Agenda item

 

Cyflwyno 2 lythyr gan Archwilydd Cyffredinol Cymru dyddiedig 30 Medi 2020

·         Cronfa gyfun ranbarthol Gogledd Cymru mewn perthynas â lleoedd i bobl hŷn mewn cartrefi gofal (Atodiad 1)

·         Cronfeydd cyfun rhanbarthol mewn perthynas â lleoedd i bobl hŷn mewn cartrefi gofal (Atodiad 2)

 

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi llythyrau'r Archwilydd Cyffredinol a safbwynt awdurdodau lleol a Bwrdd Iechyd y Rhanbarth.

 

 

Cofnod:

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Pennaeth Cyllid yn tynnu sylw’r Aelodau at ddau lythyr a gyflwynwyd gan Archwilydd Cyffredinol Cymru yn dilyn derbyn sylwadau ôl archwiliad o adroddiadau lleol, ar ofal preswyl a nyrsio yng Ngogledd Cymru (yn benodol yng nghynghorau Conwy a Sir Ddinbych). Amlygwyd, er mai trefniadau lleol Conwy a Sir Ddinbych oedd yn cael eu trafod, roedd gan Archwilio Cymru bryderon ynglŷn â datrysiad pragmataidd rhanbarth Gogledd Cymru i’r her o sefydlu cronfa gyfun i ariannu lleoedd i bobl hŷn mewn cartrefi gofal. Eglurwyd mai partneriaeth oedd y gronfa gyfun ranbarthol rhwng chwe Cyngor Gogledd Cymru a Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr (BIPBC). Roedd gan y bartneriaeth ranbarthol bryderon ynglŷn ag atebolrwydd cronfa gyfun ehangach, ac wedi sefydlu trefn risg isel, ond roedd Archwilio Cymru yn nodi nad oedd y drefn gyfredol yn cynnig gwerth am arian nac yn sicrhau’r manteision a fwriadwyd drwy gronfa gyfun.

 

          Nododd Cynrychiolydd Archwilio Cymru bod y Gronfa wedi ei sefydlu mewn ymateb i ofynion Deddf Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru 2014) gyda Sir Ddinbych yn arwain ar weinyddu’r Gronfa. Ategwyd bod costau gweinyddu’r gronfa oddeutu £20k, ac nad oedd trosglwyddo arian yn ôl ac ymlaen rhwng y partneriaid rhanbarthol yn cynnig budd i ddefnyddiwr gwasanaeth nac yn ddefnydd da o arian cyhoeddus.

 

          Mewn ymateb, nododd y Pennaeth Cyllid bod y trefniant yn caniatáu i awdurdodau lleol gydymffurfio â gofynion y Ddeddf ac adnabod maint gweithrediad perthnasol ar draws y rhanbarth. Amlygodd ei fod yn fodlon bod y trefniant yn isafu’r risg, a bod buddion ehangach yn deillio o’r cyfraniad i rôl Sir Ddinbych. Ategodd bod trysoryddion y rhanbarth ynghyd a thrysorydd BIPBC yn cyfarfod 30/11/20 i drafod ymhellach.

 

          Ategodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol bod cynnwys y gofynion rhanbarthol yn y Ddeddf yn gamsyniad, ac na fyddai ymestyn y cronfa gyfun yn sicrhau manteision i ddefnyddwyr gwasanaeth. Awgrymodd mai cronfeydd lleol fyddai’r dull gorau, gyda hyblygrwydd i ymateb i’r angen yng Ngwynedd, tra dylai’r gweithdrefnau rhanbarthol gcanolbwyntio ar fframweithiau a strwythurau.

 

          Ategodd yr Aelod Cabinet byddai ymestyn trefniadau’r gronfa gyfun yn uchafu risg o golli rheolaeth a bod angen diogelu trethdalwyr Gwynedd.

 

          Diolchwyd am yr adroddiad

 

          Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â beth fyddai goblygiadau peidio cydymffurfio a gofynion y Ddeddf, nodwyd bod rhanbarth y gogledd wedi penderfynu ar gyfyngu’r gweithrediad wrth gydymffurfio â’r Ddeddf. 

 

          Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â rôl y Bwrdd Iechyd, eglurwyd bod BIPBC yn rhoi cyfraniad ar draws y rhanbarth i gyllideb gofal nyrsio.

 

Yn ystod y drafodaeth, codwyd y materion a ganlyn gan aelodau:-

·         Nad y Ddeddf yw’r strwythur orau ar gyfer  llywodraethu’r arian

·         Bod y ddeddfwriaeth yn enghraifft o ddiffyg y Llywodraeth i wrando ar sylwadau / barn awdurdodau lleol

·         Bod swyddogion yn gwneud y lleiafswm posib i gydymffurfio gyda threfniant diangen

·         Nad yw’r Llywodraeth wedi datgan yn glir beth yw'r bwriad o gyfuno'r gyllideb a’r manteision o wneud hynny

·         Y dylai unrhyw ddeddfwriaeth fod yn canolbwyntio ar ddatblygu meysydd lle mae angen cydweithio a chyd gomisiynu - dylid cyfuno ar faterion cynllunio, nid ar faterion cyllido

·         Bod y sefyllfa yn un anffodus.

·         Y dylid cael mandad i newid y drefn - angen ail ystyried y Ddeddf - y Llywodraeth heb wrando - awgrym i ysgrifennu at y Llywodraeth yn gofyn am addasu’r ddeddf i gael trefn bendant yn ei lle

·         Y dylid cyfleu anfodlonrwydd y Pwyllgor i’r trefniant yn y trafodaethau rhanbarthol

 

PENDERFYNIAD:

 

Derbyn yr adroddiad, gan nodi llythyrau'r Archwilydd Cyffredinol a safbwynt awdurdodau lleol a Bwrdd Iechyd y Rhanbarth.

 

 

 

 

 

Dogfennau ategol: