skip to main content

Agenda item

Ystyried adroddiad ar yr uchod  (ynghlwm).

Cofnod:

Cyflwynwyd – adroddiad Arweinwyr Craidd GwE yn manylu ar sut roedd y consortiwm rhanbarthol, mewn partneriaeth â’r Awdurdodau Lleol, wedi datblygu ac addasu er mwyn cefnogi ysgolion yn ystod y Pandemig Covid-19.

 

Derbyniodd yr aelodau gyflwyniad sleidiau manwl gan swyddogion GwE.  Manylwyd ar:-

 

·         Gynnwys y prif adroddiad

·         Y gwaith i gefnogi’r Gymraeg

·         Yr adnoddau ar Ganolfan Cefnogaeth GwE

·         Adnoddau dysgu ac addysgu o bell

·         Dysgu digidol

·         Dysgu cyfunol

·         Dysgu Carlam

·         Llyfrgell adnoddau ysgol i ysgol

·         Cyfleoedd dysgu proffesiynol

·         Yr hyn ddigwyddodd o ran y sectorau cynradd, uwchradd ac arbennig yn lleol

·         Y camau nesaf

 

Diolchodd y Cadeirydd i bawb am yr adroddiad cynhwysfawr, oedd yn cyflwyno llawer o wybodaeth am waith GwE i gefnogi’r ysgolion oedd wedi gorfod addasu’n llwyr yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

·         Nodwyd bod yr adroddiad wedi rhoi darlun clir i’r aelodau o waith diweddar GwE o ran cefnogi ysgolion, ac argymhellwyd y dylid pasio’r adroddiad ymlaen i holl aelodau’r Cyngor.

 

Mewn ymateb i gwestiynau gan aelodau, nodwyd:-

 

·         Y derbynnid bod yna agweddau cefnogi a monitro i waith GwE.  Cynhaliwyd trafodaethau gyda’r penaethiaid o ran eu darpariaeth, ond yn amlwg roedd wedi bod yn fwy o her i arfarnu ansawdd yr hyn oedd wedi bod yn digwydd, oherwydd yr amgylchiadau.  Byddai’r rhaglen waith ar gyfer y ddau dymor nesaf yn rhoi sylw i hynny, a gobeithid gwneud hynny ar y cyd â’r ysgolion, fel y gellid asesu ansawdd y ddarpariaeth a chynnig cefnogaeth sydd wedi’i deilwrio ar eu cyfer.  Roedd hyn wedi’i gytuno ar y cyd rhwng y chwe chyfarwyddwr yn y Gogledd o ran y ffordd ymlaen.

·         Y cytunid bod y sefyllfa’n hynod rwystredig i rai rheini, yn enwedig os nad ydynt yn y byd addysg.  Gwelwyd enghreifftiau arbennig o effeithiol o ganllawiau i rieni gan ysgolion, ac roedd GwE hefyd wedi ceisio cefnogi hynny drwy lunio darpariaeth a chanllawiau cyffredinol i’r ysgolion fedru eu defnyddio a’u haddasu yn ôl eu dymuniad.

 

Dogfennau ategol: