Agenda item

I Ystyried Adroddiad ar Blant a Phobl Ifanc Mewn Gofal

 

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad a nodwyd y sylwadau. 

 

Cofnod:

Nodwyd bod yr adroddiad yn cael ei chyflwyno gyda balchder yn y staff a’r rhieni maeth.  Adroddwyd ar sut roedd y Gwasanaeth wedi ymateb i barhau gyda y Gwasanaeth yn y cyfnod anodd hwn ac wedi ymateb i’r gofyn yn ystod y cyfnod clo.

 

          Cadarnhawyd bod 294 o blant mewn gofal ar ddiwedd Medi 2020, ac mewn gofal am resymau amrywiol.  Nodwyd mai y dewis olaf un yw gosod plentyn mewn gofal, ond weithiau nid oes dewis.

 

Cyfeiriwyd at y ffigyrau o 27 plentyn mewn gofal am y tro cyntaf yn ystod y cyfnod Ebrill i Fedi - hynny yw, nad oeddynt yn wybyddus i’r Cyngor cyn y cyfnod hwn, tra bo derbyn cyfeiriadau dienw wedi cynyddu i 71%.  Ar y llaw arall, cadarnhawyd bod 24 wedi gadael y gwasanaeth yn ystod y cyfnod hefyd.  Cadarnhawyd o ran y plant sydd yn destun Gorchymyn Llys bod cydweithio wedi bod gyda rhieni.

 

          Cyfeiriwyd at yr atodiad sydd yn manylu o ran niferoedd a lleoliadau, gan nodi bod rhai plant adref gyda theulu neu aelodau estynedig y teulu.

 

          O ran yr adnoddau maethu, nodwyd bod 72 o leoliadau wedi eu cofrestru a oedd gyda’r capasiti i gynnig lleoliadau i 139 o blant, ynghyd a 60 lleoliad maeth arall  drwy deulu estynedig.  Cadarnhawyd bod llefydd ychwanegol wedi eu cofrestru yn ystod y cyfnod, a bod y ffordd o gynnal cyfarfodydd wedi newid a bod ymgyrch recriwtio wedi cymryd lle.

 

          Cadarnhawyd ei bod yn anodd cael lleoliadau i ganran fach, sydd yn gyfrifoldeb y Cyngor, ac mai yr opsiwn olaf un yw eu gosod mewn lleoliadau anrheoledig.  Cadarnhawyd, yn y 5 mlynedd diwethaf, bod 7 trefniant o’r math wedi cymryd lle am gyfnod o 3 wythnos ar yr hiraf.

 

          Cyfeiriwyd at bolisi Llywodraeth Cymru i leihau nifer y plant mewn gofal.  Atgoffwyd y Pwyllgor bod y cyfeiriad polisi yn cael y flaenoriaeth uchaf rhai blynyddoedd yn ôl a hysbyswyd y Llywodraeth bryd hynny na fyddai Gwynedd yn gosod targed, ac osgoi targedau a fu : nid oedd hwn yn safbwynt hawdd.

 

          Nodwyd y daeth Covid a heriau newydd a bod y gweithlu wedi bod yn anhygoel wrth newid yn sydyn, ac wedi ymdrin â materion megis:

 

          Parhau i wneud Asesiadau

          Parhau i gadw cyswllt gyda rhieni

          Cau Hafan y Sêr

          Cydweithio gyda yr Adran Addysg

A dolygiadau Rhithiol ar gyfer Plant mewn Gofal

Sefydlu Llinell Gymorth

Cymorth i gael mynediad at ddeunydd megis ffisig a bwyd i fabanod

 

Yn ddiweddarach ymdriniwyd â materion megis

Ail agor Hafan y Sêr

Ail gychwyn trefniadau cyswllt plant a rhieni (mewn PPE wrth gwrs)

Parhau i weithio o adref

 

Nodwyd pryder am staff a nodwyd bod y Gwasanaeth yn gweithredu eu cyfrifoldebau yn llawn, ond mewn ffordd wahanol.

 

O ran y staff nodwyd bod

Trefniadau Iechyd a Diogelwch yn dynn

Rheolwyr yn cysylltu yn gyson

Y tîm rheoli a rheolwyr wedi cael tri sesiwn, gan roi cyfle i adrodd ar heriau a phryderon

 

Diolchwyd am yr adroddiad helaeth a chwestiynwyd fel a ganlyn :

 

O ran y pwyntAr adegau mae’r gallu i ganfod lleoliad preswyl addas yn amhosibl’ cwestiynwyd onid yw hyn yn risg mawr i’r staff?  Cwestiynwyd hefyd sut fyddai modd lleihau y risg i’r staff?

Nodwyd bod rhai unigolion angen ateb eu hanghenion arbennig.  Yn anffodus mae darparwyr preifat yn gallu nid yn unig enwi eu pris ond hefyd nid yw lleoliadau wastad ar gael.  Cadarnhawyd fod y datrysiad yn un anodd iawn.  Nodwyd pan fo y sefyllfa yn codi nad oedd byth brinder staff sydd yn fodlon gwirfoddoli i wneud y gwaith.

Cwestiynwyd, os yw hon yn broblem genedlaethol oni ddylid herio y Llywodraeth, gan dderbyn na fyddai yn hawdd?  Tybed a oes ffrwd gwaith yma i edrych ar y mater a symud ymlaen arno yn genedlaethol er mai hen broblem yw y mater? Roedd y Pwyllgor yn falch bod y Pennaeth Adran Plant a Chefnogi Teuluoedd yn Cadeirio y Grŵp trafod ar hyn.

 

Nodwyd pryder am y datganiad ynglŷn â rhewi cyflogau yn enwedig gan fo staff yn gwneud eu gorau.  Nodwyd onid yw ffigyrau gofal uchel yn dangos fod y Gwasanaeth yn gofalu am blant a nodwyd balchder bod y plant mewn dwylo da.

 

O ran targed y Llywodraeth o ran lleihau plant mewn gofal, cefnogwyd safiad Gwynedd o beidio â gosod canran %, gan gadarnhau na fyddai mwy mewn gofal na fyddai wirioneddol angen bod.  Ychwanegwyd at hyn gan nodi na dim gosod targed yw yr ateb ond gwella, a chadarnhawyd bod angen dangos yn glir a rheolaidd y gwelliannau a'r rhwystrau sydd wedi eu goresgyn.

 

Cwestiynwyd y ffaith bod mwy o blant wedi dod i ofal rŵan drwy alwadau ffôn gan unigolion a chwestiynwyd pam bo hyn?  Mewn ymateb, nodwyd efallai mai pryder ydoedd gan unigolion, pobl yn gweithio o adref ac yn gweld neu glywed mwy neu fwy o lygaid yn ein cymunedau.  Nodwyd bod y Gwasanaeth yn parhau i weld y cyfeiriadau dienw.

 

Diolchodd yr Aelod Cabinet am y gwaith, a cyfeiriodd at yr heriau, gan gynnwys:

targed y llywodraeth a’r ffaith bod Gwynedd wedi dod dan bwysau ond yn parhau i ymwrthod i osod targed.

Archwiliad Arolygaeth Gofal ar y gweill, sydd wedi dod ar amser anodd

Materion llesiant staff

Heriau ariannol, ble mae pob carreg yn cael ei throi i weld a oes modd gwneud arbediad er mai diogelwch yw y prif beth

Efallai y byddai yn ddiddorol a defnyddiol cyflwyno astudiaeth achos unigolyn yn y drefn i’r Pwyllgor yn y dyfodol

 

Diolchwyd i’r Pennaeth a’r Adran am y ffordd roeddynt wedi ymateb i’r sefyllfa.

 

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad a nodi y sylwadau.

 

 

Dechreuodd y cyfarfod am 10.00 a daeth i ben am 11.45

 

 

 

 

 

CADEIRYDD

 

Dogfennau ategol: