a) I ystyried adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau
b) I ystyried adroddiad yr Harbwr Feistr
Cofnod:
Adroddiad yr Uwch
Swyddog Harbyrau
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch
Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad
cryno ar faterion yr Harbwr
am y cyfnod rhwng Mawrth 2019 a Hydref 2019.
Angorfeydd
Mewn ymateb i gofnod
y cyfarfod diwethaf bod angen ceisio barn defnyddwyr ynglŷn â pham bod perchnogion angorfeydd yn ymadael,
nodwyd mai anodd yw darganfod
un ystadegyn dros y lleihad mewn defnydd. Ategwyd
mai tebyg yw’r sefyllfa ar
draws y wlad
Cod Diogelwch
Atgoffwyd yr Aelodau bod yr Asiantaeth Morwrol a Gwylwyr y Glannau wedi cynnal archwiliad
ym Mawrth 2019 ar drefniadau penodol
a system Harbyrau Bwrdeistrefol
Gwynedd er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth a’r Cod Diogelwch Morol. Yn dilyn ymweliad
pellach i weld sut roedd yr
ychwanegiadau a awgrymwyd wedi ei gweithredu,
adroddwyd bod Capten Quader (archwilydd o’r Asiantaeth) yn fodlon bod y Gwasanaeth yn cydymffurfio
â darpariaethau’r Cod Diogelwch
Morol Porthladdoedd.
Materion Staffio
Adroddwyd bod penderfyniad wedi ei wneud i
estyn cyfnod cyflogaeth dymhorol Cymhorthydd Harbwr Abermaw tan ddiwedd Rhagfyr 2019 er mwyn sicrhau cefnogaeth
i’r harbwr feistr ynghyd â chysondeb gwasanaeth ar draws y Sir. Ategwyd mai’r bwriad yw
pennu’r swydd yn un barhaol.
Materion Ariannol
Cyflwynwyd cyllideb yr harbwr
i amlygu’r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd Medi 2019. Amcangyfrifwyd
gorwariant o £11,807. Amlygwyd
bod bwriad o godi ffioedd lansio dyddiol o £10 i £15
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â gwariant ar ‘offer a chelfi’, mynegwyd nad yw’r
gwariant yn wastraffus, bod popeth sydd yn ymwneud
a chynnal a chadw, offer ac
offer llaw yn cael ei gynnwys
yn y gyllideb yma. Ategwyd nad yw disgwyliad
oes yr offer yn hir oherwydd
yr amodau cras. Gofynnwyd hefyd os oedd
y gyllideb yn cael ei gosod
yn gywir ac addas i’r deilliannau.
Awgrymwyd y dylai’r Cynghorwyr sydd ar y Pwyllgor gynnig
mewnbwn i osod y gyllideb.
Sylwadau yn codi o’r
drafodaeth
·
Sut mae’r codiad mewn ffioedd
yn cymharu ag awdurdodau eraill?
·
Er y codiad mewn prisiau, nid yw
bob amser yn bosibl lansio - hyn yn dibynnu
ar y llanw a'r lleoliad lansio
penodol
·
Bod
cynnydd o 50% yn un cam mawr
Bydd y codiad yn effeithio
bob defnyddwyr yr harbwr ac nid y rhai hynny sydd
angen eu targedu e.e., defnyddwyr
beiciau dwr
·
Bod
angen annog a hyrwyddo defnyddwyr i brynu tocyn
blynyddol sydd yn fwy o werth
am arian
Mewn ymateb i’r sylwadau
nododd Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned o ganlyniad i’r incwm yn
lleihau nid oedd modd cynyddu’r
gyllideb. Ategodd yr angen i
hyrwyddo ac annog mwy o ddefnydd a bod codi incwm yn
sicrhau parhad gwasanaeth
(b) Adroddiad yr Harbwr
Feistr
Cyflwynwyd adroddiad gan yr Harbwr Feistr yn manylu ar faterion mordwyo, gweithredol
a chynnal a chadw. Tynnwyd sylw at y materion canlynol:
·
Bod
buddsoddiad sylweddol wedi ei wneud
i uwchraddio’r bwiau mordwyo yn
y sianel
·
Bod
cynllun gwaith gweithredu a gwaith cynnal a chadw wedi ei adnabod
ar gyfer y gaeaf
·
Bod
adborth da wedi ei dderbyn ynglŷn
ag arwyddion diogelwch (sydd wedi ei
darparu ar y cyd gyda Chymdeithas
y Bad Achub
·
Cais i’r aelodau adrodd ar unrhyw broblem
/ fater yn ymwneud a’r sianel
i’r harbwr feistr a fydd yn
fwy na pharod
i ymchwilio i’r mater
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â pha
mor fanwl gywir yw’r marciau
mordwyo adroddwyd bod y sianel yn iawn
ac mewn ymateb pellach i sylw
bod ‘clawdd’ o dywod wedi yn ffurfio
ger mynediad y sianel, adroddwyd oherwydd presenoldeb y bwiau presennol a'r wybodaeth fordwyo
a ddarperir gan yr harbwrfeistr nid oedd unrhyw ofyniad
am fwi ychwanegol
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â hysbysfyrddau
ar draeth y Friog, adroddwyd bod y rhain yn barod
i’w gosod
Mewn ymateb i gwestiwn
ynglŷn â gosod llithrfa ar draeth
y Friog er mwyn sicrhau mynediad
i’r traeth nododd Pennaeth Cynorthwyol Economi a Chymuned bod angen ystyried datrysiad a dyluniad addas i’r cais. Nododd
nad oedd
yr hen lithrfa yn ymestyn i’r
traeth i greu mynediad ac fe’i symudwyd oherwydd
ei fod mewn
cyflwr gwael ac wedi dirywio yn
sylweddol. Ategwyd y byddai hefyd angen
ystyried cost y fenter. Cynigiwyd cydweithio gyda’r gymuned i geisio datrysiad
gan sefydlu tîm yn Y Friog
i drafod syniadau gyda Ymgynghoriaeth
Gwynedd. Nododd y Cynghorydd
Lleol y byddai llithrfa newydd yn ystum o ewyllys
da ac y byddai’r gymuned yn barod i
geisio codi arian ar
gyfer y fenter. Awgrymwyd cynnwys FLAG yn y trafodaethau.
Yng nghyd-destun yr arwyddion diogelwch awgrymwyd dull o warchod yr arwyddion drwy
roi gorchudd drostynt gan eu
bod yn cael eu difrodi wrth
eu symud.
PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiadau.
Dogfennau ategol: