Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

 

Cofnod:

Croesawyd Arweinydd y Cyngor, yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned a’r swyddogion i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned yn gwahodd y pwyllgor i graffu’r camau a gymerwyd hyd yma i lunio’r egwyddorion economi ymweld drafft a’r camau y bwriedid eu cymryd i lunio Cynllun Economi Ymweld Cynaliadwy Gwynedd 2030.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun drwy nodi bod yr economi ymweld yn rhan bwysig o economi’r sir, gyda nifer fawr yn cael eu cyflogi yn y diwydiant yn uniongyrchol, ac yn anuniongyrchol.  Fodd bynnag, wrth i Covid daro’r diwydiant, daeth yn amlwg bod rhaid i’r Cyngor ail-ymweld â’i egwyddorion yn y maes.  Roedd newid sylweddol wedi bod yn y ffordd rydym yn edrych ar yr economi ymweld.  Yn flaenorol, roedd pawb yn meddwl am yr ymwelydd yn ganolog i unrhyw economi ymweld, ond bellach, daethpwyd i’r farn mai trigolion Gwynedd ddylai fod yn ganolog i unrhyw egwyddorion o gwmpas yr economi ymweld, a rhoddwyd lle blaenllaw i hyn yn natblygiad yr egwyddorion.  Os oedd pobl Gwynedd yn gweld y budd a bod y diwydiant ymweld yn dderbyniol ganddynt, roedd hynny’n bwydo drwodd i brofiad yr ymwelwyr.  Nodwyd y trefnwyd gweithdy ar gyfer holl gynghorwyr Gwynedd ar 2 Mawrth, 2021 er mwyn cyflwyno’r egwyddorion drafft, gyda bwriad o’u cyflwyno i’r Cabinet cyn diwedd Mawrth i’w mabwysiadu ar ffurf drafft i ymgynghori arnynt gyda phobl Gwynedd.

 

Cytunodd yr Arweinydd fod datblygu’r egwyddorion hyn yn newid cyfeiriad sylweddol iawn i’r Cyngor.  Gwelwyd llynedd beth oedd twristiaeth ‘anghynaliadwy’, a dyma’r math o dwristiaeth oedd yn niweidio’r amgylchedd, ac yn cael drwg-effaith ar y cymunedau.  ‘Roedd datgan ein bod yn gosod cyfeiriad newydd yn bwysig iawn.  Credid bod y diwydiant hefyd yn gweld yr angen i fod yn adlewyrchu ein cymdeithas yn llawer gwell, ac roedd yr egwyddorion yn sylfaen i’r math o gefnogaeth a chyfeiriad roedd y Cyngor yn ei roi i’r diwydiant.  Roedd cyfarfodydd gyda’r diwydiant wedi dangos bod twristiaeth yn ddiwydiant pwysig iawn i’n pobl ni, er bod canfyddiad ei fod ym mherchnogaeth eraill.  Roedd y pandemig wedi dangos bod ardaloedd gwledig fel Gwynedd bron iawn yn llwyr ddibynnol ar dwristiaeth bellach, ac roedd hynny’n ysgogiad i barhau â’r gwaith o geisio creu economi llawer mwy amrywiol.  Er bod £1.3 biliwn yn dod i Wynedd drwy’r diwydiant, roedd incwm aelwydydd Gwynedd ymhlith yr isaf yn y wlad, ac roedd angen datblygu diwydiant lletygarwch sy’n rhoi gyrfa dda, a chyflogaeth dda.  Roedd enghreifftiau o hynny’n bodoli eisoes, ac roedd angen gweithio i wella ansawdd y diwydiant yng Nghymru.

 

Yna cyfeiriodd yr Arweinydd at lythyr ymateb y Parc Cenedlaethol i benderfyniad y Cyngor i ymchwilio ar frys i’r posibilrwydd o godi tâl ar ymwelwyr sy’n ymweld â rhannau o’r parc.  Nododd fod y llythyr yn datgan y byddai’n llwyr amhosib’ codi tâl am fynd i ben yr Wyddfa ar sawl cyfrif, ond nad oedd hynny’n ein rhwystro rhag edrych ar ffyrdd eraill o greu incwm.  Roedd cynllun y Parc i greu system drafnidiaeth yn ardaloedd yr Wyddfa ac Ogwen yn enghraifft o hynny, ac roedd cyfle yma, nid yn unig i greu amgylchedd gwell, ond hefyd i greu system trafnidiaeth gyhoeddus carbon isel, fyddai’n gwasanaethu pobl leol yn ogystal ag ymwelwyr.  Mawr obeithid, yn dilyn y gweithdy aelodau, y byddai modd cynnal cynhadledd agored i gael trafodaeth ar y materion hyn oll, ac i uchafu rhai o’r cwestiynau oedd yn codi.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

·         Bod yr is-egwyddor ‘Cynnal a Pharchu ein Hamgylchedd’ yn awgrymu cadw pethau fel y maent, yn hytrach na’u datblygu a’u gwella.

·         Bod angen addysgu ymwelwyr i barchu ein cymunedau, a diolchwyd i’r swyddogion am eu hymdrechion yn y maes yma.

·         Bod posib’ gor-ymateb i’r sefyllfa, gan y bydd niferoedd ymwelwyr i’r ardal yn gostwng eto unwaith y bydd y pandemig drosodd.

·         Nad oedd pawb yn edrych ymlaen at weld twristiaeth yn dychwelyd i’r ardal ar ôl y cyfnod clo, ac wrth yrru’r neges allan yn gofyn i bobl barchu’r ardal, dylid hefyd geisio newid meddylfryd y bobl leol fel eu bod yn deall bod economi Gwynedd yn ddibynnol ar dwristiaeth.

·         Bod twristiaeth yn plethu drwy bob cymuned yng Ngwynedd, ac nid yn y prif gyrchfannau gwyliau yn unig.

·         Y croesawid y syniad o edrych ar enghreifftiau o dwristiaeth gynaliadwy lwyddiannus mewn gwledydd eraill, a’i addasu ar gyfer cymunedau Gwynedd.

·         Bod angen bod yn arloesol er mwyn elwa o dwristiaeth.

·         Bod angen darganfod balans sy’n deg i bawb, ond sy’n rhoi pobl Gwynedd yn gyntaf.

·         Bod angen deall beth a olygir gan dwristiaeth ‘anghynaliadwy’, a bod peryg’ i’r hyn sy’n digwydd ar hyn o bryd ddifetha ein cymunedau.

·         Bod angen sicrhau gwaith sy’n talu’n dda yn y maes twristiaeth yng Ngwynedd, fel bod modd i bobl leol aros yn eu cymunedau.

·         Y pryderid y bydd rhannau o’r sir yn wynebu mwy o drafferthion yr haf yma wrth i bobl sy’n arfer mynd dramor benderfynu dod yma ar wyliau.

·         Bod angen gorfodi perchnogion cartrefi modur i aros mewn meysydd pwrpasol, yn hytrach na’u bod yn parcio ar ochr y lonydd.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau ac i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Y byddai’r egwyddorion, o’u mabwysiadu, yn egwyddorion i’r Cyngor cyfan.  Roedd niferoedd sylweddol o ymwelwyr wedi ymweld â rhannau o Wynedd yr haf diwethaf, ac roedd cydweithio da iawn yn digwydd ar draws y Cyngor cyfan i baratoi ar gyfer yr hyn allai ddigwydd eto yr haf yma.

·         Y cytunid bod y defnydd o’r gair ‘Cynnal’ yn yr is-egwyddor ‘Cynnal a Pharchu ein Hamgylchedd’ yn awgrymu bod pethau’n berffaith fel y maent, a bod angen rhoi ystyriaeth i’r geiriad yn yr adroddiad fydd yn mynd gerbron y Cabinet.  Nodwyd hefyd y byddai cyfle i wneud y math hwn o sylw yn y gweithdy aelodau, ac yn ystod yr ymgynghoriad maes o law.

·         Y bwriedid neilltuo ychydig amser ar gychwyn y gweithdy aelodau i adnabod y prif faterion a gododd llynedd ac i esbonio sut roedd yr Adrannau Amgylchedd, Priffyrdd a Bwrdeistrefol ac Economi a Chymuned, ynghyd â gwahanol asiantaethau yn bwriadu ymateb i hynny ar gyfer y tymor i ddod o safbwynt materion megis parcio anghyfreithlon, cartrefi modur, ysbwriel, rheolaeth traethau, rheolaeth cyrchfannau yn gyffredinol, a sut i hwyluso mynediad a llif pobl o fewn cyrchfannau, ayb.  Nodwyd ymhellach y cyflawnwyd gwaith yr haf diwethaf mewn ugain o gyrchfannau o ran sicrhau trefniadau ymbellhau, arwyddo a sicrhau bod trigolion lleol ac ymwelwyr yn parchu’r rheoliadau, a bwriedid adeiladu ar y gwaith hwnnw ar gyfer y tymor i ddod.  Hefyd, roedd gwaith rhyngadrannol yn mynd rhagddo o ran cynllunio ymlaen, a chyflwynwyd bidiau i’r Llywodraeth am arian ychwanegol i gefnogi’r gwaith.  Bwriedid gyrru negeseuon mwyniant diogel o’r ardal ar gyfer y tymor i ddod ac annog ymddygiad cyfrifol.  Eglurwyd na chyflawnwyd unrhyw waith hyrwyddo’r ardal y llynedd, ond yn hytrach, canolbwyntiwyd ar gydweithio gyda’r Heddlu, y Parc Cenedlaethol a’r Bwrdd Iechyd o ran y negeseuon ymddygiad cyfrifol a chyrchfan cyfrifol.  Bwriedid adeiladu ar hynny ar gyfer y tymor i ddod, gan wneud cryn dipyn o newidiadau i’r wefan Eryri Mynyddoedd a Môr a’i ddefnyddio fel platfform i rannu gwybodaeth. ‘Roedd gwaith pellach ar droed hefyd gan y Gwasanaeth Morwrol o ran negeseuon ymddygiad cyfrifol ar hyn yr arfordir, yn sgil sawl achos o drafferthion mewn rhai lleoliadau'r haf diwethaf.  Roedd gwaith hefyd o rannu gwybodaeth yn digwydd gyda’r sector breifat i amlygu materion o ran y rheoliadau a chymorthdaliadau a rhannu ymarfer da.

·         Nad oedd y Cyngor hwn yn cyfrannu at Dwristiaeth Gogledd Cymru.  Roedd yn cael ei ariannu gan ei aelodau, ond roedd nifer fawr o’r aelodau hynny yn dod o Wynedd.

·         Y cytunid bod rhaid dod â’r cymunedau gyda ni, ac fel enghraifft o hyn, cyfeiriwyd at Dolan, sef prosiect ar y cyd rhwng Dyffryn Nantlle, Dyffryn Ogwen a Blaenau Ffestiniog, oedd yn edrych ar y budd i’r gymuned o dwristiaeth.  Hefyd, ystyrid bod datblygu’r berthynas rhwng rhai o’r prif atyniadau a’u cymunedau lleol yn ffordd o gael y cymunedau i weld y buddion posibl.  Roedd ystyriaeth yn cael ei roi hefyd i’r posibilrwydd o lunio cynllun llysgenhadon cymunedol a busnes, fel ffordd o wneud i bobl Gwynedd ddeall beth sy’n eithriadol am eu hardal, fel bod modd iddynt gyfleu’r arbenigeddau yma i ymwelwyr, yn ogystal â’u deall eu hunain.

·         Bod yna gydnabyddiaeth nad oedd y model STEAM (Scarborough Tourism Economic Assessment Model) yn berffaith, ond dyma’r model oedd yn cael ei ddefnyddio gan y Llywodraeth ar gyfer rhoi dyraniad grant ychwanegol i’r Cyngor bob blwyddyn ar sail poblogaeth ddyrchafedig yn ystod yr haf.  Roedd hefyd yn cael ei ddefnyddio gan sawl cyngor ym Mhrydain, ac yn rhyngwladol, ac er ei feiau, roedd yn cynnig elfen o gysondeb gan fod cymaint yn ei ddefnyddio.  Roedd y model yn edrych ar y niferoedd ymweld a’r tueddiadau gwerth, ond efallai bod angen edrych ar fesurydd gwahanol, ac roedd cydnabyddiaeth bod angen adolygu sut roedd hyn yn gweithio.  Ychwanegwyd bod y rhagolygon cychwynnol ar gyfer 2019/20 yn dangos gostyngiad o 50%-60% o ran buddion economaidd a’r niferoedd ymweld, er yn amlwg roedd y niferoedd oedd wedi ymweld â’r ardal dros fisoedd yr haf yn uchel, gyda llai yn mynd dramor oherwydd y pandemig.  O ran symud ymlaen, roedd yn bwysig ehangu’r gyfres o fesurau i gynnwys mesurau perfformiad ychwanegol fyddai o gymorth i wireddu’r weledigaeth o roi trigolion Gwynedd yn ganolog.

·         Bod y broses o ddatblygu’r egwyddorion yn cydnabod y ffaith bod twristiaeth yn treiddio i bob rhan o fywyd yng Ngwynedd, a gobeithid hefyd ymgorffori’r egwyddorion yn y fframwaith adfywio fyddai’n cael ei datblygu ar gyfer Gwynedd.  Nodwyd ymhellach, o safbwynt ymarfer da ar draws y byd, bod yr Adran ar fin comisiynu Dr Terry Stevens, Arbenigwr mewn Cyrchfannau a Thwristiaeth Gynaliadwy i gynghori a ydyw’r egwyddorion yn llwyr gyd-fynd â thwristiaeth gynaliadwy a pha fesuryddion y gellid eu datblygu i fesur llwyddiant yr egwyddorion hynny i’r dyfodol.  Byddai hefyd yn cynghori’r Adran ar arfer da mewn llefydd eraill, y tueddiadau ymweld dros y 10 mlynedd nesaf, a sut i gyfathrebu â’r marchnadoedd fydd yn datblygu.  Ychwanegwyd y gellid gwahodd Dr Stevens i roi anerchiad i’r gynhadledd ym mis Mawrth ar yr hyn sy’n digwydd yn rhyngwladol yn y maes twristiaeth.

·         Bod trafodaethau’n digwydd rhwng yr Adrannau Amgylchedd, Priffyrdd a Bwrdeistrefol a’r Parc Cenedlaethol i geisio adnabod y ffordd orau o ymateb i’r problemau sy’n codi gyda chartrefi modur.  Roedd yna atebion tymor byr, megis cyfathrebu’r neges a gosod arwyddion a chyfyngiadau uchder mewn meysydd parcio, ynghyd ag atebion mwy hir dymor, megis cyflwyno is-ddeddfau a gorfodaeth.  Bwriedid rhannu’r materion a chyfrifoldebau gweithredu ar gyfer y tymor nesaf, a byddai’r Adran Amgylchedd yn arwain ar yr elfen yma, gyda mewnbwn gan yr Adran Economi.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

 

Dogfennau ategol: