Cyflwynwyd gan:Cyng. Dilwyn Morgan
Penderfyniad:
Derbyniwyd a nodwyd
y wybodaeth yn yr adroddiad gan ofyn i’r Prif Weithredwr ystyried y sefyllfa
gyda swyddi sy’n cael eu hariannu o grantiau blynyddol a’r trafferthion y mae
hynny yn ei greu i wasanaethau ac i’r staff eu hunain.
Cofnod:
Cyflwynwyd gan Cyng. Dilwyn Morgan
PENDERFYNIAD
Derbyniwyd a nodwyd y wybodaeth yn yr
adroddiad gan ofyn i’r Prif Weithredwr ystyried y sefyllfa gyda swyddi sy’n
cael eu hariannu o grantiau blynyddol a’r trafferthion y mae hynny yn ei greu i
wasanaethau ac i’r staff eu hunain.
TRAFODAETH
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan nodi ei fod yn adrodd ar waith y Cyngor ac ar y cyfan fod yr
Aelod Cabinet yn hapus ar cynnydd mewn prosiectau. Ychwanegwyd ei bod yn her
i’r adran i wireddu’r cynlluniau arbedion.
Tynnwyd sylw at y
Strategaeth Cefnogi Teuluoedd gan fynegi fod y gwaith o adnabod y galw a mapio
pa gefnogaeth sydd ar gael wedi ei gwblhau. Ategwyd fod yr adran wedi cyflawni
eu rhaglen waith tymor byd, wrth sefydlu Hwb Teulu Gwynedd sy’n rhoi gwybodaeth
am y gefnogaeth sydd ar gael. Amlygwyd blaenoriaeth yr adran am weddill y
flwydd sef i gytuno ar weledigaeth glir gyda’r partneriaid allweddol i er mwyn
sicrhau cyd-gynllunio yn y gwasanaethau i deuluoedd.
Mynegwyd o ran
Perfformiad yr adran fod y trefniadau diogelu yn rhai cadarn. Nodwyd fod
ymestyn gwaith sgrinio teclyn Welcomm yn y maes Blynyddoedd Cynnar yn cael ei
wneud a fydd yn ceisio gwella datblygiadau iaith plentyn. Amlygwyd llwyddiant
cynllun Pontio’r Cenedlaethau ble mae sesiynau wedi eu cynnal rhwng trigolion
cartref gofal Bryn Seiont ynghyd â phlant meithrinfa Plas Pawb. Pwysleisiwyd
fod pryder am gynlluniau sydd yn cael ei ariannu gan grantiau. Ychwanegwyd fyn
aml fod yr arian yn cael ei dderbyn am gyfnod byr ac ei bod yn mynd yn anos i gadw
staff profiadol gan nodi oes modd cael cytundeb tymor hir neu barhaol.
Gofynnwyd am greu darn o waith i ystyried y sefyllfa.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Mynegwyd
bod y nifer swyddi sydd yn cael eu hariannu o grantiau blynyddol yn ei gwneud
yn anodd i gadw staff ac yn creu anesmwythdod blynyddol iddynt. Mae angen anfon neges i Lywodraeth Cymru yn
nodi ein pryderon am y swyddi sy’n cael eu hariannu o grantiau blynyddol.
Gofynnwyd i’r Prif Weithredwr i ystyried y sefyllfa a’r trafferthion mae hynny yn
ei greu i wasanaethau ac i’r staff eu hunain er mwyn gallu cyflwyno tystiolaeth
gadarn i’r Llywodraeth.
¾
Gofynnwyd
am ddiweddariad o waith y Gwasanaeth Ieuenctid o ran gweithio a mudiadau
ieuenctid eraill. Mynegwyd fod gwaith yn cael ei wneud a’r mudiadau ac fod y
ddarpariaeth ieuenctid bellach yn cyrraedd mwy o lefydd ac erioed o’r blaen.
¾
Trafodwyd
sefyllfa ariannol yr adran gan fynegi fod pwysau ariannol i’w gweld ar draws y
wlad. Ychwanegwyd fod nifer y lleoliadau all-sirol yn uwch o’i gymharu a blynyddoedd
diwethaf, ac fod y gost yn uchel. Mynegwyd fod trafodaethau yn cael ei cynnal
er mwyn gweld os oes modd dod a darpariaeth yn nes at adref ar draws rhanbarth
y Gogledd. Yn ychwanegol at hyn mynegwyd fod gwaith yn cael ei wneud a Chyngor
Ynys Môn er mwyn datblygu gwasanaeth i weithio a teuluoedd a drwy hyn lleihau’r
angen am leoliadau all sirol.
Awdur:Morwena Edwards
Dogfennau ategol: