwrpas â hwn, ond bod yr holl gamau posib’ wedi’u cymryd i leddfu hynny.  Ceisid lleddfu unrhyw risg ychwanegol i’r awdurdod lletya wrth i’r prosiect symud yn ei flaen drwy GA2.  

·         Nid oedd y risg wedi’i meintioli, ond drwy’r cytundeb, sicrhawyd nad oedd modd i unrhyw bartner gerdded i ffwrdd heb gyfrannu.

·         Bod yna risgiau eraill hefyd, e.e. prosiectau ddim yn cael eu cwblhau neu’r Llywodraethau ddim yn talu’r grant, ayb.  Roedd y rheini’n risgiau cyfartal rhwng y partneriaid i gyd, yn hytrach nag yn risg i’r awdurdod lletya yn unig. 

·         Bod darpariaethau cadarn iawn yn y cytundeb o ran rheoli risg ariannol yn golygu na ddylai Gwynedd fod yn agored i fwy o risg nag unrhyw bartner arall.  Hefyd, roedd Gwynedd a’r cynghorau eraill yn cytundebu gyda chyrff oedd â statws ariannol cryf, ac fel rhan o gymeradwyo prosiect, roedd rôl i sicrhau bod yna gytundeb fyddai’n pasio’r risg ynglŷn â pheidio cyflawni ymlaen i’r sawl fyddai’n arwain y prosiect ayb.

·         Na ellid pennu ffigwr ar gyfer tynnu allan o’r cytundeb, ond petai rhywun yn gadael, byddai’r gost yn hollol gymesur â’u hymrwymiadau ariannol neu gytundebol ar yr adeg hynny.  ‘Roedd darpariaeth o fewn y cytundeb i roi rhybudd i’r sawl fyddai’n tynnu allan yn hawlio’r costau a’r ymrwymiadau’n ôl, gyda’r bwriad o sicrhau na fyddai’r partneriaid eraill yn colli’n ariannol oherwydd hynny.

·         Bod gennym ddulliau o gael ein craffu gan y ddwy Lywodraeth er mwyn sicrhau ein bod yn cyflawni’r buddiannau yn erbyn y portffolio a’r rhaglenni.  Byddai’r prosiectau eu hunain yn cael eu rhoi gerbron y Bwrdd i’w cymeradwyo, ac roedd gwaith ar droed i sefydlu trefn o gynnal arolwg annibynnol bob 2-3 blynedd, fyddai’n edrych ar werth y buddsoddiad o fewn economi Gogledd Cymru.  Roedd bwriad hefyd i adrodd yn ôl yn flynyddol ac yn chwarterol.  Er na fyddai’n bosib’ dangos y buddiannau o fewn yr adroddiadau chwarterol, ceisid gwneid hynny petai’n bosib’ o ran prosiectau oedd wedi’u danfon.  Byddai’r adroddiad blynyddol yn cynnwys crynodeb o’r cynnydd yn y buddiannau a’r cynnydd yn erbyn y 3 nod allweddol.

·         Bod sawl haen o graffu yn y broses eisoes.  Byddai’r Bwrdd Uchelgais yn cyflawni rôl graffu, byddai’r Llywodraethau yn craffu perfformiad a byddai’r cynlluniau busnes yn cael eu hadolygu.  O ran y trefniadau craffu, amcan yr adroddiadau chwarterol yn y protocol fyddai rhoi gwybodaeth i bwyllgorau craffu ar gynnydd ar weithredu’r cynllun busnes a phrosiectau, ayb.  Fel byddai’r wybodaeth yn datblygu, byddai’n bwydo i mewn i’r pwyllgorau craffu cartref.  Byddai taflenni penderfyniad yn cael eu cynhyrchu, a byddai hawl i alw i mewn benderfyniad y Bwrdd.  Byddai yna gyfathrebu cyson gyda chraffu, gyda sawl llygad yn edrych ar berfformiad.  Roedd modd i bwyllgorau craffu dderbyn adroddiadau a galw swyddogion o’r Swyddfa Portffolio gerbron pwyllgor craffu, ac yn amlwg, gallai argymhellion o bwyllgor craffu fynd yn ôl i’r Bwrdd hefyd.  Y dewis arall fyddai cyd-bwyllgor craffu, ond byddai hynny’n golygu colli’r elfennau eraill gan y byddai’r craffu’n cael ei ranbartholi hefyd.

·         Petai un pwyllgor craffu yn arddel ei hawl i alw i mewn, gallai pwyllgor craffu arall hefyd alw’r mater i mewn eu hunain, a byddai’r holl bartneriaid yn cael gwybod bod yna alw i mewn wedi bod.  Nid oedd unrhyw beth yn atal pwyllgor craffu arall rhag rhoi ystyriaeth i’r mater ac adrodd yn ôl i’r Bwrdd yn gofyn iddynt ystyried yr argymhellion.  Derbynnid bod yna sawl senario yma, ond ceisid sicrhau bod system yn ei lle a olygai bod y galw i mewn yn digwydd mewn ffordd briodol a threfnus oedd yn caniatáu i’r Bwrdd ymateb i hynny a symud gyda’r mater ai peidio yn ôl ei ddewis.

·         Y cafwyd ymateb da iawn gan sector breifat y rhanbarth i sesiwn a drefnwyd ar eu cyfer i’w harwain drwy’r cyfleoedd oedd ar gael.  Roedd llawer o’r busnesau yn gwmnïau bach oedd yn awyddus i gael mwy o wybodaeth ynglŷn â sut y gallent gael budd o’r Cynllun Twf.  Ychwanegwyd mai un o brif bwrpasau buddsoddiad y Cynllun Twf oedd i gael methiannau’r farchnad i fuddsoddi yn yr ardaloedd hynny lle nad oedd yn bosib’ i gwmnïau preifat ddod i mewn i fuddsoddi gan nad oedd yn ddichonadwy yn fasnachol iddynt wneud hynny ar hyn o bryd.  Yn dilyn y sesiwn, cafwyd ymateb gan gwmnïau oedd yn awyddus i symud eu busnesau i’r Gogledd, a chredid bod y pandemig wedi gwneud i bobl ail-feddwl beth oedd dyfodol eu busnesau.  Roedd angen edrych y tu hwnt i’r Gogledd ar gyfer y buddsoddiadau yma o’r sector breifat, ond drwy’r strategaeth bwrcasu a’r strategaeth gyfalaf, gellid sicrhau bod y cyfleoedd yn aros yn lleol hefyd i fusnesau bach y Gogledd.  Roedd trafodaethau’n digwydd gyda’r sector adeiladu er mwyn sicrhau bod cyfleoedd yn cael eu rhoi allan i’r farchnad yn y ffordd orau er mwyn creu gwaith yn lleol a chyfleoedd i fusnesau lleol ffynnu.  Wrth fynd yn ddyfnach i greu ceisiadau busnes ar y lefel prosiect, byddai’r math yma o gwestiynau yn codi fwyfwy, ac wrth arwain tuag at y Cynllun Twf terfynol, roedd angen dechrau creu’r strwythurau hyn ar y lefel prosiect, gan ystyried sut i gadw’r cyfalaf a’r arian yma’n lleol.

·         O ran hawliau dirprwyedig, bod rhaid taro balans rhwng sicrhau priodoldeb a llais priodol i’r partneriaid, tra’n sicrhau hefyd bod y corff y dirprwyid iddo yn gallu bod yn ystwyth ac yn hyblyg i gyflawni ar ran y partneriaid.  Yng nghyd-destun y Bwrdd, roedd yna faterion wedi’u cadw’n ôl i’r partneriaid yn benodol, pethau na allai’r Bwrdd ei hun eu penderfynu a phethau y byddai’n rhaid i bob partner gydsynio iddynt.  Nid allai’r Bwrdd newid y cytundeb partneriaeth, heblaw elfennau penodol ohono.  Ond ochr yn ochr â hynny roedd yr amlen roedd y partneriaid yn rhoi i’r Bwrdd, felly roedd y cynllun busnes cyffredinol yn un peth oedd yn diffinio ffiniau’r comisiwn i’r Bwrdd weithredu.  Gan hynny, roedd elfen yna o osod y fframwaith o ran gweithredu a chynlluniau ayb.  Roedd gan y Bwrdd hawl i weithredu o fewn hynny a gwneud newidiadau neu ychwanegu cynlluniau, ond roedd hefyd yn gorff rhanbarthol gyda phawb yn eistedd o gwmpas yr un bwrdd i wneud penderfyniadau, ac roedd angen yr hyblygrwydd yno.  O ran yr elfen ariannol, roedd y Bwrdd yn derbyn cyllideb i redeg y Swyddfa Portffolio, ayb, ond byddai cais am fwy o arian yn gorfod mynd yn ôl i’r partneriaid. Yn yr un modd, petai’r ffordd roedd y Bwrdd yn rhedeg y Cynllun Twf yn golygu bod costau benthyg yn mynd yn uwch, byddai’n rhaid mynd yn ôl at y partneriaid i newid yr amlen yma.

·         Nad oedd yna nenfwd gwariant petai ffynhonnell arian amgen ar gael, megis grant ESF.  Roedd nenfwd o ran gwariant oedd heb ei gyllido, ac ni allai’r Bwrdd roi gofyn ariannol ychwanegol ar y partneriaid heb eu caniatâd.  Roedd y cyfraniadau yn y cytundeb yn sefydlog heb orfod mynd yn ôl heblaw am elfen o chwyddiant.  Yn yr un modd, roedd yna uchafswm cyfraniadau benthyg, a mater i’r partneriaid fyddai cytuno i newid yr amlen yma.

·         O ran y costau gweinyddu dros y cyfnod, byddai’r Bwrdd yn cymeradwyo’r gyllideb yn flynyddol.  Petai’r gwariant dros y 6 blynedd, roedd yn annhebygol y byddai angen yr holl dîm yn eu lle am y 15 mlynedd.  Ond ni ellid darogan beth fyddai’n digwydd ar ôl y 6 blynedd gyntaf.  Ni chredid y byddai’r Bwrdd yn gorffwys ar eu rhwyfau ac yn cymryd arian i mewn, ond yn hytrach yn mynd i chwilio am gyfleoedd eraill, felly byddai’n rhaid bod yn hyblyg ynglŷn â’r gyllideb.  Ond dyna’r gyllideb flynyddol ar hyn o bryd, a rhagwelid y byddai’n parhau o gwmpas yr un lefel am y 6 blynedd gyntaf.

·         Bod yna gryn dipyn o arian grant ESF ynghlwm yn y costau, ac yn parhau am gwpl o flynyddoedd eto.  Roedd y swm o gwmpas £0.5m eleni, ac roedd natur y cais yn golygu bod modd ei ôl-ddyddio.  Byddai hynny’n parhau tan 2023 pan ddeuai arian Ewrop i ben.  Ar ôl hynny, byddai tua 1.5% o gostau cyfalaf y prosiectau yn gallu cael eu cyfalafu fel swyddi i redeg y prosiectau hynny.

·         Y credid bod y rhanbarth yn cael gwerth da iawn am arian.  Yn ychwanegol at y grant Llywodraeth o £240m, roedd yna ddenu arian preifat, ac ati.  Roedd sôn y byddai’r cynllun yn dod â buddion o £1b i’r rhanbarth, felly credid bod costau rhedeg o £1.5m y flwyddyn am 6 blynedd, a llai ar ôl hynny pe gellid cael mwy o fuddion allan ohono, yn eithaf bargen.

·         O safbwynt cyhoeddusrwydd, y penodwyd dau swyddog i’r maes cyfathrebu yn ddiweddar iawn, fyddai’n arwain ar y gwaith o ddatblygu cynllun cyfathrebu cynhwysfawr a chyffrous ar gyfer y Cynllun Twf.

·         Bod holl gyfeiriad Llywodraeth Cymru o safbwynt datblygiad economaidd yn seiliedig ar y 4 rhanbarth yng Nghymru, a’i bod yn amlwg mai drwy’r byrddau rhanbarthol y byddai buddsoddiadau Llywodraeth Cymru yn dod i ni.  Disgwylid clywed gan Lywodraeth San Steffan ynglŷn â dosbarthiad arian ôl-Ewrop, ac o bosib’ y byddai’r arian hynny hefyd yn dod i’r rhanbarthau, er y byddem yn dymuno i unrhyw arian fyddai’n ddyledus i Gymru ddod i Gymru yn y lle cyntaf.

·         O ran hyblygrwydd, neu ddiffyg hyblygrwydd, y Llywodraethau i ganiatáu i ni ymateb i sefyllfa oedd yn newid, nodwyd bod y fiwrocratiaeth rhwng y 2 lywodraeth yn anhyblyg iawn.  Roedd sôn cyson am ddatganoli grym i’r rhanbarthau o Lywodraeth Cymru, ac er bod yr awydd gennym fel awdurdodau lleol i gymryd y cyfrifoldeb, ynghyd â pharodrwydd i wneud penderfyniadau ar sail ein gwybodaeth a’n profiadau lleol ein hunain, roedd pryder y byddai Llywodraeth Cymru yn dal eu gafael yn reit dynn yn yr awenau.  Ni chredid bod Llywodraeth San Steffan yn bod yn hyblyg o gwbl.

·         Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r posibilrwydd o sicrhau bond ar gyfer y benthyciad, eglurwyd bod y diffyg arian tybiannol yn yr achos hwn am gyfnod cymharol fyr, a bod bondiau fel arfer yn cael eu gosod am gyfnod estynedig.  Ni ellid darogan ar ba bwynt y byddai angen benthyg i ad-dalu dros hir dymor, ac roedd angen bod yn hyblyg a benthyg yr arian mor rhad â phosib’ ar yr adeg hynny.  Roedd sawl ffordd o gael yr arian yma, gan gynnwys benthyg ein reserfau ein hunain i’r Bwrdd, fyddai’n lleihau’r risg i’r ddwy ochr.  Ychwanegwyd y bwriedid trafod y posibiliadau mewn seminar a drefnwyd ar gyfer aelodau’r Pwyllgor Archwilio a Llywodraethu gyda chwmni Airlingclose ym mis Ionawr.

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am eu cyflwyniadau ac am eu hatebion i gwestiynau’r aelodau.

 

PENDERFYNWYD bod y pwyllgor craffu o’r farn bod y Cynllun Busnes; Cytundeb Llywodraethu 2; y model ariannu a’r trefniadau gweithredu yn glir a chadarn fel sail i gyflawni amcanion y Cytundeb Twf er budd busnesau a thrigolion Gwynedd.

 

Dogfennau ategol: