I
ymgynghori gydag aelodau’r Pwyllgor Gwasanaethau Democratiaeth ar fframwaith
ddrafft ar gyfer cynnal cyfarfodydd a phwyllgorau gydag Aelodau i’r dyfodol.
Penderfyniad:
Derbyn yr
adroddiad.
Cofnod:
PENDERFYNIAD
Derbyn yr adroddiad.
Cafwyd
trosolwg o resymeg yr adroddiad gan y Pennaeth Gwasanaethau Democratiaeth.
Nodwyd mai diben yr adroddiad yw cyflwyno fframwaith ar gyfer cynnal pwyllgorau
yn y dyfodol. Eglurwyd y byddai’r gyfran helaeth i’w cynnal yn rhithiol fodd
bynnag cydnabuwyd y bydd angen rhai wyneb yn wyneb yn achlysurol.
Cyflwynwyd
yr adroddiad gan y Rheolwr Democratiaeth ac Iaith gan drafod yr egwyddorion
drafft ar gyfer cynnal pwyllgorau a chyfarfodydd yn y sefyllfa bresennol a'r
dyfodol. Trafodwyd y mathau gwahanol o sefyllfaoedd posib a pha bwyllgorau
fyddai'n debygol o ddychwelyd i ffurf wyneb i wyneb pan fyddai modd gwneud
hynny. Nodwyd mai’r eithriadau i bwyllgorau a chyfarfodydd rhithiol fydd
cyfarfod y Cyngor Llawn, Pwyllgorau Apêl Cyflogaeth (yn ddibynnol ar ddymuniad
yr apelydd), Is-bwyllgor Trwyddedu (yn ddibynnol ar ddymuniad yr ymgeisydd) a
Phwyllgor Penodi Prif Swyddogion (ar achlysur cyfweliadau).
Ychwanegwyd
yr angen i atgyfnerthu hawl a dyletswydd aelodau i siarad Cymraeg ym mhob
cyfarfod. Nodwyd bod hyn yn hynod bwysig yn enwedig o fewn pwyllgorau a
chyfarfodydd rhanbarthol gan fod angen hybu eraill i ddefnyddio’r Gymraeg er
mwyn ei normaleiddio.
Yn
ystod y drafodaeth, cafwyd y sylwadau isod gan aelodau:
-
Diolchwyd am yr adroddiad a nodwyd bod hyn yn newid aruthrol gan fod
pwyllgorau a chyfarfodydd y Cyngor wedi digwydd wyneb i wyneb ers y cychwyn.
-
Codwyd ambell i bryder, yn arbennig sefyllfa ar gyfer aelodau newydd.
Ategwyd bod naws y swyddfa a siambr yn gyfle i ryngweithio ac i sgwrsio gyda
chyd-aelodau, bydd hyn efallai yn golled i rai fel aelodau newydd sydd angen
ymgyfarwyddo ag aelodau a swyddogion ar gychwyn y tymor.
-
Gofynnwyd a fydd swyddogion yn profi'r un newidiadau yn eu dulliau o
weithio fel bydd yr aelodau, h.y. a fyddant hwy yn parhau i gwrdd yn rhithiol
wedi i gyfyngiadau llacio.
-
Cynigwyd y bydd yn hanfodol yn achlysurol i gwrdd wyneb yn wyneb er mwyn
herio a chraffu.
-
Nodwyd bod argaeledd Teams yn hwyluso cysylltu
â swyddogion yn ystod y cyfnod presennol gan ei fod yn fwy personol na galwad ffôn.
-
Gofynnwyd a fyddai'n bosib trefnu sesiwn hyfforddiant ar ddefnyddio Zoom i aelodau.
-
Atgyfnerthwyd pwysigrwydd atgoffa trefnyddion bod hawl i
ddefnyddio’r Gymraeg o fewn cyfarfodydd
rhithiol. Ategwyd hyn drwy gynnig y dylid ei ychwanegu at brotocol cyfarfodydd
rhithiol.
-
Nodwyd bod argaeledd swyddogion angen ei sicrhau cyn symud y
trefniadau’n ffurfiol i fod yn rhithiol gan nad ydynt bob amser ar gael ar
e-bost yn sydyn.
-
Gofynnwyd a oedd pawb, gan gynnwys aelodau a swyddogion, wedi cael eu
holi am eu barn bersonol hwy ar symud i ddull rhithiol parhaol yn y dyfodol.
Cafwyd
yr ymatebion isod i’r sylwadau:
-
Cadarnhawyd y bydd ceisiadau yn cael eu hystyried os bydd yr angen i
gynnal cyfarfodydd wyneb i wyneb, yn enwedig mewn achosion pan fo’n
angenrheidiol.
-
Nodwyd na fydd swyddogion yn dychwelyd i hen drefniadau yn y
swyddfa lle nad oes angen gwneud hynny.
Ategwyd bod gwasanaethau yn y broses o adnabod pa swyddogaethau sy’n gallu cael
eu cynnal o gartref yr un mor llwyddiannus ag yn y swyddfa.
-
Derbyniwyd nad yw’n briodol i bawb addasu eu model gwaith, fodd bynnag
mae’r rheolwyr yn y broses o asesu hyn.
-
Cadarnhawyd bydd modd gweithio tu hwnt i’r fframwaith arfaethedig, er
enghraifft yn dilyn etholiad ar gyfer anwytho aelodau newydd. Bydd hyn yn
angenrheidiol er mwyn iddynt gynnal sgyrsiau a chyfarfodydd efo aelodau sy’n
dychwelyd, swyddogion ac aelodau newydd.
-
Mewn ymateb i’r sylw ynghylch argaeledd swyddogion, nodwyd bod rhifau
cyswllt yn parhau'r un fath felly mae modd cysylltu gyda swyddogion yn
uniongyrchol petai e-bost yn ddull rhy araf.
-
Sicrhawyd y bydd y gwasanaeth yn ymrwymo i adolygu’r fframwaith pe
byddai’r angen yn codi.
Dogfennau ategol: