Agenda item

Cyflwyno adroddiad y Prif Weithredwr

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi bod dyletswydd statudol ar y Cyngor i baratoi datganiad polisi tal ac yn unol â chais y Cyngor, roedd disgwyliad i’r Pwyllgor Penodi Prif Swyddogion gynnal adolygiad o gynaliadwyedd y polisi ac i gyflwyno unrhyw argymhellion yn dilyn adolygu’r polisi tâl i’r Cyngor Llawn yn flynyddol.  Adroddwyd nad oedd addasiadau i’r polisi eleni, ond yn unol â chyfansoddiad y Cyngor roedd angen ystyried cynaladwyedd y polisi i’r dyfodol.

 

Amlygodd y Prif Weithredwr gan nad oeddem wedi adolygu cyflogau Penaethiaid y Cyngor ers cryn amser roedd yna berygl i ni syrthio tu ôl i gynghorau eraill yn ddiymwybod i ni ein hunain. O ganlyniad, amlygodd bod bwriad ganddo i gynnal adolygiad o’r cyflogau drwy gymharu cyflogau awdurdodau cyfagos gyda chyflogau cyfatebol mewn sefydliadau eraill yn y sector gyhoeddus. Ategodd y byddai’r adolygiad yn debygol o amlygu’r sefyllfa ynghyd a risgiau posib i’r Cyngor. Byddai’n adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn yn ystod y flwyddyn

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â’r drefn bresennol, nodwyd bod cyflogau Penaethiaid wedi eu gosod yn unol â chyngor a chynllun arfarnu yr Hay Group sydd yn cynghori awdurdodau ar draws y wlad. Nodwyd mai’r anfantais gyda hyn yw bod y gymhariaeth efallai yn rhy eang a bod angen canolbwyntio ar ystyriaethau a chymariaethau lleol.

 

Er nad oedd addasiadau i’r polisi tynnwyd sylw at rai materion.

-       Bod Adolygiad Hutton o Gyflog Teg yn y Sector Gyhoeddus yn argymell cymhareb o ddim mwy na 1:20 rhwng y cyflog uchaf a’r cyflog isaf (llawn-amser). Mae’r gymhareb hon ar hyn o bryd yng Nghyngor Gwynedd yn 1:6.2 a’r gymhareb rhwng canolrif cyflog Prif Swyddogion a’r cyflog isaf yn 1:4.4.

 

Diolchwyd am y cyflwyniad.

 

Mewn ymateb i sylw bod angen adolygu’r cyflogau isel hefyd i sicrhaubalans’, atgoffwyd yr Aelodau bod dau bwynt isaf y cyn-strwythur tâl cenedlaethol wedi eu dileu ac oddi ar y 1af o Ebrill 2019, £9.18ya oedd isafswm cyflog Cyngor Gwynedd. Yn Nhachwedd 2019, cyhoeddodd y Sefydliad Cyflog Byw bod Cyflog Byw yn cynyddu i £9.30ya fyddai’n golygu bod staff Cyngor Gwynedd, gyda chynnydd o 2% oddi ar y 1af o Ebrill 2020, yn derbyn £9.36ya. Amlygwyd bod cynnig ffurfiol o 2% wedi ei wneud gan y cyflogwr eisoes ond bod yr Undebau wedi cyflwyno cais am gynnydd o 10%. Nodwyd bod trafodaethau cenedlaethol yn cael eu cynnal er mwyn ceisio cytundeb.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag adolygiad o’r holl gyflogau staff, adroddwyd bod yr adolygiad tal lleol wedi ei gynnal yn 2008 a bod y gwaith hwnnw wedi gosod seiliau cadarn ar gyfer sicrhau cyflog cyfartal o fewn y Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag adolygiad o’r holl gyflogau staff, adroddwyd bod yr adolygiad diwethaf wedi ei gynnal yn 2008.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â datganiad yn yr adroddiad y byddai’r Cyngor Llawn yn cymeradwyo unrhyw newid i becyn cyflog swydd (cyflog o £100,000 a throsodd) nodwyd nad oedd y ffigwr yn hyblyg gan ei fod yn dilyn arweiniad cenedlaethol, statudol.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â derbyn barn ac argymhelliad gan Panel Annibynnol Cymru ar Gydnabyddiaeth Ariannol wrth i Gynghorau ystyried addasu graddfeydd cyflog prif swyddogion, nodwyd yr angen i gyflwyno awgrymiadau i’r Panel wedi i’r adolygiad ei gwblhau

 

Cynigiwyd ac eiliwyd i dderbyn yr adroddiad a gwneud cais i’r Prif Weithredwr gwblhau’r adolygiad o gyflogau Prif Swyddogionar fyrder’ ac adrodd yn ôl i’r Pwyllgor hwn.

 

 

PENDERFYNWYD DERBYN YR ADRODDIAD YN UNOL Â’R ARGYMHELLIAD.

 

·         Bod y Pwyllgor Penodi  yn cynnig y Datganiad o Bolisi Tâl (drafft) i’r Cyngor

ar Fawrth y 5ed 2020, fel un i’w fabwysiadu ar gyfer 2020 / 21

 

 

Dogfennau ategol: