Agenda item

I dderbyn adroddiad gan, Lowri Joyce Trafnidiaeth Cymru

Cofnod:

Estynnodd y Cadeirydd groeso i Lowri Joyce, Trafnidiaeth Cymru, i gyflwyno ei hun ac adrodd ar weithgareddau Trafnidiaeth Cymru hyd yma ac fe adroddodd ar y materion isod:

 

o   Ei bod wedi ei phenio i Drafnidiaeth Cymru yn Ebrill 2019, wedi blynyddoedd o weithio yn y diwydiant Niwclear.

o   Fod llwybr wedi ei ailagor er mwyn galluogi trenau i deithio o Wrecsam i Lerpwl yn uniongyrchol.

o   Fod Trafnidiaeth Cymru yn edrych ar gynyddu capasiti, gan gynnwys dychwelyd trenau yn cael eu tynnu gan injan.

o   Fod cynllun ‘delay repay’ wedi dechrau oedd yn ad-dalu tocynnau os oedd trên 15 munud neu fwy yn hwyr.

o   Fod bwriad i weithio’n agos gyda chymunedau er mwyn gwella cydweithio cymunedol ac annog trigolion i helpu.

o   Fod perfformiad bellach yn cael ei fesur yn wahanol, ac yn fwy manwl.

o   Fod 120 o swyddi newydd bellach, gyda chynrychiolaeth gref o’r Gogledd fyddai’n eirioli er mwyn gwella’r ddarpariaeth.

o   Eu bod wedi dysgu o brofiad defnyddwyr gyda’r newid yn y tocynnau teithio am ddim. Ni fyddai unrhyw deithiwr yn cael eu troi ymaith wedi i’r tocynnau newydd ddod yn weithredol felly nid oed angen i ddeiliaid trwyddedau bryderu.

o   Fod gwaith da wedi ei wneud mewn partneriaeth gyda’r Cyngor wrth fynd i lyfrgelloedd er mwyn cynorthwyo trigolion gyda cheisiadau am docyn newydd.

o   Roedd cynllun gwerth £195 miliwn wedi ei lansio er mwyn rhoi gwell profiad i gwsmeriaid, gan gynnwys gosod CCTV, cysylltedd diwifr, cysgodfan a man cadw beic ym mhob gorsaf.

o   Byddai’r cynllun yn dechrau yng ngorsafoedd Machynlleth a Chyffordd Dyfi ar Reilffordd y Cambrian, gyda gorsaf Machynlleth hefyd yn dod yn orsaf beilot fel gorsaf dementia cyfeillgar.

o   Fod bwriad i edrych ar adeiladau segur er mwyn annog eu defnyddio.

 

Cwestiynau a sylwadau’n codi o’r drafodaeth:

 

o   Pan fo bysus yn cymryd lle trenau, fod bws rhy fach wedi cael ei ddarparu, gan olygu fod teithwyr yn cael eu gadael ar ôl, yn enwedig rhai gyda beiciau a chadeiriau olwyn.

o   Fod darparu digon o le ar gyfer beiciau yn bwysig gan fod galw amlwg am y ddarpariaeth ar drenau Rheilffordd Arfordir y Cambrian. Y gobaith oedd y byddai’r lle angenrheidiol wedi ei ddarparu ar y cerbydau newydd fyddai’n cael eu darparu.

 

Mewn ymateb nododd Lowri Joyce fod Trafnidiaeth Cymru yn ymwybodol o broblemau gyda’r bysus, a byddai ymdrech yn cael ei wneud er mwyn lleddfu’r problemau i’r dyfodol.

 

o   Nodwyd bod dim digon o amser er mwyn trosglwyddo o’r trên i fws er mwyn parhau a thaith ar brydiau, yn ogystal â thyllau yn y ddarpariaeth mewn mannau eraill.

 

Mewn ymateb nododd Lowri Joyce fod ymdrech yn cael ei wneud er mwyn integreiddio’r gwasanaethau cludiant yn well, a bod croeso i fudd-ddeiliaid i gysylltu â hi gyda phroblemau.

 

o   Tra bod glanhau gorsafoedd yn cael ei groesawu, pam fod cwmni tramor wedi ei gytundebu i wneud y gwaith?

 

Mewn ymateb nodwyd mai cwmni Cymreig oedd wedi ennill y cytundeb, ond nad oedd gwybodaeth am unrhyw is-gontractau na threfniadau staffio i law.

 

Diolchwyd am yr adroddiad.