Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Cemlyn Williams

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad yr Aelod Cabinet Addysg yn manylu ar y broses ymgysylltu anffurfiol gyda rhan-ddeiliaid ar Addysg Ôl-16 yn Arfon.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun drwy egluro mai ei fwriad oedd bod y drafodaeth yn cael ei hagor yn gyhoeddus.  Os bu cyhuddiad yn y gorffennol ynglŷn â phenderfyniadau wedi’u gwneud ymlaen llaw, roedd yn awyddus bod y Cyngor yn mynd allan gyda llechen lan, a bod y cyfarfodydd yn dryloyw, agored, gwrthrychol ac efallai’n arloesol hefyd.  Roedd yn croesawu’r ffaith bod y drafodaeth yn cychwyn yn Arfon, ac roedd yn croesawu’r syniadau oedd yn dod i law.  Roedd rhai ysgolion wedi ymuno mwy yn y drafodaeth nag eraill, ac roedd cyfrifoldeb i sicrhau bod pob ysgol yn cymryd rhan.  Cyfeiriodd yn benodol at fewnbwn aeddfed disgyblion Ysgol Tryfan ac Ysgol Brynrefail i un cyfarfod, oedd wedi gadael cryn argraff arno.  Ychwanegodd y bu’r ddarpariaeth yn fratiog yn hanesyddol, a bod cyfle nawr i geisio cael cysondeb ar draws y sir, a sicrhau’r ddarpariaeth orau er lles y disgyblion. 

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.  Nodwyd bod pryder y gallai unrhyw newid wanhau’r Gymraeg, a bod awydd i wella dysgu drwy Gymraeg oherwydd y diffygion presennol.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Mai cais y Cabinet oedd i’r gwasanaeth edrych ar y ddarpariaeth yn Arfon yn y lle cyntaf.  Pwysleisiwyd bod dymuniad i adeiladu ar y cryfderau amlwg oedd yn y gyfundrefn ôl-16, a bod ffocws y drafodaeth ar hyn o bryd ar ysgolion Arfon.  Roedd y cyfarfodydd anffurfiol wedi bod yn ddiddorol iawn, a’r trafodaethau wedi bod yn aeddfed ar lawer o opsiynau, yn amrywio o fân newidiadau i’r gyfundrefn bresennol i ganolfan chweched dosbarth ar gyfer yr holl ddisgyblion.  Pwysleisiwyd nad oedd gan yr Adran gynlluniau pendant ar hyn o bryd, a bod angen dadansoddi’r ymatebion cyn adrodd i’r Cabinet.  Ychwanegwyd bod y dystiolaeth yn dangos yn glir nad yw’r safonau yn gyson ar draws ysgolion Arfon.  Roedd yna wahaniaethau yn bodoli o fewn ysgolion unigol hefyd, e.e. ambell bwnc neu faes ddim yn perfformio cystal mewn ambell ysgol, ac roedd dymuniad i gryfhau hynny.  Yn fwriadol, ar gais y Cabinet, ni chynigwyd opsiynau, gan mai’r nod oedd gweld beth oedd y cyhoedd yn feddwl oedd yr opsiynau gorau.  Derbyniwyd rhai cynigion da, ac roedd yr Adran wrthi’n prosesu’r ymatebion cyn mynd yn ôl i’r Cabinet gyda nifer o syniadau oedd yn haeddu trafodaeth bellach.

·         Nodwyd mai ansawdd yr addysg oedd y brif flaenoriaeth a amlygwyd yn y sesiynau, ynghyd â phwysigrwydd sicrhau bod y profiad hwnnw ar gael i bob dysgwr.  Themâu eraill amlwg oedd y Gymraeg a darpariaeth addysg Gymraeg a dwyieithog.  Hefyd, yn sgil y cyfnod yma, bu cryn drafod ynghylch technoleg.  Mynegwyd y farn gyffredinol mai dysgu wyneb yn wyneb yw’r profiad addysgol gorau y gall unrhyw ddysgwr ei gael, ond bod yr elfen dysgu digidol yn gallu cefnogi’r cyswllt wyneb yn wyneb hwnnw.

·         Er bod gennym gyfundrefn gadarn o ran y Gymraeg yng Ngwynedd, bod canfyddiad gan garfan o ddysgwyr a’u rhieni bod y Gymraeg yn anfanteisiol fel cyfrwng i ddysgu pynciau STEM, er nad oedd tystiolaeth i gefnogi hynny.  Os rhywbeth, roedd y gwirionedd i’r gwrthwyneb, ac roedd yr Adran yn awyddus i roi’r Gymraeg yn ganolog fel egwyddor drwy gydol y trafodaethau.  Cydnabyddid bod yna anghysondebau yng Ngwynedd o ran cyrsiau academaidd a chyrsiau galwedigaethol partneriaethol sy’n cael eu cynnig ar hyn o bryd, a chredid bod yna ddiffygion o ran y Gymraeg hefyd, ond byddai’r adolygiad yn sicrhau bod gennym ddarpariaeth briodol ar gyfer ein dysgwyr yn eu dewis iaith, boed hynny’n Gymraeg neu Saesneg.  Ychwanegwyd bod yr Adran yn awyddus iawn i hyrwyddo safle amlwg y Gymraeg yn yr ôl-16, ynghyd ag ansawdd a chysondeb ansawdd yr addysg a’r profiadau roedd y plant yn gael. 

·         Y cydnabyddid bod amheuaeth a oedd yr Adran yn ymgysylltu gyda llechen lan, ond pwysleisiwyd mai bwriad yr adolygiad yn ei gyfanrwydd oedd edrych ar y ddarpariaeth drwy Wynedd gyfan, er mwyn dysgu gwersi o’r hyn oedd wedi digwydd ym Meirionnydd a Dwyfor, a chryfhau’r ddarpariaeth.  Gwnaed hyn ar gais y Cabinet oherwydd bod grym yr Awdurdod Addysg a’r Cyngor yn benodol dros yr ysgolion hynny lle'r oedd y chweched dosbarth wedi ei leoli, sef yn Arfon, a’r bwriad oedd edrych i gryfhau’r ddarpariaeth honno yn gyntaf.  Yn sgil yr adolygiad, bwriedid edrych ar unrhyw wersi a ddysgwyd oherwydd, er nad oedd yr Awdurdod yn uniongyrchol gyfrifol am y ddarpariaeth drydyddol, roedd cyfrifoldeb moesol arnom i gyflawni hyd eithaf ein gallu ar gyfer dysgwyr Gwynedd i gyd.  Roedd y Llywodraeth wedi awdurdodi gwario £18 miliwn yn y maes, gyda rhan sylweddol o’r arian yma yn dod yn fuddsoddiad gan Gyngor Gwynedd drwy gynllun rheoli asedau.  Roedd yn bwysig bod yr arian yma’n cael ei wario, a waeth beth fyddai’r datrysiad, ystyrid bod modd gwneud defnydd effeithiol o’r arian i gryfhau’r ddarpariaeth.

·         Ei bod yn anodd dweud yn bendant beth fydd amserlen y broses hyd oni cheir cadarnhad ynglŷn ag Etholiad Llywodraeth Cymru ym mis Mai.  Pe na chynhelid etholiad, o bosib’ y gellid adrodd i’r Cabinet tua mis Ebrill gyda chanfyddiadau’r broses ymgysylltu, ond fel arall, byddai’r amserlen yn llithro oherwydd y cyfnod cyn etholiad.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod.

 

Dogfennau ategol: