AELOD CABINET: Cynghorydd Gareth W Griffith
I ystyried
yr adroddiad.
Penderfyniad:
Cofnod:
Cyflwynwyd yr
adroddiad gan y Rheolwr Cefn Gwlad ac amlinellwyd y gwaith sydd wedi bod ar y
gweill. Ategodd mai nod y cynllun yw sicrhau bod mynediad hygyrch a diogel i
bobl ddefnyddio llwybrau yn y cefn gwlad, mannau gwyrdd ac yr arfordir.
Gofynnwyd am farn y pwyllgor craffu ar gynnwys yr adolygiad diweddaraf.
Rhoddwyd trosolwg
o’r tri phrif bennawd sydd wedi ei hymgorffori yn y cynllun;
1) Cynnal a rheoli rhwydwaith -
nodwyd bod angen cyfarch mathau gwahanol o ddefnyddwyr, fodd bynnag rhoddir
blaenoriaeth i lwybrau sydd mewn categorïau 1 a 2.
2) Y map a datganiad swyddogol -
Eglurwyd y gellir cyfeirio yn ôl at hyn os bydd achos neu anghydfod ynghylch
statws neu fodolaeth llwybr.
3) Asesu a chwrdd ag anghenion defnyddwyr
- Nodwyd bod mwy o alw am lwybrau aml-ddefnydd wedi bod yn ystod y cyfnod clo
gyda mwy yn aros yn lleol. Eglurwyd bod y lonydd las yn caniatáu'r math yma o
ddefnydd i raddau.
Eglurwyd bod
gwahaniaeth o gymharu â’r cynllun blaenorol yn nodedig yw’r absenoldeb o
raglenni gwaith manwl. Yn eu lle, nodwyd bod rhaglenni gwaith blynyddol neu bob
dwy flynedd yn cael eu paratoi. Nodwyd bod y cynllun yn cydblethu efo
polisïau’r Cyngor, Llywodraeth Cymru a Cyfoeth Naturiol Cymru.
Cyn agor y
drafodaeth allan i’r pwyllgor, gofynnwyd i’r aelodau ystyried a yw’r adroddiad
yn cyfleu beth yw, yn eu barn hwy, dyheadau a gofynion pobl Gwynedd, o ystyried
mynediad hygyrch i’r cefn gwlad.
Yn ystod y
drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau canlynol gan aelodau:-
- Diolchwyd am yr adroddiad
ddrafft a chychwynnwyd y drafodaeth drwy holi pa ddulliau sydd wedi eu
defnyddio er mwyn asesu hygyrchedd i bobl anabl gan fod gymaint o amrywiaeth
mewn anghenion. Yn ychwanegol, gofynnwyd oes oedd ymgynghoriad gyda mudiadau
anabledd wedi digwydd fel rhan o’r cynllun.
- Rhoddwyd sylw ar y
posibilrwydd o raddio hygyrchedd y gwanhaol llwybrau er mwyn i drigolion
gynllunio eu bod yn defnyddio llwybrau priodol sy’n cyfarch eu hanghenion.
- Trafodwyd os oedd pryder o
golli llwybrau mewn categorïau is sydd ddim yn derbyn arian rheolaidd fel
categorïau 1 neu 2.
- Nodwyd bod rhai tirfeddianwyr
yn gwrthod derbyn bod llwybr cyhoeddus ar eu tir. Ategwyd hyn a nodwyd bod
rhwystrau megis ffensiau yn amharu ar rhai llwybrau oherwydd hyn.
- Trafodwyd y posibilrwydd o
arwyddion clir er mwyn dangos y ffordd gywir i gerddwyr neu ddefnyddwyr, gan
fod rhai llwybrau yn amwys.
- Tynnwyd sylw’r pwyllgor at
gyflwr y llwybr ger yr Eglwys ym Mhistyll.
- Cyfeiriwyd at bwysigrwydd yr
adroddiad canlynol, gan bwysleisio bod pawb yn cael budd o’r llwybrau.
- Eglurwyd bod gan rhai trefi
neu gymunedau sawl llwybr i gynnal a chadw a gofynnwyd pwy sy’n cyllido'r
rhain.
Mewn ymateb i’r
sylwadau, nododd y Rheolwr Cefn Gwlad y pwyntiau isod:-
- Sicrhawyd y pwyllgor bod ymgynghoriad
eisoes wedi digwydd ynghylch hygyrchedd i bobl ag anableddau. Ategwyd at hyn
gan nodi bod Swyddog Anabledd y Cyngor wedi cydweithio gyda’r adran.
- Cydnabuwyd ei bod yn anodd
cwrdd ag anghenion bawb ac asesu bob llwybr, fodd bynnag cyfeiriwyd at yr
egwyddor gyffredin o leihau rhwystrau a chaiff hyn ei wneud hynny ag sy’n
bosib.
- Nodwyd mai un o amcanion a
chamau gweithredu yw datblygu gwybodaeth sylfaenol o gyflwr y rhwydwaith.
- Mewn ymateb i bryderon
ynghylch colli llwybrau, nodwyd bod y categorïau isaf yn cynnwys llwybrau sydd
bellach ddim mewn defnydd, fodd bynnag nid ydynt wedi eu colli’n gyfreithiol.
Ategwyd ei fod yn broses hir i ildio meddiant llwybr.
- Ynghylch y llwybr ger Eglwys
ym Mhistyll, nodwyd y byddai’r gwasanaeth priodol yn cael eu hysbysu am hyn.
- Ynghylch cynnal a chadw o
fewn cymunedau a threfi, nodwyd bod y Cyngor yn cyfrannu tuag at hyn a bod
posib ceisio am grantiau allanol. Ategwyd bod swyddogion cyswllt yn gweithio er
mwyn adnabod grantiau lleol er defnydd i gynnal a chadw llwybrau.
PENDERFYNWYD
· Derbyn y cynllun drafft gan nodi’r sylwadau a wnaed yn ystod
y cyfarfod i’w hymgorffori yn y ddogfen er ymgynghoriad cyhoeddus.
Dogfennau ategol: