skip to main content

Agenda item

I Dderbyn Adroddiad Cynnydd ar Argymhellion Ymchwiliad Craffu: Cefnogi Pobl Anabl Gwynedd (Gwasanaeth Cadeiriau Olwyn)

Penderfyniad:

Derbyniwyd cynnwys yr adroddiad a’r dogfennau atodol gan nodi y sylwadau

Gofynnwyd am sicrwydd bod y Gwasanaeth yn cadw golwg ar yr hyn sydd yn mynd ymlaen

 

Cofnod:

Diolchwyd am yr adroddiad cynnydd, yn dilyn cyflwyno y mater i’r Pwyllgor Craffu yn Medi 2019. Gofynnwyd am sylwadau ar y gweithredoedd yn sgil yr argymhellion, a nodwyd fel a ganlyn :

 

Cadarnhawyd bod yr Aelod Cabinet wedi ysgrifennu at Vaughan Gething yn 2019 yn tynnu sylw at yr adroddiad, ond nododd nad oedd ymateb wedi dod i law, ond teimlwyd mai materion ar gyfer gweithrediad lleol oedd yn codi o’r argymhellion.  Nododd bod y gwaith wedi amlygu y cydweithio rhwng y Cyngor a’r Gwasanaeth Iechyd a theimlwyd fod nifer o argymhellion yr Adroddiad ar gyfer y Gwasanaeth Iechyd.  Yn sgil hyn, nodwyd pwysigrwydd cadw y cyfathrebu yn fyw gyda’r Gwasanaeth Iechyd.  Cadarnhaodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant  bod ymateb gan y Gwasanaeth Iechyd i’r argymhelliad yn yr adroddiad.

 

Adroddwyd ar faterion penodol i’r Gwasanaeth Iechyd isod, gan ddangos symudiad yn y materion, ond wrth gwrs mae cynnydd wedi arafu oherwydd COVID.

 

Cadarnhawyd nad yw’r Gweithgor Partneriaeth Ranbarthol wedi ei sefydlu eto, ond fod trefniadau lleol wedi eu sefydlu rhwng y Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd a Chyngor Gwynedd i wella cydweithio.

 

Mae penodiad Arweinydd Therapi Galwedigaethol ar gyfer Cyngor Gwynedd wedi hwyluso cyfathrebu a chydweithio gyda’r Gwasanaeth Iechyd.

 

Mae dogfennau cyfeirio electroneg yn cael eu treialu gan y Gwasanaeth Iechyd ar hyn o bryd, ac mae bwriad cyflwyno trefn gyfeirio electroneg yn fuan.

 

Mae hyfforddiant ar y cyd yn digwydd rhwng y Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd a Thimau Adnodd Cymunedol Gwynedd.

 

Nodwyd pryder bod arafwch o ran asesiad amgylchedd y cartref ynghyd a phryder bod y therapyddion galwedigaethol heb hyfforddiant a chwestiynwyd tybed a oedd hyn wedi ei ddatrys?  Cadarnhawyd mai cyfrifoldeb therapyddion galwedigaethol y Cyngor ydy cynnal asesiad amgylchedd yn y cartref, a bod cyfrifoldeb ar therapydd galwedigaethol y Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd i gwblhau asesiadau ar gyfer offer arbenigol. Nid oes datblygiadau pellach ynghylch cytundeb gan y Gwasanaeth Iechyd i Therapyddion Galwedigaethol o Awdurdodau Lleol dderbyn yr hyfforddiant arbenigol. Serch hyn, mae cynnydd wedi bod yn yr ymweliadau ar y cyd rhwng therapyddion yr Awdurdod Lleol a’r Gwasanaeth Ystum Corff a Symudedd sydd yn gwella cydweithio ac yn lleihau oedi mewn sicrhau offer addas yn amserol.  Cadarnhawyd y byddai unrhyw ddatblygiadau yn cael eu rhannu gyda’r Pwyllgor.

 

Cadarnhawyd bod aelodau y gweithgor wedi siarad gyda rhai cleifion am yr effaith/diffygion a chafwyd cadarnhad bod y Gweithgor wedi gallu gwella y gwasanaeth a bod y Bwrdd Iechyd wedi symud ymlaen, a bod llawer wedi newid, er gwell, tra roedd yr ymchwiliad ar y gweill.

 

Nodwyd balchder wrth ddarllen yr argymhellion ond nodwyd y gwahaniaeth sylweddol rhwng Gogledd a De Cymru.  Nodwyd ei bod yn bwysig peidio ag anghofio yr argymhellion, dal i dderbyn diweddariadau a dal i wella er mwyn symud ymlaen.  Cadarnhawyd bod yr asesiadau yn well yn y De a bod lle i wella y Gwasanaeth yn y Gogledd a bo hwn angen sylw y Bwrdd Iechyd a’r Cyngor Iechyd.

 

Cwestiynwyd y cyfarpar oedd yn cael ei roi allan i’r cleifion a nodwyd nad oedd wastad yn addas a chwestiynwyd tybed a yw y broblem honno wedi ei datrys?  Nododd ei bod yn bwysig ar gyfer lles unigolion a chadarnhaodd yr Uwch Reolwr Gwasanaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant, o ran yr unigolion sydd y dod drwy Wasanaeth Cymdeithasol y Cyngor, nad oedd wedi derbyn pryderon ynglŷn ag addasrwydd offer sydd wedi ei ddarparu.  Rhannwyd yr enghraifft o rai unigolion angen cadair arbennig, a heb y gadair arbennig eu bod yn dirywio a phroblemau gyda storfa y gwasanaeth iechyd. 

 

Atgyfnerthwyd neges gan y Pennaeth Gwasanaeth a’r Uwch Reolwr Gwasanaeth Oedolion, Iechyd a Llesiant  oedd yn cydymdeimlo gyda y neges, a nododd y byddai yn hoffi rhoi y sicrwydd i’r Cynghorydd, ond cwestiwn i’r Gwasanaeth Iechyd ydoedd a tybed  y gellid ysgrifennu at Iechyd?  Cytunwyd bod y berthynas gyda y Gwasanaeth Iechyd wedi gwella yn arw, bod llawer o symud a bod syniadau i’r dyfodol a chadarnhawyd y byddai sylwadau y Cynghorydd yn cael sylw.

 

Diolchwyd i’r Gweithgor a’r swyddogion am lynu at bolisi Cyngor Gwynedd o roi pobl yn gyntaf.

 

PENDERFYNWYD derbyn cynnwys yr adroddiad a’r dogfennau atodol gan nodi y sylwadau.  Gofynnwyd am sicrwydd bod y Gwasanaeth yn cadw golwg ar yr hyn sydd yn mynd ymlaen.  

 

Dogfennau ategol: