Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dilwyn Morgan

Penderfyniad:

Derbyniwyd yr adroddiad ar waith y Panel Strategol Diogelu Plant ac Oedolion.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dilwyn Morgan

 

PENDERFYNIAD

 

Derbyniwyd yr adroddiad ar waith y Panel Strategol Diogelu Plant ac Oedolion.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi mai pwrpas yr adroddiad oedd rhoi ddiweddariad ar waith y Panel Strategol Diogel. Pwysleisiwyd fod diogelu yn flaenoriaeth i bawb o fewn y sir a'i fod wedi ei amlygu yn ystod y cyfnod covid-19.

 

Mynegwyd fod yr adroddiad yn crynhoi gwaith y panel, gyda chyfeiriadau at adroddiadau archwiliwr allanol ac Adroddiad Blynyddol y Cyfarwyddwr Corfforaethol am y cyfnod o ddwy flynedd. Mynegwyd er bod yr adroddiad wedi llithro ond nad yw hyn adlewyrchiad o waith y panel yn ystod y cyfnod.

 

Bu i’r Cyfarwyddwr Corfforaethol ymddiheuro fod yr adroddiad yn hwyr yn cyrraedd, ond mynegwyd fod yr adroddiad yn un cynhwysfawr. Mynegwyd fod oedi byr iawn cyn cyfarfod ar ddechrau’r pandemig ond amlygwyd y bu i’r panel gyfarfod drwy gydol y flwyddyn ddiwethaf, a bod hyn wedi amlygu fod diogelu yn flaenoriaeth o fewn y Cyngor. Diolchwyd am ymrwymiad pawb i’r maes.

 

Tynnwyd sylw ar effaith y pandemig ar ddiogelu gan amlygu fod y nifer y cyfeiriadau wedi lleihau  am gyfnod ond fod y niferoedd yn cynyddu fel oedd elfennau o’r pandemig yn addasu. Mynegwyd ei bod yn galonogol fod y tueddiadau yma yn gyson gyda'r darlun a welwyd ar draws Cymru, a bod trafodaethau cenedlaethol a rhanbarthol yn parhau i edrych ar y tueddiadau yma.

 

Nodwyd o ran y rhaglen waith fod cynnydd wedi ei wneud. Tynnwyd sylw at y gwaith da o godi ymwybyddiaeth sydd yn cael ei wneud yn barhaus, ond mynegwyd fod data hyfforddiant yn parhau i fod yn bryder gan nad yw’r ffigyrau nifer o staff y cyngor yn mynychu hyfforddiant yn 100%. Ychwanegwyd fod y panel yn edrych ar y ffordd orau o rannu’r wybodaeth gyda staff. Amlygwyd y gwaith sydd yn cael ei wneud mewn partneriaeth yn rhanbarthol ac yn genedlaethol.  Mynegwyd bellach fod y panel yn fewnol wedi cyfuno diogelwch cymunedol o fewn y Panel Diogelu.

 

Tynnwyd sylw ar y cynnydd mewn nifer o rieni yn penderfynu addysgu eu plant o’r cartref gan amlygu nad oes canllawiau diogelwch ar yn lle ar gyfer y plant yma. Amlygwyd yr angen i edych ymhellach i mewn i’r mater.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾     Holwyd o ran nifer  plant yn cael eu haddysgu o’r cartref a’r rhesymeg dros y cynnydd. Mynegwyd angen gofyn i’r Pennaeth Addysg am y rhesymeg tu ôl i’r penderfyniadau ond nodwyd fod gweithdrefnau yn eu lle er mwyn gwneud cyswllt gyda’r unigolion sydd yn dewis addysgu o’r cartref.

¾     Mynegwyd fod cyfradd trais yn y cartref yn isel yn benodol ar ôl y cyfnod clo. Amlygwyd pryder am y maes a bod swyddogion arbennig o fewn y maes yn gweithio yn agos gyda phenaethiaid i geisio gwneud popeth mor syml â phosib i’r unigolion sydd wir angen cymorth. Ychwanegwyd fod disgwyliad i’r niferoedd godi yn dilyn y pandemig ac y bydd angen creu asesiad anghenion poblogaeth yn dilyn y cyfnod.

¾    Diolchwyd i’r staff am eu gwaith yn ystod y pandemig..

Awdur:Morwena Edwards

Dogfennau ategol: