Agenda item

I ystyried yr adroddiadau

Penderfyniad:

Nodi a derbyn yr adroddiad.

 

Cofnod:

Croesawyd Brigitte Evans (Cymhorthydd Harbwr Abermaw) i’w chyfarfod cyntaf. Diolchwyd i’r swyddogion ac i staff yr harbwr am eu holl waith yn cynnal y gwasanaeth yn ystod blwyddyn eithriadol o anodd.

 

(a)          Adroddiad yr Uwch Swyddog Harbyrau

                        Cyflwynwyd adroddiad gan yr Uwch Swyddog Harbyrau yn rhoi diweddariad cryno                       ar faterion yr Harbwr am y cyfnod yn diweddu Mawrth 2021

 

Angorfeydd

 

Adroddwyd bod gostyngiad sylweddol yn nifer yr angorfeydd o ganlyniad i gyfyngiadau yn gysylltiedig â covid 19. Nodwyd bod nifer o berchnogion cychod wedi dewis peidio defnyddio eu cychod yn 2020 - patrwm a welwyd yn gyffredinol ar draws Harbyrau Gwynedd.

 

Cod Diogelwch Morol Porthladdoedd

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chydymffurfio gyda’r cod ac os oedd hyn yn rhywbeth anodd ei weithredu, nodwyd mai’r agweddau diogelwch oedd y prif heriau ynghyd a chynnal asesiadau risg ac archwiliad allanol. Ategwyd bod y broses o ‘adeiladu’r’ cod yn un oedd yn datblygu yn raddol. Adroddwyd y byddai llythyr y cael ei anfon gan y Gwasanaeth i’r Asiantaeth Forwrol a Gwylwyr y Glannau ar ôl cynnal yr archwiliad allanol blynyddol o’r system rheoli diogelwch.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chawelli pysgotwyr yn cael eu gadael ar yr harbwr, nodwyd mai trefniant dros dro yn unig ydoedd ac fel bydd y tymor pysgota yn agosáu bydd y cawelli yn cael eu hail leoli.

 

Materion Staffio

 

Adroddwyd bod amryw o newidiadau staffio wedi digwydd yn ystod y flwyddyn gyda Mr Glyn Jones yr Harbwrfeistr wedi gadael i weithio gyda Gwasanaeth Ambiwlans Cymru. Amlygwyd bod Bergitte Evans a Jordan Hewlett wedi eu penodi i gyflawni dyletswyddau yr Harbwr a’u bod yn parhau i gael eu hyfforddi a’u datblygu.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn ag adnoddau digonol i ymdopi gydag ymwelwyr i’r ardal yn ystod yr Haf, nodwyd bod yr Aelod Cabinet wedi amlygu pryder o’r sefyllfa a’r mater wedi ei drafod yn y Grŵp Twristiaid, o dan arweiniad y Prif Weithredwr. Yn dilyn trafodaethau pellach gyda’r Uned Forwrol, a chynllun effeithiol ar gyfer y gwaith wedi ei gytuno, awgrymwyd y byddai’r lefel staffio yn ddigonol ar gyfer yr Harbwr a’r traeth. Bydd staff o adrannau eraill hefyd ar gael i reoli materion yn y dref.

 

Materion Ariannol

 

Cyflwynwyd cyllideb yr harbwr i amlygu’r sefyllfa ariannol bresennol hyd at ddiwedd Mawrth 2021. Amcangyfrifwyd gorwariant o £8,061.

 

Mewn ymateb i gwestiwn ynglŷn â chyllid gan Lywodraeth Cymru i ddigolledu lleihad mewn incwm, adroddwyd bod £4,500 wedi ei dderbyn ac wedi ei gynnwys yn y gyllideb. Nodwyd y byddai ffioedd angorfeydd yn cynyddu yn unol â chwyddiant (2%) ond na fyddai cynnydd mewn ffioedd lansio, cofrestru ac ailgofrestru.

 

Gwaith Atgyweirio Traphont Abermaw

 

Cafwyd cyflwyniad gan Steve Richardson (Griffiths Engineering) ar y gwaith atgyweirio fydd yn cael ei wneud i draphont Abermaw dros y ddwy flynedd nesaf. Cyfeiriwyd at amserlen y gwaith oedd wedi ei gynnwys yn adroddiad yr Harbwr Feistr.

 

Prif bwyntiau yn codi o’r drafodaeth:

·         Ni fydd y bont yn agor – nid yw wedi cael ei ddylunio i agor

·         Nid oes cynllun i godi lefel y tywod

·         Ni fydd y gwaith yn cyfyngu defnydd o’r ardal mordwyo

·         Bydd yr hen bren a’r hen haearn ar gael i artistiaid lleol

·         Bydd maint y coed newydd yn rhy fawr ac felly bydd angen eu llifio i’r maint cywir – bydd y darnau ‘gwastraff’ ar gael am bris rhesymol gyda’r arian i’w gyfrannu at yr RNLI ac elusennau lleol eraill. Awgrymiadau i’w cyfeirio at SR

·         Bydd rhai darnau o’r coed yn cael eu hail ddefnyddio i atgyweirio llwybrau

·         Petai'r angen am waith atgyweirio i’r harbwr, mynegwyd bod adnoddau ar gael - y cwmni yn agored i drafodaethau

·         Er y bwriad o agor siop safle i rannu gwybodaeth gyda’r cyhoedd, nid yw hyn wedi bod yn bosib o dan gyfyngiadau  / canllawiau covid 19

·         Bydd yr hen olwyn fecanyddol yn aros yn ei hunfan ac nid ar gael fel ‘addurn’  i’r gerddi - hwn yn benderfyniad gan CADW

·         Manylion Steve Richardson i’w dosbarthu i'r Aelodau

              

(b)          Adroddiad yr Harbwr Feistr

 

Cyflwynwyd adroddiad gan y Cymhorthydd Harbwr yn manylu ar faterion mordwyo,             gweithredol a chynnal a chadw. Tynnwyd sylw at y materion canlynol:

 

·         Bod cwrs y sianel fordwyo wrth ddynesu at Harbwr Abermaw wedi aros yn eithaf cyson dros y flwyddyn ddiwethaf.  Er hynny, yn dilyn cais gan Dŷ'r Drindod i newid safle'r Bwi Fairway (marc dŵr diogel), i gyd-fynd yn well â'r sianel fordwyo sydd â bwiau rhoddwyd caniatâd i’w leoli ar safle 52° 42.815 N. 004° 04.887 W.

·         Epidemig y Coronafeirws a chyfyngiadau cysylltiedig Llywodraeth Cymru, wedi cael effaith fawr ar weithrediad yr Harbwr yn ystod 2020.

·         Er y caniatawyd i gychod pysgota barhau i weithredu drwy gydol y cyfnod, cafodd symudiadau twristiaeth a hamdden yn yr harbwr eu cyfyngu yn sylfaenol gyda llawer o berchnogion yn penderfynu gadael eu cychod ar y lan am y flwyddyn.

·         Yn anterth tymor yr haf 2020 pan roedd rhai cyfyngiadau Coronafeirws wedi eu codi, daeth blaen yr harbwr yn le prysur iawn – nid oedd llawer o sylw yn cael ei roi i'r mesurau pellter cymdeithasol a osodwyd gan Lywodraeth Cymru, o ran y Coronafeirws gan ymwelwyr

·         Cafodd angorfeydd ymwelwyr a leolir yn yr harbwr eu harchwiliad blynyddol a'u gwasanaethu yn 2020. Gwnaed hyn gan gontractwr allanol.  Gyda symudiadau'r sianel y gellir ei mordwyo yn cael ei hadolygu, mae'n bosib iawn y bydd rhaid ail-leoli'r angorfeydd hyn ar gyfer y tymor a ddaw fel bod modd iddynt barhau i fod mewn dŵr dwfn. 

·         Yn ystod y cyfnod dan sylw, mae'r gwaith o gynnal a chadw'r cymhorthion mordwyo wedi ei ymgymryd gan gontractwr allanol ar gost net i'r Gwasanaeth o £2600. 

·         Bod difrod wedi ei wneud i'r ddwy ysgol newydd a osodwyd ar wal yr harbwr y llynedd.  Achoswyd y difrod gan gychod oedd wedi angori ger wal y cei.  Bydd y Gwasanaeth yn ceisio ymgymryd â gwaith i atgyweirio'r ysgolion ar y cyd gyda pherchnogion y cychod dan sylw ynghyd a cheisio adennill y costau gan berchnogion y cychod

·         Mae ymsuddiant yn parhau o amgylch isadeiledd yr harbwr.   Arweiniodd dymchweliad y wal fôr o dan Gerddi'r Traphont at osod cerrig amddiffyn yn y cyffiniau i atal difrod pellach.   Mae ymsuddiant tir yr harbwr ger y rhesel dingis hefyd wedi gwaethygu.  Mae YGC wedi cael gwybod am yr ymsuddiant - cynhaliwyd gwaith archwilio yn yr ardal i benderfynu ar y camau nesaf priodol.

·         Yn dilyn proses o ymgynghori rhwng y Gwasanaeth a rhan-ddeiliaid yr harbwr, paratowyd adroddiad a'i gyflwyno i'r Grŵp Gweithredu Lleol ar Bysgodfeydd (FLAG) i sicrhau arian mewn cysylltiad â strategaeth ddatblygu leol Llywodraeth Cymru, ar gyfer astudiaeth dichonoldeb i'r gwaith carthu arfaethedig yn yr harbwr.  Adroddwyd bod YGC yn llunio pecyn tendr ar gyfer y gwaith - diweddariad ar y sefyllfa Hydref 2021. Diolchwyd i FLAG am yr arian i gynnal arolwg ac astudiaeth dichonoldeb.

·         Bod safleoedd parcio ar Ffordd y Compownd wedi cael eu marcio i helpu Gweithwyr Masnachol gyda cwch yn yr harbwr i ddal ati gyda'u gweithgareddau mewn amgylchedd harbwr prysur, yn arbennig yn ystod yr haf.  Yn anffodus, ers gosod bolardiau i atal parcio di-drefn, difrodwyd sawl bolard gan unigolion heb awdurdod.  Ni all y Gwasanaeth barhau i ysgwyddo cost atgyweirio difrod o'r fath. Mae'r mater bellach yn destun adolygiad. Y bwriad yw ystyried cynlluniau amgen i’r dyfodol - nid oes bwriad rhoi gorchymyn parcio ar yr  ardal - blaenoriaeth yn cael ei roi i safleoedd proffil uwch yn y Sir

·                     Bod hi’n hanfodol, wrth drefnu unrhyw ddigwyddiad, i gydymffurfio gyda'r Rheoliadau Coronafeirws sy'n bodoli ar y pryd a'r cyngor a gynhyrchwyd gan Lywodraeth Cymru gan gysylltu gydag Awdurdod yr Harbwr neu Grŵp Digwyddiadau Gwynedd. Bydd ceisiadau yn cael eu hystyried a chamau    ymgysylltu gyda’r gymuned leol ynglŷn â chynnal y digwyddiadau. Anogwyd yr Aelodau i fod yn realistig yn yr hyn y gellid ei wneud o ystyried y sefyllfa. Pwysleisiwyd yr angen i ymgynghori gyda’r cyhoedd a rhannu gwybodaeth yn amserol.

 

11:00am – munud i feddwl, i oedi a myfyrio ar brofiad y flwyddyn ddiwethaf. Nodi blwyddyn ers dechrau'r cyfyngiadau symud cenedlaethol cyntaf mewn ymateb i bandemig Covid-19.

 

Cynlluniau Amddiffynfeydd Môr - diweddariad Cynllun Prom y Gogledd a Chynllun Gerddi’r Draphont gan Rob Williams ac Osian Richards YGC.

 

Adroddwyd bod cyfarfod wedi ei gynnal 6ed o Ionawr 2021 - y cofnodion wedi eu rhannu gyda’r Aelodau.

 

Prif bwyntiau yn codi o’r drafodaeth:

 

Cynllun Prom y Gogledd:

·         Gwaith geoffisegol wedi ei wneud i ymchwilio i gyflwr strwythur y gwagle

·         Dylunio manwl i fodelu’r traeth

·         Achos busnes wedi ei gyflwyno i Lywodraeth Cymru

·         Ni fydd twyni tywod yn cael eu creu gan nad yw’n caniatáu amser digonol i’r gwair maram gydiad. Angen ystyried opsiynau posib sydd yn cynnwys sefydlogi’r gwair sydd eisoes yn bodoli. Trafodaethau pellach i’w cynnal.

 

Cynllun Gerddi Traphont:

·         Gwaith diweddaru achos busnes yn cael ei gwblhau

·         Arolwg o wal y cei yn ei gyfanrwydd wedi ei gwblhau - adroddiad o’r darganfyddiadau heb ei derbyn

·         Cam nesaf - dylunio manwl ar gyfer y gwath – arian cyfatebol ar gael ar gyfer y gwaith drwy gynllun asedau’r Cyngor

·         Gwaith gwella draenio i’w gwblhau yn y lôn –

·         Angen gwella safon amddiffyn llifogydd o’r môr. Y bwriad yw ymgynghori gyda’r cyhoedd - yr ardal yn un sensitif - angen ystyried edrychiad gorffenedig ynghyd a lefel briodol o amddiffyn.

·         Cynlluniau mynediad i’w hymgorffori gyda chynlluniau amddiffynfeydd - syniadau i’w cyfeirio ymlaen i’r Adran Economi

·         Wal y Cei - yn dilyn arolwg cychwynnol, y wal wedi sefydlogi ond angen arolwg pellach cyn agor i’r cyhoedd. Trafodaethau pellach i’w cynnal gyda YGC - os bydd angen ‘pwysau ychwanegol,’ gellid ymgorffori hyn i’r Cynllun Gerddi Traphont.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiadau.

 

Dogfennau ategol: