Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Cemlyn Williams

Penderfyniad:

Cymeradwyo derbyn grant Llywodraeth Cymru er mwyn buddsoddi mewn cyfarpar i ysgolion Gwynedd a chyfarch y gost ‘cynaladwyedd’ o adnewyddu’r cyfarpar mewn blynyddoedd dilynol, gan ofyn am adroddiad pellach a chyflawn ar fabwysiadu’r Strategaeth derfynol gael ei gyflwyno i’r Cabinet cyn gynted a bo modd.

Cofnod:

Cyflwynwyd gan Garem Jackson.  

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwyo derbyn grant Llywodraeth Cymru er mwyn buddsoddi mewn cyfarpar i ysgolion Gwynedd a chyfarch y gost ‘cynaladwyedd’ o adnewyddu’r cyfarpar mewn blynyddoedd dilynol, gan ofyn am adroddiad pellach a chyflawn ar fabwysiadu’r Strategaeth derfynol gael ei gyflwyno i’r Cabinet cyn gynted a bo modd.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi siom yr aelod Cabinet nad oedd yn gallu cyflwyno’r eitem yn y cyfarfod blaenorol gan ei fod yn gais i fuddsoddi yn dyfodol plant a pobl ifanc Gwynedd. Amlygwyd fod y cynllun hwn yn cyd-fynd a’r blaenoriaethau sydd i’w gweld yng Nghynllun y Cyngor.

 

Pwysleisiwyd fod cyfnod y clo diweddar wedi tynnu sylw at pwysigrwydd y defnydd o gyfarpar digidol o fewn y maes addysg ynghyd ac amlygu annhegwch o ran cyfarpar digidol disgyblion. Mynegwyd fod y cynllun hwn yn un arloesol sydd yn rhoi cyfle i roi y ddarpariaeth ‘orau i holl ddisgyblion Gwynedd.

 

Ychwanegodd y Pennaeth Addysg yn ystod y cyfnod clo fod ysgolion wedi goresgyn llawer o broblemau ac ei fod wedi amlygu’r angen am strategaeth ddigidol. Nodwyd fod y cyfnod clo wedi dangos y ffordd ymlaen ac ei fod yn strategaeth hir dymor yn rhoi cefnogaeth i blant a pobl ifanc.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾ Nodwyd fod y cynllun yn un arloesol sydd yn amlygu pwysigrwydd cydraddoldeb i blant sydd heb gyfarpar cyfrifiadurol adref ac sydd wedi gofod defnyddio ffonau symudol neu hen gyfarpar yn ystod y cyfnod clo. Mynegwyd fod hwn yn gais arbennig ymlaen i addysg Gwynedd ac yn falch fod modd gallu buddsoddi i roi arfau effeithiol i athrawon gael cefnogi’r disgyblion.

¾  Holwyd os oes asesiad cydraddoldeb wedi ei wneud ar gyfer yr adroddiad er mwyn sicrhau fod plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau gweld er enghraifft yn cael y cyfarpar maent eu hangen. Nodwyd nad oedd asesiad wedi ei wneud gyda’r adroddiad hwn gan nad oedem yn mabwysiadu’r strategaeth heddiw ond yn hytrach yn caniatáu i ni osod archeb ond y bydd un cael ei wneud pan fydd y strategaeth yn cael ei chyflwyno ar gyfer ei mabwysiadu’n derfynol. Pwysleisiwyd y bydd ymgynghoriadau yn cael ei wneud gyda’r ysgolion i sicrhau fod y cyfarpar yn diwallu anghenion pob plentyn.

¾  Nodwyd fod y buddsoddiad yn un aruthrol a bod angen sicrhau cynaladwyedd i’r cynllun. Amlygwyd angen am ymrwymiad ariannol gan ysgolion.

¾  Dangoswyd cefnogaeth i’r cynllun a'i fod yn gam yn y frwydr yn erbyn tlodi digidol sydd i’w gweld ar draws y sir.

¾  Mynegwyd fod y chwe mis diwethaf wedi bod yn anodd ond nodwyd ei bod yn dda gweld rhywbeth positif a rhoi cyfle i blant y sir.

¾     Nodwyd fod angen i’r penderfyniad angen gweithredu yn syth i sicrhau ei fod yn cadw at amserlen.

 

Awdur:Garem Jackson a Huw Ynyr

Dogfennau ategol: