Cais i newid amod 1 o C14/0061/41/AM ac amod 1 o C18/0249/41/MG er mwyn ymestyn cyfnod cychwyn y gwaith, newid gosodiad a dyluniad y tai bwriedig ynghyd â’r cyfran o unedau fforddiadwy yn y cytundeb 106 cysylltiol
AELOD LLEOL:
CYNGHORYDD ALED EVANS
Cofnod:
Cais i newid amod
1 o C14/0061/41/AM ac amod 1 o C18/0249/41/MG er mwyn ymestyn
cyfnod cychwyn y gwaith, newid gosodiad
a dyluniad y tai bwriedig ynghyd â’r gyfran o unedau
fforddiadwy yn y cytundeb 106 cysylltiol
a) Ymhelaethodd
y Rheolwr Cynllunio ar gefndir y cais
gan egluro bod y cais yn gais
llawn ar gyfer newid amod
1 o ganiatâd cynllunio C14/0061/41/AM
ac amod 1 o ganiatâd
C18/0249/41/MG er mwyn ymestyn cyfnod cychwyn gwaith, newid gosodiad a dyluniad y tai bwriedig ynghyd a’r gyfran
o unedau fforddiadwy yn y Cytundeb 106 cysylltiol. Eglurwyd
bod y caniatâd amlinellol a
chaniatâd materion a gadwyd yn ôl
eisoes wedi eu rhoi o dan
gyfeirnodau C14/0061/41/AM ac C18/0249/41/MG ar gyfer codi
15 tŷ preswyl i gynnwys 5 uned
fforddiadwy. Nodwyd bod y cais gerbron yn
golygu newid gosodiad a dyluniad y tai ynghyd a lleihau’r
gyfran o dai fforddiadwy o 5 i 2.
Eglurwyd bod egwyddor y bwriad wedi ei dderbyn
a’i sefydlu eisoes drwy’r caniatâd
cynllunio amlinellol a materion a gadwyd yn ôl sydd
eisoes wedi eu caniatáu ar
y safle. Nodwyd bod y caniatadau hyn sydd wedi
eu penderfynu yn unol â’r
Cynllun Datblygu Unedol ar y pryd
a’r polisïau eraill perthnasol, yn parhau ar
y safle ac yn sefydlu egwyddor y bwriad gerbron. Mae hyn yn ystyriaeth faterol
cynllunio. Tynnwyd sylw at yr angen i ystyried
os yw’r amgylchiadau
neu’r sefyllfa bolisi cynllunio wedi newid ers
caniatáu’r ceisiadau yma yn wreiddiol,
ac asesu’r newidiadau yn erbyn y polisïau
cyfredol. Erbyn hyn, mae
Cynllun Datblygu Lleol Gwynedd a Môn wedi ei fabwysiadu, ac felly mae newid materol
wedi bod yn y polisïau ers penderfynu
egwyddor y cais amlinellol blaenorol.
Amlygwyd, o dan y Cynllun Datblygu
Lleol, mae’r canran o dai
fforddiadwy yn llai na’r hyn
oedd yn ofynnol
o dan y Cynllun Datblygu Unedol. Er bod y caniatadau blaenorol yn darparu
5 uned fforddiadwy, mae’r bwriad i
ddarparu 2 uned erbyn hyn yn
cydymffurfio â gofynion y polisi cynllunio cyfredol (TAI 15). Eglurwyd bod yr unedau fforddiadwy
wedi eu lleoli
o fewn canol y safle ac yn dai 2 llofft sy’n cydymffurfio â’r angen yn
yr ardal am dai fforddiadwy ac wedi ei gadarnhau
gan Uned Strategol Tai.
Nodwyd bod y bwriad yn cynnig
cymysgedd priodol o 11 tŷ 3 llofft (rhai gydag a heb
fodurdy cysylltiol a maint gerddi gwahanol),
dau dŷ
2 lofft (fforddiadwy) a dau dŷ 4 llofft.
Ategwyd bod hyn yn cynnig mwy
o amrywiaeth o’i gymharu â’r cynllun
blaenorol oedd yn cynnig 11 tŷ
3 llofft, 3 tŷ 4 llofft ac un byngalo
2 lofft. Derbyniwyd cadarnhad gan yr asiant
bod y cymysgedd bwriedig yn seiliedig ar
Asesiad Angen Tai
Gwynedd.
Nodwyd bod materion mwynderau gweledol, mwynderau cyffredinol a phreswyl a materion trafnidiaeth yn dderbyniol. Ategwyd nad
oedd newid yn y cais i
faterion llecynnau agored o werth adloniadol na chyfleusterau
addysgol.
Ystyriwyd bod y datblygiad yn parhau
i gydymffurfio â pholisïau tai cyfredol
a’r canllawiau cynllunio atodol cyfredol sy’n ymwneud
ag Ymrwymiad Cynllunio, Tai
Fforddiadwy a Chymysgedd
Tai.
b) Yn manteisio ar
yr hawl i siarad nododd asiant ar ran yr ymgeisydd y prif bwyntiau canlynol:-
·
Bod gwell cydbwysedd yn y math o dai
·
Nad
oedd gwrthwynebiadau lleol i’r cynllun
·
Cyngor Cymuned yn gefnogol i’r
bwriad
·
Y datblygwr yn lleol ac yn
gyfarwydd â’r pentref
·
Dim effaith ar gynlluniau i
ail agor y dafarn i’r dyfodol – y datblygiad yn gweithio
law yn llaw â hyn
·
Tai fforddiadwy yn dai dwy
lofft yn unol â gofynion Tai Teg ac Adran Tai Cyngor Gwynedd
c) Cynigiwyd ac eiliwyd
i ganiatáu y cais
ch) Yn ystod
y drafodaeth ddilynol nodwyd y prif sylwadau canlynol gan aelodau:
·
Pam bod y cais gwreiddiol yn cynnwys
5 tŷ fforddiadwy ac erbyn hyn wedi
gostwng i 2?
·
A ddylid cyflwyno
cais o’r newydd?
·
Pryder
mai'r ddau dŷ lleiaf yw'r rhai fforddiadwy,
ond derbyn os yw hyn
yn ymateb i’r angen
·
Wrth
adolygu’r Cynllun Datblygu Lleol (2021) dylid ail asesu hyfywdra ardaloedd i geisio gwell canran
tai fforddiadwy
·
Croesawu
bod y datblygwr yn lleol ac yn adnabod
yr ardal
·
Bod y cyfraniad addysgiadol yn ymddangos yn rhy
isel
d) Mewn ymateb
i sylw ynglŷn
â chyfraniad addysgiadol, nodwyd bod y cyfraniad wedi ei selio
ar wybodaeth a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Addysg a gofynion y Canllaw Cynllunio Atodol perthnasol.
dd) O ran cyflwyno cais o’r newydd,
nodwyd bod gan y datblygwr hawl i addasu’r math o dai sy’n cael
eu cynnig. Ategwyd bod y cynllun gerbron yn welliant,
bod nodweddion y dyluniad yn well ac yn
cynnig gwell cymysgedd o dai.
PENDERFYNWYD dirprwyo’r hawl i Bennaeth
Cynorthwyol Adran Amgylchedd i ganiatáu’r cais yn
ddarostyngedig i ddiwygio’r Cytundeb 106 presennol er mwyn
newid y nifer o dai fforddiadwy (heb newid i’r
cyfraniad addysgol) ac i amodau perthnasol
yn ymwneud gyda:
1.
2 flynedd (yn unol â’r
hyn a ofynnir ar y ffurflen gais)
2.
Gorffeniad allanol
3.
Llechi
4.
SUDS
5.
Amodau Priffyrdd
6.
Amodau Dŵr Cymru
7.
Cynllun Goleuo
8.
Tirlunio
9.
Tynnu hawliau dirprwyedig a ganiateir ar gyfer
yr unedau fforddiadwy
Dogfennau ategol: