8.1 Crynodeb £4.3m
8.2 Gwariant cynharol addysg 2015-16
8.3 Crynodeb gwario PTR ac effaith ar warchodaeth
8.4 Modelu gwanioPTR cynradd
8.5 Modelu gwanio PTR ysgolion cynradd unigol
8.6 Modelu gwanio PTR mewn ysgolion uwchradd unigol
Cofnod:
Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Addysg yn amlinellu opsiynau ar gyfer rhannu gweddill y targed arbedion o £3,348,000.
(a) Mynegodd y Cadeirydd wrth y Fforwm, tra’n derbyn bod ysgolion yn colli arian drwy grantiau, effaith demograffi, a.y.b., ei bod yn ofynnol dod i benderfyniad pendant o ystyried bod Gwasanaethau eraill o fewn y Cyngor eisoes wedi cytuno ar eu targedau.
(b) Bu i’r Pennaeth Addysg grynhoi y dadleuon a fu yn flaenorol a bod yr adroddiad gerbron yn cymryd i ystyriaeth cyd-detun Her Gwynedd, y drafodaeth a’r opsiynau ar gyfer rhannu gweddill y targed arbedion rhwng y sector cynradd a’r uwchradd, adborth Estyn ac ystadegau cymharol cenedlaethol. Atgoffwyd bod y Cabinet yn y gorffennol wedi gwarchod buddiannau addysg a bod yr awdurddod yn hynod o dryloyw ac yn hollol agored gyda chynnwys yr opsiynau o fewn yr adroddiad. Rhaid cofio bod yr adran yn cael ei herio yn gorfforaethol.
(c) Diolchwyd i’r Gweithgor Cyllid Addysg am benderfynu ar gynlluniau cytunedig yn y swm o £1,028,000 gyda gweddill yr arbedion o £2,320,00 i’w ddarganfod.
(d) Bod yr argymhelliad gerbron o ffafrio Opsiwn C yn seiliedig ar ddadleuon addysgol ac nad oedd opsiynau A a CH o dan ystyriaeth.
(e) Mewn ymateb i sylw wnaed ynglyn a chynlluniau tymor hir trefniadaeth ysgolion, esboniwyd mai cyfarwyddyd y Cabinet ydoedd targed arbedion o £4.3m i ysgolion ac nad oedd i unrhyw arbediad yn seiliedig o drefniadaeth ysgolion i’w gynnwys o fewn y £4.3m. Pwysleiswyd nad oedd yr is-adeiladedd yn gynaliadwy o fewn y gyllideb sydd ar gael.
(f) Yn ystod y drafodaeth ynglyn â gwireddu gweddill y targed arbedion, amlygwyd y sylwadau isod:
(ff) Mewn ymateb i rai o’r sylwadau uchod, nododd y Pennaeth Addysg:
(g) Yn dilyn cryn drafodaeth, cynigwyd ac eilwyd i gyfaddawdu drwy argymell opsiwn B ar gyfer rhaniad o’r £2,320,000 sy’n weddill o’r targed arbediad i’r ddwy sector yn ddarostyngedig i’r amodau canlynol:
(i) I gadw’r arbedion o £4.3m yn sefydlog dros y tair blynedd nesaf i fyny at 2018
(ii) Bod unrhyw arbedion trefniadaeth pellach yn cyfrannu at yr arbedion ar ol 2018
Cynigwyd gwelliant i’r uchod sef cynnig opsiwn arall rhwng opsiwn toriad B a C a fyddai’n cymryd i ystyriaeth toriad i ysgolion cynradd mawr, a bod mwy o waith yn cael ei gyflawni i gyfarch yr uchod.
Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Addysg werthfawrogiad o gyfaddawd drwy weithredu opsiwn B ac y byddai hyn yn rhoi her i’r Aelod Cabinet Addysg i bwyso ar y Cabinet i gymeradwyo ail-gylchu’r arian yn deillio o drefniadaeth ysgolion i leddfu toriad ysgolion yn 2018/19.
Yn dilyn derbyn ymateb y Pennaeth Addysg, tynnwyd y gwelliant yn ôl.
Gohirwyd y cyfarfod am 10 munud er mwyn rhoi cyflw i’r ddwy sector drafod y cynnig fel amlinellir yn (g) uchod.
Ail-agorwyd y cyfarfod, pleidleiswyd ar y cynnig ac fe’i gariwyd gyda 3 aelod natal eu pleidlais.
Penderfynwyd:
(a) Cyfleu i Gabinet
y Cyngor bod y Fforwm Cyllideb
Ysgolion yn cymeradwyo gweithredu’r gweddill targed arbedion o £3,348,000 fel a ganlyn drwy:
(i)Gadarnhau’r cynlluniau cytunedig gan y Gweithgor Cyllid Addysg yn y swm o £1,028,000
(ii)Rannu gweddill y targed arbedion o £2,320,000 yn unol ag opsiwn
toriad B (£1,642,151 –sector cynradd
a £680,363 – sector uwchradd) yn
ddarostyngedig i’r amodau isod:
·
Cadw’r arbedion o £4.3m yn sefydlog am y 3 blynedd nesaf hyd at 2018
(iii) bod unrhyw arbedion trefniadaeth ysgolion pellach yn cyfrannu at yr arbedion ar
ôl 2018.
(b) Bod y Fforwm Cyllideb Ysgolion yn trafod cyllideb anghenion addysgol arbennig yn ei gyfarfod nesaf ar 20 Ionawr 2016.
Dogfennau ategol: