Agenda item

Cyflwyno adroddiad ysgrifenedig gan y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig.

Cofnod:

Tywysodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yr aelodau drwy’r adroddiad, gan dynnu sylw at y prif bwyntiau canlynol:

·         Bod lleihad yn y nifer o angorfeydd blynyddol o gymharu â 2014, oedd yn adlewyrchu’r economi ehangach;

·         O ran y Cod Diogelwch Morwrol, y byddai’r Uwch Swyddog Harbyrau yn ei adolygu cyn i’r awdurdod annibynnol a benodwyd, sef Harbwr Caernarfon ei archwilio. Nodwyd bod y Cod yn rhoi arweiniad ac yn rhoi sicrwydd i’r cyhoedd bod diogelwch defnyddwyr yn bwysig i’r Cyngor;

·         Y gwerthfawrogir sylwadau ar gynnwys y Cod gan yr aelodau;

·         Bod y gwasanaeth yn awyddus i ddatblygu Mesuryddion Perfformiad mewn perthynas â rheolaeth yr harbyrau ac y gwahoddir syniadau neu awgrymiadau cychwynnol gan yr aelodau;

·         Cyfeiriwyd at absenoldeb aelod o staff oherwydd salwch a nodwyd bod Cymorthyddion Harbwr yn llenwi’r bwlch er ceisio sicrhau gwasanaeth 7 diwrnod yr wythnos ar gyfer defnyddwyr;

·         Bod oedi o ran symud y deunydd a garthwyd yn yr Harbwr oherwydd y disgwylir am gadarnhad o gefnogaeth ariannol gan Lywodraeth Cymru. Nodwyd y gobeithir cwblhau’r gwaith erbyn diwedd Mawrth 2016;

·         Ystyrir neilltuo cyllid o £50,000 yn flynyddol ar gyfer gwneud gwaith carthu yng Ngheg yr Harbwr a gobeithir gwneud y gwaith blwyddyn nesaf, yr un adeg a symud y deunydd a garthwyd yn yr Harbwr;

·         Manylwyd ar gyfrifon 2014-15 yr Harbwr a’r Hafan;

·         Bwriedir cynyddu ffioedd yr Hafan ar gyfer blwyddyn ariannol 2015-16 yn unol â chwyddiant a rhewi ffioedd yr Harbwr Allanol er mwyn annog unigolion i gymryd angorfa;

·         Bod pryderon o ran diogelwch a chostau cynnal offer rheoli cwch yr harbwr ac asesir opsiynau o ran ei newid;

·         Yn dilyn derbyn pryderon o ran ansawdd y disel coch a ddarperir yn yr Harbwr gan Gymdeithas Masnachwyr Morwrol Pwllheli, nodwyd bod ymholiadau wedi ei gwneud yn y Pwyllgorau Harbwr eraill a chafwyd cadarnhad eu bod yn fodlon efo ansawdd y disel coch. Ychwanegwyd y parheir i fonitro’r sefyllfa;

·         Gwneir gwaith i leihau’r bwnd a diffinio llwybr cyhoeddus wrth ymyl Plas Heli gan osod ffens o ran diogelwch. Ymgynghorwyd efo Swyddog Llwybrau’r Cyngor a oedd yn gefnogol i’r bwriad;

·         Aseswyd opsiynau talu ar gyfer defnyddwyr yr Harbwr a ffafrir Standing Order yn hytrach na Debyd Uniongyrchol. Nodwyd yr edrychir ar yr opsiwn o dalu Standing Order dros gyfnod o 12 mis yn hytrach na 7 mis os arwyddir cytundeb cyn canol mis Chwefror.

 

Tynnodd y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig sylw at fwiau parth cyflymder uchaf ar draeth Marian y De a gofynnodd am farn yr aelodau o ran eu tynnu. Nododd yr aelodau y dylid eu cadw i sicrhau diogelwch defnyddwyr.

 

Gofynnwyd yn ogystal i’r aelodau am eu barn o ran addasu ardal parth cyflymder uchaf ardal traeth Glandon er hwyluso gweithgareddau hamdden. Nododd yr aelodau bod angen bod yn ofalus o ran diogelwch defnyddwyr a dylid ystyried y posibilrwydd o greu ardaloedd nofio dynodedig.

 

PENDERFYNWYD bod y Swyddog Morwrol a Pharciau Gwledig yn gwneud gwaith ymchwil o ran opsiynau addasu parth cyflymder uchaf ardal traeth Glandon ac adrodd ar y mater yn y cyfarfod nesaf.

 

Manylodd Rheolwr Harbwr Pwllheli ar y rhaglen waith cynnal a chadw a gofynnwyd i aelodau hysbysu’r gwasanaeth o unrhyw waith arall sydd angen ei wneud.

 

Gofynnwyd am farn yr aelodau o ran symud angorfeydd yr harbwr allanol o ardal 5 i 6 i ardal 7 yn wyneb y ffaith bod yr ardal wedi cau i fyny yn sylweddol a’r costau o ran eu cynnal a chadw. Nodwyd y byddai symud yr angorfeydd yn cynyddu lled y sianel.

 

Nododd cynrychiolydd Cymdeithas Cychod Hafan Pwllheli y dylid rhoi amser i aelodau drafod y mater efo’u mudiadau.

 

PENDERFYNWYD bod mudiadau unigol yn cysylltu efo’r Gwasanaeth Morwrol cyn 31 Rhagfyr 2015 i roi eu barn cyn y symudir ymlaen efo’r cynllun.

 

Yn ystod y cyfarfod ymatebwyd i sylwadau’r aelodau gan y swyddogion fel a ganlyn:

·         O ran gwaddod yn cynyddu yn fynedfa’r Harbwr, nodwyd bod banc yn ffurfio tu allan i’r fynedfa ac asesir y sefyllfa gan fyddai’n bosib i’r gwaddod symud yn ddibynnol ar y tywydd;

·         Bod nifer isel o unigolion yn cael trafferth i ddod i mewn i’r Harbwr;

·         Mewn ymateb i sylw gan aelod bod golau diogelwch cwmni Blue Water Marine yn gallu dallu unigolion yn ceisio dod i mewn i’r Harbwr, gofynnwyd i gynrychiolydd Cymdeithas Masnachwyr Morwrol Pwllheli drosglwyddo’r neges i’r cwmni a chyflwyno sylwadau yn y cyfarfod nesaf;

·         Yr edrychir i mewn i gostau uwch yng nghyswllt nwy a thrydan yn yr Hafan;

·         Ychwanegir colofn i’r adroddiadau cyllidol er mwyn cynnwys ffigyrau’r flwyddyn ariannol flaenorol yn y dyfodol;

·         Er ceisio denu mwy o unigolion yr ystyrir llunio pecynnau arbennig.

 

Rhoddwyd diweddariad ar weithgareddau a gynhaliwyd ym Mhlas Heli ers ei agoriad gan gynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli, sef:

·         Optimist European Championships,

·         Optimist UK Championship,

·         29er UK Championship,

·         29er World Championships,

·         Fireball World Championships,

·         IRC Welsh National Championships.

 

Diolchwyd a llongyfarchwyd cynrychiolydd Clwb Hwylio Pwllheli a’r holl staff am eu gwaith a llwyddiant y gweithgareddau.

 

Adroddodd yr Uwch Reolwr Economi a Chymuned yn dilyn cyflwyno sylwadau a wnaed gan yr aelodau yn y gweithdy lle ystyriwyd y Strategaeth Garthu drafft i gwmni ARUP Associates, bod gwaith asesu effaith wedi ei baratoi. Nodwyd bod trafodaethau yn parhau gyda Chyfoeth Naturiol Cymru ac edrychir ar sefydlu hawliau awdurdod harbwr rhag gorfod llenwi ffurflenni cais am hawliau unigol.

 

Ychwanegwyd y cynhelir cyfarfod efo cwmni ARUP Associates yr wythnos nesaf ac y cylchredir yr adroddiad terfynol i aelodau’r Pwyllgor Ymgynghorol.

Dogfennau ategol: