Agenda item

Cyflwyno adroddiad Rheolwr yr Harbwr

 

Penderfyniad:

Derbyn cynnwys yr adroddiad gan nodi’r sylwadau sydd wedi eu manylu yn y cofnodion.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd adroddiad gan y Swyddog Morwrol a’r Rheolwr Harbwr am y cyfnod Hydref 2019 i Fawrth 2021, a nodwyd y prif bwyntiau canlynol:

 

·       Llithrfa Harbwr Allanol

Nodwyd bod angen datrys y mater defnydd o’r llithrfa a’r brydles rheoli tir, ar fyrder.  Cadarnhawyd bod cyfeiriad yn y brydles at y trefniadau a bod trafodaethau ar y gweill gyda’r Aelod Lleol, y Cadeirydd a’r Gwasanaeth a chytunwyd i adrodd yn ôl i Ifor Hughes er mwyn ei gadw yn y darlun.

·       Rheolau Cyfansoddiad y Pwyllgor

Atgoffwyd y cynrychiolwyr bod gofyn iddynt gyflwyno cofnodion eu pwyllgorau i’r Pwyllgor hwn, ynghyd a chopi o’r cyfansoddiad. Mae derbyn y wybodaeth yn hanfodol er mwyn sicrhau parhad y Mudiad ar y Pwyllgor.

·       Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

Mae dau archwiliad wedi ei gynnal gan Wylwyr y Glannau a bu iddynt gadarnhau bod popeth mewn trefn a bod y Cyngor yn cydymffurfio gyda gofynion y Cod Diogelwch.  Cadarnhawyd hefyd bod gwaith archwilio rhithiol wedi ei wneud gan Harbwr Feistr Conwy a’i fod yntau fel y Person Dynodedig yn fodlon gyda safon y Cod yng Ngwynedd.  Nodwyd y bydd hyn yn cael ei adrodd i’r Cabinet maes o law.  Atgoffwyd pawb am yr angen i adrodd, yn y Pwyllgor hwn, am unrhyw bryder diogelwch.

·       Carthu

Nodwyd rhwystredigaeth am y sefyllfa carthu yn sgil materion Covid. Adroddwyd mai cwmni Royal Smalls bydd yn gwneud y gwaith ym Mhwllheli, gan ddilyn yr un cytundeb gwaith a’r cytundeb yn  Doc Victoria.  Cadarnhawyd bod yr amserlen wedi llithro, yn bennaf oherwydd nad oedd Royal Smalls yn gallu caniatáu i’w staff deithio yn sgil y cyfyngiadau Covid.  Nodwyd y gobaith y bydd y gwaith yn cychwyn Medi 2021, tra bydd y gwaith carthu ceg yr harbwr yn cychwyn Ebrill 2021 drwy y cytundeb sydd yn rhedeg o bosib am dair blynedd.

·       Arolwg Hydrograffeg

Adroddwyd bod dyfnder dwr basn y marina yn weddol dda er ei fod yn llai dwfn ar geg yr harbwr.  Nodwyd y bydd y gwaith ar garthu ceg yr harbwr wedi darfod cyn y gwaith yn y sianel fordwyo.  Cadarnhawyd bod yr £270,000 ar gyfer y gwaith wedi ei rannu i 2/3 i Bwllheli ac 1/3 i Doc Victoria, gyda rhan helaeth o’r budd ym Mhwllheli.   Nodwyd siom nad oedd y gwaith yn mynd yn ei flaen a’r pryder ynglŷn â’r siawns o golli dyfnder yn y sianel a chwestiynwyd tybed a oes cynllun arall megis lefelu gwely’r môr ar gyfer y tymor?  Cadarnhawyd y bydd carthu ceg yr harbwr yn mynd yn ei flaen ac fe fydd hefyd gwaith lefelu y sianel fordwyo yn cychwyn yn fuan.  Yn ychwanegol nodwyd yr  angen i ystyried a phwyso a mesur lefel gwely’r môr gan gymharu lefel gwely’r môr gyda lefel yn y sianel fordwyo. Er bod dymuniad i ail-edrych a gweld beth ellir ei wneud, cadarnhawyd bo problemau gydag argaeledd cytundebwyr, ond eto cytunwyd y byddai y swyddog priodol yn ail-ymweld i weld beth sydd yn bosib.

·       Mordwyo

Cytunwyd i ystyried beth ellir  ei wneud o ran dyfnder y sianel fordwyo gan mai hanner meder o ddyfnder ar lanw isel ydyw’r lefel dyluniad. Cytunwyd i rannu yr arolwg hydrograffeg gydag aelodau maes o law.  Nodwyd ymhellach, gan mai tywod a graean sydd yn achosi y broblem, bod angen chwilio am ffordd amgen i wneud defnydd ohono gan nad oes safle addas i’w brosesu ar hyn o bryd.  Cynigwyd edrych i mewn i’r posibilrwydd o ddefnyddio cwch (barge) i’w symud.  Cadarnhawyd pwysigrwydd Morglawdd y Crud a chadarnhawyd bod buddsoddiad o £300,000 wedi ei fuddsoddi ar gyfer ei ail-adeiladu. Ni ragwelwyd bod unrhyw obaith i’w ymestyn yn y tymor canolig.

·       Materion Ariannol

Dosbarthwyd taflen yn adrodd ar y sefyllfa ariannol. Cadarnhawyd nad oes gwario wedi bod ar unrhyw beth o’r newydd.

·       Ffioedd a Thaliadau

Cadarnhawyd bod ffioedd wedi aros yn eu hunfan er bod codiad o 4% ym mhris trydan.  Nodwyd y siom bod tri mis wedi mynd heibio ble ni chymerwyd taliad, ond ei fod wedi ei ychwanegu ddiwedd y flwyddyn heb rybudd.  Cadarnhawyd bo hyn wedi digwydd gan nad oedd neb yn siŵr beth oedd i ddod ond bo costau rhedeg yr Harbwr yn parhau.  Cadarnhawyd y bydd pob cwsmer yn cael anfoneb mor agos â phosib wedi’r 1/4/21 ac y bydd taliadau sydd yn parhau yn ddyledus yn cael ei addasu wedyn.  Nodwyd y pryder bod hwn yn cael effaith ar y cwsmeriaid a’i bod yn bwysig sicrhau bod y cyfnod talu yn ffitio i mewn gyda y cwsmer.  Nodwyd y pryder hefyd bod y rhai sydd yn dal angorfeydd yn cael eu taro gan ddwy anfoneb o bosib ond anogwyd yr unigolion i ddod i gyswllt a’r Cyngor er mwyn dod i drefniant talu os oes anhawster.

Awgrymwyd gan na fu cynnydd yn y ffioedd y byddai hyn yn gyfle gwych i farchnata ar sail hyn.  Cadarnhawyd y bwriad i ofyn am arweiniad o ran ffioedd 2022 yn yr Hydref eleni. Nodwyd y dyhead i weld y gwaith o farchnata llefydd gwag yn symud yn ei flaen ar fyrder.  Er gwybodaeth, nodwyd bod ffioedd Conwy wedi codi 5.7% y flwyddyn hon.

·       Gostyngiad Ffyddlondeb

Cadarnhaodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol bod y cysyniad gostyngiad ffyddlondeb wedi ei ystyried ers peth amser a nododd y dymuniad i’w drafod yn y cyfarfod 2022.  Cadarnhawyd na fydd ffioedd yn cael eu codi y flwyddyn hon, a’r gobaith i gael eglurder am ffioedd 2022/23 erbyn Nadolig 2021.

·       Materion Gweithredol

Mae angen cadwyn ar y bwi

Nid oes newid yn y cei tanwydd ac mae yn gweithio yn effeithiol.

Mae cynnal a chadw a golchi y pontŵn yn parhau

·       Materion Staffio

Cadarnhawyd bod Mr Keith Williams, Is Reolwr Hafan Pwllheli wedi ymddeol erbyn hyn a nodwyd ei bod wedi bod yn anrhydedd cydweithio gyda Keith. Cytunwyd i’w lythyru i ddatgan diolch am ei wasanaeth yn yr Hafan am dros 30 mlynedd.

·       Adroddwyd ar y gobaith o apwyntio tri aelod staff newydd yn yr wythnosau nesaf a chwestiynwyd a yw apwyntio tri yn ddigonol? 

·       Ystadegau

Cadarnhawyd y byddai Rheolwr yr Hafan yn diweddaru y ffigyrau angorfeydd blynyddol gan fod y ffigyrau yn parhau i’w gyrraedd yn ddyddiol.  

·       Unrhyw Fater Arall

Cyfeiriwyd at yrapsydd nawr ar gael ar gyfer ffonau symudol, ac mae y gwaith ar y we gamerâu ar y gweill.  Yn ychwanegol, mae y gwaith cofrestru cychod nawr ar gael ar lein, yn hytrach na ar bapur.  Mae cwch newydd y bad achub wedi cyrraedd erbyn hyn, a llawer o wahanol hyfforddiant yn mynd yn ei flaen.

·       Materion Covid

Cadarnhawyd ei bod wedi bod yn gyfnod anodd i bawb, ond bod y staff wedi gallu parhau i weithio drwy yr holl gyfnod clo.  Cyfeiriwyd at yr arfer blaenorol o gadw allweddi cychod cwsmeriaid yn yr Hafan, a bod staff wedi mynegi pryder bod cytundebwyr yn casglu'r allweddi yn ystod y cyfnod.  O ganlyniad, cadarnhawyd bod gofyn wedi ei wneud i’r perchnogion gadw eu hallweddi ei hunain, gan fod y dderbynfa yn mynd yn rhy brysur.  Nodwyd pryder am y penderfyniad, er bod aelodau y pwyllgor yn deall y sefyllfa, ond yn awyddus i gael datrysiad.  Cadarnhawyd bod y mater wedi cael llawer o drafodaeth a’i bod yn sefyllfa anodd ond bod angen diogelu staff.  Cadarnhawyd y bydd staff yn parhau i gadw golwg ar y cychod ble bynnag mae yr allweddi.  Cytunwyd i edrych a oes ffyrdd eraill o wneud hyn ac anogwyd aelodau y pwyllgor i rannu unrhyw syniadau.  Awgrymwyd efallai trefn o roi rhybudd 24 awr cyn casglu allwedd ar ffurf apwyntiad.  Awgrym arall oedd cloeon gyda chodau arnynt.  Cytunwyd y byddai Rheolwr Gwasanaeth Morwrol a Rheolwr Hafan yn trafod ymhellach.

 

 

Plas Heli a’r Clwb Hwylio

 

Nodwyd bod materion Covid wedi bod yn broblem fawr a’r gobaith o weld goleuni yn fuan.  Nodwyd y bydd Plas Heli ar gau drwy 2021 gan y bydd yn cael ei ddefnyddio gan wasanaeth y Bad Achub, Nyrsys Betsi Cadwaladr a’r ysgolion, ond eu bod yn edrych ymlaen yn fawr i ail-agor. 

 

Cadarnhawyd bod adeilad y bad achub wedi ei ffensio, a’r giatiau a’r arwyddion wedi eu gosod, a’u bod wedi bod yn ffodus iawn i gael grant a benthyciad gan y trydydd sector.

 

Erfyniodd y Rheolwr Gwasanaeth Morwrol os oes unrhyw fater yn codi, rhwng cyfarfodydd, i aelodau y pwyllgor gysylltu ar unwaith. 

 

PENDERFYNWYD : derbyn cynnwys yr adroddiad gan nodi’r sylwadau uchod.

 

Dogfennau ategol: