Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng Dyfrig Siencyn

Penderfyniad:

¾  Cadarnhawyd y Cynllun Busnes Cyffredinol yn ffurfiol ac yn argymell i’r Cyngor ei gymeradwyo fel y ddogfen sy'n gosod y trefniadau ar gyfer cyflawni Cynllun Twf Gogledd Cymru fel sail ar gyfer ymrwymo i'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

¾  Cadarnhawyd y darpariaethau yng Nghytundeb Llywodraethu 2 sy’n ymwneud â swyddogaethau gweithredol yn ffurfiol ac yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r darpariaethau sy’n ymwneud â swyddogaethau anweithredol a’i fod (y Cabinet) yn benodol yn mabwysiadu'r dirprwyaethau a'r Cylch Gorchwyl yn “Cytundeb Llywodraethu 2: Atodiad 1” ohono fel sail ar gyfer cwblhau'r Cytundeb Terfynol a derbyn y Llythyr Cynnig Grant gyda Llywodraethau'r DU a Chymru.

¾  Yn ddarostyngedig i gwblhau Cytundeb Llywodraethu 2, bod Cyngor Gwynedd yn cytuno i weithredu fel yr Awdurdod Lletya a’r Corff Atebol ac yn llofnodi'r llythyr Cynnig Cyllid Grant ar ran y Partneriaid drwy law'r Prif Swyddog Cyllid.

¾  Cadarnhawyd ffurfiol ac yn argymell bod y Cyngor yn cymeradwyo’r dull a ddefnyddir i gyfrifo cost benthyca sydd ei angen mewn egwyddor i hwyluso'r llif arian negyddol ar gyfer y Cynllun Twf, ac i gynnwys darpariaeth o fewn Cyllideb y Cyngor i dalu’r cyfraniad hwn a'r cyfraniadau craidd ac atodol sydd wedi’u sefydlu fel sydd wedi'i nodi yn GA2 

¾  Bod y Prif Weithredwr mewn ymgynghoriad â'r Arweinydd, y Swyddog Monitro a'r Swyddog Adran 151, yn derbyn awdurdod dirprwyedig i gytuno ar fân newidiadau i'r dogfennau gyda'r Partneriaid fel sydd angen i gwblhau'r cytundeb.

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dyfrig Siencyn.

PENDERFYNIAD

TRAFODAETH

Cyflwynwyd yr adroddiad gnan odi fod yr adroddiad yn benllanw 3 blynedd o waith cael ar y Cynllun Twf. Diolchwyd i’r tîm rhaglen am weithio yn galed i greu'r dogfennau a’r cynlluniau busnes er mwyn cwblhau’r Cytundeb Terfynol.

Amlygodd y Rheolwr Rhaglen prif nod y Cynllun Twf sef i adeiladu economi bywiog, cynaliadwy a gwydn yn y Gogledd. Mynegwyd y bydd y dulliau gweithredu yn cyflawni twf mewn ffordd gynhwysol gynaliadwy y gellir eu hymestyn unol a Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol. Pwysleisiwyd y ffynonellau ariannu a oedd yn cynnwys buddsoddiad gan y Sector Breifat a’r Sector Gyhoeddus.

Tynnwyd sylw ar y buddion rhanbarthol o Gynllun Twf a oedd yn cynnwys twf mewn ffyniant rhanbarthol a chreu swyddi o ansawdd gwell ar gyfer y farchnad lafur. Pwysleisiwyd y buddion a fydd i Wynedd yn benodol a oedd yn cynnwys gwella cysylltedd digidol ar gyfer busnesau, trigolion ac ymwelwyr, mynediad at ymchwil arloesol a chefnogaeth gyda thechnegau ffermio cynaliadwy, buddsoddiad £20m yn isadeiledd safle Trawsfynydd a chyfleodd i ddatblygu safleoedd strategol fel rhan o’r rhaglen Tir ac Eiddo hirdymor.

Amlygwyd y Cynllun Busnes Cyffredinol gan bwysleisio ei fod yn gosod allan y trefniadau ar gyfer gweithredu Cynllun Twf Gogledd Cymru, gan gynnwys trosolwg o’r rhaglenni a phrosiectau er mwyn cael cymeradwyaeth pob partner i’r gofynion Ariannol ar gyfer gweithredu’r cynllun. Ychwanegwyd fod y Swyddfa Rhaglen wedi ymgynghori gyda Llywodraeth y Du a Chymru drwy’r broes o  ddatblygu’r dogfennau.

O ran y Cytundeb Terfynol, nodwyd ei fod yn gytundeb a grëwyd ar y cyd rhwng y Bwrdd Uchelgais a’r ddwy Lywodraeth. Pwysleisiwyd mai drafft sydd ar hyn o bryd a'i fod yn parhau i gael ei addasu dros yw wythnosau nesaf. Nodwyd fod y swyddfa raglen wedi bod yn gweithio yn ddiwyd ar y dogfennau perthnasol, ac y bydd y cytundeb Terfynol yn cael ei ddiogelu ar sail Achos Busnes Portffolio ac 5 Achos Busnes Rhaglen.

Nododd y Pennaeth Cyfreithiol fod Cytundeb Llywodraethu 2 yn mynd a’r bartneriaeth i'r cyfnod gweithredu ar gyfer y Cynllun Twf. Ychwanegwyd fod y parhau a’r model llywodraethu a fabwysiadwyd yn GA1, sef Cydbwyllgor a gefnogir gan awdurdod lletya ac yn darparu ar gyfer ymrwymiadau a chyfrifoldebau’r Partneriaid a’r bartneriaeth. Tynnwyd sylw a threfniadau gan amlygu y bydd y gwaith craffu yn cael ei rannu rhwng y 6 awdurdod lleol i ysgwyddo’r baich.

Mynegodd y Pennaeth cyllid bwysigrwydd GA2 yn hanfodol ar gyfer corf atebol. Amlinellwyd yr Incwm a Gwariant gan nodi fod y proffil gwario dros tua 6 mlynedd, ac ariannu’r llywodraethau yn gyfartal dros 15 mlynedd, felly y bydd y gost o ariannu’r llif arian negyddol.  Er hyn, nodwyd  fod yr awdurdod lletya am hwyluso hynny i’r partneriaid ac wedi gwneud rhagdybiaethau rhesymol cyn lledaenu’r gost yn gyfartal dros 15 mlynedd y cynllun, er mwyn cynnig cost flynyddol gyraeddadwy. Ategwyd y bydd hyn yn ymrwymo’r partneriaid i’r Cynllun Twf am 15 mlynedd.

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾  Diolchwyd am y gwaith a chroesawyd yr arian ar gyfer Parc Glyn Cegin ym Mangor. Holwyd o ran cysylltiad we ffibr i gwmnïau os bydd yn cael ei ddatblygu ar gyfer holl drigolion Gwynedd. Mynegwyd fod gwaith mapio wedi ei wneud i weld ble nad oes ffibr ar gael gan nodi bydd yr ardaloedd yma yn cael ei dargedu gan y cynllun twf.

¾  Holwyd o ran cael cyfraniad gan y ddwy Lywodraeth ac os yw hyn yn golygu fod y cynllun yn atebol i’r ddwy Lywodraeth. Nodwyd y bydd ond fod y cynllun yn ogystal yn atebol i holl gynghorau yn rhanbarth ac i etholwyr. Pwysleisiwyd mai atebolrwydd trigolion y sir fydd yn cael y flaenoriaeth.

¾  Croesawyd yr adroddiad gan y bydd cyfle i adeiladu economi gryfach a bod cyfle i greu swyddi gwerth uchel a fydd yn gwbl angenrheidiol i bobl ifanc Gwynedd.

¾    Nodwyd mai dyma’r tro cyntaf i awdurdodau i wirfoddoli gweithio gyda’i gilydd i greu rhywbeth er budd y trigolion. Diolchwyd i Bennaeth Cyllid a’r Swyddog Monitro am eu gwaith.

Awdur:Sioned Williams ac Alwen Williams

Dogfennau ategol: