Agenda item

Adroddiad gan Jane Richardson – Cadeirydd Grŵp Swyddogion Gweithredol y Bwrdd Uchelgais.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Jane Richardson, Cadeirydd y Grŵp Swyddogion Gweithredol.

 

PENDERFYNWYD

1.         Derbyn yr adroddiad ar y Rhaglen Waith yn amodol fod statws RAG pob tasg o fewn y Rhaglen Waith yn cael ei adolygu a’i ddiweddaru erbyn y cyfarfod nesaf, a gofyn i’r Grŵp Swyddogion Gweithredol ail-edrych ar ffurf y tabl pan fydd y Cyfarwyddwr Rhaglen mewn lle.

2.         Cadarnhau y bwriad i ail-hysbysebu swydd Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes.

3.         Cymeradwyo’r Cynllun Trosiannol.

4.         Awdurdodi’r Corff Atebol i ymrwymo i brydles ar swyddfa yng Nghanolfan Fusnes Conwy yn unol â’r adroddiad, a chytuno â thelerau eraill yn unol â chyngor Pennaeth Eiddo’r Corff Atebol, mewn ymgynghoriad â’r Swyddog Monitro a’r Swyddog Cyllid Statudol.

 

RHESYMAU DROS Y PENDERFYNIAD

 

Diweddaru ar gynnydd tasgau’r Rhaglen Waith a sicrhau bod cynnwys y tabl yn fwy eglur.

Adrodd ar y Cynllun Trosiannol fel dogfen gefnogol i’r Rhaglen Waith nes bydd y Cyfarwyddwr Rhaglen yn cychwyn y swydd.

Mae’r Bwrdd Uchelgais angen adnabod gofod swyddfa addas ar gyfer y Swyddfa Rhaglen.

 

TRAFODAETH

 

Ymhellach i baratoi’r adroddiad, nododd Cadeirydd y Grŵp Swyddogion Gweithredol fod Llywodraethau Prydain a Chymru bellach yn fodlon gyda Phenawdau’r Telerau a’u bod yn aros am gadarnhad o amgylch y trefniadau ar gyfer arwyddo Penawdau’r Telerau yn ffurfiol.  Roedd datganiad i’r wasg wedi ei ddrafftio ac roedd datganiad mewnol yn cael ei baratoi hefyd. 

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn:-

·         Nododd Arweinydd Cyngor Sir Fflint na dderbyniodd wahoddiad i gyfarfod cyntaf yr is-grŵp Trafnidiaeth.

·         Nododd Prif Weithredwr Cyngor Gwynedd na dderbyniwyd pŵl digonol o ymgeiswyr ar gyfer swydd Cadeirydd y Bwrdd Cyflawni Busnes.  Argymhellwyd ail-hysbysebu’r swydd, gan hysbysu’r sawl sydd wedi ymgeisio eisoes y bydd eu cais yn dal i gael ei ystyried.  Cytunwyd i ail-edrych ar yr hysbyseb a’r wybodaeth ynglŷn â’r rôl i sicrhau eu bod yn taro’r nodyn cywir.  Pwysleisiwyd pwysigrwydd penodi person sy’n arweinydd ac yn adnabyddus yn yr ardal ac yn rhanbarthol ac awgrymwyd cynnal trafodaeth Chadeirydd y Bwrdd Cysgodol i weld sut mae denu ymgeiswyr.  Anogwyd y gymuned fusnes i hyrwyddo’r cyfle hwn hefyd. 

·         Nodwyd bod y swyddogion yn anelu at gyflwyno’r Cynllun Busnes am arian ESF i WEFO erbyn 31 Hydref, ond holwyd beth fyddai’n digwydd i’r arian petai Prydain yn gadael yr Undeb Ewropeaidd ar y dyddiad hwnnw.  Gofynnwyd i Gadeirydd y Grŵp Swyddogion Gweithredol drafod hyn gyda’i chyd-swyddog yng Nghyngor Conwy sy’n arbenigo ar faterion Brexit.

·         Mynegwyd pryder nad oedd y sector breifat yn deall yr amserlen, ac er eu bod yn barod i gychwyn ar eu cynlluniau, nid oedd modd iddynt ddatblygu’r modelau busnes pum achos ar gyfer prosiectau’r Cynllun Twf hyd oni fo Penawdau’r Telerau wedi eu harwyddo’n ffurfiol.  Nodwyd bod yr oedi wedi’i greu gan y ddwy Lywodraeth a bod Cynllun Twf y Gogledd wedi wynebu mwy o rwystrau na chynlluniau tebyg mewn rhanbarthau eraill.  Pwysleisiwyd bod angen cyfathrebu’r neges ynglŷn â’r amserlen i’r gymuned fusnes a chytunodd Cadeirydd y Grŵp Swyddogion Gweithredol i gynnwys nodyn ar hynny yn y datganiad i’r wasg.

·         Nodwyd bod y wybodaeth yng ngholofnau’r tabl sy’n nodi’r cynnydd ar y gwahanol gynlluniau ar y rhaglen waith yn amwys a galwyd am adolygu ffurf y ddogfen, gan, o bosib’, ei gosod allan ar fwy o ffurf naratif.  Cytunwyd i basio’r sylw yma ymlaen i’r Grŵp Gweithredol.

·         Nodwyd nad oedd y rhaglen waith yn cyfeirio at y broses yn dilyn arwyddo Penawdau’r Telerau ac y byddai’n fuddiol cael gwybod beth yw’r amserlen dros y 12 mis nesaf.

·         Mynegwyd pryderon ynglŷn â’r bylchau yn y Fframwaith Datblygu Cenedlaethol sydd allan i ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru ar hyn o bryd, a chytunwyd i gynnwys y mater ar raglen cyfarfod 15 Tachwedd o’r Bwrdd.

·         Awgrymwyd bod y Cynllun Trosiannol yn fwy o gynllun gwaith na chynllun trosiannol.  Eglurwyd y byddai’r ddogfen yn esblygu i fod yn gynllun gwaith maes o law, ond y byddai’n weithredol am ychydig fisoedd yn unig.

 

Dogfennau ategol: