Agenda item

Aelod Cabinet – Y Cynghorydd Gareth Thomas

 

Ystyried adroddiad ar yr uchod.

 

*11.30yb – 12.30yp

 

 

 

*amcangyfrif o’r amseroedd

 

Penderfyniad:

Derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod, ac argymell i’r Cabinet fabwysiadu Opsiwn 1 yn yr adroddiad fel y model darparu a gweithredu gorau ar gyfer y Gwasanaeth Teithiol Llyfrgelloedd i’r dyfodol, sef:

 

Cam 1

Gwasanaeth Cartref (misol) a Chludo Eitemau i’r Cartref yn cael ei ddarparu gan 3 cerbyd llai (faniau trydan / hybrid) a gyrrwr yr un ar gyfer:-

1. Arfon

2. Dwyfor

3. Meirionnydd

 

Cam 2

Yn dilyn ymddeoliad gyrrwr yn y 1-2 flynedd nesaf, Gwasanaeth Cartref (misol) a Chludo Eitemau i’r Cartref yn cael ei ddarparu gan 2 gerbyd llai (faniau trydan / hybrid) a gyrrwr yr un ar gyfer:-

1. Arfon / Dwyfor

2. Meirionnydd

 

Cofnod:

Croesawyd yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned, ynghyd â swyddogion yr Adran Economi a Chymuned i’r cyfarfod.

 

Cyflwynwydadroddiad yr Aelod Cabinet Economi a Chymuned yn ceisio arweiniad y pwyllgor craffu ar y Gwasanaeth Teithiol i’r Cartref, yn dilyn adolygiad o’r ddarpariaeth bresennol a hanesyddol o fewn y Gwasanaeth Llyfrgell.  Gwahoddwyd yr aelodau i ystyried nifer o opsiynau, yn seiliedig ar ganfyddiadau’r Gwasanaeth o’r galw a’r defnydd presennol o’r gwasanaeth, ac arbedion y gellid eu gwneud o adolygu’r patrwm darpariaeth.

 

Gosododd yr Aelod Cabinet y cyd-destun, gan nodi y gwelwyd bod nifer o fuddion yn codi o’r drefn newydd o gyflenwi’r Gwasanaeth, oedd wedi cychwyn yn ystod yr argyfwng Cofid, a bod pobl yn gwerthfawrogi’r trefniant fwyfwy wrth i amser fynd yn ei flaen.

 

Rhoddwyd cyfle i’r aelodau ofyn cwestiynau a chyflwyno sylwadau.  Yn ystod y drafodaeth, cyflwynwyd y sylwadau a ganlyn:-

 

·         Er derbyn bod pobl yn croesawu cael y gwasanaeth i’r cartref, efallai bod angen hybu ac annog pobl i fentro allan a chymdeithasu yn sgil y pandemig.

·         Y gallai gofalwyr, ac ati, sy’n galw yng nghartrefi pobl, bigo llyfrau i fyny a mynd a hwy i’r person yn ystod eu hamser gwaith.

·         Y gallai’r cerbyd teithiol ymweld ag, e.e. neuaddau pentref, pan fydd grwpiau neu glybiau paned yn cyfarfod yno.

·         Y croesawid y defnydd o’r faniau trydan/hybrid i gyflenwi’r gwasanaeth, yn hytrach na’r lorïau mawr.

·         Y deellid nad cyfle i arbed arian oedd y drefn newydd o gyflenwi’r Gwasanaeth, a phetai’r gwasanaeth yn gweld bod angen cadw’r status quo, bod arian ar gael ar gyfer hynny.

·         Cwestiynwyd y penderfyniad i gyflwyno’r newid yn ystod y pandemig, a holwyd oni fyddai’n well aros i bethau setlo yn gyntaf?

·         Y byddai peidio ag ymweld ag arosfannau teithiol yn golygu gostyngiad o 17% yn nifer yr aelwydydd yng Ngwynedd sydd o fewn cyrraedd llyfrgell sefydlog neu deithiol, a gan fod mwyafrif poblogaeth y sir yn byw yn y trefi beth bynnag, golygai hynny 17% o’r trigolion gwledig.

·         Bod pobl sy’n gaeth i’w cartref, am ba reswm bynnag, yn croesawu’r gwasanaeth i’r cartref yn fawr iawn, a bod angen datblygu’r cynllun ymhellach, gan hefyd roi mwy o gyhoeddusrwydd iddo, e.e. drwy gynnwys eitem yn Newyddion Gwynedd.  Awgrymwyd hefyd y byddai’n syniad gyrru e-bost at bob cynghorydd i’w hysbysu am y Gwasanaeth, gan ofyn iddynt ledaenu’r wybodaeth drwy’r prif gyfryngau cymdeithasol i drigolion eu wardiau.  Cytunodd y Rheolwr Gwasanaeth Llyfrgelloedd i ddilyn hynny i fyny.

·         Bod y dewis o lyfrau ar fan yn reit gyfyng, a bod y gwasanaeth i’r cartref yn ehangu’r dewis o lyfrau, ac yn cyrraedd pawb yn y sir.

·         Cwestiynwyd a fyddai pobl yn awyddus i ymgynnull mewn lle cyfyng fel fan yn sgil Cofid beth bynnag.

 

Mewn ymateb i’r sylwadau, ac i gwestiynau gan aelodau:-

 

·         Nodwyd bod pryderon wedi’u lleisio cyn y pandemig ynglŷn â’r lleihad o flwyddyn i flwyddyn yn y niferoedd oedd yn defnyddio’r arosfannau teithiol, a bod hyd yr arhosiad yn yr arosfannau hynny wedi lleihau dros y blynyddoedd hefyd.

·         Eglurwyd bod profiad a ffigurau blaenorol y gwasanaeth yn awgrymu y byddai’r lleihad yn y defnydd o’r arosfannau teithiol yn parhau yn y dyfodol, gan fod patrwm bywyd ac anghenion pobl wedi newid.  Hefyd, nid oedd yr arosfan yn ddelfrydol mewn tywydd gwael, ac roedd y cyfleuster o gael y gwasanaeth yn dod i’r cartref yn fwy deniadol.

·         Cytunwyd bod modd datblygu’r syniad o wella lefel y cymorth a roddir i ddefnyddwyr y Gwasanaeth drwy, e.e. ddarparu cyfarpar TGCh a mynediad i’r rhyngrwyd mewn llyfrgelloedd teithiol, a defnyddio’r gwasanaeth i alluogi trigolion mewn ardaloedd gwledig gael gafael ar wasanaethau eraill y Cyngor.  Cyfeiriwyd at ddwy esiampl benodol o sut y llwyddwyd i fanteisio ar y dull newydd o ddarparu gwasanaeth cludo i’r cartref, sef y defnydd o grant trechu tlodi i ddarparu nwyddau misglwyf i’r cartref, a’r prosiectLlyfrgell y Petha’, sy’n cynnig offer ar fenthyg i’r cartref, fel rhan o’r economi gylchol.  Nodwyd bod y gwasanaeth yn gweithio gyda nifer o asiantaethau a gwasanaethau o ran hybu’r cynigion hyn.

·         O ran ymweld â grwpiau, ac ati, nodwyd bod y gwasanaeth yn gallu ymateb i nifer o ymholiadau o’r math yma, gan dargedu a theilwrio’r gwasanaeth i gwrdd â llu o anghenion gwahanol.

·         Nodwyd y credid bod digon o slac yn y system ar hyn o bryd i un gyrrwr fedru cyflenwi’r gwasanaeth ar draws Arfon a Dwyfor, ond bod angen troedio’n ofalus.  Byddai’n rhaid treialu hynny’n gyntaf, ond gallai fod yn opsiwn pellach wrth gynllunio’r gwasanaeth i’r dyfodol.

·         Eglurwyd bod y targed Dangosydd Ansawdd Safonau Llyfrgelloedd Cyhoeddus Cymru wedi’i osod gan Lywodraeth Cymru, a’i fod yn mesur agosrwydd at lyfrgell, man gwasanaeth statig, neu fan gwasanaeth teithiol.  Fodd bynnag, wrth gyflenwi i’r cartref, gellid dadlau bod y gwasanaeth yn cyrraedd 100% o’r boblogaeth.

·         O ran yr amseru, nodwyd bod y cyfnod Cofid wedi caniatáu i’r Gwasanaeth arbrofi, a thrwy hynny, gwelwyd bod yna ddatrysiad gwahanol, sy’n medru cyrraedd mwy o bobl a darparu gwasanaeth gwell.

·         Nodwyd bod pobl yn croesawu’r pecynnau darllen sydd wedi’u paratoi ar eu cyfer gan aelodau staff, a bod hynny’n ffordd dda o gyflwyno’r darllenwyr i awduron newydd.

 

Diolchwyd i’r Gwasanaeth Llyfrgell am y gwasanaeth gwych a ddarparwyd yn ystod y cyfnodau clo, a mynegwyd gwerthfawrogiad o’r gwasanaeth llyfrau awdio hefyd.

 

PENDERFYNWYD derbyn yr adroddiad, gan nodi’r sylwadau a gyflwynwyd yn ystod y cyfarfod, ac argymell i’r Cabinet fabwysiadu Opsiwn 1 yn yr adroddiad fel y model darparu a gweithredu gorau ar gyfer y Gwasanaeth Teithiol Llyfrgelloedd i’r dyfodol, sef:

 

Cam 1

Gwasanaeth Cartref (misol) a Chludo Eitemau i’r Cartref yn cael ei ddarparu gan 3 cerbyd llai (faniau trydan / hybrid) a gyrrwr yr un ar gyfer:-

1. Arfon

2. Dwyfor

3. Meirionnydd

 

Cam 2

Yn dilyn ymddeoliad gyrrwr yn y 1-2 flynedd nesaf, Gwasanaeth Cartref (misol) a Chludo Eitemau i’r Cartref yn cael ei ddarparu gan 2 gerbyd llai (faniau trydan / hybrid) a gyrrwr yr un ar gyfer:-

1. Arfon / Dwyfor

2. Meirionnydd

 

Dogfennau ategol: