Agenda item

THE WAVERLEY HOTEL, 10, HEOL YR ORSAF, BANGOR

 

I ystyried y cais

Penderfyniad:

Caniatáu i Heddlu Gogledd Cymru adolygu’r drwydded a diwygio Atodiad 3 o’r drwydded honno

 

Cofnod:

Ar ran Heddlu Gogledd Cymru:     

 

Arolygydd 2600 Chris Hargrave

PCSO Lis Williams

 

Ar ran yr eiddo:        

 

Ms Hayley Meek         Deilydd trwydded Waverley Hotel, Bangor

Michael Strain             Cyfreithiwr

                       

Eraill a wahoddwyd:

           

Moira Duell Parry - Swyddog Iechyd yr Amgylchedd

Robert Taylor – Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu

 

Croesawodd y Cadeirydd bawb i’r cyfarfod.

 

Amlygodd y Cadeirydd y byddai gan bob parti hawl i hyd at 10 munud i gyflwyno eu sylwadau

 

a)                    Adroddiad yr Adran Trwyddedu

 

Cyflwynwyd adroddiad y Rheolwr Trwyddedu yn manylu ar gais gan yr Arolygydd Chris Hargrave ar ran Heddlu Gogledd Cymru am adolygiad trwydded eiddo ar gyfer Y Waverley Hotel, Bangor. Gwnaed y cais oherwydd

·      methiant cydymffurfio gydag amodau’r drwydded eiddo mewn perthynas ag amodau TCC

·         methiant gofyn am brawf oedran i unigolion sy’n ymddangos i fod o dan 18

·      methiant deilydd y drwydded i gadw rheolaeth yng nghyd-destun yr argyfwng Covid -19.

Amlygwyd bod yr Heddlu yn nodi pryderon gan y Cyhoedd am yr eiddo a’r diffygion rheolaeth. Ategwyd bod deiseb ar lein yn gofyn am i’r eiddo gael ei gau i lawr gyda ‘channoedd’ wedi arwyddo’r ddeiseb.

 

Adroddwyd bod yr Heddlu wedi ystyried cynnig i ddeilydd y drwydded gyflwyno cais am Fân Amrywiad o’r drwydded eiddo. Oherwydd yr amgylchiadau, a methiannau niferus deilydd y drwydded i reoli’r sefyllfa, roedd yr Heddlu yn awyddus i gyflwyno’r cais i’r Is- Bwyllgor er mwyn sicrhau adolygiad llawn gan argymell addasiadau i’r drwydded.

 

Tynnwyd sylw at y materion roedd yr Heddlu wedi eu hargymell i ddeilydd y drwydded. Adroddwyd bod gohebiaeth wedi bod rhwng deilydd y drwydded, swyddog trwyddedu’r Heddlu, a’r Cyngor oherwydd methiant i weithredu’r argymhellion - cafodd argymhelliad i sicrhau fod goruchwylwyr drysau ar yr eiddo bob nos Wener a Nos Sadwrn ei anwybyddu ar y cyfan. Dadleuwyd bod angen i hyn gael ei gynnwys fel amod ar y drwydded er mwyn galluogi monitro cydymffurfiaeth.

 

Cyfeiriwyd at y problemau a ganfuwyd yr Heddlu ynghyd a’r amodau trwyddedu a argymhellwyd ganddynt ar gyfer eu cynnwys ar y drwydded eiddo

 

Tynnwyd sylw at yr ymatebion a dderbyniwyd yn ystod y cyfnod ymgynghori. Nodwyd bod

Uned Gwarchod y Cyhoedd, Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu a’r Gwasanaeth Tân ac Achub wedi cyflwyno sylwadau a chefnogaeth i’r adolygiad

 

Roedd yr Uned Gwarchod y Cyhoedd yn amlygu cefnogaeth i’r adolygiad ar sail yr amcan trwyddedu o ddiogelu’r cyhoedd ac atal niwsans cyhoeddus. Roedd pryderon gan y Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu am anwybyddu rheolau pellter cymdeithasol o dan gyfyngiadau covid hefyd yn sail i gefnogi’r adolygiad. Roedd y Gwasanaeth Tân wedi amlygu materion diogelwch tân oedd angen sylw deilydd y drwydded.

 

Nodwyd bod gan Swyddogion yr Awdurdod Trwyddedu tystiolaeth ddigonol bod y cais wedi ei gyflwyno yn unol â gofynion Deddf Trwyddedu 2003 a’r rheoliadau perthnasol.

 

Argymhellwyd i’r Is-bwyllgor ystyried a chaniatáu adolygiad o drwydded yr eiddo gan yr Heddlu 

 

Wrth ystyried y cais dilynwyd y drefn ganlynol-:

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor a’r ymgeisydd ofyn cwestiynau i’r Rheolwr  Trwyddedu

·      Gwahodd yr Heddlu i ymhelaethu ar y cais

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i'r Heddlu

·      Gwahodd deilydd y drwydded neu gynrychiolydd i ymateb i’r sylwadau

·      Rhoi cyfle i’r ymgynghorai gyflwyno eu sylwadau

·      Rhoi cyfle i aelodau’r Is-bwyllgor ofyn cwestiynau i ddeilydd y drwydded a’r ymgynghorai

b)         Wrth ymhelaethu ar y cais, nododd yr Arolygydd ei fod yn hapus gyda’r hyn oedd wedi ei gyflwyno.  Ategodd bod y system TCC yn un o ansawdd, ond nad oedd yn cynnig gwelededd llawn o’r fynedfa nac ardaloedd o fewn y dafarn. Nodwyd bod ambarelau ar fyrddau yn y maes parcio yn creu rhwystr gan atal gwelededd clir. Awgrymodd y byddai’n fodlon trafod a rhoi cyngor i ddeilydd y drwydded ar sut i wella’r ddarpariaeth TCC. Yng nghyd-destun yfed dan oed, mynegodd yr Arolygydd mai prin iawn yw presenoldeb cynrychiolydd y Waverley mewn cyfarfodydd Pubwatch. Nododd bod diffyg rheolaeth gyffredinol o’r eiddo a’u bod yn awyddus i weld cydymffurfiaeth a threfn.

 

 

 

c)            Mewn ymateb i gwestiynau gan yr Is-bwyllgor am gydymffurfio cyn y cyfnod clo, nododd yr Arolygydd bod cydymffurfiaeth gydag oriau cau, ond bod pobl yn dueddol o fod yn araf yn ymadael â’r safle. Ategwyd nad oedd cwynion wedi dod i law ynglŷn â diffygion cydymffurfiaeth oriau cau

 

ch)       Manteisiodd yr ymgynghorai oedd yn bresennol ar y cyfle i ymhelaethu ar sylwadau a gyflwynwyd ganddynt drwy lythyr.

 

Dadleuodd y Cyfreithiwr ar ran Ms Meek y canlynol:

·         Nad oedd digwyddiad difrifol wedi digwydd ar y safle

·         Nad oedd digwyddiad wedi ei gyfeirio at y Llys yn ystod 2020

·         Bod deilydd y drwydded wedi cydweithio gyda’r Heddlu gan ddarparu recordiad TCC

·         Bod unigolyn trydydd parti yn achosi aflonyddwch i Ms Meek a bod yr Heddlu yn ymwybodol o hynny

·         Cwestiynu bodolaeth y ddeiseb ac os oedd yr enwau ar y ddeiseb yn rhai gwir ynteu ffug

·         Bod y TCC o ansawdd rhesymol

·         Bod defnydd o gardiau adnabod ffug yn broblem ym Mangor

·         Bod deilydd y drwydded yn cynnig defnyddio goruchwylwyr drysau ar adegau prysur yn unig

·         Bod enwau unigolion sydd wedi eu gwahardd gan Pubwatch yn cael ei cylchredeg, ond dim lluniau

 

Ategodd Ms Meek

·         Ei bod yn cydymffurfio gydag oriau cau

·         Bod costau cyflogi goruchwylwyr yn ddrud

·         Bod llawer o’r cyhuddiadau yn ffug

·         Ei bod yn cydweithio gyda’r cyhoedd, yr Heddlu a’r Cyngor i redeg busnes da

·         Nad oedd cerddoriaeth yn broblem - bod y gerddoriaeth yn debygol o fod yn dod o gampfa gyfagos

·         Bod 4 deilydd trwydded i’r eiddo.

Swyddog Iechyd yr Amgylchedd,

·         Bod rhybudd wedi ei osod ar yr eiddo yn dilyn tystiolaeth gafodd ei ryddhau gan yr Heddlu o dor rheoliadau covid 19

·         Bod yr Uned yn parhau i roi cyngor i Ms Meek ynglŷn â sicrhau diogelwch y cyhoedd

·         Bwriad yr Uned yw ymweld â’r eiddo i sicrhau cydymffurfiaeth pan fydd cyfyngiadau covid yn caniatáu hynny

·         Bod yr Uned yn rhoi cefnogaeth i Ms Meek er mwyn sicrhau llwyddiant y diwydiant

 

Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu

·         Ei fod wedi ymweld â’r eiddo (16 Medi 2020) ar y cyd gyda Swyddog Trwyddedu'r Heddlu yn dilyn cwynion am sŵn cerddoriaeth uchel yn dod o’r eiddo yn ystod cyfnod cyfyngiad covid

·         Bod deilydd y drwydded yn teimlo’n rhwystredig gan fod deilwyr trwydded eiddo ym Mangor Uchaf yn anfon pobl wedi eu gwahardd i lawr i’r Waverley

·         Ei fod wedi cyferio cwynion am gyffuriau i’r Heddlu

·         Bod ymweliad arall ar 25ain o Fedi wedi amlygu nad oedd Asesiad Risg Covid yn gyflawn

·         Ymweliadau pellach a gohebiaeth yn dilyn cwynion ynghyd a thystiolaeth fideo oedd wedi ei rannu ar y cyfryngau cymdeithasol yn dangos diffyg cydymffurfiaeth gyda rheolau pelau cymdeithasol covid 

 

Cyfeiriwyd at y sylwadau a dderbyniwyd gan y Gwasanaeth Tân

 

d)            Yn manteisio ar y cyfle i gloi ei achos, nododd yr Arolygydd ei fod yn hapus gyda chynnwys yr adroddiad ysgrifenedig, bod yr argymhellion yn glir a’i fod yn hapus i gydweithio gyda deilydd yr eiddo i sicrhau gwelliannau arwyddocaol

 

dd)       Ymneilltuodd yr Heddlu, deilydd y drwydded ynghyd a’i chynrychiolydd cyfreithiol, y Rheolwr Trwyddedu, Swyddog yr Amgylchedd a’r Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu

o’r cyfarfod tra bu i aelodau’r Is-bwyllgor drafod y cais

e)         Wrth gyrraedd y penderfyniad ystyriodd yr Is-bwyllgor adroddiad llafar yr Heddlu (gan gynnwys tystiolaeth fideo a lluniau),  sylwadau ysgrifenedig a gyflwynwyd gan y partïon â diddordeb, adroddiad y Swyddog Trwyddedu yn ogystal â sylwadau llafar a dderbyniwyd yn y gwrandawiad. Ystyriwyd hefyd Polisi Trwyddedu’r Cyngor a chanllawiau’r Swyddfa Gartref. Roedd yr holl ystyriaethau yn cael eu pwyso a’u mesur yn erbyn yr  amcanion trwyddedu o dan y Ddeddf Trwyddedu 2003, sef:

                       i.       Atal trosedd ac anhrefn

                      ii.       Atal niwsans cyhoeddus

                     iii.       Sicrhau diogelwch cyhoeddus

                     iv.       Gwarchod plant rhag niwed

PENDERFYNWYD caniatáu adolygiad i’r drwydded gan ddiwygio Atodiad 3 o’r drwydded fel a ganlyn.

 

TCC  -  dileu pwynt 1 a nodi'r canlynol yn ei le:

 

“Bydd sustem TCC ddigidol yn cael ei gosod a dylai’r Heddlu a’r Awdurdod Lleol fod yn fodlon gyda sut mae’n gweithio, gan fonitro tu mewn a thu allan i’r eiddo. Er mwyn osgoi amheuaeth, mae tu allan i’r eiddo yn cynnwys ond ddim yn gyfyngedig i faes parcio'r eiddo ac ardaloedd eistedd tu allan.”

 

Goruchwylwyr Drysau -  dileu'r paragraff presennol a rhoi’r canlynol yn ei le:

 

“Bydd yr eiddo yn cyflogi lleiafswm o 2 goruchwyliwr drws wedi eu hachredu yn briodol gan yr Awdurdod Diwydiant Diogelwch i fod ar yr eiddo bob nos Wener a nos Sadwrn o 18:00 tan 30 munud yn dilyn awr derfynol agor i’r cyhoedd. Bydd y gofyniad hwn hefyd yn berthnasol ar gyfer unrhyw ddigwyddiadau wedi eu trefnu lle rhagwelir y bydd nifer uwch o gwsmeriaid yn mynychu’r lleoliad.”

 

Mewnosod adran ‘Her 25’

 

1.         Bydd yr eiddo yn mabwysiadu a gweithredu polisi Her 25, lle bydd gofyn i gwsmeriaid sydd yn ymddangos i fod o dan 25 mlwydd oed brofi eu hoedran wrth brynu alcohol, fel arall rhaid gwrthod y gwerthiant.

2.         Bydd dulliau derbyniol o brawf adnabod yn cynnwys pasbort, cerdyn trwydded yrru gyfredol neu brawf adnabod arall fel y darperir gan yr Awdurdod Trwyddedu yn ei Bolisi Trwyddedu.

3.         Bydd yr eiddo yn gosod arwyddion yn dwyn sylw cwsmeriaid i’r polisi Her 25

4.         Bydd yr eiddo yn hyfforddi pob staff perthnasol ar y polisi ac yn cadw cofnod ysgrifenedig o’r hyfforddiant hwnnw.

5.         Bydd yr eiddo yn cadw cofnod ysgrifenedig o werthiannau a wrthodwyd mewn llyfr gwrthodiadau.

6.         Bydd y cofnodion ysgrifenedig hyn ar gael ar gyfer archwilio ar gais gan Awdurdod Cyfrifol.”

 

Noder bod mwyafrif o argymhellion yr Heddlu parthed TCC eisoes mewn grym yn Atodiad 3 o’r drwydded bresennol.

 

Ni ychwanegwyd amodau, rhybuddion na gorchmynion mewn perthynas â chydymffurfiaeth rheoliadau COVID-19 oherwydd bod fframwaith cyfreithiol arwahan yn berthnasol ar gyfer gorfodi'r darpariaethau hyn.

 

Ni ychwanegwyd amodau o ran diogelwch tân, gan fod fframwaith cyfreithiol arwahan yn berthnasol ar gyfer gorfodi safonau diogelwch tân.

 

Diolchwyd i bawb am gyflwyno sylwadau ar y cais.

Rhoddodd yr Is-bwyllgor ystyriaeth briodol i’r holl sylwadau. 

 

Cyflwynodd yr Heddlu gais am adolygiad yn fras ar 3 sail:

1.         Methiant yr eiddo i gydymffurfio gydag amod gorfodol Atodiad 1, paragraff 3 o’r drwydded bresennol (mewn perthynas â mabwysiadu polisi gwirio oedran)

2.         Methiant yr eiddo i gydymffurfio gydag amodau yn Atodiad 3 o’r drwydded bresennol (yn ymwneud â TCC)

3.         Methiant cyffredinol yr eiddo i gynnal tŷ tafarn trefnus

 

I gefnogi’r sail yfed dan oed, honnodd yr Heddlu bod alcohol wedi ei weini i o leiaf 2 unigolyn o dan 18 oed ar 19 Medi 2020. Arhosodd yr unigolion ar yr eiddo am gyfanswm oriau o 21 awr. Dangoswyd yr Heddlu glip TCC fel tystiolaeth ar gyfer y digwyddiadau hyn.

 

I gefnogi’r sail TCC, dywedodd yr Heddlu bod llawer o ardaloedd heb eu goruchwylio’n briodol. Nodwyd absenoldeb y maes parcio a’r ardal eistedd tu allan, a oedd wedi eu cuddio gan ambarelau. Daeth y methiannau hyn i’r amlwg pan wnaed cais i weld clip TCC, yn dilyn digwyddiad o ymosodiad difrifol ar 19 Medi 2020. Ni chafwyd recordiad ohono oherwydd diffyg darpariaeth TCC priodol.

 

Ar gyfer y sail trefn gyhoeddus, honnodd yr Heddlu bod sawl digwyddiad o fethiant gan yr eiddo:

(i)         Ar 19 Medi 2020 cafodd 2 unigolyn oedd yn destun gwaharddiad Pubwatch ar y pryd eu gweini gan yr eiddo. Adnabuwyd yr unigolion dan sylw mewn clip TCC.

(ii)        Ar 19 Medi 2020 bu sawl toriad o gyfyngiadau Rheoliadau Diogelu Iechyd (Cyfyngiadau Coronafeirws) (Rhif 2) (Cymru) 2020 fel y dangoswyd mewn clipiau TCC. Arweiniodd hyn at gyhoeddi rhybudd gwella eiddo ar 23 Hydref 2020 gan Iechyd Amgylcheddol Cyngor Gwynedd, oedd yn cynnwys:

·         methiant i ymlynu at ymbellhau cymdeithasol 2m, fel y tystiolaethwyd gan ddeilydd y drwydded yn cofleidio pobl yn rheolaidd ac yn cymdeithasu â gwahanol bobl yn ardal y bar;

·         methiant i gydymffurfio â chanllawiau yn ymwneud â 6 fesul bwrdd o’r un aelwyd, fel y tystiolaethwyd gan ddeilydd y drwydded ei hun yn eistedd wrth fwrdd gyda 10 o bobl;

·         cwsmeriaid yn ciwio wrth far prysur heb unrhyw gyfyngiad ar niferoedd nag ymbellhau cymdeithasol;

·         dim tystiolaeth o olchi dwylo/defnydd o ddiheintydd gan gwsmeriaid neu staff;

·         dim tystiolaeth o wybodaeth profi ac olrhain;

·         gosodiad y byrddau ddim yn cyd-fynd ag ymbellhau cymdeithasol;

·         staff ddim yn gwisgo masgiau

·         cwsmeriaid ddim yn gwisgo masgiau wrth symud o gwmpas y dafarn tan yn eistedd wrth fwrdd a neilltuwyd iddynt.

 

iii)         Bu digwyddiadau o gwffio/ymddygiad afreolus ar 16 Awst 2020 (gan gynnwys 20+ o bobl), 16 Medi 2020 (ffrae rhwng 2 ddyn) a 19 Medi 2020 (pobl yn cwffio tu allan).

 

Ystyriwyd sylwadau Swyddog Gorfodaeth Trwyddedu  oedd yn cadarnhau rhwng 23 Medi 2020 a 15 Hydref 2020 bu iddo dderbyn negeseuon oddi wrth aelodau’r cyhoedd yn honni camddefnydd cyffuriau ar yr eiddo, yn ogystal â gweld postiadau cyfryngau cymdeithasol yn datgelu diffyg cydymffurfiaeth â gofynion ymbellhau cymdeithasol ac yfed dan oed.

 

Yn ogystal, darparwyd sylwadau oddi wrth Swyddog Iechyd Amgylcheddol yn manylu ar y camau gorfodaeth a gyflwynwyd gan y gwasanaeth mewn perthynas â’r eiddo ynglŷn â’r rheoliadau COVID-19.

 

Mewn ymateb, honodd Ms Meek (deilydd y drwydded eiddo) drwy ei chyfreithiwr (Mr Strain) mewn perthynas â’r yfed dan oed, bod yr eiddo wedi dioddef o’r defnydd o gardiau adnabod ffug. Mewn perthynas â’r sail TCC dywedodd deilydd y drwydded bod y ddarpariaeth yn briodol, ond y byddai gwelliannau yn cael eu gwneud. O ran y sail trefn gyhoeddus, honnodd deilydd y drwydded y byddai eiddo trwyddedig eraill ym Mangor Uchaf yn gyrru cwsmeriaid trafferthus at ei heiddo hi, ond derbyniodd hefyd na ddylai’r digwyddiadau fod wedi digwydd.

 

O bwyso a mesur, roedd yr Is-bwyllgor yn canfod bod yr oll seiliau y dibynwyd arnynt gan yr Heddlu dros gynnal adolygiad wedi cael eu profi. Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y digwyddiadau o yfed dan oed yn torri’r amcan trwyddedu o ddiogelu plant rhag niwed. Roedd diffyg ymlyniad o ran TCC yn cynrychioli torri pob un o’r pedwar amcan trwyddedu, tra bo’r holl ddigwyddiadau o dan y sail trefn gyhoeddus (gyda’i gilydd ac yn unigol) yn torri’r amcanion trwyddedu o atal trosedd ac anhrefn a sicrhau diogelwch cyhoeddus.

 

Tra bo’r Is-bwyllgor yn nodi bod deilydd y drwydded wedi derbyn na ddylai’r digwyddiadau trefn gyhoeddus fod wedi digwydd, nid oedd wedi ei berswadio na chael argraff dda gan yr honiad bod problemau’r eiddo o ganlyniad i eiddo ym Mangor Uchaf yn annog cwsmeriaid digroeso i fynychu’r Waverley. Ni chyflwynwyd tystiolaeth a hyd yn oed petai’r honiad yn wir, buasai’n amherthnasol: mae cyfrifoldeb dros reolaeth yr eiddo yn gorwedd yn llwyr gyda deilydd y drwydded.

 

Nododd yr Is-bwyllgor y bu cyfeiriad at ddeiseb a oedd yn ôl pob sôn wedi ei lofnodi gan 2500 o unigolion, yn galw am gau yr eiddo i lawr. Nid yw’n glir pam bu cyfeiriad at y ddeiseb gan nad oedd yn ffurfio rhan o achos yr Heddlu.  Ni ddarparwyd copi o’r ddeiseb. Adroddwyd bod rhaid i benderfyniad yr Is-bwyllgor fod yn seiliedig ar dystiolaeth i ddigwyddiadau penodol oedd yn tanseilio’r amcanion trwyddedu ac er y nodwyd bodolaeth y ddeiseb, nid oedd hynny ynddo’i hun yn darparu tystiolaeth o ddigwyddiadau unigol. O dan yr amgylchiadau, ni fu i’r Is-bwyllgor ystyried y ddeiseb at ddibenion cyrraedd penderfyniad.

 

O dan yr amgylchiadau, roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod cynnwys yr amodau ychwanegol fel yr amlinellwyd uchod ar y drwydded yn ddymunol ar gyfer hyrwyddo’r amcanion trwyddedu. Roedd yr Is-bwyllgor yn fodlon bod y cais yn gydnaws â’r pedwar amcan trwyddedu, a chaniatawyd y cais am adolygiad.

 

Adroddodd y Cyfreithiwr y byddai’r penderfyniad yn cael ei gadarnhau yn ffurfiol drwy lythyr i bawb oedd yn bresennol. Ategwyd bod gan bob parti i’r cais yr hawl i gyflwyno apêl yn Llys Ynadon Caernarfon yn erbyn penderfyniad yr Is-bwyllgor. Dylid cyfeirio unrhyw apêl o’r fath drwy roi rhybudd o apêl i’r Prif Weithredwr, Llys Ynadon Llandudno, Llandudno, o fewn cyfnod o 21 diwrnod gan gychwyn â’r dyddiad y bydd yr apelydd yn  derbyn llythyr (neu gopi ohono) yn cadarnhau’r penderfyniad.

 

Dogfennau ategol: