Agenda item

The Sandbar Restaurant, The Warren, Lôn Port Morgan, Abersoch LL53 7AA

 

I ystyried y cais

Cofnod:

1.            The Sandbar Restaurant, The Warren, Abersoch

 

Roedd y Cynghorwyr Elfed Williams a Jason W Parry wedi ymweld â’r safle o dan drefniant a goruchwyliaeth Heilyn Williams, Swyddog Trwyddedu 04.11.19

 

Cyflwynwyd y panel a’r swyddogion i bawb oedd yn bresennol a chyhoeddwyd bod gan bawb hyd at 10 munud i gyflwyno sylwadau uniongyrchol ar y cais.

 

Ar ran yr eiddo:                                 Julian King, Haulfryn Group Ltd

                                                            Bobby McGee, Haulfryn Group Ltd

                                                            David John, Haulfryn Group Ltd

                                                            Matt Pressman, Haulfryn Group Ltd

Simon Conway, Haulfryn Group Ltd

 

Eraill a wahoddwyd:                         Mr Ian Williams, Heddlu Gogledd Cymru

                                                            Ymgynghorai lleol – Mr Nigel Jackson

 

 

a)            Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais am drwydded eiddo ar gyfer gwerthu alcohol  oddi ar yr eiddo, cerddoriaeth fyw, cerddoriaeth wedi ei recordio tu mewn a thu allan a darpariaeth lluniaeth hwyr y nos, saith diwrnod yr wythnos.  

 

Tynnwyd sylw at fanylion y gweithgareddau trwyddedig a’r oriau arfaethedig yn yr adroddiad. Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu dystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Cyfeiriwyd at y mesurau yr oedd yr ymgeisydd yn ei argymell i hyrwyddo’r amcanion trwyddedu ynghyd a’r ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Amlygwyd y byddai’r amcanion hyn yn cael eu cynnwys ar y drwydded.

 

Nodwyd bod sylw wedi ei dderbyn gan Heddlu Gogledd Cymru yn awgrymu i’r ymgeisydd osod system Teledu Cylch Cyfyng ar yr eiddo. Derbyniwyd 7 e-bost gan drigolion unedau preswyl gwyliau’r safle yn gwrthwynebu’r cais ar sail y pedwar amcan trwyddedu - atal trosedd ac anhrefn, atal niwsans cyhoeddus, sicrhau diogelwch cyhoeddus a gwarchod plant rhag niwed.

Adroddwyd nad oedd yr Awdurdod Trwyddedu wedi eu hargyhoeddi bod y cais yn cynnig digon o fanylion o ran y mesurau a fwriedi’r eu gweithredu i dawelu pryderon yr ymatebwyr o sicrhau nad yw’r amcanion trwyddedu yn cael eu tanseilio.

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·         Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr Trwyddedu.

·         Gwahodd yr ymgeisydd i ymhelaethu ar y cais

·         Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·         Gwahodd deilydd y drwydded neu ei gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·         Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded.

 

b)            Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd cynrychiolydd yr ymgeisydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno. Dosbarthwyd lluniau o’r parc i’r Is-bwyllgor ar ymgynghorai i gynorthwyo gyda’r elfennau dan sylw.

 

Ategodd y sylwadau canlynol:

·         Bod yr ymweliad safle wedi bod yn fuddiol

·         Nad oedd Cyngor Cymuned Abersoch yn gwrthwynebu’r cais

·         Eu bod yn derbyn amodau’r Heddlu o osod system Teledu Cylch Cyfyng ar yr eiddo

·         Bod amodau a rheolau bwyty yn wahanol i reolau a safonau’r parc

·         Bod mynediad i’r safle yn cael ei reoli 24 awr gan ddau swyddog diogelwch sydd yn gymwysedig gydag Awdurdod y Diwydiant Diogelwch.

·         Bod man droseddau ac anrhefn yn cael eu hymdrin â hwy yn briodol

·         Bod y maes parcio yn ddigonol

·         Bod mwy o oleuadau wedi eu gosod ar y safle

·         Byddai’r staff wedi eu hyfforddi ar gyfer gweithredu polisi Her 25

·         Derbyn y sylw bod angen cyfathrebu newidiadau yn well gyda phreswylwyr

·         Bydd y bwyty yn cael ei reoli yn effeithiol gan ganolbwyntio ar roi profiad da i ddefnyddwyr

·         Nad oedd bwriad defnyddio’r bwyty ar gyfer cynnal digwyddiadau cerddoriaeth yn unig - digwyddiadau penodol fydd yn cael eu cynnal e.e., priodasau,  parti Nos Galan

·         Bod y bwyty yn agored i’r cyhoedd

·         Bod caniatâd cynllunio at ddiben defnydd bwyty

·         Ei fod yn barod i ystyried y gwrthwynebiadau ac yn croesawu deialog agored i geisio tawelu’r pryderon.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â phryderon sŵn o’r bwyty gan y preswylwyr, cynigiwyd amodau rheoli sŵn gan gynrychiolydd yr ymgeisydd (petai’r drwydded yn cael ei chaniau).

 

 

·         Ni chaiff sŵn na dirgryniad ddeillio o’r eiddo fel ei fod yn tarfu’n afresymol ar bobl sydd yn y cyffiniau

·         Bydd lefel y sŵn wedi’i fwyhau a ddefnyddir mewn cysylltiad â’r adloniant a ddarperir bob amser o dan reolaeth y trwyddedai / rheolwyr a gweithredir y system reoli o ran o’r eiddo nad yw’n hygyrch i’r cyhoedd.

 

Croesawyd yr amodau fel cam rhyngweithiol i hyrwyddo’r amcan o atal niwsans cyhoeddus

 

Ategodd y Rheolwr Trwyddedu nad oedd Gwarchod y Cyhoedd - Iechyd yr Amgylchedd wedi cynnig sylwadau gan nad oeddynt wedi derbyn cwynion / tystiolaeth, ond yn gefnogol i’r amodau sŵn a gynigiwyd.

 

c)            Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar y gwrthwynebiadau i ganiatáu trwydded gan ategu at sylwadau a gyflwynwyd trwy lythyr. Dosbarthwyd lluniau o’r parc i’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd i gynorthwyo gyda’r elfennau dan sylw.

 

Mr Nigel Jackson

·         Nad oedd gwrthwynebiad i’r ymgeisydd gael trwydded, ond yn hytrach gwrthwynebiad i oriau gweithgareddau trwyddedig y cais

·         Bod y lluniau a gyflwynwyd yn gamarweiniol. Er bod y maes parcio yn fawr o ran maint mae’n cael ei ddefnyddio fel ardal storio unedau preswyl neu garafanau

·         Bod angen cysondeb gyda rheolau parc a rheolau’r bwyty.

·         Bod maint y bwyty yn sylweddol fwy na maint y ciosg blaenorol oedd yn cael ei ddefnyddio fel  bar

·         Bod 9 seinydd wedi ei osod ar waliau allanol y bwyty

·         Bod man droseddau ac anrhefn yn digwydd ar y safle ac y gall gynyddu gyda mynediad i’r cyhoedd

·         Bod yr oriau trwyddedig yn annog awyrgylch o yfed a all arwain at broblemau o greu niwsans cyhoeddus. Pryder os na fydd y bwyty yn llwyddo fel bwyty yna hawdd fyddai cynnal bar gyda cherddoriaeth yn unig ar y safle.

·         Y pryder mwyaf yw’r cynnydd mewn cwsmeriaid o du allan i’r Warren all arwain at gynnydd mewn niwsans cyhoeddus, effaith ar yr amgylchedd a defnydd y cyhoedd o’r safle.

 

ch)       Yn manteisio ar ei hawl i siarad, amlygodd Swyddog o’r Heddlu nad oedd gan yr Heddlu dystiolaeth i wrthwynebu’r cais gan mai cais o’r newydd ydoedd. Amlygodd bod 11 digwyddiad wedi cael ei gofnodi ar gyfer The Warren ond nid oeddynt yn gysylltiedig â’r eiddo dan sylw. Ategodd ei fod wedi ymweld â’r safle ac wedi trafod amodau teledu cylch cyfyng gyda’r ymgeisydd.

 

d)            Wrth grynhoi eu hachos nododd yr ymgeisydd sylwadau canlynol;

·         Bod modd trefnu nad yw’r maes parcio yn cael ei ddefnyddio fel storfa

·         Bod y ciosg blaenorol gyda thrwydded hyd at hanner nos

·         Nad oedd bwriad rhedeg y safle fel safle yfed

·         Na fydd mynediad ar ôl 11pm i brynu na gwerthu alcohol

·         Y bwriad yw rhedeg bwyty

·         Bod y cwmni wedi ei sefydlu ers 1935 gyda chysylltiad iach gyda’r gymuned leol - y bwriad yw parhau i gydweithio yn gyfrifol gyda’r gymuned leol.

·         Bod buddsoddiad sylweddol yn cael ei wneud i gynnal a gwella’r parc gwyliau moethus

·         Bod gobaith ymestyn y tymor i 12 mis

·         Bydd y bwyty yn cyflogi hyd at 24 person yn y cyfnodau prysuraf

·         Bod bwriad cynnig profiad da mewn lleoliad arbennig

·         Bod gan y cwmni enw da i’w warchod

 

Mewn ymateb i’r sylw ynglŷn â chydweithio yn gyfrifol amlygodd y gwrthwynebydd bod y cwmni wedi codi’r ffioedd blynyddol ar gyfer adeiladu’r bwyty gyda dealltwriaeth y bydd disgownt ar ddiwedd y cyfnod adeiladu. Nid yw hyn bellach yn gywir ac felly yn enghraifft o weithredu anghyfrifol. Adroddwyd hefyd bod 4 achos o drwydded dros dro wedi ei chaniatáu a bod un o’r digwyddiadau hynny wedi ei cynnal heb drwydded. Dadleuwyd os na all y cwmni gydymffurfio a rheolau trwydded dros dro a ydynt yn haeddiannol o drwydded lawn.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau nododd yr ymgeisydd nad oedd unrhyw dor cyfraith na diffyg cydymffurfio gyda rheolau trwydded dros dro. Ategwyd nad oedd tystiolaeth i gefnogi’r cyhuddiad a bod y sylw felly yn cael ei wrthbrofi. Nododd y Rheolwr Trwyddedu nad oedd unrhyw gwyn wedi dod i law ac y byddai’n chwilio am sicrwydd bod yr ymgeisydd yn cydymffurfio gyda gofynion y drwydded

 

Ymneilltuodd yr ymgeisydd o’r ystafell tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais.

 

dd)       Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor ffurflen gais yr ymgeisydd, sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog          Trwyddedu, yn ogystal â sylwadau llafar cynrychiolydd yr ymgeisydd yn y gwrandawiad.   Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl           ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

 

                      i.        Atal trosedd ac anhrefn

                     ii.        Atal niwsans cyhoeddus

                    iii.        Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                   iv.        Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu y cais 

 

Ystyriwyd nad oedd sylwadau’r Heddlu yn gwrthwynebu’r cais ond yn argymell cynnwys amodau safonol mewn perthynas â Theledu Cylch Cyfyng. Cynigiwyd yr amod hyn er mwyn hyrwyddo’r amcanion trwyddedu o atal trosedd ac anhrefn a chadarnhawyd bod yr ymgeisydd yn gytûn.

 

Nid oedd yr Is-bwyllgor yn gwadu’r posibilrwydd y gallai rhoi’r drwydded arwain at gynnydd mewn cwsmeriaid, gan gynnwys cwsmeriaid o du allan i safle’r Warren. Ni ellir gwadu chwaith y posibilrwydd y gallai rhai o gwsmeriaid droseddu ac ymddwyn yn wrthgymdeithasol, gan danseilio’r amcan o atal trosedd ac anhrefn. Yn yr un modd ni ellid gwadu'r posibilrwydd y gall rhoi’r drwydded arwain at broblemau sŵn a cherddoriaeth uchel gan danseilio’r amcan o atal niwsans cyhoeddus.

 

Fodd bynnag, ni chyflwynwyd tystiolaeth gadarn o’r nifer, dwysedd, amledd o’r digwyddiadau tebygol o droseddu neu gwynion sŵn pe rhoddir y drwydded.  O ganlyniad, anodd yw i’r Is-bwyllgor ragweld os yw’r problmau yn debygol o gyrraedd y rhiniog o gyfri fel problem trosedd ac anhrefn neu “niwsans cyhoeddus” o dan gyfraith gwlad. Nid oedd yr Is-bwyllgor, ar sail y dystiolaeth ddaeth i law yn credu y byddai caniatáu'r drwydded yn debygol o danseilio’r amcanion o atal trosedd ac anhrefn, ac atal niwsans cyhoeddus. Ategwyd y byddai’r amodau rheoli sŵn a gynigiwyd gan yr ymgeisydd yn lleihau unrhyw risg o sŵn yn deillio o’r eiddo.

 

Ymysg y gwrthwynebiadau, amlygwyd bod rheolau yn rhwymo’r preswylfeydd a’r safle’r Warren. Roedd y rheolau hyn yn cynnwys gwahardd sŵn rhwng 23:00 a 08:00 (rheol 19), a gwahardd yfed alcohol yn gyhoeddus (rheol 20). Tra bod yr Is-bwyllgor yn derbyn bodolaeth y rheolau hyn, nid oeddynt yn sail i wrthod y drwydded. Penderfyniad yr Is-bwyllgor yw sicrhau bod oriau a gweithgareddau trwyddedig y drwydded yn gydnaws â’r amcanion trwyddedu. Amlygwyd na all rheolau sydd wedi eu pennu gan drydydd parti, rheolau nad yw’r Is-bwyllgor yn gwybod pa ystyriaeth wrthrychol a roddwyd i amcanion trwyddedu pan gawson nhw eu cyflwyno cael eu hystyried. Ategwyd nad oedd  tystiolaeth wedi dod i law bod bwriad i’r rheolau hyn rwymo’r eiddo ei hun ac fel y nodwyd gan gynrychiolydd yr ymgeisydd, roedd y bwyty dan sylw o natur cwbl wahanol i’r preswylfeydd.

 

Yng nghyd-destun tanseilio’r amcan o sicrhau diogelwch cyhoeddus nid oedd yr Is-bwyllgor wedi derbyn unrhyw dystiolaeth tu hwnt i ddyfalu, y byddai rhoi’r drwydded yn tanseilio’r amcan. Adroddwyd bod gan yr eiddo ganiatâd cynllunio ar gyfer ei ddefnydd bwriedig fel bwyty ac y byddai diogelwch mynediad wedi ei gyfarch fel rhan o’r broses cynllunio. Nodwyd y byddai unrhyw bryderon diogelwch cyhoeddus wedi eu trafod gyda’r Adran Priffyrdd, yr Adran Gynllunio neu’r Heddlu ac roedd diffyg sylwadau'r cyrff hynny yn awgrymu’n gryf na fyddai goblygiadau difrifol i ddiogelwch cyhoeddus. Atgoffwyd yr Aelodau bod cynrychiolydd yr ymgeisydd wedi amlygu’r bwriad o gynyddu capasiti’r maes parcio fyddai yn nhyb yr Is-bwyllgor yn lleihau unrhyw bryderon. 

 

Yn yr un modd, nid oedd  tystiolaeth ddibynadwy wedi dod i law i gefnogi’r ddadl y byddai caniatau y drwydded yn rhoi plant mewn niwed. Unwaith eto, eglurwyd nad gwaith yr Is-bwyllgor oedd dyfalu’r effaith - gellid mesur yr amodau  pan fydd yr eiddo yn weithredol. Os daw cwynion i law bod yr amodau yn aneffeithiol, yna gellid dwyn y drwydded gerbron  Is-bwyllgor o dan gais i wyro neu adolygu’r drwydded. Roedd yr Is-bwyllgor o’r farn bod yr amodau a gynigiwyd gan yr eiddo yn ddigonol i ddiogelu’r amcan o amddiffyn plant rhag niwed. Yn ychwanegol, byddai unrhyw ymgais i brynu alcohol dan-oed yn cael ei gyfarch gan yr eiddo drwy weithredu Cynllun Her 25 yn unol â’r atodlen weithredol a gyflwynwyd gyda’r cais.

 

O dan yr amgylchiadau roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais, gyda’r amodau rheoli sŵn a gyflwynwyd gan yr ymgeisydd yn y gwrandawiad, ynghyd â’r amodau a argymhellwyd gan yr Heddlu, yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol ynghyd a’r hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon o fewn cyfnod 21 diwrnod o dderbyn llythyr y cyfreithiwr.

 

Dogfennau ategol: