Adroddiad
llafar gan Hefin Owen
Cofnod:
Esboniwyd fod y flwyddyn hon yn flwyddyn unigryw
gan nad oedd Fforwm Cyllideb wedi ei gynnal am fis Hydref gan fod y setliad gan
Lywodraeth Cymru wedi bod yn hwyr. Amlygwyd fod y Cyngor wedi gofyn i holl
adrannau i ddod o hyd i arbedion o hyd at £2miliwn ar draws y Cyngor. Er mwyn
trafod a chraffu’r arbedion hyn esboniwyd fod trafodaethau wedi’u cynnal yn
edrych ar arbedion yr holl adrannau. Esboniwyd fod yr Adran Addysg wedi amlygu
toriadau amrywiol i ysgolion fel un o’r opsiynau ar gyfer dod o hyd i’w targed
arbedion ond fod y Pwyllgor Craffu Addysg ac Economi wedi gwrthod yr opsiwn
hwn. Yn dilyn derbyn y setliad drafft, amlygwyd fod y Cabinet wedi penderfynu
am eleni i beidio gweithredu’r toriadau.
Nodwyd o ran y Strategaeth Ddigidol nad oedd dim
i’w nodi ac nad yw’r toriad yma yn cael ei weithredu bellach. Mynegwyd nad oes
unrhyw ymrwymiad ariannol i ysgolion yn 2020/21. Ychwanegwyd fod rhai wedi
meddwl fod yr arian Cynnal ar gael ar gyfer y strategaeth ddigidol ond mynegwyd
ei fod yn arian ychwanegol. Pwysleisiwyd fod angen trafodaeth bellach ac i
flaen gynllunio ar gyfer y flwyddyn nesaf. Felly nodwyd y bydd y Pennaeth
Technoleg Gwybodaeth yn mynychu’r cyfarfod nesaf.
Mynegwyd fod Llywodraethwyr wedi derbyn
rhagolygon am eleni ac esboniwyd yr addasiadau oedd i’w gweld. Mynegwyd fod
‘Integreiddio arall’ yn cael ei symud i’r canol rhag ofn y bydd mwy o angen am
integreiddio datganiadau. Bydd yr adran yn ymgynghoriad ar opsiynau o beth i
wneud gyda’r arian. O ran gwariant parhaol nodwyd y bydd yr ymatebion yn dod yn
ôl erbyn 2 Mawrth ac yna ym mynd i drafodaeth yn y Cabinet. Eleni, ategwyd, fod
£392,000 yn y canol a thymor y gwanwyn heb ei gyfri eto. Mynegwyd fod llythyr
yn cael ei anfon yn egluro’r sefyllfa.
Amlygwyd y llinell newydd yn y rhagolygon ar
gyfer ADY o ganlyniad i’r datblygiadau sydd yn digwydd. Er hyn pwysleisiwyd fod
angen ei weld cyn gweld clir ei ystyr.
Sylwadau’n codi o’r drafodaeth
¾
Mynegwyd fod angen anfon y llythyr rhagolygon
i’r Ysgolion yn gynt, gan ei fod wedi cyrraedd pnawn cyn y cyfarfod strategol
ac felly buasai ei dderbyn yn gynt yn galluogi trafodaeth o safon uwch.
¾
Trafodwyd ADY gan nodi fod
rhai Penaethiaid yn cael mwy o wybodaeth ac eraill gan fod rhai ar hap yn cael
ei gwahoddi gyfarfodydd. Pwysleisiwyd pwysigrwydd fod pawb yn cael y wybodaeth
mewn digon o amser.
¾
Holwyd os oes bwriad gan yr
adran i drafod ADY gyda’r holl benaethiaid ac Aelodau’r Fforwm gan fod plant yn
cael eu hamlygu yn y datganiad ond fod arian yn cael ei dynnu oddi ar ysgolion
ar gyfer 1:1. Nodwyd y bydd cyflwyniad ar y cyd a chyllid a’r arweinwyr maes i
roi dealltwriaeth a mewnbwn ar sut y bydd yr arian yn cael ei ddefnyddio.
Penderfynwyd:
Derbyn yr adroddiad a gofynnwyd am adroddiad
pellach gyda dadansoddiad ar bapur er mwyn rhoi'r darlun ehangach o waith ADY.