I ystyried cais Mr A
(copi arwahan i aelodau’r Is Bwyllgor yn unig)
Penderfyniad:
Bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol ar gyfer trwydded gyrrwr cerbyd
hacni/hurio preifat gyda Chyngor Gwynedd.
Cofnod:
a) Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod. Amlygodd
y byddai'r penderfyniad yn cael ei
wneud yn unol â pholisi trwyddedu Cyngor Gwynedd. Nodwyd
mai pwrpas y polisi oedd gosod canllawiau
ar y meini prawf wrth ystyried
cais yr ymgeisydd gyda’r nod o ddiogelu’r cyhoedd drwy sicrhau:
• Bod yr unigolyn
yn unigolyn addas a phriodol
• Nad yw'r unigolyn
yn fygythiad i'r cyhoedd
• Bod y cyhoedd wedi'u
diogelu rhag pobl anonest
• Bod plant a phobl ifanc wedi'u diogelu
• Bod pobl ddiamddiffyn
wedi'u diogelu
• Bod y cyhoedd yn
gallu bod yn hyderus wrth
ddefnyddio cerbydau trwyddedig.
Cyflwynodd y Swyddog Trwyddedu adroddiad ysgrifenedig ar gais a dderbyniwyd gan Mr A am drwydded gyrru
cerbyd hacni/hurio preifat. Gofynnwyd i’r Is-bwyllgor ystyried y cais yn unol
â’r cofnod DBS, y canllawiau ar droseddau
a chollfarnau perthnasol. Roedd yr Awdurdod
Trwyddedu yn argymell i’r Is-bwyllgor ganiatáu y cais.
Gwahoddwyd cynrychiolydd yr ymgeisydd (ei ddarpar
gyflogwr) i ymhelaethu ar gais Mr A gan roi gwybodaeth am gefndir y collfarnau
a’i amgylchiadau personol. Eglurodd bod y digwyddiadau a gofnodwyd ar y DBS yn rhai hanesyddol.
Amlygwyd bod Mr A wedi bod yn
gweithio fel dosbarthwr nwyddau ers rhai blynyddoedd a’i fod bellach
eisiau newid cyfeiriad. Nodwyd hefyd, mewn achos
lle ceir collfarnau hanesyddol, bod angen ystyried
adolygu Polisi Trwyddedu Cyngor Gwynedd
b)
PENDERFYNWYD bod yr ymgeisydd yn
berson addas a phriodol ar gyfer
trwydded gyrrwr cerbyd hacni/hurio
preifat gyda Chyngor Gwynedd.
c) Wrth gyrraedd eu penderfyniad, roedd yr Is-bwyllgor wedi ystyried y canlynol:
·
Gofynion ‘Polisi Trwyddedu ar gyfer
Hurio Preifat a Cherbydau Hacni Cyngor Gwynedd’
·
ffurflen gais yr ymgeisydd
·
adroddiad yr Adran
Drwyddedu ynghyd a’r datganiad DBS
·
sylwadau ar lafar gan ddarpar gyflogwr yr ymgeisydd
·
Canllawiau'r Asiantaeth
Trwyddedu Gyrwyr a Cherbydau
ch) Rhoddwyd ystyriaeth benodol i’r materion
canlynol
Yn Mehefin 1985 cafwyd yr ymgeisydd yn
euog gan Lys Ynadon Bangor ar dri chyhuddiad o ddwyn, yn groes
i a1 Deddf Lladrata 1968. Derbyniodd orchmynion gwasanaeth cymunedol o 300 awr am y cyhuddiadau hyn.
Ystyriwyd paragraff 2.2 o Bolisi’r Cyngor lle nodi’r nad oes rheidrwydd
i berson sydd â chollfarn am drosedd ddifrifol gael ei wahardd
rhag cael trwydded, ond bydd
disgwyl iddo fod yn rhydd
rhag unrhyw gollfarnau am gyfnod priodol fel y nodir
yn y Polisi, a dangos tystiolaeth ei fod yn
unigolyn addas a phriodol i ddal
trwydded. Mae cyfrifoldeb ar yr ymgeisydd
i brofi ei
fod yn berson
addas a phriodol. Mae paragraff 2.4 yn nodi pan fydd ymgeisydd
wedi'i gael yn euog o drosedd(au) neu fod mater arall/materion eraill i'w (h)ystyried yng nghyswllt hynny,
ni chaiff y cyngor adolygu rhinweddau'r gollfarn honno na'r mater arall hwnnw.
Ystyriwyd paragraff
4.5 sydd yn nodi bod Gorchymyn Deddf Ailsefydlu Troseddwyr 1974 (Eithriadau) (Diwygio) 2002 yn caniatáu’r Is-bwyllgor ystyried pob collfarn,
p’run ai ydynt wedi eu
treulio o dan Ddeddf 1974 neu beidio.
Ystyriwyd paragraff
8.0 o’r Polisi sydd yn cyfarch
troseddau o anonestrwydd gyda pharagraff 8.1 yn nodi y cymerir
golwg ddifrifol ar unrhyw gollfarn
sy'n ymwneud ag anonestrwydd. Mae paragraff 8.2 yn nodi bydd cais
fel arfer yn cael ei
wrthod os bydd gan yr
ymgeisydd gollfarn am drosedd a restrir, a bod y gollfarn yn llai
na 3 blynedd
cyn dyddiad y cais. Nodwyd bod y rhestr troseddau yn cynnwys, ymhlith
eraill, lladrata.
d) Daeth
yr Is-bwyllgor i gasgliad fod
collfarn Mehefin 1985 yn droseddau o anonestrwydd, fodd bynnag, gan fod
y collfarnau hyn wedi digwydd dros
35 mlynedd yn ôl nid oedd
paragraff 8.2 yn goroesi ac felly nid yn sail i wrthod
y cais
Wedi pwyso a mesur y dystiolaeth ar wybodaeth yn ofalus,
roedd yr Is-bwyllgor o blaid caniatáu
y cais a phenderfynwyd bod yr
ymgeisydd yn berson addas a phriodol i ddal
trwydded gyrrwr cerbyd hacni a hurio preifat.
Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei
gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr
i’r ymgeisydd.