Agenda item

Ystyried adroddiad y Pennaeth Gwasanaethau Democrataidd.

Penderfyniad:

Bod y pwyllgor craffu yn parhau i bryderu am y sefyllfa, ac felly’n cyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’w ail-ystyried am y rhesymau canlynol:

 

·         Oherwydd sefyllfa COVID a chanllawiau cyfreithiol a pholisïau’r Adran Addysg, nid yw’n bosib’ cynnal cyfarfodydd yn y ffordd arferol, ac mae’n amhosib’ cael cyfarfodydd o gwbl gyda rhai unigolion sydd â diddordeb cryf yn y mater.  Mae hefyd yn amhosib’ cael cyfarfodydd arferol cyhoeddus yn y gymuned i drafod ac ymateb i’r ymgynghoriad.

·         Roedd y Pennaeth i ffwrdd o’i gwaith yn ystod y cyfnod, ac mae’n parhau i fod i ffwrdd.  Gan mai’r pennaeth parhaol sy’n gwybod orau am sefyllfa’r ysgol, byddai parhau gyda’r broses tra mae hi’n parhau i fod i ffwrdd yn annheg i’r ysgol a’r gymuned.

·         Cred rhai na ddylid cau ysgolion bach heb graffu ar y penderfyniad.

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad y Pennaeth Gwasanaeth Democrataidd yn nodi bod y penderfyniad a ganlyn wedi ei alw i mewn i’w graffu yn unol ag Adran 7.25 o Gyfansoddiad y Cyngor:-

 

Eitem 5: Ysgol Abersoch, cyfarfod Cabinet 15.9.20

 

“Rhoddwyd caniatâd i gynnal ymgynghoriad statudol, yn unol â gofynion adran 48 o Ddeddf Safonau a Threfniadaeth Ysgolion (Cymru) 2013, ar y cynnig arfaethedig i gau Ysgol Abersoch ar 31 Awst 2021 a darparu lle i ddisgyblion yn Ysgol Sarn Bach o 1 Medi 2021 ymlaen.”

 

Eglurodd y Cadeirydd y gwnaethpwyd y cais i alw’r penderfyniad i mewn i’w graffu gan y Cynghorwyr Dewi Roberts, Elwyn Jones ac yntau o fewn y gofynion a’r amserlen angenrheidiol.

 

Nodwyd bod y rhesymau dros alw i mewn, sef yr agweddau o’r penderfyniad yr ystyrid y dylid eu craffu, wedi eu nodi fel a ganlyn:

 

“Oherwydd sefyllfa COVID a chanllawiau cyfreithiol a pholisïau’r Adran Addysg, nid yw’n bosib’ cynnal cyfarfodydd yn y ffordd arferol, ac mae’n amhosib’ cael cyfarfodydd o gwbl gyda rhai sydd â diddordeb cryf yn y mater.  Mae hefyd yn amhosib’ cael cyfarfodydd arferol cyhoeddus.  Roedd y Pennaeth i ffwrdd o’i gwaith yn ystod y cyfnod.  Felly, roedd parhau gyda’r broses yn yr amgylchiadau hyn yn annheg i’r ysgol a’r gymuned.  Yn ôl cynrychiolwyr yr ysgol, nid yw hi wedi ei chofrestru fel Ysgol Wledig, a chodwyd cwestiwn pam.  Cred rhai na ddylid cau ysgolion bach heb graffu ar y penderfyniad.”

 

Pwysleisiodd y Cadeirydd ei bod yn bwysig bod y pwyllgor yn ystyried yr agweddau hyn yn unig.  Nid oedd y pwyllgor yn ystyried y mater o symud ymlaen i gau’r ysgol, a mater i’r Cabinet fyddai hynny.

 

Er mwyn cynorthwyo’r pwyllgor i graffu ar y mater yn unol â’r agweddau o’r penderfyniad yr ystyrid y dylid eu craffu, cyflwynwyd y dogfennau isod i’r pwyllgor craffu hefyd:-

 

·         Atodiad 1 – ymateb yr Adran Addysg i’r agweddau o’r penderfyniad yr ystyrid y dylid eu craffu

·         Atodiad 2 – Taflen benderfyniad y Cabinet (Eitem 5, 15.9.20)

·         Atodiad 3 – adroddiad y Cabinet (Eitem 5, 15.9.20)

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, gan dynnu sylw’n benodol at baragraff 3.3 o ymateb yr Adran Addysg oedd yn nodi, er nad oedd Ysgol Abersoch wedi ei dynodi yn Ysgol Wledig at ddibenion y Cod Trefniadaeth Ysgolion 011/2018, bod yr Adran, fel ymarfer da, wedi dilyn proses gyffelyb i’r broses a’r gweithdrefnau sy’n ofynnol mewn perthynas ag Ysgol Wledig wrth ddatblygu’r cynnig arfaethedig ar gyfer ymgynghoriad pellach.

 

Cyflwynodd Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion ymateb yr Adran Addysg, gan ategu rhai o’r manylion a gynhwyswyd yn yr adroddiad.  Nododd:-

 

·         Ei bod yn bwysig nodi y byddai’r broses ymgynghori yn cyfarch gofynion y cod yn llawn, ond dilynwyd trefn ychydig yn wahanol i’r hyn oedd yn ofynnol yn ôl y Cod, drwy gynnal 3 cyfarfod ymgysylltu anffurfiol gyda rhanddeiliaid.

·         Pe byddai gan ysgol lai na 10 disgybl ym mis Ionawr, byddai modd hepgor y broses ymgynghori yn gyfan gwbl a mynd yn syth i rybudd statudol i gau ysgol, ond dymuniad yr Adran yn yr achos hwn oedd ymgynghori’n llawn a gweithredu drwy broses o ymgynghori yn anstatudol yn y lle cyntaf a symud i’r Cabinet wedyn i gael penderfyniad i ymgynghori’n ffurfiol.

·         O ran cyfarfodydd cyhoeddus, roedd y Cod yn glir nad oedd rhaid cynnal cyfarfodydd cyhoeddus, ac y gellid ymgynghori mewn ffyrdd eraill.  Y broses ymgynghori yn syml oedd bod yr Adran yn rhoi cyfle i bobl leol gyflwyno cwestiynau.  Roedd yn rhaid i’r sawl oedd yn ymgynghori gyflwyno yn ysgrifenedig, ac roedd gofyn i bobl oedd yn ymateb i ymgynghoriad wneud hynny yn ysgrifenedig. 

·         O ran prosesau awdurdodau eraill yn ystod y pandemig, roedd nifer wedi ymgynghori ac wedi symud ymlaen gan ddefnyddio’r un cod â Gwynedd, a rhai ohonynt wedi gweithredu yng nghanol y cyfnod clo yn y Gwanwyn, a olygai na fu modd iddynt gynnal unrhyw gyfarfodydd wyneb yn wyneb.

·         Ei bod yn bwysig nodi hefyd y gallai trafodaethau’r pwyllgor ynghylch cynnal neu fethu cynnal cyfarfodydd yn ystod cyfnod clo fel rhan o’r broses ymgynghori gael effaith ar brosiectau eraill, e.e. ysgol newydd Cricieth.  Byddai’r Adran yn dilyn yr un broses o ran yr ysgol honno, a gallai penderfyniad y cyfarfod hwn effeithio ar amserlen y broses o adeiladu’r ysgol newydd honno, a sawl prosiect arall.

·         Bod Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau na fwriedid newid y Cod Trefniadaeth yn sgil COVID, nad oedd angen cynnal ymgynghoriad cyhoeddus, ac mai mater i’r Awdurdod oedd penderfynu beth fyddai’r broses.

·         Bod y trefniadau lleol wedi cynnwys 3 cyfarfod, a chafwyd barn llawer o randdeiliaid ar wahanol gynigion eisoes.

·         Bod dulliau’r Awdurdod wedi’u canmol gan Lywodraeth Cymru ac wedi amlygu bod y Cyngor yn ymgynghori mewn ffordd sy’n cael ei adnabod fel ymarfer da yn genedlaethol.

·         Pe caniateid i’r Adran gynnal ymgynghoriad statudol, byddai cyfle i’r holl randdeiliaid gynnig sylwadau.  Cynigiwyd trefn ychydig yn wahanol y tro hwn, drwy gyfrwng Zoom neu Teams, neu dderbyn sylwadau ysgrifenedig neu ateb cwestiynau dros y ffôn petai raid.

·         Nad penderfyniad yr Awdurdod oedd dynodiad ysgolion gwledig, eithr penderfyniad Llywodraeth Cymru.  Roedd ysgol yn cael ei nodi’n ysgol wledig at ddibenion y rhagdybiaeth yn erbyn ei chau, gan ddefnyddio categorïau gwledig a threfol y Swyddfa Ystadegau Gwladol.  Roedd y Llywodraeth wedi dynodi ysgol oedd wedi’i lleoli mewn pentref gwledig prin ei phoblogaeth, pentref bach iawn neu ardal ynysig arall oedd yn brin ei phoblogaeth, neu mewn pentref bach iawn neu ardal ynysig arall, oedd yn llai prin ei phoblogaeth, fel ysgol wledig.  Roedd hyn yn 17.5% o ysgolion Cymru a tua 40% o ysgolion Gwynedd.

·         Nid oedd hyn yn golygu na fyddai ysgol wledig byth yn cau, ond bod rhaid i’r achos dros ei chau fod yn gryf, a bod pob opsiwn ymarferol arall wedi’u hystyried yn gydwybodol.

·         Bod canlyniad y diffiniadau’n anodd i’w deall ar adegau, ac roedd Ysgolion Sarn Bach, Llanbedrog a Foel Gron, oedd yn amgylchynu Ysgol Abersoch, wedi’u dynodi’n ysgolion gwledig.

·         Bod yr Adran Addysg wedi dewis trin Ysgol Abersoch fel pe byddai’n ysgol wledig, a thrwy hyn, credid nad oedd y statws yn gwneud gwahaniaeth yn y cyd-destun hwn.  Roedd yr Adran wedi dilyn y broses ac wedi rhagdybio yn erbyn cau, gan roi gwrandawiad teg i’r ysgol a’r gymuned.

 

Nododd yr Aelod Lleol ei fod yn awyddus i alw tystion gerbron y pwyllgor, sef Cadeirydd ac Is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Abersoch, gan eu bod mewn gwell sefyllfa nag ef i ymateb i gwestiynau, a’u bod hefyd yn gwirfoddoli ac yn gweithio’n hynod o galed o ran codi safonau yn yr ysgol.

 

Eglurwyd bod gan y pwyllgor craffu'r hawl i alw tystion i gyflwyno tystiolaeth neu ateb cwestiynau gan aelodau’r pwyllgor, ond bod rhaid i hynny fod yn benderfyniad y pwyllgor cyfan.

 

Cynigiwyd y dylid galw ar Gadeirydd ac Is-gadeirydd y Llywodraethwyr i gyflwyno tystiolaeth ac ateb cwestiynau.  Eiliwyd y cynnig gydag ychwanegiad bod hawl i’r tystion holi’r Adran Addysg hefyd, ond eglurwyd nad oedd y rheolau sefydlog a chylch gorchwyl y pwyllgor yn caniatáu i’r tystion holi’r Adran Addysg.

 

PENDERFYNWYD galw ar Gadeirydd ac Is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Abersoch i gyflwyno tystiolaeth ac ateb cwestiynau, ond nid i holi’r Adran Addysg.

 

Croesawyd Margot Jones (Cadeirydd) ac Eifiona Wood (Is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Abersoch) i’r cyfarfod.

 

Mynegodd yr aelod lleol ei dristwch bod y pwyllgor hwn yn trafod cau ysgol, a bod y mater wedi mynd ymlaen i’r Cabinet.  Nododd:-

 

·         Bod Ysgol Abersoch yn hoelen wyth o ran y diwylliant a’r iaith Gymraeg o fewn y pentref.  Roedd yn ysgol lwyddiannus iawn, oedd wedi cael arolwg da gan Estyn, ac roedd yn falch bod y swyddogion yn adnabod llwyddiant yr ysgol.

·         Os oedd y penderfyniad yn mynd i gael effaith ar ysgolion eraill, roedd angen egluro pam yn union fod hynny’n digwydd.

·         Bod canfyddiad ynglŷn â’r niferoedd plant, a’i bod yn amlwg bod y gymuned a’r rhieni a’r llywodraethwyr a’r athrawon i gyd yn dymuno cadw’r ysgol yn agored.

·         Bod ganddo bryder ynglŷn â chywirdeb yr adroddiad a gyflwynwyd i’r Cabinet, a bod y Llywodraethwyr wedi tynnu sylw at 25 camgymeriad yn yr adroddiad.  Er enghraifft, er bod y ‘Crynodeb o Brif Heriau Ysgol Abersoch’ ar dudalen 105 o’r rhaglen yn nodi bod nifer y disgyblion ymysg yr isaf yn y sir a bod y rhagamcanion yn dangos lleihad pellach yn y niferoedd, roedd y tablau ar dudalennau 22 a 38 o’r adroddiad yn awgrymu i’r gwrthwyneb.

·         Ei bod yn syndod nad oedd diffyg statws gwledig yr ysgol wedi’i herio ar adeg yr ymgynghoriad gan Lywodraeth Cymru.

·         Bod yr Adran yn honni nad oedd rhaid cynnal ymgynghoriad, ond bod y Cod yn datgan i’r gwrthwyneb, boed y niferoedd disgyblion islaw 10 neu beidio.

·         Bod rhieni yn gyrru eu plant i dderbyn eu haddysg mewn cymunedau eraill oherwydd yr ansicrwydd ynglŷn â dyfodol yr ysgol.

·         Bod sôn nad oedd rhaid i’r Adran Addysg gynnal cyfarfodydd cyhoeddus, ond nid yr Adran oedd eisiau gwneud hynny, eithr y gymuned, er mwyn derbyn sylwadau gan bawb.

·         Nad oedd gan lawer o bobl gyfrifiadur i fedru ymuno â chyfarfodydd rhithiol, ac o bosib’ y gellid cynnal cyfarfodydd cyhoeddus yn y ffordd arferol ymhen blwyddyn neu ddwy.  Gan hynny, gofynnwyd i’r Cabinet ddal ar y mater am y tro er mwyn gweld sut fyddai’r sefyllfa’n datblygu.

·         Bod y ffaith bod y niferoedd disgyblion wedi cynyddu yn ystod y pandemig yn dangos yr hyder sydd yn yr ysgol hon.

 

Gwahoddwyd y tystion i gyflwyno eu sylwadau.  Nodwyd:-

 

·         Ei bod yn amhosib’ i bawb gael cyfle iawn i drafod gyda’i gilydd.  Ceisiwyd cynnal cyfarfodydd eisoes rhwng llywodraethwyr, staff a’r rhieni, ond, oherwydd rheolau diogelu data, ni fu’n bosib’ cael cyfeiriadau e-bost y rhieni i fedru anfon e-byst atynt. 

·         Er y gwerthfawrogid yr holl waith roedd yr Adran wedi’i wneud, nid dyma’r amser gorau i fwrw ymlaen gyda’r ymgynghoriad.  Ni fyddai’r drefn yn gweithio yn yr un ffordd â chyn COVID, ac roedd yn amhosib’ gweld sut fyddai modd rhoi chwarae teg i bawb.

·         Bod yr ysgol wedi colli ei phennaeth, a’i bod bron yn amhosib’ ateb cwestiynau hebddi.

·         O ran sefyllfa ysgolion gwledig, na ddeellid pam bod Abersoch yn wahanol i Lanbedrog.

·         Mai ond ar y munud diwethaf y cawsant glywed yn ffurfiol eu bod yn cael dod i’r pwyllgor hwn, a bod hyn eto’n enghraifft o’r ffordd roedd yr ysgol a’r llywodraethwyr yn teimlo eu bod yn cael eu trin drwy’r holl broses, gydag ymdeimlad mai ychydig iawn o barch yn cael ei ddangos tuag atynt.

·         Y bu’r misoedd diwethaf yn gyfnod anodd iawn i’r ysgol.  Collwyd y pennaeth am gyfnod, ond er hynny, derbyniwyd 5 disgybl newydd i’r ysgol ym Medi.

·         Ers i’r broses gychwyn ym Medi'r llynedd, sefydlwyd Cylch Meithrin ar safle’r ysgol.  Byddai hynny’n arwain, maes o law, at gynnydd yn nifer y plant fyddai’n dod i’r ysgol, ond nid oedd rhagamcanion yr Adran Addysg yn cymryd hyn i ystyriaeth.

·         Bod yna nifer o ddatganiadau camarweiniol yn adroddiad yr Adran Addysg i’r Cabinet.

·         Y bu’r broses yn broblemus cyn COVID hyd yn oed.  Ni dderbyniwyd y dogfennau ar gyfer y 3 cyfarfod anffurfiol tan ar ôl y cyfarfodydd hynny, gyda chais am ymateb o fewn amserlen dynn iawn.  Nodwyd hefyd nad oedd llythyr a anfonwyd at yr Adran Addysg ar 24 Ionawr wedi’i ateb tan 8 Medi.

·         Nad oedd cynnal cyfarfodydd rhithiol yn gweithio yn eu profiad hwy a chyfeiriwyd at gyfarfod diwethaf y llywodraethwyr lle'r oedd 60% wedi methu ymuno oherwydd anawsterau gyda’r dechnoleg.

·         Nad oedd y llywodraethwyr yn cael mynd i mewn i’r ysgol i gyfarfod y staff wyneb yn wyneb.

·         Bod yna ymdeimlad bod yr holl broses yn gamarweiniol, yn annheg ac yn annemocrataidd.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol a’r tystion, nododd yr Aelod Cabinet:-

 

·         Y soniwyd am ysgolion eraill oedd ar radar yr Awdurdod, ond bod y Cyngor wedi mabwysiadu egwyddorion cyn belled ag roedd ysgolion yn y cwestiwn, sef dim mwy na 2 ddosbarth 2 oedran mewn un dosbarth a bod 80% o amser y pennaeth yn cael ei ddefnyddio i arwain yr ysgol.

·         Ei fod yn siomedig bod y siaradwyr yn sôn am ddiffyg parch.  Roedd wedi mynychu’r cyfarfodydd anffurfiol, ac roedd yn siŵr bod yr Awdurdod yn barchus o bawb oedd yn ymwneud â’r broses, ac yn gwerthfawrogi eu sefyllfa.

·         Y cytunai efallai bod angen gwneud mwy o waith herio’r Llywodraeth o ran eu dynodiadau o ysgolion gwledig.

·         Y cydnabyddid bod y broses o ymgynghori yn rhwystredig yng nghanol pandemig.  Esboniodd fod y Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion, wrth gyfeirio at gynlluniau eraill allai gael eu heffeithio, yn sôn am gynlluniau ôl-16, ayb, fwy nag ysgolion oedd yn cau.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol a’r tystion, nododd Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion:-

 

·         Os oedd yna gwestiynau ynglŷn â chywirdeb yr adroddiad, mai pwrpas yr ymgynghoriad oedd rhoi cyfle i gyflwyno sylwadau ynglŷn â hynny.

·         Bod y Tîm Prosiect, drwy gydol y cyfarfodydd, wedi bod yn barchus o bawb a’r amserlen, a bod digonedd o amser wedi’i roi i’r rhanddeiliaid ymateb.

·         Gan fod pennaeth yr ysgol i ffwrdd, bu oedi cyn mynd â’r mater gerbron y Cabinet, ac roedd hynny hefyd yn arwydd o barch.

·         Bod yr ysgol wedi derbyn pob cefnogaeth gan yr Adran, fel unrhyw ysgol arall.

 

Mewn ymateb i gais am eglurhad o natur a threfn y cyfarfodydd, nododd Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion:-

 

·         Fod y broses yn broses y bu i’r Adran ddewis ei dilyn, nid oedd rheidrwydd ar yr Adran i’w dilyn.

·         Y cynhaliwyd tri chyfarfod, gyda’r cyntaf yn egluro’r her, yr ail i gasglu syniadau ac awgrymiadau ar sut i wella’r sefyllfa a’r trydydd i egluro beth oedd yr opsiynau roedd yr Adran yn eu ffafrio.

 

Mewn ymateb i eglurhad y Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion, nododd Is-gadeirydd Llywodraethwyr Ysgol Abersoch mai ond tri chwarter awr a amserlenwyd ar gyfer y trydydd cyfarfod, ac nad oedd hynny’n ddigon da.  Mewn ymateb i’r sylw hwn, eglurodd Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion:-

 

·         Nad oedd hynny’n gywir, ac y bu i’r cyfarfod fynd ymlaen am dros ddwy awr, er mai ond tri chwarter awr oedd wedi ei amserlennu.

·         Mai pwrpas y cyfarfod i fod oedd adrodd yn ôl ar opsiynau ffafredig, ond fe fu i’r cyfarfod esblygu i drafodaeth.

 

Nododd aelod:-

·         Bod cod y Gweinidog Addysg ynglŷn â chau ysgolion bach a gwledig yn datgan y dylid rhagdybio yn erbyn cau, ac y dylai ysgolion gael gwrandawiad teg.

·         Na ddylai’r Llywodraeth na’r Cyngor amddifadu cymunedau o’u hysgolion.  Dylai’r penderfyniad ddod gan y gymuned eu hunain, ac roedd cymuned Abersoch yn dymuno cadw eu hysgol.

·         Bod dechrau ymgynghoriad sy’n ffafrio opsiwn o gau yn groes i’r cod.

·         Bod y ffaith nad ydi’r ysgol wedi ei dynodi’n Ysgol Wledig yn codi cwestiynau dyrys a pherthnasol, o gofio bod ysgolion mewn nifer o gymunedau sydd â phoblogaeth uwch nag Abersoch yn y categori Ysgolion Gwledig.

·         Gan fod Ysgol Abersoch yn darparu ar gyfer yr oedran hyd at 8 oed yn unig, ac felly’n hanner ysgol i bob pwrpas, mai’r ffigur 21, yn hytrach na 42, ddylai fod yn berthnasol wrth gyfeirio at gapasiti’r ysgol.

·         Bod pob ysgol Gymraeg wledig yn cael cyfnodau o lanw a thrai.

·         Bod ganddo bryder ynglŷn â’r bwriad i ofyn am farn disgyblion Ysgol Abersoch ac Ysgol Sarn Bach oherwydd y gallai hynny greu drwgdeimlad rhwng pentrefi, ysgolion, rhieni a phlant.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol a’r tystion, nododd y Pennaeth Addysg:-

 

·         Ei fod yntau’n siomedig o fod wedi derbyn barn bod y broses anffurfiol wedi bod yn amharchus o’r gymuned leol, ac mai’r gwrthwyneb oedd yn wir.

·         O ran statws Ysgol Wledig, bod rhai o’r dadleuon yn amherthnasol gan fod yr Adran yn defnyddio prosesau tebyg i’r rhai fyddai’n cael eu defnyddio ar gyfer Ysgol Wledig yn yr achos hwn, a hynny’n fwriadol, er mwyn bod yn dryloyw.

·         Mai Pwyllgor Ystadegol Llywodraeth Cymru oedd yn dynodi ysgolion gwledig, ac nad oedd gan y Cyngor ddylanwad o gwbl yn hyn o beth.

 

Nododd yr aelod lleol ymhellach:-

 

·         Ers colli’r pennaeth, bod y staff dros dro wedi bod yn gefnogol iawn i’r ysgol, a diolchwyd i Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion a’r Adran am eu gwaith.

·         Ei fod yn destun pryder iddo fod modd cau ysgol fach wledig heb graffu ar y penderfyniad, ac efallai bod lle i edrych ar hyn ar wahân.

·         Na chytunai mai mater i’r Llywodraeth oedd dynodi ysgolion gwledig a bod ganddo dystiolaeth bod y Llywodraeth wedi ymgynghori deirgwaith â’r Cyngor ar hyn, ac wedi derbyn mewnbwn i’r broses gan y Cyngor.

·         Nad oedd, fel aelod lleol, yn hyderus bod yr ymgynghoriad yn mynd i fod yn un teg a chyflawn, fyddai’n cynnwys pawb yn y gymuned.

·         Y credai ei bod yn wirioneddol bwysig bod y mater hwn yn mynd yn ôl i’r Cabinet, neu, gan fod y drafodaeth yn cynnwys ysgolion eraill, i’r Cyngor llawn, a bod y Cyngor yn gyrru’r mater yn ôl i’r Cabinet ail-edrych arno.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r aelod lleol, nododd y Pennaeth Addysg:-

 

·         Bod y sefyllfa o ran ysgolion gwledig wedi’i egluro, ond bod hynny’n amherthnasol beth bynnag, gan fod y Cyngor yn dilyn prosesau cyffelyb er mwyn bod yn deg a thryloyw gyda’r gymuned leol.

·         O ran craffu ar benderfyniadau i gau ysgolion bach, bod yr Adran yn dilyn yr egwyddorion a fabwysiadwyd gan y Cyngor llawn, a’i bod yn gamarweiniol awgrymu bod gan yr Adran restr o ysgolion ar eu radar.

 

Nododd aelodau:-

 

·         Ei bod yn sefyllfa anodd, ond na theimlid bod yna wir gydnabyddiaeth o waith pawb i gadw pethau i fynd drwy gyfnod mor anodd.

·         Bod yr awgrym y gallai oedi’r broses hon effeithio ar ysgol newydd Cricieth yn amherthnasol, gan fod hynny’n fater cwbl wahanol.

·         Bod ymgyrch y rhieni, y llywodraethwyr, yr aelod lleol, ac eraill yn y gymuned yn arwrol, a bod cyflwyniad Cadeirydd ac Is-gadeirydd y Llywodraethwyr i’r pwyllgor hwn wedi bod yn gwbl ddiffuant.

·         Gan y deellid y byddai’n rhaid i unrhyw gyfeirio’n ôl i’r Cabinet ddigwydd o fewn 15 diwrnod i ddyddiad y pwyllgor hwn, opsiwn arall fyddai ei gyfeirio i’r Cyngor llawn ym mis Rhagfyr, fyddai’n caniatáu mwy o amser i gasglu rhagor o dystiolaeth.

 

Ar bwynt o eglurhad ynglŷn â’r sefyllfa mewn perthynas ag ysgolion eraill, nododd yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) fod rhaid dilyn trefn statudol ar gyfer mathau penodol o gynigion yn ymwneud ag ysgolion.  Yr un oedd y broses yn gyffredinol ar gyfer cau, ymestyn neu agor ysgol, er enghraifft.  Fel canlyniad, roedd unrhyw bryderon ynglŷn â chynnal y broses yn yr achos hwn yn berthnasol i gynigion statudol arfaethedig eraill gan y byddai’n rhaid cynnal ymgynghoriadau mewn perthynas â’r rhai hynny hefyd.

 

Cynigiwyd ac eiliwyd y dylid gohirio’r ymgynghoriad nes bod yr argyfwng COVID wedi’i leddfu, statws gwledig yr ysgol wedi’i gadarnhau a sefyllfa’r pennaeth wedi’i ddatrys.

 

Eglurodd yr Uwch Gyfreithiwr (Corfforaethol) fod cynnig o’r fath yn rhy benagored o safbwynt amseriad ac amodau.

 

Yn wyneb hynny, ail-eiriodd y cynigydd ei gynnig i gyfeirio’r mater i’r Cyngor llawn gydag argymhelliad y dylid gohirio’r ymgynghoriad nes bod yr argyfwng COVID wedi’i leddfu, statws gwledig yr ysgol wedi’i gadarnhau a sefyllfa’r pennaeth wedi’i ddatrys.

 

Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Addysg:-

 

·         Nad oedd yn glir beth oedd dymuniad y cynigydd o ran sefyllfa’r pennaeth, gan fod y Corff Llywodraethol wedi penodi pennaeth gweithredol gyda chymorth yr Adran Addysg.

·         O ran cadarnhau statws gwledig yr ysgol, bod yr esboniad wedi’i roi, ac nad oedd Llywodraeth Cymru wedi dynodi’r ysgol yn Ysgol Wledig.

 

Nododd aelod y dylai’r mater fynd yn ôl i’r Cabinet, am y rhesymau a gyflwynwyd dros alw’r mater i’w mewn i’r pwyllgor craffu, ac eithrio’r rheswm ynglŷn â chofrestru fel Ysgol Wledig, gan fod hynny wedi’i esbonio’n llawn.  Roedd barn y pwyllgor wedi’i fynegi’n glir, ac ni chredai fod diben aros tan fis Rhagfyr pan fydd y Cyngor llawn yn cyfarfod nesaf.

 

Mynegodd yr aelod lleol ei gefnogaeth i’r cynnig i gyfeirio’r mater i’r Cyngor llawn ar y sail bod hwn yn fater perthnasol i bob aelod o’r Cyngor ac y byddai’n dda o beth i’r Cabinet gael gweld beth yw barn bob cynghorydd yn y sir ar y mater.

 

Mewn ymateb i sylwadau’r Pennaeth Addysg, nododd y cynigydd:-

 

·         O ran statws gwledig, ei bod yn amlwg bod yna wahaniaeth barn ar y mater, gan fod Llywodraeth Cymru’n a Chyngor Gwynedd yn beio’r naill a’r llall.

·         Nad oedd yn dadlau cymhwysedd y pennaeth gweithredol.

 

Ar bwynt o eglurhad pellach ynglŷn â statws Ysgol Wledig, nododd Swyddog Addysg Ardal Dwyfor / Meirion fod ymgynghoriad y Llywodraeth, yn un cenedlaethol ar statws ysgolion bach a gwledig, oedd yn gofyn barn yr Awdurdod ar 8 categori o ysgol.  Ymatebwyd ar y pryd ar ran yr Awdurdod, ond nid oedd yn wybyddus i’r Awdurdod pa ysgolion y cyfeirid atynt.  Nid oedd yna unrhyw amryfusedd o gwmpas y statws.  Nid oedd Ysgol Abersoch yn ffitio i mewn i’r categori, ac roedd y broses ymgynghori wedi digwydd 4 blynedd yn ôl.

 

Cynigwyd ac eiliwyd gwelliant bod y pwyllgor craffu yn parhau i bryderu am y sefyllfa, ac felly’n cyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’w ail-ystyried am y rhesymau canlynol:-

·         Oherwydd sefyllfa COVID a chanllawiau cyfreithiol a pholisïau’r Adran Addysg, nid yw’n bosib’ cynnal cyfarfodydd yn y ffordd arferol, ac mae’n amhosib’ cael cyfarfodydd o gwbl gyda rhai unigolion sydd â diddordeb cryf yn y mater.  Mae hefyd yn amhosib’ cael cyfarfodydd arferol cyhoeddus yn y gymuned i drafod ac ymateb i’r ymgynghoriad.

·         Roedd y Pennaeth i ffwrdd o’i gwaith yn ystod y cyfnod, ac mae’n parhau i fod i ffwrdd.  Gan mai’r pennaeth parhaol sy’n gwybod orau am sefyllfa’r ysgol, byddai parhau gyda’r broses tra mae hi’n parhau i fod i ffwrdd yn annheg i’r ysgol a’r gymuned.

·         Cred rhai na ddylid cau ysgolion bach heb graffu ar y penderfyniad.

 

Pleidleisiwyd ar y gwelliant ac fe gariodd.  Gan i’r gwelliant gario, cymerodd le’r cynnig gwreiddiol.  Pleidleisiwyd ar y cynnig wedi’i wella ac fe gariodd.

 

PENDERFYNWYD bod y pwyllgor craffu yn parhau i bryderu am y sefyllfa, ac felly’n cyfeirio’r mater yn ôl i’r Cabinet i’w ail-ystyried am y rhesymau canlynol:

 

·         Oherwydd sefyllfa COVID a chanllawiau cyfreithiol a pholisïau’r Adran Addysg, nid yw’n bosib’ cynnal cyfarfodydd yn y ffordd arferol, ac mae’n amhosib’ cael cyfarfodydd o gwbl gyda rhai unigolion sydd â diddordeb cryf yn y mater.  Mae hefyd yn amhosib’ cael cyfarfodydd arferol cyhoeddus yn y gymuned i drafod ac ymateb i’r ymgynghoriad.

·         Roedd y Pennaeth i ffwrdd o’i gwaith yn ystod y cyfnod, ac mae’n parhau i fod i ffwrdd.  Gan mai’r pennaeth parhaol sy’n gwybod orau am sefyllfa’r ysgol, byddai parhau gyda’r broses tra mae hi’n parhau i fod i ffwrdd yn annheg i’r ysgol a’r gymuned.

·         Cred rhai na ddylid cau ysgolion bach heb graffu ar y penderfyniad.

 

 

Dogfennau ategol: