Aelodau Cabinet – Y Cynghorwyr Craig ag Iago,
Dafydd Meurig a Dilwyn Morgan
Ystyried
adroddiad ar yr uchod
Cofnod:
Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet
Plant a Phobl Ifanc, yr Aelod Cabinet Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Aelod
Cabinet Tai ac Eiddo yn gwahodd y pwyllgor i graffu cynigion arbedion yr Adran
Plant a Chefnogi Teuluoedd, yr Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant a’r Adran Tai
ac Eiddo i ddygymod gyda’u cyfran o’r bwlch £2m posib’ yng nghyllideb 2020/21,
ac ystyried beth fyddai hynny, neu’r opsiynau amgen, yn ei olygu.
Ymhelaethodd yr Aelodau Cabinet a’r
penaethiaid ar gynnwys yr adroddiad, gan hefyd ymateb i gwestiynau / sylwadau
gan yr aelodau.
Arbedion Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd
Yn ystod y drafodaeth, mynegwyd pryder gan
nifer o aelodau y byddai’r toriad o £30,000 i Cymorth i Ferched yn arwain at
fwy o gostau i’r Cyngor yn y pen draw a phwysleisiwyd pwysigrwydd gwneud
asesiad llawn o’r ardrawiad posib’ ar y Cyngor.
Mewn ymateb i ymholiad, eglurodd y Pennaeth
Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd fod y cynlluniau hanesyddol yn uchelgeisiol
iawn. Manylodd ar yr elfen a wireddwyd
eisoes gan nodi bod tasglu wedi’i sefydlu i edrych oedd modd canfod gweddill yr
arbedion yn rhywle arall. Nid oedd
llawer o fanylder ar hynny ar gael eto, ond nododd y gallai ddod ag adroddiad
yn ôl i’r pwyllgor maes o law.
Ychwanegodd y Prif Weithredwr y gellid dod
ag adroddiad y tasglu yn ôl i’r aelodau arsylwi arno, ond gan fod y Cabinet
angen gwneud penderfyniad yn eithaf sydyn ar y cynigion arbedion, roedd amser
yn brin.
Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant
Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau
a ganlyn gan aelodau:-
·
Mynegwyd
pryder yn gyffredinol ynglŷn ag effaith y cynigion arbedion ar drigolion
bregus y sir a phwysleisiwyd pwysigrwydd monitro’r effaith.
·
Mynegodd
nifer o aelodau bryder neilltuol ynglŷn â’r cynnig i dorri dwy swydd
Gweithiwr Cefnogol Iechyd Meddwl (£42,000) ar sail y galw cynyddol am y
gwasanaeth yn sgil y cynnydd mawr mewn problemau iechyd meddwl plant a phobl
ifanc. Awgrymwyd bod angen mwy, nid llai
o weithwyr, ac y byddai’r toriad hwn yn costio mwy i’r Cyngor yn y pen
draw. Nodwyd hefyd bod iechyd meddwl yn
flaenoriaeth gan Lywodraeth Cymru a’r Bwrdd Iechyd, ac y dylai’r gwasanaeth
gael ei ddarparu gan y Bwrdd Iechyd.
Fodd bynnag, roedd y gwaith yn cael ei basio ymlaen i’r cynghorau, heb
adnoddau digonol ar ei gyfer.
·
Mynegwyd
pryder neilltuol gan nifer o aelodau ynglŷn â’r cynnig i leihau’r gyllideb
ar gyfer cefnogi gofalwyr, yn cynnwys rhai cynlluniau ysbaid (£19,000). Pwysleisiwyd y byddai’r straen ar y teuluoedd
a effeithid yn ddychrynllyd ac y byddai’r toriad hwn yn costio mwy i’r Cyngor
yn y pen draw.
Ar nodyn cyffredinol, holwyd a oedd y Bwrdd
Iechyd yn cyfrannu fel y dylent, e.e. roedd y gost o ofalu am bobl fregus sy’n
cael eu rhyddhau o’r ysbytai yn disgyn ar y Cyngor. Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant fod yna berthynas dda rhwng y Bwrdd Iechyd a’r
Cyngor, gan gydnabod hefyd bod yna rai heriau, ond roedd o’r farn bod y sylw’n
amlygu’r ddadl gref dros integreiddio iechyd a gofal ar lefel leol.
Mewn ymateb i ymholiad pellach ynglŷn
â’r trefniadau rhannu arian rhwng y Bwrdd Iechyd a’r cynghorau ar lefel
ranbarthol, nododd y Pennaeth Adran Oedolion, Iechyd a Llesiant y gallai’r
Aelod Cabinet, y Cyfarwyddwr Statudol Gwasanaethau Cymdeithasol ac yntau edrych
ar hynny a dod â’r wybodaeth yn ôl i’r pwyllgor.
Mewn ymateb i sylwadau’r pwyllgor, nododd y
Prif Weithredwr mai rôl y pwyllgor craffu oedd penderfynu, os bydd yn ofynnol
i’r Adran ddod â chynigion arbedion ymlaen, ai’r cynigion a restrwyd yn yr
adroddiad, neu gynigion eraill, fyddai’n cael lleiaf o ardrawiad ar bobl fregus
y sir. Nododd hefyd na ellid gofyn i
adrannau eraill ysgwyddo peth o’r baich gan fod pob adran o’r Cyngor yn yr un
sefyllfa o orfod canfod eu cyfran hwy i gyfarch y swm o £2m.
Nododd yr Aelod Cabinet fod yr Adran wedi
pwyso a mesur popeth yn drylwyr, ac y byddai effeithiau unrhyw gynigion eraill,
nad oedd ar y rhestr, hyd yn oed yn waeth na’r hyn oedd gerbron.
Awgrymodd y Prif Weithredwr mai un ffordd
bosib’ ymlaen fyddai trwy ofyn i’r Adran edrych ar y meysydd lle mae’r gwariant
mwyaf, megis y maes pobl hŷn yn ei gyfanrwydd a chytundebau 3ydd sector.
Yn sgil sylwadau’r Prif Weithredwr ac
amharodrwydd y pwyllgor i dderbyn y cynigion i dorri yn y meysydd iechyd meddwl
a gwasanaethau gofalwyr, awgrymwyd y dylid gofyn i’r Adran edrych am ragor o
doriadau yn y ddau faes lle mae’r gwariant mwyaf, sef cytundebau 3ydd sector
neu’r gwasanaethau i bobl hŷn.
Adran Tai ac Eiddo
Yn ystod y drafodaeth, llongyfarchwyd yr
Adran ar eu dull o ganfod arbedion drwy fewnoli elfennau o’r gwaith a
chroesawyd eu bwriad i edrych ar bob cyfle tebyg yn y dyfodol.
Mewn ymateb i ymholiad ynglŷn â’r
cynlluniau na wireddwyd, eglurodd y Pennaeth Tai ac Eiddo fod yr Adran yn
chwilio am gynlluniau eraill. Byddai
trafodaeth ar hyn yn y cyfarfod herio perfformiad nesaf a gobeithid gallu
adrodd yn ôl i’r pwyllgor hwn yn y Flwyddyn Newydd.
PENDERFYNWYD
(a) Cymeradwyo
cynigion yr Adran Tai ac Eiddo i gwrdd â’u cyfran o arbedion perthnasol fel
rhai sydd gydag ardrawiadau lleiaf ar drigolion.
(b) Derbyn
yr adroddiadau ar gynigion yr Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd a’r Adran
Oedolion, Iechyd a Llesiant i gwrdd â’u cyfran o arbedion perthnasol a gofyn
i’r Cabinet ystyried sylwadau’r pwyllgor o ran ai’r rhain sydd wirioneddol yn
cael yr ardrawiad isaf cyn cymeradwyo’r arbedion hynny.
Dogfennau ategol: