Agenda item

Cyflwynwyd gan:Cyng. Dafydd Meurig a'r Cyng. Dilwyn Morgan

Penderfyniad:

Cymeradwywyd yr ymateb drafft i’r Ymgynghoriad gan nodi angen am addasiadau i ymateb cwestiwn 3 er mwyn cryfhau’r ymateb.

 

Cefnogwyd penderfyniad y Cyngor i anghytuno gyda’r cynigion sydd wedi’u cynnwys yn y Papur Gwyn.

 

Cofnod:

Cyflwynwyd yr adroddiad gan Cyng. Dafydd Meurig  

 

PENDERFYNIAD

 

Cymeradwywyd yr ymateb drafft i’r Ymgynghoriad gan nodi angen am addasiadau i ymateb cwestiwn 3 er mwyn cryfhau’r ymateb.

 

Cefnogwyd penderfyniad y Cyngor i anghytuno gyda’r cynigion sydd wedi’u cynnwys yn y Papur Gwyn.

 

TRAFODAETH

 

Cyflwynwyd yr adroddiad gan nodi fod y Llywodraeth wedi cyhoeddi’r Papur Gwyn yn edrych ar Ail Gydbwyso Gofal a Chymorth. Nodwyd fod y Papur Gwyn yn amlygu gweledigaeth y Llywodraeth a oedd yn cynnwys symud oddi wrth gymhlethdodau, symud oddi wrth brisiau ac yn nes at werth cymdeithasol ac i symud o ffocws sefydliadol i ffocysu ar gydweithio effeithiol. Mynegwyd cefnogaeth i’r weledigaeth sydd yn cyd-fynd a’r weledigaeth sydd o fewn y Cyngor.

 

Pwysleisiwyd mai’r brif broblem o edrych ar y dogfennau oedd sut fydd y Llywodraeth yn cyflawni hyn. Ymhelaethwyd drwy nodi fod y Papur Gwyn yn pwysleisio'r elfen symleiddio, ond yn cymhlethu’r trefniadau drwy nodi prosesau comisiynu safonol, creu Byrddau a Swyddfa Genedlaethol ac i sefydlu’r Byrddau Partneriaeth Ranbarthol yn endidau corfforaethol cyfreithiol. Amlygwyd ymdeimlad fod y bwriad uchod yn groes i’r weledigaeth a bod hyn wedi ei amlygu yn ymateb y Cyngor. 

 

Ychwanegodd y Cyfarwyddwr Corfforaethol ar yr olwg gyntaf ei fod yn cyd-fynd a gweledigaeth y Cyngor ac yn ymateb da gan y Llywodraeth. Er hyn, nodwyd wrth edrych yn fanylach ei fod yn groes i’r weledigaeth sydd yn cael ei nodi. Amlygwyd fod y maes yn cael ei gymhlethu drwy ychwanegu mwy o haenau ac yn benodol mewn rhanbarthau mawr megis Gogledd Cymru. Ategwyd y byddai hyn yn symud y penderfyniadau pellgyrhaeddol ymhellach oddi wrth yr unigolyn. Pwysleisiwyd fod prynu cymorth unigolion yn rhan fawr o’r ddogfen ac yn mynd yn erbyn egwyddorion Gwynedd o fynd ar sail yr unigolyn yn hytrach na bwydlen o gefnogaeth.

 

Nodwyd fod y ddogfen yn amlygu angen am delerau ac amodau gwell ar gyfer staff gofal ond nad yw’n nodi beth yw’r datrysiad. Amlygwyd fod sôn am gronfeydd cronnus rhanbarthol ond nodwyd na fyddai hyn yn rhoi datrysiad. Mynegwyd nad oes dim sôn am y ddogfen bellgyrhaeddol Cymru Iachach, sy’n nodi’n glir fod angen gweledigaeth ranbarthol ond darpariaeth leol. O ran yr ymatebiad nodwyd fod ymatebion i’w gweld yn yr atodiadau ond amlygwyd yr angen i anfon llythyr yn ogystal yn amlygu beth mae’r Cyngor yn ei wneud i gyd-fynd a’r weledigaeth sydd yn cael ei amlygu.

 

Sylwadau’n codi o’r drafodaeth

¾    Nodwyd dealltwriaeth o anfon llythyr gyda’r ymatebion ond mynegwyd y posibilrwydd y byddant yn edrych ar yr ymatebion yn unig. Pwysleisiwyd yr angen i amlygu yn glir y gwrthwynebiad o greu endid corfforaethol cyfreithiol rhanbarthol.

¾    Pwysleisiwyd pryder am rhanbartholi gan ei bydd yn tynnu ymhellach oddi wrth y trigolion. 

¾    Mynegwyd fod risgiau o greu cronfeydd a bod angen amlygu'r rhain yn yr ymateb i gryfhau'r gwrthwynebiad am greu corff rhanbarthol.

¾    Pwysleisiwyd fod y weledigaeth yn cyd-fynd a deheuad y Cyngor. Nodwyd nad oes dim sôn am ymarferon da sydd i’w gweld ar draws Cymru, a dim sôn yn ogystal am sylwadau cyhoedd. Pwysleisiwyd yr angen i fod yn agored ac i’r cyhoedd fod yn ymwybodol o beth sydd yn cael ei gynnig.

Awdur:Morwena Edwards

Dogfennau ategol: